Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Plas Llwyddiant

Drama newydd gan Gwyneth Glyn, a chynhyrchiad llwyddiannus gan y Cwmni Cenedlaethol. Fe blesiwyd Gwenan Mared yn arw pan aeth i weld Plas Drycin.

Pan mae llais Duw yn darogan o swyddfa Barn ei bod hi’n amser i mi adolygu drama, mi ydw i’n mynd ati i wneud hynny’n ddigon hapus er mod i’n cychywn am y theatr, yn aml iawn, heb fawr o syniad sut ddrama sy’n fy nisgwyl ar ôl cyrraedd. Mi faswn i’n gallu honni bod hon yn ddyfais fwriadol i beidio cael fy nghyflyru gan ragfarnau, ond haws cyfaddef (gan obeithio ’mod i heb fwrw tin dros ben tuag at y sac trwy wneud) mai diogi ac ychydig bach gormod o ddiwylliant cylchgrawn Heat a rhaglenni Endemol sy’n rheoli mwyafrif helaeth ochr dde f’ymennydd!

Ond mi fyddai gofyn i mi fod yn goblyn o Philistiad i beidio gwybod bod Gwyneth Glyn, awdur y ddrama hon, yn seren ddisglair iawn yn ffurfafen diwylliant Cymraeg ar y funud. Fel mae Cefin Roberts yn ei ddweud yn rhaglen Plas Drycin, ‘A deud y gwir, ers iddi ennill y goron yn Eisteddfod yr Urdd Pwllheli yn 1998, dwi’m yn meddwl fod Gwyneth wedi bod yn bell iawn o afael naill ai beiro neu gyfrifiadur, p’run bynnag fyddai ’gosa at law!’. Wedi ei thrwytho ym myd y theatr a theledu ers plentyndod bron, yn awdur llyfrau, yn fardd, yn gyfansoddwraig, yn ogystal â bod yn ddramodydd sydd wedi graddio mewn Athroniaeth a Diwinyddiaeth yn Rhydychen, hwyrach y byddai disgwyl i gynnyrch Gwyneth Glyn fod yn academig astrus neu’n wallgof o arbrofol. Yn hytrach, yn Plas Drycin, o leiaf, mae ei chlyfrwch yn llawer mwy agos atoch a doniol, gyda’i sylwadau craff am bobl a’r chwarae cyfrwys â iaith yn gwneud i chi amau, er bod hon yn goblyn o ferch ddawnus, ei bod hithau’n hoff o rywfaint o ddiwylliant poblogaidd Big Brother ar y slei. Mae hi’n perthyn i’r byd go iawn ac mae hynny’n ei gwneud hi’n ‘hit’ efo fi ar ei hunion, ond yn bwysicach o lawer, mae’n golygu ei bod hi’n gallu cyfathrebu efo pobl ar sawl lefel. Yn Plas Drycin mae’r ddrama yn dangos ei gwreiddiau cymdeithasol, yn adloniant difyr ond yn dal i gynnig cipolwg ar ein bywydau a’n sefyllfa wleidyddol ni’r Cymry.

Y sialens o ysgirifennu ffars a apeliodd at Gwyneth Glyn, meddai hi, ac yn sicr ddigon mae’r ddrama wedi ei strwythuro o amgylch cyd-ddigwyddiad a cham-ddealltwriaeth. Crynswth y digwydd yw bod Iorwerth ‘Bodlondeb’, ymgyrchwr dros yr iaith, yn dod i’r plas ar noson oer, dywyll, gan gredu bod y t_ yn wag, ac yn gosod bom yn y cloc taid am fod y perchennog yn mynd i werthu’r t_ i Saeson. Cyn iddo allu dianc, mae’n clywed lleisiau ac yn gorfod cuddio, ac mae’r cymeriadau newydd yn cyrraedd, heb fod yn ymwybodol o’i gilydd, un pâr ar ôl y llall – yn werthwr tai a dynes ganol oed, fusneslyd, yn wyres y diweddar berchennog a’i chariad ystrywgar o Lundain, ac yna, yr academig sydd wedi trefnu i chwilio am feddrod Celtaidd o dan y t_, a Gennerys y gantores Geltaidd, enigmatig sy’n ymochel rhag y storm tu allan. Maent yn gasgliad lliwgar iawn. Ceir Dyddgu, gweddw’r gweinidog lleol sy’n cynrychioli’r werin hen ffasiwn Gymreig, ond sy’n blodeuo trwy gydol y ddrama nes ei bod hi’n edrych fel ‘film star’. Sylweddolwn yn raddol hefyd ei bod yn fam i Iorwerth, yr ymgyrchwr anlwcus sydd bellach yn ceisio diffodd y bom! Ar y pegwn arall, ceir Trystan, y paen merchetaidd o Lundain sy’n ceisio cael prynu’r t_ er mwyn ei droi’n fflatiau ac sydd felly yn elyn pennaf i’r ymgyrch am dai i bobl leol sy’n gweithredu fel cefnlun thematig i’r ddrama.

Mae’r set effeithiol, sef cyntedd crand realistig mewn hen blasdy (lle triga yr hen gloc taid, yn ogystal â llwch taid ei hun!), yn caniatáu i’r ddrama ddilyn ei llwybr o gyd-ddigwyddiadau cynyddol. Gwneir hyn trwy gyfrwng y grisiau sy’n ganolog i’r symud egniol, a’r drysau (y rhai go iawn a’r un cudd) sy’n arwain oddi ar y llwyfan ac sy’n golygu nad yw pawb yn yr un ystafell, ar yr un pryd, tan y diwedd. Daw llawer o’r hiwmor o’r strwythur, ond daeth y chwerthin pennaf o’r ddeialog, y cymeriadu unigryw a’r actio gyda’r elfen berffaith o ystum a gorchest. Fy ffefryn personol, am i mi dreulio tipyn o amser ym myd academia fy hun, efallai, oedd yr archaeolegwr, yr Athro Campbell, DPhil, cyn-lywydd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, arbenigwr ym mywyd a dillad (ia dillad!) William Price a’i lond ceg o Gymraeg dysgwr a’i rwdlan academaidd am erotica a’r Brythoniaid, ymhlith pethau eraill. ‘Ysywaeth’ chwaraewyd y rhan i’r eithaf gan Wynford Ellis Owen a chefais lond bol go iawn o chwerthin nes yr oeddwn yn ‘gwancus’ am fwy!

Mewn gwirionedd, roedd yna llawer o chwarae doniol iawn ar iaith a chysyniadau gan bob cymeriad, er enghraifft y ‘Cynan-eddu’ a’r cymysgu ar y llechi Cymreig a’r Smeg yn y gegin. Roedd y ddeialog yn tynnu ar bethau cyfoes, fel meddygaeth ‘new age’ a’r ‘trend’ tuag at ddatblygu tai, yn ogystal â bod yn frith o gyferiadaeth at hanes y Cymry, o farddoniaeth a chyfeiriadau lleol, a thipyn o ‘innuendo’ hen ffasiwn, i gadw’r ddysgl yn wastad. Yr hyn oedd yn codi’r cynhyrchiad uwchlaw comedi syml oedd yr islais llawer mwy difrifol o amser yn gyrru yn ei flaen, ar ein gwaethaf, y storm wyllt tu allan yn chwythu ar ein hymwybod, ac ysbrydion ein gorffennol Celtaidd yn mynnu cael cynulleidfa. Daw cymeriad Gennerys fel angel gwarcheidiol o’r gorffennol i sicrhau, fel llaw ffawd, bod y t_, ac yn sgil hynny, ein dyfodol ni’r Cymry, yn ddiogel am y tro, beth bynnag.

Gyda hen ben profiadol Valmai Jones wrth y llyw yn cynhyrchu, syniadau Cefin Roberts wedi ysgogi’r ysgrifennu, yr actorion craidd ifanc yn dangos eu bod yn gallu troi eu llaw at wahanol bethau llawn cystal â’r rhai mwy profiadol, ac awdures egniol ifanc yn sgriptio, mae’n ymddangos bod cynlluniau’r cwmni cenedlaethol i ddatblygu ysgrifennu newydd yn dwyn ffrwyth. Mae’n debyg bod llawer o’r diolch i’r cyfarwyddwr artistig, Cefin Roberts. Bymtheg mlynedd yn ôl, pan oeddwn i’n ddisgybl chweched dosbarth (yn Ysgol David Hughes, neu ysgol Rownd a Rownd i wylwyr S4C), roedd Cefin yn ffigwr anarferol braidd yn crwydro coridorau’r ysgol mewn trowsus pinc ac oren! Ar y pryd, roedd wrthi’n egin sefydlu ei fenter Ysgol Glanaethwy. Ers hynny, mae o wedi magu cenhedlaeth gyfan o actorion proffesiynol, brwdfrydig ac mae’n ymddangos yn ddi-flino yn ei waith i sicrhau bod actorion a chynyrchiadau Cymreig a Chymraeg yn gallu sefyll ochr-yn-ochr â pherfformiadau ar lwyfan byd-eang. ‘Champion,’ fyddai sylwadau Iorwerth Bodlondeb am hynny mae’n siwr, ac, yn wir, dwi’n meddwl bod y flwyddyn gyntaf hon o waith Theatr Genedlaethol Cymru a’r addewid am fwy, yn haeddu mawl gor-eiriog Yr Athro Campbell, yn ogystal â moliant lleisiol, unigryw Gennerys. Mae hynny’n well na ‘champion’, ddudwn i!

awdur:gwenan mared
cyfrol:507 ebrill 2005

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk