Chwilio am gynulleidfa ‘fyw’: Cip ar Theatr Fach, Llangefni...
Mae Theatr Fach, Llangefni yn enghraifft wych o theatr gymunedol. DAFYDD ARTHUR JONES sy’n sôn am ei chyfraniad.
Ydi Theatr Fach yn dal i fynd? Dychmygwch ddau actor mewn car ar yr A470 yn holi ei gilydd. Cywion ydynt ond ‘enwau’ sydd wedi dygymod â tharo llofnod blêr ar faes y Brifwyl pan ddaw twr o blant ar eu gofyn. Ond er yr holi gwyddant mai byd go ‘wahanol’ yw’r un amatur ac mai gwell yn y bôn yw cadw props a dynion ar wahân. Diolch byth am y cyfleoedd prin rheini i feirniadu mewn cystadlaethau actio ac hyd yn oed cael troedio prif lwyfan yr Urdd, a hynny er mwyn i rywun wybod be’ sy’n ‘digwydd’, meddai’r mwya’ huawdl o’r ddau, wrth iddo godi sbid. Mynd a dod ydi hanes y cwmnïau bach i gyd, meddai’r llall, gan drio cofio o ba fröydd y deuai’r rhan fwyaf ohonynt.
Roedd o’n saff o waith am ddwy flynedd a gwyddai mai ‘peth da’ oedd gweld bwrlwm o actio trwsgwl yn digwydd waeth pa mor ddiarffordd yr ardal. Pentrefwyr i gyd efo’i gilydd, pawb yn ymuno i greu set ac i ddysgu eu geiriau, mor barod y deuai syniadau i’w ben wrth iddo daro llygaid ar y caeau moel o glydwch y car. Y llwyfan fyddai dewis cynta’r ddau ohonynt petai dewis a phetai modd dianc o lewyrch cras golau’r stiwdio – a phetai pres gwell i’w gael. Fedri di ddim curo gweld rhes ar ben rhes o wynebau yn rhythu arnat o’r tywyllwch, meddai’r naill wrth y llall, a dwyn i gof ryw gynyrchiadau trwsgwl yn yr ysgol. Yr ‘her’ o fod o flaen cynulleidfa ‘fyw’ ac yn y blaen, wrth iddynt gwyno nad oedd ‘ysgrifennu difyr’ i’w gael bellach ac mai cyfieithu bob dim wnâi’r Cymry. Ond dyna ni mae o’n ‘waith’ ac yn talu’r biliau ac yn cadw’r blaidd yn ddigon pell o Bontcanna. Gwell cael pobol yn mwynhau llond bys i honglad o stiwdio annifyr. Roedd o yn llygad ei le.
George pwy? Mi wyddwn fod y ddau yn bur awyddus i droi’r sgwrs ers meityn. George Fisher o Sir Forgannwg yn wreiddiol oedd y g_r a chanddo’r weledigaeth i sefydlu’r Theatr Fach, a hynny wedi iddo dderbyn swydd fel athro mathemateg yn ysgol Llangefni. Wyddoch chi ei fod o wedi troi ei law at ‘sgwennu dramâu ac mi fodiodd Welsh Made Easy yn ddigon manwl fel y cafodd grap ar y Gymraeg? Diflaswr oeddwn i a gwyddwn nad oedd gan y ddau ddigon o ddiddordeb i gynnal y sgwrs. Cafodd ei gynhyrchiad cyntaf o Amlyn ac Amig yn 1947 gryn groeso, a dyna roi cychwyn ar yrfa yr hogyn ysgol J. O. Roberts. Gwingai’r mwyaf boliog o’r ddau deithiwr, a gwyddwn mai doethach fyddai troi’r sgwrs. Dydi’r rhyfeddod mai gweledigaeth un g_r a oedd tu ôl i hyn oll? Ni chafwyd ateb. Y fo oedd wrth gefn sefydlu’r Gymdeithas Ddrama a’r _yl flynyddol y gwelwyd perfformio ar Morwyn y Môr, a Y Ferch a’r Dewin. Dydi hi’n wych fod cymaint yn digwydd a hithau yn gyfnod mor dywyll ar bobol? Ni chafwyd ateb.
Doedd ymateb, waeth pa mor ffals, ddim yn gwbl amhosib i ddau actor nad oedd ganddynt fawr i’w ddweud ar ddim yn y bôn.. Ond roedd ceisio fy rhwystro i yn dasg lawer rhy uchelgeisiol iddynt. Y pumdegau, dyna i chi’r cyfnod pan y gwelwyd gweithgareddau di-ri’. Yn ystod y blynyddoedd rheini y cafwyd gafael ar gytiau ar stad Pencraig a chodi theatr. Darlith oedd hi ac roeddwn i yn mynd i hwyl. Bu ond y dim i o’r ddau ynganu’r geiriau rheinu “llafur cariad” ac fe’i gwelwn yn pletio’i geg ac yn rhyfeddu fod cymaint yn digwydd mewn dyddiau du a di-ffi. Mi enillodd Fisher sylw ledled Cymru ac mi roedd hi’n amlwg fod brwdfrydedd y trigolion lleol yn heintus. Ydi hynny’n wir? Mi glywn i’r teneuaf o’r ddau yn holi’i hun ac yn ysu i godi s_n y radio a boddi’r holl siarad hawdd am ‘frwdfrydedd heintus’. Y trydydd o fis Mai, 1955, a’r Theatr dan ei sang ar gyfer yr agoriad swyddogol, a hynny, cofiwch, cyn codi’r theatrau hyll rheini yn y saithdegau. Pobl wedi eu gwasgu at ei gilydd, a bu ond y dim i mi ddechrau rhamantu cyfnod na wyddwn i fawr amdano. Bellach digon pell ydi 1957 a mynd da ar weithgareddau yr Eisteddfod yn Llangefni. Rwscala a Merch yw Medwsa oedd dwy o ddramâu a gyfarwyddwyd gan Fisher a bu ehangu ar yr adeilad. Yn 1961 dyna i chi All My Sons, Mother Courage (1963), Blodeuwedd (1964), The Good Person of Szechwan (1964) a Siwan (1966).
Mi welwn i lygaid p_l yr hynaf o’r ddau yn chwilio a, waredigaeth ym moelni’r caeau. Wrth gwrs mae dewis i’w gael heddiw a gwawrio ‘oes aur ddigonol’ sy’n cynnig ‘mwy’, a llai o ddramâu trymion, nad oes fawr o actio arnynt bellach. Gwyddwn deithi meddwl y ddau heb iddynt orfod dweud yr un pwmp. Ond roedd gennyf chwilen yn fy mhen a fynnai i mi restru’r actorion rheini a fu’n troedio’r llwyfan. Charles Williams, Elen Roger Jones, Glyn Williams, ‘Glyn Pensarn’, Elwyn Williams, J. O. Roberts, Hywel Gwynfryn, Maldwyn John, Gwenno Hodgkins, Ioland Williams, Llion Williams a daeth mwy heb i mi orfod meddwl amdanynt. Camodd Hazel Slade a ‘J.O’ i’r adwy yn sgil marw Fisher ym 1970 a phenodwyd Llewelyn Jones yn gadeirydd ar y fenter fawr. Dal ati i godi rhagor o adeiladau a wnaethpwyd, ac roedd agor yr ystafell ymarfer ymhen dwy flynedd wedi marwolaeth Fisher yn glod i weledigaeth y sylfaenydd. Cytunodd y ddau heb gynnig fawr o sylw ar y mater. Gwnaed gwaith clodwiw efo pobol ifanc a chymaint oedd y safon fel y denwyd llenorion fel Emyr Humphries i fentro cynhyrchu Siwan, ac ennill cryn glod am ei weledigaeth.
Ymgyfinai’r ddau gyd-deithiwr â gor-gamol, wedi’r cwbl fe ddeuai hynny yn sgil ambell i ymddangosiad sydyn ar gwis, heb sôn am gyfres hirfaith dros y gaeaf. Ond gwyddwn yn bendant fy mod i’n mynd dros ben llestri ac ni faliwn fotwm corn. Mewn dyddiau cyn sôn am y cwmnïau presennol mi dderbyniodd Theatr Fach wahoddiad i berfformio Un Briodas yn Iwerddon. Meddyliwch am y peth, a chwmni o Langefni yn cyrraedd Detroit fel yr unig gynrychiolydd Cymreig mewn G_yl Theatr ym 1975. Roeddynt yn gyndyn iawn i ymhelaethu ar y gair ‘diddorol’ a go brin fod yna fawr o ryfeddodau ar ôl i ddau a oedd wedi trampio cymaint ar yr hen fyd yma. Er hynny cafwyd cytundeb mai ‘digon prin ydi pres pawb’ a bod unrhyw weithgarwch mewn theatr yn well na dim. A dyna gyfle i mi ddechrau rhestru rhagor o ddramâu, Cariad Creulon, Witness for the Prosecution, The Crucible, The Secret Diary of Adrian Mole, Neidr Fawr Penhesgyn, Arch Noa, roedd yna fwy wrth i mi grybwyll enwau pobl fel Tony Jones, Edgar Jones, Llanfachreth, a Barry Williams. Roeddwn wedi bwriadu crybwyll fel y tynnai’r Theatr hon bobl at ei gilydd a hynny mewn oes pan nad oedd fawr o bwyslais ar hynny. Mi deimlwn fel dweud rhagor o bethau dychrynllyd o hen ffasiwn am ‘gadw pobol efo’i gilydd’ nes i mi weld mai cytuno er mwyn cau ceg fyddai ymateb y ddau. Roedd ein siwrnai yn dirwyn i ben.
awdur:Dafydd Arthur Jones
cyfrol:438/439, Gorffenaf/Awst 1999
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com