Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Mentro i Gae Drama

Yn y gwanwyn, llwyfanwyd gwaith pump o ddramodwyr ifanc gan Sgript Cymru yn y cywaith Drws arall i’r Coed. Tri o’r dramodwyr hynny oedd Gwyneth Glyn, Dyfrig Jones a Manon Wyn. Y ddau arall oedd Caryl Lewis ac Eurgain Haf sy’n ymateb i’w phrofiadau gyda Sg

Yn ogystal â derbyn cynnig Sgript Cymru i gyfrannu i Drws arall i’r Coed, fe gafodd y nofelydd ifanc Caryl Lewis wahoddiad hefyd gan Arad Goch i lunio drama. Yma mae’n cyferbynnu dull gweithio’r ddau gwmni o hyfforddi dramodwyr newydd.

Os yw bysus yn dod mewn trioedd, mae dramâu yn dod mewn parau, wel dyna fy mhrofiad i beth bynnag. Un galwad ffôn ar ôl y llall yn gofyn imi sgwennu ar gyfer y llwyfan ac er nad ydw i ddim yn newydd i ysgrifennu, mi rown i’n hollol newydd i’r byd annelwig hwnnw a elwir yn ‘ddrama’. Arad Goch ddaeth yn gyntaf yn chwilio am ddarn Theatr Mewn Addysg ar gyfer eu rhaglen nhw ac yna Sgript Cymru yn gofyn imi gyfrannu tuag at gywaith Drws arall i’r Coed. Dau gwmni hollol wahanol. Dau brofiad hollol wahanol.

Fel un sydd â’i bryd ar ryddiaith, roedd mentro i fyd drama yn gam mawr. Roeddwn yn teimlo fy mod i’n camu fel tresmaswr i mewn i gae preifat gan hanner disgwyl llaw’r cipar ar fy ysgwydd ar unrhyw funud. Er fy mod i wedi astudio a sgwennu am ddramâu droeon, mae creu un yn hollol wahanol.

Beth bynnag, o’r dechrau, roedd y gwahaniaethau yn hollol amlwg. Cefais lyfrau i’w benthyg gan Arad Goch er mwyn darllen gweithiau gwych ac arweiniad gofalus gan Jeremy Turner o ran canllawiau ysgrifennu ar gyfer cynulleidfa ifanc. Yna, cefais ddyddiad cau ar gyfer y ddrafft gyntaf ac addewid bod help ar gael bob tro yr ochr arall i’r ffôn. Roedd dull Sgript Cymru yn hollol wahanol. Cwrs ysgrifennu i ddechrau ac yna cyfarfodydd ar bob cam o’r daith yn arwain at y perfformiad cyntaf. Efallai mai rhywbeth sydd ynddo i yw hyn, ond mwynheais y rhyddid a’r ffydd a roddwyd ynddo i gan y cwmni cyntaf a oedd yn fy ngalluogi i arbrofi gyda’r gwaith yn fy amser fy hun.

Wedi dechrau ar yr ysgrifennu (ar yr un pryd!), fe ddaeth hi’n amlwg bod yna bob math o bethau i’w dysgu. Daeth y pwysigrwydd o beidio â gor-sgwennu yn amlwg (rhywbeth mae’n hawdd i nofelydd ei wneud) a’r angen i fod yn gynnil gyda deialog. Wrth weithio gydag actorion y ddau gwmni, daeth pwer y gair llafar yn glir i mi. Efallai fod hyn yn rhywbeth amlwg, ond nes i chi eistedd a gwrando ar eich geiriau eich hunain yn cael eu hynganu, nid yw ‘realiti’ y peth yn eich bwrw rywsut. Er ei bod hi’n arferiad gennyf i ddweud fy neialog yn uchel pan dwi’n sgwennu nofel, fe fyddaf yn sicr yn myfyrio dros hyn fwy yn y dyfodol.

Roedd rhaid cyfaddawdu hefyd yn y ddwy ddrama am wahanol resymau. Roedd angen cofio oedran y plant fyddai’n gwylio’r darn Theatr Mewn Addysg gan mai ymdrin â phwnc sensitif marwolaeth oeddwn ni yn ei wneud yn ‘Yr Ysbryd’. Roedd angen bod yn onest ond gofalu hefyd i beidio â’u cythryblu. Roedd angen meddwl yn galed cyn dewis geiriau fel ‘marwolaeth’ a chreu cydbwysedd gyda darnau hapus ysgafn er mwyn osgoi gwneud y cwbl yn llethol o drwm a cholli diddordeb y plant. Yn yr un modd, byddai rhaid i’r darn fod yn agored i bob plentyn, beth bynnag eu gallu a beth bynnag eu cred. Yn dechnegol hefyd, roedd angen cofio na fyddai goleuadau ffansi na set gymhleth yn bosib. Roedd hi’n amhosib felly dibynnu ar unrhyw effeithiau, a byddai rhaid i’r actorion greu’r ‘byd’ arall yma yng nghanol neuadd ysgol, yn aml gyda chogyddion yn edrych ar y cloc yn ysu am iddynt orffen a gwers chwaraeon yn digwydd y tu allan i’r ffenestr!

Yn darn Sgript Cymru fe ddaeth y cyfaddawdu mewn ffurfiau eraill. Roedd angen i’r gwaith hongian ynghyd gyda phedwar darn arall ac roedd cyfyngder amser i’w ystyried a chyfanwaith i’w drefnu. Teimlais efallai bod fy nghymeriadau yn cael eu polareiddio er mwyn gwerthgyferbynnu gyda darnau eraill. Roedd hyn yn anochel i raddau er mwyn mynd â’r gwylwyr ar daith emosiynol o dyndra i fyfyrio tawel, i wrthdaro chwyrn ac yn ôl. Oherwydd cyfyngder amser hefyd fe dorrwyd llinellau ac yn fy nhyb i fe gollwyd dipyn ar gymhlethdod emosiynol y cymeriadau. Dysgais i anelu at sgwennu drama o hyd benodol yn lle ceisio ail-sgwennu o’r dechrau gyda phob ymdrech, a hynny gan ei bod hi’n anodd iawn ymestyn syniad drama deg munud i hanner awr ac yn annoeth ceisio cywasgu syniad am ddrama hanner awr i ddeg munud. Mae hacio llinellau yn iawn ond mae modd hacio i farwolaeth.

Beth bynnag, fe ddaeth y ddwy ddrama o flaen eu gwahanol gynulleidfaoedd ac fe gefais ddau brofiad arbennig wrth eu gwylio. Mae gweld eich gwaith ar lwyfan yn wefreiddiol. Rhyw ffordd, mae hi’n hynod o hawdd pan yn sgwennu nofelau i esgus nad oes cynulleidfa yn bodoli o gwbl. Mae hi’n anodd gwneud hynny mewn theatr neu mewn neuadd ysgol gyda’ch gwaith yn eich herio o flaen eich llygaid. Rwy’n diolch yn fawr am y cyfleoedd a dderbyniais gan y ddau gwmni. Er eu bod yn ddau brosiect hollol wahanol gan ddau gwmni gwahanol roedd y ddau yr un mor addysgiadol â’i gilydd. Gwell imi orffen cyn imi dorri un o brif reolau Sgript Cymru – paid â gor-sgwennu!

awdur:Caryl Lewis ac Eurgain Haf
cyfrol:507 ebrill 2005

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk