Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Nes na'r hanesydd

Yn 1916 carcharwyd 1800 o Wyddelod mewn hen ddistylldy whisgi yn Frongoch ger y Bala, yn dilyn Gwrthryfel y Pasg yn Nulyn. Hanes y gwersyll carchar hwn yw cefndir y ddrama ddiweddar gan Ifor ap Glyn, Frongoch.

Does dim byd llawer iw weld yn Frongoch. Dim amgueddfa, dim adfeilion. Os ydych chin ceisio hanes y gwersyll carchar rhaid mynd i fyd yr archifydd ar cofiannydd. Ynteu i fyd y dychymyg? Pan oedd Hywel Teifi Edwards yn trafod Pentrefi Gwyn Cymru yn ei gyfrol ddiweddar Or Pentre Gwyn i Gwmderi, dywedodd: Fel llefydd yn y meddwl yr oeddent yn cyfrif.

Efallai fod yr un peth yn wir am Frongoch. Maer hanesydd Jon Parry wedi disgrifio sut y gafaelodd Frongoch yn nychymyg y Cymry yn y cyfnod diweddar. As a section of the Welsh people began to discover Ireland in their quest to lose England, so they looked to the history of the Irish struggle, of which Frongoch was their nearest symbol. Ac os dwin onest mi fy hun, dynan sicr lle tarddodd fy niddordeb i yn y pwnc.

Felly roedd derbyn comisiwn gan Llwyfan Gogledd Cymru i sgrifennu amdano yn apelion syth. Syniad Ian Rowlands, cyfarwyddwr y cwmni, oedd hyn. Ac yntau wedi gweithio yn Iwerddon droeon fel actor, awdur a chyfarwyddwr, roedd wedi bod yn chwilio ers nifer o flynyddoedd am brosiect fasain pontion naturiol rhwng Cymru ac Iwerddon a chynnig llwyfan ar gyfer trafodaeth rhwng ein dwy wlad. Frongoch ydir prosiect hwnnw.

Maer prosiect yn pontio ar sawl lefel: maer criw technegol yn hanu o Gymru ac o Iwerddon ac maer ddrama ei hun yn dairieithog. Tri phrif gymeriad sydd yn y ddrama Frongoch; a rheinin cael eu chwarae gan Gymro (Richard Elfyn) Gwyddel (Caoimhn Conghaile) a Sais (Michael Atkinson).

Yn y ddrama gwelir dau genedligrwydd nerthol yn mynd benben i gilydd; y Gwyddelod ar Saeson, dau or brand-leaders yn y maes fel petai. Ond mae cenedligrwydd Cymreig yn rhan or drafodaeth hefyd. Yn wir, Dr. Peters y cymeriad Cymraeg yw canolbwynt y ddrama. Drama hanes ydi hi ond maer hanes dal yn berthnasol, nid yn unig mewn dwy wlad fel Iwerddon a Chymru syn dal yn gorfod delio chysgod hir imperialaeth Brydeinig, ond hefyd mewn byd ehangach lle mae gennym lefydd fel Bae Guantanamo o hyd.

Darllenais i unwaith fod y dramu gorau yn cyfuno testun adain dde gyda sgwennu adain chwith. Dwn i ddim lle mae adain chwith neu dde ynddi hefo Frongoch, ond heb os, maer testun wedi ngorfodi i fynd ir afael safbwyntiau syn groes im daliadau personol. Wrth sgwennu drama syn delio hefo imperialaeth Seisnig, fiw i chdi roir leins gorau ir hogiau syn gwrthwynebu imperialaeth Seisnig! (Wel, ddim i gyd!)

Rhaid gochel hefyd rhag i ddadansoddiad dramatig 2005 gamliwio hanes 1916. Dawr argyfwng yn y ddrama wrth ir doctor gael ei ddal rhwng y Gwyddelod ar awdurdodau Seisnig; ond dilema moesol ydyw iddo, nid dilema gwleidyddol. Go brin, meddech chi, y base unrhyw gydymdeimlad gwleidyddol gan Gymro lleol fel Doctor Peters gydar bradwyr o wrthryfelwyr hyn? Na fase, maen debyg, ond dyna drwydded y dramodydd. A rhag i neb farnu fod agwedd Peters at ei gleifion Gwyddelig yn anacronistiaeth lwyr, cofiwch hyn: nid rhywbeth a ddigwyddodd mewn faciwm mor adfywiad cenedlaethol Cymreig yn y 20au. Dyma ddywedodd un papur Cymraeg yn syth ar l gwrthryfel y Pasg:

(N)id pobl wedi gweithredu mewn byrbwylldra mor Sinn Feiniaid.

Maent hwy yn onest yn eu credo ac yn llawer mwy teyrngar

iw gwlad nar beilchion Seisnig syn britho heolydd Llundain mewn

khaki ar hyn o bryd.

Mae Frongoch wedii llwyfannun uchelgeisiol o aml-gyfrwng. Yn ogystal r tri phrif gymeriad cig a gwaed ar y llwyfan, gwneir defnydd effeithiol o fideo er mwyn cyflwyno corws Groegaidd o Aelodau Seneddol a chymeriadau hanesyddol mwy adnabyddus, fel Michael Collins a Dick Mulcahy. Yn Frongoch y daeth Collins a Mulcahy i amlygrwydd, ond y dynion bach yw canolbwynt y ddrama hon; y dynion syn cael eu cario gyda cherrynt hanes, nid y rhai syn ceisio eu llywio. Maer cymeriadau fideo fel ysbrydion ar gyrion byd y cymeriadau byw. Mae hynnyn hyfryd o addas yn fy nhyb i, gan fod Frongoch hefyd yn ddrama am fydoedd yn dadfeilio, am ddyletswydd a gwneud dyletswydd, ac am ddiolch ac am wneud pethaun ddi-ddiolch.

Gyda drama syn teithio mewn dwy wlad maen ddiddorol cymharur gwahanol ymateb. Maer Cymry ar Gwyddelod yn chwerthin am ben pethau gwahanol yn y ddrama, heb os. (Nid bod na lawer o laffs mewn hanes or fath.) Diddorol hefyd oedd gweld sut mae ymateb y wasg yn y ddwy wlad yn cymharu, ac dwin ofni fod mwy o ddidordeb wedi bod o dur Gwyddelod. Gellid dadlau fod y testun yn apelio fwy atyn nhw, ond dwin amau fod hyn yn dweud mwy am dlodi ein diwylliant papur newydd yng Nghymru, nac am gryfder y testun. Dwin amau y base drama am handbag Lloyd George yn cael mwy o sylw yn Iwerddon nac yng Nghymru.

Mae gormod o bapurau Cymru yn bodloni ar argraffur datganiad ir wasg air am air, ac maen nhwn anfodlon gwneud adolygiad wedyn, achos maen nhw wedi rhoi sylw ir ddrama un waith yn barod, yn do? Ond faser un Golygydd yn dweud, wnawn ni ddim redeg stori am Roy Keane bore ma achos wnaethon ni stori am Gary Neville ddoe. Wrth gwrs, mae pl-droed yn wahanol ir theatr, mae pl-droed yn bwysig - ond mae adolygiadau hefyd yn bwysig; i ddramodydd, i gwmni theatr, in diwylliant yn gyffredinol.

Does na ddim byd llawer iw weld yn Frongoch. Cofeb fechan wrth ymyl y ln. Un cwt a achubwyd or gwersyll. Ysgol gynradd yn eironig ddigon sydd wedi ei chodi ar safle Prifysgol y Chwyldro Gwyddelig. Ond mae na Frongoch yn y meddwl o hyd. Ac os oedd Frongoch yn fath o bair dadeni i un genedl Geltaidd yn 1916, roedd yr afon syn rhedeg heibio yn fodd i ddeffro cenedl arall, rai degawdaun ddiweddarach. Cymeriad Dr. Peters gaiff y gair olaf:

Mi n nhw adre, Gododdin o ddynion cyffredin, i gyd yn rhan o

jigsor chwyldro. Frongoch ywr Pentecost ar l eu Pasg, mi n nhw oma au tafoden dn, er bydd rhai yn dweud o hyd, mai wedi meddwi ydynt...

Arhoswn ninne yn y merddwr, gwreiddier Gymraeg yn ein

cydion styfnig at y lan, tra bod y Gwyddelod yn marchogaeth

rhyferthwyr afon, yn herio rhyfyg y lli yng nghwch papur dewr eu

chwyldro.

Mi n nhw adre o Frongoch, ond arhoswn ninne... nes in cartrefi ein gadael ni. Nes ir afon hon fedyddio cenedl gyfan...

awdur:ifor ap glyn
cyfrol:507 ebrill 2005

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk