Hyffordda Blentyn
GEORGE OWEN sy’n trafod y berthynas rhwng Steddfod ac ieuenctid.
O’m blaen y mae crynodeb o arlwy drama swyddogol Prifwyl Môn ac y mae’r darpariaethau’n edrych yn addawol iawn. Bydd dros ugain o gyflwyniadau proffesiynol, neu gyda mewnbwn proffesiynol tu cefn iddynt, wedi eu dosbarthu rhwng saith canolfan. Ffrwyth llafur amatur fydd y gweddill a theg fyddai bwrw golwg mwy manwl ar y gweithgaredd hwn.
Rwy’n cofio, flynyddoedd lawer yn ôl, eistedd yn lolfa cartref John Ellis Williams yn Llanbedr a chael y fraint o edrych ar ‘Y Llyfr Cownt’. Slabyn o gyfrol oedd hon, cymaint â Beibl pwlpud, ac ynddo ystadegaeth manwl o bob un o’i ddramâu a’r perfformiadau a roddwyd ohonynt. Ar un adeg yr oedd yn gohebu â dros ddau gant o gwmnïau amatur ledled Cymru, a phob cwmni’n brwydro i fod y cyntaf i berfformio ei ddrama ddiweddaraf. Mae pori dros ystadegaeth y llyfr yn rhoi darlun eglur iawn o ffyniant y ddrama amatur ar lwyfannau Cymru rhwng y ddau ryfel byd. Mae’r penllanw euraid hwnnw trosodd, ond y mae’r gweithgarwch brwd ymysg cwmnïau amatur yn parhau.
Mae dros ddeg ar hugain o gyflwyniadau yn rhaglen ddyddiol Theatr y Maes eleni, wyth ohonynt gan gwmnïau cymunedol o’r dalgylch. Yr hyn sydd o ddiddordeb arbennig yw fod hefyd ddeunaw o gyflwyniadau gan blant a phobl ifanc. Byddwn yn agor gweithgareddau’r theatr ar y Sadwrn cyntaf, yn briodol iawn, gyda chyflwyniad y Mudiad Ysgolion Meithrin. Prin fod cyflwyniad arall yn holl arlwy’r wythnos sy’n costrelu mwy o frwdfrydedd ac egni heintus, ac fe fydda i’n dotio at lafur ac amynedd yr athrawon a’r rhieni sy’n gorfod cadw pawb rhag cicio dros y tresi. Un peth sy’n sicr fe fydd y rhai bach yn trysori ac yn cofio’r achlysur tra byddant.
Sut bydd hi wedyn, wrth iddynt brifio ac aeddfedu a symud o ris i ris trwy’r system addysg? Faint o gyfle wedyn gaiff y plant i ddatblygu eu doniau perfformio? Fel mae’n digwydd, y mae yna etifeddiaeth gyfoethog yn nalgylch cyfredol yr Eisteddfod, ac y mae’r arlwy drama yn adlewyrchu hyn. Pedwar cyflwyniad gan fyfyrwyr a phump gan ysgolion cyfagos. Nid yw’r sefyllfa’n agos mor iach mewn ambell ddalgylch. Mae llawer yn dibynnu ar leoliad ysgolion ac ar agwedd y Pwyllgorau Addysg lleol a Rheolwyr yr ysgolion. Nid pob ysgol sydd ag athro drama, nid pob prifathro sy’n rhoi blaenoriaeth i weithgarwch drama mewn cyfnod pryd y mae’n rhaid iddo allu cyfiawnhau pob ceiniog i wariant. Gyda chymaint o sylw’n cael ei roi i destunau craidd ac i ganlyniadau mesuradwy, hawdd deall y demtasiwn i ddedfrydu drama i fod yn un o’r disgyblaethau y gellir eu hepgor – ynghyd â cherddoriaeth a dawns hyd yn oed addysg gorfforol.
Mae Môn, a Gwynedd, wedi eu bendithio â thraddodiad o annog gweithgarwch drama ymysg pobol ifanc. Mae Theatr Fach, Llangefni yn meithrin theatr ieuenctid, mae yna bob anogaeth i ieuenctid yng Nghanolfan Ucheldre a phwy na _yr am waith unigryw ac arloesol Cefin a Rhian Roberts yn Ysgol Glanaethwy. Ond nid dyna, ysywaeth, y darlun ymhobman. Mae Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru yn ymwybodol o’r prinder darpariaeth mewn sawl dalgylch ac ar hyn o bryd yn cynnal trafodaethau gyda’r Eisteddfod Genedlaethol i weld a ellir lliniaru tipyn ar y prinder hwn trwy bwytho i mewn i amserlen blynyddol yr Eisteddfod weithdai, cyrsiau a pherfformiadau gan ieuenctid.
Mae ganddynt eisioes ddarpariaeth dda iawn ar gyfer cerddoriaeth – gyda Cherddorfa Ieuenctid Genedlaethol Cymru, Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Côr Ieuenctid Cenedlaethol, ac yn ddiweddar Sinffonia Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, pob un â’i strwythur arbennig o ymarferion a gweithdai. Y mae eisioes ‘National Youth Theatre of Wales’, trwy gyfrwng Saesneg wedi ei leoli yng Nghaerdydd, ond simsan iawn fu’r ddarpariaeth yn y Gymraeg ar gyfer ‘Theatr Ieuenctid Cymru’. Delfryd y Cyd-Bwyllgor yw gweld y theatr Gymraeg yn gyfuwch ei statws â’r gweithgaredd Saesneg, a gwych o beth fyddai hynny.
Nid pob plentyn fydd â’i fryd ar fynd i Goleg, nac, o ran hynny, ar yrfa broffesiynol ym myd y theatr a’r cyfryngau. Ond nid oes reswm yn y byd pam na ellid darparu gweithdai a chyfleoedd i bobol ifanc ymddiddori mewn drama, datblygu eu sgiliau perfformio a’u disgyblaethau llwyfan i fwynhau ymuno mewn gweithgarwch cymunedol yn eu harddegau. Ar hyn o bryd prin iawn yw’r cyfle. Mae degau o wyliau drama ar hyd a lled y wlad. Faint o’r gwyliau hyn sydd ag adran yn benodol i ieuenctid? Faint o anogaeth y mae’r gwyliau hyn yn ei roi i ieuenctid y wlad?
Mae strwythur hir dymor o hyfforddiant i egin ddramodwyr yn cael ei lansio ym Mhrifwyl Môn eleni. Bydd yn datblygu dros y pum mlynedd nesaf wrth i’r Eisteddfod fynd ar ei rhawd blynyddol o fan i fan. Mae’r gwaith eisioes wedi cychwyn, yn briodol iawn, yn ysgolion uwchradd Môn a byddwn yn gweld ffrwyth eu llafur yn Theatr y Maes eleni. Ai delfryd gwag yw gobeithio y gellid datblygu strwythur gyfochrog i annog a hyrwyddo actorion ifanc?
awdur:Geoorge Owen
cyfrol:438/439, Gorffenaf/Awst 1999
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com