Saunders ar y Teli
Dramodydd radio a llwyfan oedd Saunders Lewis, yn ôl y comisiynau a dderbyniodd, beth bynnag. Ond tybed, fel yr awgryma NIA ROBERTS, nad yw ei ymwybyddiaeth weledol gref yn gwneud ei ddramâu yn fwy addas ar gyfer y teledu.
Ystyrir Saunders Lewis yn un o lenyddion amlycaf y ganrif hon, yn fardd, nofelydd a beirniad yn ogystal â dramodydd. Rhoddir mwy o fri i’w ddramâu nag i’r gweddill o’i waith, oherwydd y prinder mewn awduron drama amlwg yn yr un cyfnod efallai, ac ystyrir hwy yn glasuron modern, ond wrth astudio’r gweithiau, gwelir ynddynt nifer o elfennau sy’n anghydnaws â natur y cyfryngau yr oedd yn ysgrifennu ar eu cyfer.
Cyfansoddodd nifer o’i ddramâu ar gyfer y llwyfan, gan ffafrio Chwaraewyr Garthewin i’w perfformio. Ystyriai Saunders Lewis y mwyafrif o gwmnïau drama Cymru yn annheilwng i berfformio ei waith – Chwaraewyr Garthewin dan arweiniad Morris Jones, yn ei farn ef, a oedd y cwmni agosaf at ei ddelwedd ef o Theatr Genedlaethol. Amhrisiadwy hefyd oedd dylanwad y B.B.C arno – heb eu dylanwad efallai mai dramodydd yn cyfansoddi yn unig fuasai Saunders Lewis, ag yntau â chyn lleied i’w ddweud wrth gyfrwng y teledu.
Cyfansoddwyd Blodeuwedd ar gyfer y theatr wedi cais gan gwmni Garthewin, yn enghraifft benigamp o ddrama lwyfan. Bu’r perfformiad cyntaf ym 1947 yn llwyddiant gan ei bod yn ddrama syml iawn, yn bendant ei hadeiladwaith a hawdd i’w dilyn. Nid yw’n gofyn am dechnegau cymhleth i egluro’r digwydd – yr unig effaith sydd ei angen yw cri tylluan, a chan fod trawsnewidiad Blodeuwedd yn digwydd oddi ar y llwyfan, nid oes angen cymhlethu’r digwydd ag effeithiau megis peiriant mwg. Mae cymeriadau’r ddrama oll yn unigolion pendant – Blodeuwedd yn gryf a digywilydd, Gronw yn ddewr a rhamantus, Llew yntau yn hunandosturiol ac yn pwyso ar Gwydion am gefnogaeth ac arweiniad. Arwain hyn at ddrama a chynhyrchiad llwyfan lliwgar a diddorol, a sgript hyfryd Saunders Lewis yn llwyddo yn y theatr yn union fel y’i cyfansoddwyd. Cynhyrchwyd hi sawl gwaith ar y radio, a bu dau gynhyrchiad teledu ohoni – bu i Emyr Humphreys ei chyfarwyddo yn 1965; a chafwyd cynhyrchiad cyffrous yn 1980 gan fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth gyda Siwan Jones, wyres y dramodydd, yn y brif ran.
Drama arall a ysgrifennwyd ar gyfer y llwyfan yw Gymerwch Chi Sigaret?, yn llwyddiannus ond am un olygfa nad yw’n gweddu’n arbennig o dda i’r theatr. Pan geisia Marc lofruddio tad bedydd ei wraig, y mae ei llaswyr hi’n syrthio o’r blwch sigareti sy’n cynnwys y gwn cudd. Byddai’n bosibl i gynulleidfa theatr fethu manylyn fel hwn, sy’n angenrheidiol i’r digwydd, gan mai bychan iawn yw’r deunyddiau sy’n cael eu defnyddio. Byddai’r dryswch ar wynebau’r cymeriadau hefyd yn mynd yn angof i resi cefn cynulleidfa; llawer mwy effeithiol yw’r ddrama fel cynhyrchiad teledu – cyfrwng y manylion – gan wneud defnydd helaeth o saethiadau agos a cherddoriaeth i greu awyrgylch llawn tensiwn. Gwnaed hyn yn arbennig o effeithiol yng yng nghynhyrchiad teledu Ffilmiau’r T_ Gwyn ym 1992, ond wrth droi at gyfrwng y radio a chynhyrchiad Radio Cymru yn 1993, diddorol oedd sylwi na fu i’r olygfa daro deuddeg.
Ar gyfer y llwyfan y cyfansoddwyd Cymru Fydd hithau, ond mae hon yn wahanol i’r dramâu llwyfan eraill gan fod ynddi olygfa nad yw’n gredadwy nac effeithiol ar unrhyw gyfrwng. Yr olygfa dan sylw yw clo’r ddrama, pan neidia Dewi oddi ar do’r cartref gyda’r bwriad o gyflawni hunanladdiad. Ar y llwyfan, byddai’r cynhyrchiad yn troi’n ffars pe defnyddid dyfais megis corff ffug yn disgyn heibio i ffenestr yn y set; hebddo, byddai diwedd y cynhyrchaid yn fflat. Ar y radio, gellid defnyddio gwaedd ag effaith eco iddi, fel y gwnaeth John Owen wrth gynhyrchu’r ddrama ar gyfer Radio Cymru, ac efallai s_n y corff yn glanio; ac er bod y teledu yn gyfrwng mwy penagored, nid hawdd fyddai dangos hunanladdiad fel hwn heb y costau uchel a fyddai’n angenrheidiol er mwyn sicrhau saethiadau proffesiynol yr olwg. Mae’n wir i Saunders Lewis osod y digwydd oddi ar y llwyfan – er hyn, mae clo’r ddrama yn benbleth i’r cyfarwyddwr.
Radio yw’r cyfrwng y bwriadwyr Esther ar ei gyfer, er i’r perfformiad cyntaf ohoni fod ar y llwyfan. Darlledwyd hi ar y radio yn 1959, ac er fod y ddrama ei hun yn llwyddiant, mae un elfen ohoni yn ymddangos yn anaddas ar gyfer y cyfrwng, sef dyfodiad y frenhines Esther at ei g_r. Ym Mhersia cyfnod y Beibl, roedd deddf y wlad yn datgan fod unrhyw un a âi at y brenin heb ei wahoddiad i gael ei ladd oni bai fod y brenin ei hun yn ymestyn ei deyrnwialen ato. Roedd hyn yn rheol ar gyfer y frenhines fel pawb arall. Aeth Esther ato, gan roi ei heinioes yn nwylo ei phriod; a’r olygfa hon yw canolbwynt tensiwn y ddrama: y gynulleidfa yn aros i weld a wnaiff y brenin ei chydnabod – hynny yw, a ydyw yn ei charu. Ni all cynulleidfa radio weld Esther yn cyrraedd, na gweld y milwyr yn ei bygwth â’u harfau; ni welant ychwaith y deyrnwialen yn cael ei hestyn tuag ati – eto, y radio oedd y cyfrwng a ddewisodd Saunders Lewis ar ei chyfer. Ni allwn weld ymateb y cymeriadau i’w gilydd, ac mae’r sgwrs eglurhaol yn dryllio tensiwn yr olygfa. Cyflwynwyd Esther ar y teledu gan y BBC ym 1970, a chredaf i’r cynhyrchiad lwyddo o dan law George P. Owen, gyda defnydd o fiwsig a s_n drymiau ynghyd â gwaith camera clos i greu tensiwn na allai geiriau mo’i gyfleu.
Pan feddyliodd Saunders Lewis am Siwan, drama lwyfan oedd hi i fod, ond tua’r un pryd, gofynnodd y BBC iddo am ddrama radio – bu hynny’n ddigon o ysgogiad iddo ei gorffen. Cynhyrchwyd hi felly ar y cyfrwng hwnnw, ond nid i’w llawn botensial.
Un o ragoriaethau’r ddrama yw dyfnder y teimladau sy’n corddi y tu mewn i Siwan wrth glywed dienyddiad Gwilym, tra’n gaeth yn y t_r. Mae’r portread o hyn yn siomedig ar y radio gan na welwn ei phoen yn ei hwyneb, ac nid ydym yn llawn sylweddoli bryntni ei charchariad heb weld ei chadwyni. Fel yn achos Gymerwch Chi Sigaret?, y teledu yw’r cyfrwng perffaith i’w chyflwyno, ble gall y cyfarwyddwr ddewis ei saethiad, boed yn siot agos o wyneb poenus y frenhines neu’n llun o Alis yn ceisio disgrifio’r digwyddiad ar y lawnt. Ceir esiampl benigamp o hyn mewn cynhyrchiad Saesneg o’r ddrama, A King’s Daughter (1963), pan welwn y camera’n gwledda ar wyneb Siân Phillips yn y brif ran tra hefyd yn dangos gwewyr y forwyn a phwysau’r cadwyni.
Mae Cell y Grog yn wahanol i’r mwyafrif o ddramâu Saunders Lewis, gan ei bod yn tynnu’n gryf ar fudiad yr abswrd fel ei chwaer-ddrama Yn y Trên. Drama radio fer ydyw, yn dilyn oriau olaf carcharor sy’n aros am ei ddienyddiad, a’r swyddog sy’n ei warchod. Mae’r ddau yn chwarae gwyddbwyll, ac yn fuan iawn daw yn amlwg nad yw’r swyddog yn llawn llathen. Cred fod bywyd y carcharor yn fwy diddorol na’i fodoliaeth ei hun, a mynn eu bod yn ffeirio dillad. Dihanga’r carcharor yn llifrai’r swyddog gan adael y llall i wynebu carchar am oes.
Mae’r newid dillad yn weithred bwysig i rediad ac ystyr y ddrama, ond gweithred weledol ydyw. Bwriad Saunders Lewis oedd i gymeriad y swyddog newid wrth iddo dynnu ei ddillad, ond mewn cynhyrchiad o’r ddrama ar radio’r BBC yn y saithdegau, nid yw hyn yn cael ei gyfleu i’r gynulleidfa. Ni allwn ddirnad yn llawn effaith y trawsnewidiad trwy wrando yn unig; pe byddai’r cymeriadau wedi eu sefydlu ymlaen llaw, efallai y byddai hyn yn bosibl, ond mewn drama mor fyr sydd hefyd yn llwythog o awgrymiadau yngl_n â bywyd y swyddog a throsedd y carcharor, mae disgwyl i ni sylwi ar newid yn agwedd a chymeriad un ohonynt yn gofyn gormod efallai.
Y teledu fyddai’r cyfrwng delfrydol i gyflwyno’r ddrama hon, ble gallwn weld y newidiadau. Heb dorri ar rediad y sgwrs unwaith ac amseru’r ddrama gallem weld y swyddog yn colli ei safiad cadarn a’i awdurdod wrth ddiosg ei lifrai. I’r gwrthwyneb, byddai’r carcharor yn edrych yn fwy sicr ohono’i hun; yn colli ei euogrwydd ac yn cerdded yn dalsyth o amgylch y gell. Elfen bwysig yn y ddrama yw fod y swyddog yn eistedd yng nghadair y carcharor cyn i’r dienyddwr ddod i mewn: byddai cynhyrchiad teledu o’r ddrama yn fwy addas i greu’r tensiwn angenrheidiol. Byddai’r gynulleidfa o ganlyniad yn sylweddoli pa mor orffwyll yw’r dyn wrth weld ei wên wrth iddo chwennych y profiad o farw.
I’w chyflwyno i’w llawn botensial, byddai’n rhaid cyflwyno’r ddrama ar y sgrîn yn yr un cywair â Tales of the Unexpected – er mwyn cyfleu’n llawn i’w chynulleidfa ei hafrealaeth.
Addasiad o stori fer Honoré de Balzac o’r un enw Y Cyrnol Chabert. Cyfansoddwyd hi ar gyfer y radio, ac mae i’r cyfrwng ei fanteision a’i anfanteison yng nghyswllt y ddrama hon.
Mae’r holl ddigwydd yn troi o amgylch y ffaith fod gwedd y cyrnol wedi newid ers y tro diwethaf i’w wraig ei weld cyn iddo fynd i ryfel. Ni allwn fel cynulleidfa radio farnu trosom ein hunain yn y cyswllt hwn – gyda chynhyrchiad teledu, byddai’n bosibl defnyddio techneg yr ôl-fflach i egluro ei ymddyngosiad cyn y rhyfel a’i berthynas â’i wraig. Gwnaed hyn mewn cynhyrchiad ffilm Ffrengig o’r stori wreiddiol, a phrofodd y dechneg yn llwyddiant, gan i’r gynulleidfa allu uniaethu fwyfwy â’r cyrnol druan wedi gweld sut y bu i’w wraig droi cefn arno a’r berthynas gariadus a fu rhyngddynt.
Yn ogystal â’r newid yn ei wedd, mae gan y cyrnol graith enfawr yn ymestyn ar draws ei ben lle y bu i arf y gelyn ei daro yn ei frwydr olaf. Gwisg wallt gosod i’w chuddio, a phan ddaw’r gwallt i ffwrdd yn swyddfa’r cyfreithiwr Derville, y mae hwnnw yn synnu ei gweld. Anodd yw dangos syndod yn effeithiol ar y radio, gan mai drwy ochneidio yn unig y gellir gwneud hyn heb ychwanegu gormod o frawddegau eglurhaol i’r ddeialog. Pe cyflwynid yr olygfa ar y teledu, byddai’r gynulleidfa oll yn rhannu ym mhrofiad Derville; a chan mai’r graith, yn ôl Balzac, a achosodd i wedd Chabert newid, byddai cael gweld hyn yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o’r hanes.
Un fantais i gyfrwng y radio yng nghyswllt y ddrama hon fyddai’r rhyddid i geisio cyfleu’r nifer o leoliadau unigryw sydd eu hangen – plasty moethus, swyddfa brysur a buarth budr – ac ymestyn dychymyg cynulleidfa heb fynd i gostau. Serch hynny, gellid gwneud cyfiawnder â’r ddrama unigryw hon mewn ffilm deledu dda pe byddai arian yn llifo.
Ar gyfer y teledu y cyfansoddwyd Branwen yn wreiddiol, a chredaf i Saunders Lewis greu drama gwbl addas ar gyfer y cyfrwng. Mae yma nifer o leoliadau yng Nghymru ac Iwerddon, ac elfennau gweledol cryf na fyddent yn gredadwy ar y radio na’r llwyfan, megis lluchio’r tywysog Gwern i’r tân a’r frwydr rhwng y Gwyddyl a’r Cymry. Mae’n sgript ryfeddol o lwyddiannus, yn enwedig o gofio nad oedd yr awdur yn berchen ar set deledu ei hun nac yn edmygydd mawr o’r cyfrwng.
Mae dramâu Saunders Lewis yn cael eu hystyried yn rhan bwysig o lenyddiaeth yr ugeinfed ganrif, waeth pa gyfrwng oedd dewis y dramodydd; ond rhaid yw cyfaddef ei fod yn ddramodydd gweledol iawn. Dim rhyfedd, felly, fod nifer o’i ddramâu radio wedi’u cyflwyno yn llwyddiannus ar y teledu dros y blynyddoedd.
awdur:Nia Roberts
cyfrol:438/439, Gorffenaf/Awst 1999
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com