Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Glaw mawr

Cafodd GWENAN MARED olwg newydd ar ddramâu ddiwedd y nawdegau Ed Thomas yn y gyfrol Selected Work 95-98 sy’n cynnwys ei waith detholedig yn y cyfnod hwnnw.

Mae ‘na rhywbeth am y glaw yn ne Cymru, rhyw elfen ddirgel sy’n gwneud yr awyr yn fwy llwm, s_n y ceir sy’n rhuthro drwy’r ffosydd yn fwy egr, a rhywbeth yn y dagrau glaw sy’n socian person i’w berfedd. Mae gan fy ng_r gyd-weithiwr di-Gymraeg fu’n ateb ei ‘Shwmai?’ dyddiol efo’r gair ‘Glaw’ bob tro. Y peth anhygoel yw na feddyliodd neb bod hynny’n arbennig o od – wedi’r cwbwl mae hi dragwyddol yn bwrw yng Nghaerdydd, ydi hi ddim? ‘Go lew’, deallwyd wedyn, oedd y dyn dan sylw yn fwriadu ei ddweud, ond mae’r joc bellach yn parhau; -

‘Shwmai?’ ‘Glaw’, ‘Glaw mawr!’ Wedi’r cwbwl mae pawb yn barod i ganfod hiwmor a all dorri ar undonedd byw a bod.

Daw’r meddyliau braidd yn ddi-ysbryd yma o fod wedi fy nghladdu yng nghyfrol ddiweddaraf Ed Thomas, Selected Work 95-98; profiad pleserus sy’n corddi’r stumog ar yr un pryd. Os oes unrhyw un wedi profi’r wefr theatrig o wylio un o ddramâu Thomas yn fyw, a bydd sawl un wedi ystyried ei boblogrwydd a’i lwyddiant, byddant yn siwr o adnabod y teimlad. Mae ei waith yn gďaidd o onest, yn gyfforddus, yn ddoniol, yn farddonol, yn ymestyn meddwl, mae’n wleidyddol ac, ar yr un pryd yn ffantasďol, yn rhywiol, emosiynol, delweddol ac uwchben popeth arall yn gignoeth o herfeiddiol. Os nad ydych am ddarllen gair arall o’r adolygiad yma mi ddywedai un peth – os oes gennych chi ddiddordeb mewn drama gyfoes, neu mewn Cymry cyfoes, mae’r gyfrol yn werth ei phrynu a phori ynddi.

Er nad yw wedi bod yn llygad y cyhoedd ers rhai blynyddoedd, mae enwogrwydd Ed Thomas yn rhagflaenu’r gyfrol hon. Gan fenthyg o’r ‘blurb’ am yr awdur, gallaf ddweud gyda sicrwydd ei fod wedi ysgrifennu naw o ddramâu yn y degawd allweddol rhwng ’88 a ’98 a theithiodd y cynyrchiadau yn eang ym Mhrydain Fawr, Ewrop ac Awstralia. Ef oedd sylfaneydd Y Cwmni ac yn ddiweddarach Fiction Factry. Mae ei waith teledu yn cynnwys y gyfres boblogaidd Satellite City, ac mae ei waimewn teledu, ffilm a theatr wedi ennill amryw o wobrwyon. Mae’r llith hwn yn fwy na CV i’w edmygu, fodd bynnag, mae’n cyfleu yn berffaith ddiddordeb ysol Thomas mewn ffurfiau gweledol amrywiol a’r modd y gall arbrofi â hwy, a’i ymroddiad i bob elfen o berfformio ac ysgrifennu. Mae’r brwddfrydedd a’r proffesiynoldeb yma’n amlwg yn ei waith.

Y gweithiau sy’n ymddangos yn y gyfrol arbennig hon yw Song From a Forgotten City (1995), sgript wreiddiol y ffilm House of America (1996) a Gas Station Angel (1998). Mae ffurf y gyfrol yn ymadael rhywfaint â chonfensiwn gan nad oes cyflwyniad i’r gwaith, dim ond cerdd bryfoclyd gan yr awdur sy’n cymysgu dwy iaith y Gymru gyfoes ac sy’n rhagflas i raddau o’r hyn sydd i ddilyn yn y dramâu. Ymddengys yr hyn y byddid wedi ei ddisgwyl, efallai, mewn cyflwyniad, ar diwedd y gyfrol, yn erthygl Jeni Williams, lle mae’n trafod y gweithiau gyda dyfnder treiddgar. Dylai’r ffurf, fe dybiwn i, alluogi’r darllenydd i ddadansoddi’r gweithiau yn ôl ei linyn mesur personol, cyn darllen safbwynt ysgolheigaidd rhywun arall. Mewn gwirionedd, mae yma ymdrech lwyddianus iawn i gyflwyno agweddau gwahanol ar yr awdur a’i waith. Yn dilyn Song From a Forgotten City ceir cyfweliad rhwng Ed Thomas a David Adams, ac yn dilyn House of America ceir atgofion diddorol a rhyfeddol o ‘ddynol’ Marc Evans, cyfarwyddwr y ffilm. Ymhlith y dalennau, hefyd, gellir canfod lluniau o’r gwahanol gynyrchiadau a dyfyniadau o nifer o adolygiadau (canmoliaethus wrth gwrs!). Y canlyniad yw ymblethiad o agweddau ar yr un testun sy’n cyfoethogi’r profiad o ddarllen.

Anodd yw dewis uchafbwynt i’r gyfrol. Mae’r dramâu yn ddifyr, ac er y perygl sydd ynghlwm wrth ddarllen testun theatr yn hytrach na’i wylio, mae’r cymeriadau yn neidio oddi ar y dalennau a rhythm y deialog yn bwrw’r digwydd yn ei flaen. Yr hyn a’m synodd i oedd swyn yr ieithwedd ar adegau, y farddoniaeth gynnil yng nghanol y rhegfeydd caled a’r dafodiaith ‘mun’! Mae’r awdur yn ysgrifennu am yr hyn a adnabu, ardal y Cymoedd lle y’i magwyd, a Chaerdydd, lle mae’n byw erbyn hyn, ond gwyrdroir y darluniau confensiynol ac edrychwn ar y digwydd fel pe bai wedi ei adlewyrchu mewn drych ffair. Mae’r naratif yn llithro’n esmwyth rhwng y real a’r swreal, ac mae Thomas yn barod iawn i dynnu sylw at y broses o fod yn ‘awdur’ sy’n creu ac yn bwydo storďau. Caiff Night Porter gwesty’r Angel yn Song From a Forgotten City wybod yn ddi-flewyn ar dafod mai cymeriad ymylol ydyw.

CARLYLE: The voice of the Welsh Night-Porter is invisible in the pan national world of fiction...

... my job is to give a voice to the voiceless, the dispossessed, the fuck all squareds

who come from fuck all and who get fuck all...

You’re a minor character Night-Porter.

NIGHT-PORTER: Well fuck me, there was me thinking I was real.

Ond mae Thomas, fel y Carlyle ffantasďol yn ei ddrama, yn eiddgar i roi llais i’r bobl sydd ar yr ymylon, i wledydd bychain sy’n cael eu llyncu gan rai mwy, i dai sydd ar fin syrthio i’r môr a diflannu at ‘Seithennin the drunk a Davy Jones in Cantre Gwaelod’ (Gas Station Angel). I adrodd ei storďau mae Thomas yn tynnu ar ddelweddau o fyd ffilm, theatr, ‘whodunnit’, myth, hanes a diwylliant cyfoes, yn dilorni’r hen stereoteip o wlad y gân a rygbi, yn adleisio diymadferthedd rhai o gymeriadau’r mudiad Abswrd gyda’i chwarae tragwyddol efo iaith a chwarae rôl, ac yn cymysgu’r cwbwl ym mhrosesydd bwyd ei ddychymyg cyn creu drama sy’n unigryw i Ed Thomas. Yn ei ddrama olaf, mae’n troi i fyd angylion a thylwyth teg ac mae’r ddrama hon yn dlysach a mwy optimistig er gwaethaf ei themâu tywyll cyfarwydd. Amhosib yw gwneud chwarae teg â gwaith sydd mor aml-haenog mewn gofod byr fel hyn, ond gan fod y llyfr yn llwyddo i wneud hynny drosom, nid oes raid i mi boeni. Mae tafodiaeth Jeni Williams yn dangos sut mae agwedd yr awdur yn newid yn gynnil o un ddrama i’r llall. Diddorol hefyd oedd deall y gwahaniaeth rhwng sgript y ffilm a’r ddrama lwyfan wreiddiol a gwneir hynny yn dreiddgar iawn yn erthygl gynhwysfawr.

O’r tri darn, y sgript ffilm sydd anoddaf i’w darllen gan bod angen gallu gweld y golygfeudd yn llygad y meddwl a symud o le i le ar frys, ond daw hynny’n haws wrth arfer efo’r strwythur. Trysor annisgwyl oedd dyddiadur Marc Evans, sydd yn llawn gwybodaeth eithaf technegol ar adegau am y broses o wneud ffilm ond a gyflwynir mewn ffordd gwbwl ddiymhongar a darllenadwy gyda dogn go dda o hiwmor. Am ryw reswm, (gormod o Dawson’s Creek, siwr o fod!) roeddwn i bob amser wedi amau bod cynhyrchwyr fel brid yn ‘siwds’ sy’n frenin ar eu teyrnas personol, rhagfarn cwbl ddi-sail dwi’n sylweddoli erbyn hyn. Mae Marc Evans nid yn unig yn agos-atoch ac yn annwyl, ond yn nofio ar donnau ffawd, d, a glaw di-ben-draw fel y gweddill ohonom.

Os oedd unrhyw siom yn y gyfrol, y cyfweliad efo Ed Thomas oedd hynny, yn bennaf am ei fod mor fyr, ond hefyd am fod y sylwadau eisioes wedi dyddio. Buaswn wir yn hoffi barn awdur mor gryf ei argyhoeddiad yngl_n â’r ymdrech ddiweddaraf i greu theatr genedlaethol – ond bydd rhaid disgwyl nes cawn ni gyfrol arall mae’n siwr gen i.

Saif Kitchener Davies ar un pen i’r ugeinfed ganrif, ac Ed Thomas ar y llall, dau awdur y cymoedd a’u ddiddordeb yn y berthynas rhwng pobl, un yn dad o fath i’r ddrama gegin Gymraeg, y llall, y mab anystywallt sy’n ei chwyldroi er mwyn portreadu’r Gymru eang ei diffinad a węl ef ar glo’r ganrif. Cryfder gwaith Thomas yw ei fod yn llwyddo i adnewyddu trwy droi’r traddodiad y tu chwithig allan; mae’n sbecian ac yn chwarae gyda’r confensiwn ond yn creu ei lais unigryw ei hun. Mae’r adolygwyr wedi dweud y cyfan yn barod: ‘his writing, in a brutal authentic language remains persuasive’, neu ‘Atour de force exploration into what it means to be human (and Welsh) in the late 20th century’.

Ond wrth gwrs, mae hi’n 2003 bellach. Oes gan Thomas fwy i’w gynnig ynteu ydi’r tân yn ei stumog wedi gwreichioni? Go brin, a’r glaw yn dal i syrthio ar dirwedd y dychymig.

awdur:Gwenan Mared
cyfrol:491/492, Rhagfyr/Ionawr 2003/04

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk