Gwenlyn Zapata
Mae’n ddeng mlynedd ers marwolaeth Gwenlyn Parry. GWENAN MARED ROBERTS sy’n bwrw golwg ar y casgliad cyflawn cyntaf o ddramâu Gwenlyn Parry, a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn yr Eisteddfod.
Mae ‘na wyneb cyfarwydd yn syllu arna i o glawr y gyfrol newydd – y mwng mawr gwyn, y sbectol a’i gwydrau’n dew fel rhai Deidre Barlow druan, a’r mwstash ‘mawr clyfar fel Zapata’ ys dywed merch Y T_r, yn addurno’r wyneb meddylgar. A bydd y rhai oedd yn adnabod Gwenlyn Parry yn rhwydd iawn yn gallu dychmygu’r wyneb hwnnw yn torri’n wên ddireidus a’r ystum cyfarwydd o law yn cael ei thaenu dros yr wyneb. Nagoes, mae’n wir, does ‘na ddim un arwr cystal yng Nghymru â’r arwr hwnnw sydd wedi marw; ond gyda deng mlynedd bellach ers marwolaeth Gwenlyn, nid yw atgofion y cyfeillion hynny na’r clodydd a genir ganddynt i ‘Parri’ yn newid dim. Dyma a gyfleir yn rhagair Annes Griffith i’r gyfrol hon, ond nid hynny sy’n cyfri’ mewn gwirionedd. Yr hyn sy’n bwysig yw fod yma, ar ôl hir ymaros, gasgliad o holl waith cyhoeddedig yr awdur mewn un gyfrol, yn barod i’r byd a’r betws benderfynu beth fydd hyd a lled Dramâu Gwenlyn Parry wrth ddefnyddio llinyn mesur yr unfed ganrif ar hugain.
‘Does na ddim amheuaeth bod Gwenlyn wedi dod yn rhywfaint o eicon ymhlith y Cymry Cymraeg – y dyn a greodd chwyldro yn y theatr Gymraeg pan ganodd y ffôn ar ddiwedd Saer Doliau, ac a ddaeth â Twm Twm a Pobol y Cwm i’n sgrinoedd (er nad oes neb yn diolch iddo am yr ail erbyn hyn, siawns gen i, gyda’r paent sy’n sychu ar waliau Cwmderi yn llawn mwy difyr na’r plot). Ond beth yn hollol mae hynny yn ei olygu i genhedlaeth newydd o ddarllenwyr a pherfformwyr? Wedi’r cwbwl mae pawb yn berchen ar ffôn sy’n canu heb weiren erbyn hyn a ‘does yna fawr neb, mae’n si_r gen i, yn meddwl mai Duw sydd ben arall y lein i Cellnet. Ond eto i gyd mae ‘na ryw swyn yn perthyn i ddramâu Gwenlyn sydd yn golygu eu bod nhw’n dal i gael eu hastudio ar gyfer cyrsiau coleg ac ysgol a bod cynhyrchwyr yn dal i droi atynt o bryd i’w gilydd er mwyn eu perfformio o’r newydd.
Oedd, roedd hi’n hen bryd felly casglu’r gwaith ynghyd mewn un gyfrol a bu’r llyfr yn cael ei hysbysebu cyhyd cyn cyrraedd y silffoedd i mi feddwl mai rhith neu ffantasi fel ‘Delw’ T_ ar y Tywod oedd y cyfan. Ond, r_an ei bod hi yma, beth yw gwerth y gyfrol hon? Yn gyntaf, ac yn bur amlwg, ceir yr hwylustod o weld holl ddramâu yr awdur rhwng dau glawr, a gan fod nifer o’r dramâu wedi bod allan o brint ers rhai blynyddoedd efallai mai hwn yw’r cyfle cyntaf i nifer o bobl ymgyneifio â’r gweithiau llai poblogaidd fel y dramâu byrion a Sal. Yn y dramâu byrion hyn y bwriwyd prentisiaeth Gwenlyn ac mae ynddynt gipolwg ddiddorol i fywyd cynnar yr awdur ac i’r dylanwadau dramatig cyntaf ar ei waith. Gweld The Long, the Tall and the Short sy’n ymdebygu’n amlwg i Y Ddraenen Fach yn ystod ei gyfnod yn Llundain oedd un o’r ysgogiadau cyntaf iddo droi o ysgrifennu barddoniaeth ac arlunio i ysgrifennu dramâu llwyfan. O ystyried mai’r rhain oedd ei ddiddordebau cynnar, does fawr o syndod iddo ymhen amser ddod i gael ei adnabod, fel y dywedir ar gefn y gyfrol hon, fel ‘bardd o ddramodydd sy’n cogio bod yn ddyn y BBC’ (Saunders Lewis) a ‘bardd lluniau’ (Elan Closs Stephens).
Yn Poen yn y Bol, fodd bynnag, y mae’r hyn y deuai pobl i’w adnabod fel ‘stamp Gwenlyn’ yn codi pen gyntaf. Er mai drama fer ydyw y mae ynddi lawer iawn o nodweddion y gweithiau diweddarach sy’n amrywio o’r atyniad at yr annisgwyl a’r swreal, i’r hoffter o ddelweddau gweledol. Addaswyd y ddrama hon yn rhwydd iawn ar gyfer y teledu (gyda’r teitl – Un, Dau, Tri) ac roedd y rhwyddineb gweledol hwnnw eto yn rhagflas o’r hyn oedd i ddod yn y dramâu hirion – Saer Doliau (1966), T_ ar y Tywod (1968), Y Ffin (1973), Y T_r (1978), Sal (1980), a Panto (1989).
Mae’n gred gyffredinol i waith Gwenlyn gyrraedd pinacl gyda Y T_r a thueddir i ddiystyru’r gweithiau olaf gan gynhyrchwyr a’r mwyafrif o feirniaid (er i Elan Closs Stephens gyhoeddi casgliad cynhwysfawr o erthyglau ar Panto yn adran addysg Barn). Yn wir, adleisir y duedd hon yn y gyfrol newydd gan nad oes unrhyw luniau o Sal na Panto yn y casgliad. Efallai bod y duedd hon yn mewn bodolaeth i raddau oherwydd yr elfennau bywgraffyddol cignoeth sydd yn ymddangos yn Panto, ond hefyd, rydw i’n amau, am i Gwenlyn yn ei ddwy ddrama olaf droi oddi wrth y patrwm Pinteraidd a gymerodd y gweithiau cynnar a’u gwneud nhw, o’r herwydd, yn weithiau anos i’w labelu. Yn rhagair y gyfrol hon mae Annes Griffith yn trafod y ddrama a adawodd Gwenlyn, tua diwedd ei oes, o waith Dennis Potter (a ysgrifennai i’r teledu yn unig).
Mae hyn yn codi myrdd o gwestiynau am y berthynas rhwng y llwyfan a’r sgrîn a phe byddai Gwenlyn wedi cael byw byddai wedi bod yn ddiddorol iawn gweld i ble yr âi nesaf ar ei hynt theatrig. Heb os mae ei ddramâu yn amsugniad lliwgar o ddylanwadau Ewropeaidd, Prydeinig a Chymreig – yn cymysgu byd theatr, teledu a llenyddiaeth, - ac mae ei waith nid yn unig yn adloniant difyr ond yn dystiolaeth o’r hyn oedd yn digwydd ym myd y ddrama o’r chwedegau hyd ei farwolaeth yn 1991. Nid elfen Fecketaidd yn unig yw’r ffaith mai dau neu dri phrif gymeriad sydd yn y dramâu cynnar, ond tystiolaeth o’r ffaith mai cwmni bychan proffesiynol newydd oedd yn eu perfformio, sef Cwmni Theatr Cymru, Yn wir, mae’n un o amodau y comisiwn ar gyfer Y Ffin mai tri neu bedwar o gymeriadau a fyddai yn ymddangos ynddi ac un olygfa (Set). Nid damwain chwaith yw i’r mwyafrif o’r dramâu fod â rhyw gysylltiad â’r Eisteddfod Genedlaethol – tu ôl i bob awdur da mae ‘na ffactorau ariannol a chymdeithasol hollbwysig. Ni ddylid anghofio’r rhan bwysig a chwaraeodd Gwenlyn mewn dod â phroffesiynoldeb i’r theatr a’r sgrîn yng Nghymru, ond ni ellir anwybyddu chwaith y rhan a chwaraeodd proffesiynoldeb a datblygiadau technolegol mewn dod â Gwenlyn a’i waith i ni.
Yn anffodis ychydig iawn o’r cefndir hwn a amlygir yn y gyfrol hon gan i’r penderfyniad amlwg gael ei wneud i gyflwyno’r dramâu fel corff o waith yn unig, gydag ambell lun o Gwenlyn ei hun ar amrywiol adegau o’i fywyd yn addurno’r testun. Hyd y gwelaf i, ychydig iawn mae’r golygyff, J. Elwyn Hughes, wedi ymyrryd â’r fersiynau gwreiddiol. Cyn lleied, yn wir, yw ei awydd i ddangos ôl ei law fel bod yn rhaid darllen clawr cefn y gyfrol am y golygiad. Heblaw am ambell i goma yma a thraw, cywasgu ambell i arddodiad a thacluso rhywfaint ar yr argraffu, gadewir i waith Gwenlyn siarad drosto’i hun.
Roedd hynny, mae’n debyg, nid yn unig yn benderfyniad i fod yn hollol driw i’r gwreiddiol ond yn brawf o’r ffaith nad oes unrhyw alw am addasu ar y gwaith. Mae hyblygrwydd iaith Gwenlyn Parry yn gwneud y dramâu yn hygyrch i bawb, boed rheiny yn actorion, myfyrwyr ysgol, darlithwyr prifysgol neu ‘Mrs Jones Llanrug’ – y Joe Bloggs Cymreig a gyflwynodd Gwenlyn i ni unwaith. Yn wir, dyna un o’r gwerthoedd mawr a gynigodd Gwenlyn Parry i’r theatr Gymreig sef y gallu i siarad yn naturiol (ond nid yn naturiolaidd) ar y llwyfan a pharatôdd hynny, yn ei dro, y ffordd ar gyfer dialog fain ac eofn Meical Povey ac eraill. Ar ôl gweithiau barddonol Saunders Lewis a sgyrsiau anystwyth braidd dramâu John Gwilym Jones, roedd yma awdur o’r diwedd oedd yn siarad fel chi a fi. Dangosir hynny yn Saer Doliau, lle mae John Ogwen yn mynd ati wrth berfformio i wneud yr iaith yn fwy llafar hyd yn oed na’r gwreiddiol ac ychwanegu ambell i ebychiad yma ac acw. Mae hynny yn digwydd yn hollol naturiol heb amharu dim ar waith gwreiddiol y dramodydd. Dyma’r rhyddid a gynigodd Gwenlyn Parry i’r llwyfan yng Nghymru a chyffyrddir rhywfaint â hyn yn rhagair Annes Griffith i’r gyfrol hon.
Y rhagair cyffredinol yma’n unig a geir yn y golygiad hwn, a chollir rhagymadroddion gwreiddiol y dramâu i gyd, nifer ohonynt gan gyd-ddramodwyr fel Rhydderch Jones a Saunders Lewis, ac eraill gan feirniaid fel Elan Closs Stephens ac Aneirin Talfan Davies. Collir hefyd ragair Gwenlyn ei hun i T_ ar y Tywod lle mae’n mynegi llawer o’i syniadau am ysgrifennu drama ac yn cloi gyda’r dywediad Becketaidd ei naws a fyddai wedi gwneud arwyddair taclus iawn i’w waith – ‘Os oes neges ynddynt – y neges honno fydd yr un a wêl y gwyliwr’. Mae llawer iawn o sylwadaeth ddiddorol ar waith y dramodydd yn codi pen yn y rhagymadroddion hyn ac mae’n chwith garw meddwl y byddant yn mynd yn angof wrth i’r golygiad hwn yn anorfod ddod yn destun safonol o waith Gwenlyn Parry.
Mae hyn yn arwain at bwynt pwysig iawn sydd eisioes wedi codi ei ben yn yr adolygiad hwn wrth weld ail-gyhoeddi gwaith y dramodydd fel hyn – sef y diffyg mawr mewn sylwadau beirniadol ar waith gwenlyn. Nid oes hyd yn oed mewn bodolaeth, hyd yma o leiaf, lyfryddiaeth gyflawn wedi ei chyhoeddi ar waith yr awdur ac nid yw’r gyfrol hon yn cynnig dim tuag at adfer y sefyllfa hon. Mewn gwirionedd ‘does yna fawr ddim i fyfyrwyr ac athrawon ddibynnu arno wrth astudio gwaith yr awdur heblaw am eu crebwyll eu hunain, ambell i erthygl hwnt ac yma a chyfrol athronyddol Dewi Z Phillips. Mae’r gyfrol honno, i rai nad ydynt yn gyfarwydd â hi, yn rhoi dramâu Gwenlyn yng nghyd-destun yr ‘argyfwng gwacter ystyr’ a’r dirywiad cyson yn safonau moesol a chrefyddol cymdeithas. Er nad oes cwestiwn fod i’r gyfrol hon le pwysig iawn yn y drafodaeth ar waith Gwenlyn, (wedi’r cwbl a oes unrhyw gasgliad o waith arall yn arddangos y saith pechod marwol mewn cyd-destun cig a gwaed cystal?) ni ddylai sefyll fel awdurdod beirniadol ar y gwaith. Yn wir, gyda dyfodiad testunau agored Barthes, gellir gweld dramâu Gwenlyn fel clytwaith cyfoethog lle gall y ffeminist, yr ôl-fodernydd, y semiotegydd a’r athronydd oll roi eu darlleniadau eu hunain ar y gwaith.
Gellir gweld Sal, er enghraifft, nid fel hanes merch yn ymprydio yn wyrthiol oherwydd ymyrraeth oruwchnaturiol, ond fel enghraifft o’r clefyd modern ‘anorecsia’ efallai, neu fel merch ifanc yn ei harddegau a oedd, fel y santesau, yn llwgu ei hun er mwyn rheoli ei chwantau rhywiol. Mae yna ddigon o amwysedd hefyd yn Y Ffin yngl_n â’r berthynas rhwng Wilias a Now a gellir yn hawdd ei gweld fel drama sy’n rhannol, o leiaf, am berthynas hoyw. Yn yr un modd, gellid edrych ar symboliaeth y rôl o draws-wisgo yn Panto neu ar rywoldeb gwyrdroëdig G_r y T_. Mae’r dramâu ar eu hyd yn llawn cyfeiriadau at y cyfrwng fel cyfrwng, rhywbeth a ddaeth yn fwy poblogaidd mewn gweithiau modern ac ôl-fodern ac mae myrdd o ddeongliadau yn cuddio yn y cyfarwyddiadau llwyfan a chynhyrchu. Mae natur amwys y dramâu yn eu gwneud yn destunau ardderchog ar gyfer eu dehongli o’r newydd eto ac eto ac mae cynyrchiadau Ceri Sherlock, er enghraifft, o T_ ar y Tywod (1983) ac Y T_r (1988) wedi dangos sut y gall cyn hyrchydd celfydd berfformio’r dramâu o safbwyntiau newydd.
Dyma yn hollol oedd dymuniad yr awdur ei hun ac mae rhyw adlais o feddylfryd a ddôi’n fwyfwy poblogaith wrth i’r ganrif ddiwethaf fynd rhagddi yn ei eiriau – (Mae) ‘... rhai yn mynnu fod terfyn pendant ar ystyr geiriau. Efallai hynny, ond os oes terfyn ar eu hystyr, ‘rwy’n berffaith sicr nad oes terfyn ar eu cysylltiadau... fy mwriad i... yw defnyddio bob dyfais bosib... i gyfathrebu â’r gynulleidfa gan obeithio cysylltu fy mhrofiadau theatrig i â’u profiadau personol hwy – a gwneud hynny y foment honno yn y theatr’.
Oedd, roedd Gwenlyn Parry yn ingol ymwybodol o’r effeithiau gwahanol y gallai drama ei chael ar gynulleidfa, ac, yn wir, o bwysigrwydd eithriadol y gynulleidfa honno. Dyma un o’r problemau mwyaf, wrth gwrs, wrth gyhoeddi casgliad o ddramâu fel hyn – ni ellir byth ddal rhwng dau glawr wir swyn a gwefr y ddrama lwyfan. Does dim ond gobeithio y bydd ail gyhoeddi Dramâu Gwenlyn Parry fel hyn yn fan cychwyn i’r sylwadaeth feirniadol y mae ei waith yn ei haeddu ac yn gyfle i genhedlaeth o berfformwyr ifanc edrych ar waith Gwenlyn o’r newydd. A dyna, wedi’r cwbwl, fyddai’r deyrnged orau un y gellid ei rhoi i unrhyw ddramodydd. A Gwenlyn bellach wedi hen wynebu ei Giaffar mae un adlais o’i waith yn mynnu aros ar y cof – ‘Croesi cae... dringo grisia... y cwbwl mor sydyn... llithro rhwng bysedd rhywun... a’r cwbwl... er mwyn hyn?’ A breuder bywyd yn rhywbeth na ellir ei osgoi, mae hi’n wers ac yn rhybudd y gallwn ni i gyd fforddio ei chofio o dro i dro.
awdur:GWENAN MARED ROBERTS
cyfrol:465, Hydref 2001
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com