Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Gramadeg Gwenlyn

Oherwydd diffyg adnoddau y theatr Gymraeg, ar y teledu yn bennaf y perfformwyd gwaith Gwenlyn Parry, fel yr edrydd Elan Closs Stephens.

Bu farw Gwenlyn Parry ar y pumed o Dachwedd 1991. O berfformiad cyntaf SaerDoliau tan ei farw cyn-amserol, bu’n gyfrwng i foderneiddio’r theatr Gymraeg. Tybed a fyddai menter Wilbert Lloyd Roberts i ffurfio cwmni ifanc proffesiynol wedi cael y fath sylw a dilyniant heb y perfformiad dadleugar o Saer Doliau yn ei flwyddyn gyntaf? Am un ennyd fer yn hanes theatr Cymru, daeth tri pheth cadarnhaol ynghyd: cwmni o actorion proffesiynol; cadwyn o theatrau soffistigedig wedi eu codi ar y cyd rhwng prifysgolion neu awdurdodau lleol a Chyngor y Celfyddydau a’r rheiny yn cynnig amodau cynhyrchu ffafriol; ac, wrth gwrs, awdur – Gwenlyn – oedd yn abl i fanteisio ar y cwmni a’r theatrau.

Gwenlyn fu’r bont rhwng y theatr Gymraeg a theatr yr abswrd, mudiad a ddaeth i fri yn y pumdegau cynnar gyda gweithiau megis Wrth Aros Godot, Samuel Beckett neu waith Ionesco. Er bod eraill wedi defnyddio technegau’r abswrd – Wil Sam, er enghraifft, neu Saunders yn Yn y Trên, Gwenlyn oedd yr un a fabwysiadodd yr asiad rhwng llun ac ystyr fel ei brif arddull. Rwy’n cofio sôn yn y Rhagarweiniad i Panto ei fod yn feistr y ddelwedd estynedig. Ceir ganddo ddelwedd weledol sydd yn ymestyn ar hyd y ddrama gyfan: gwelwn y t_r fel symbol o daith mab a merch; y ffin yn arwydd o goll gwynfa o gyfeillgarwch; theatr y pantomeim yn adlewyrchu tristwch a chomedi bywyd. Dyma’r dechneg sydd yn arwain Beckett i osod gwraig mewn pentwr o sbwriel bywyd yn Happy Days neu Ionesco i osod ei athro i gyfarch llond stafell o gadeiriau gwag. Nid tric neu ffasiwn y foment mo hyn ond adlewyrchiad gwledol o ystyr y ddrama. Eithr yn wahanol i’r abswrdwyr, nid pen draw neges Gwenlyn yw diffyg ystyr. Y mae’r ffôn yn canu; y mae’r g_r ifanc yn ail-ymddangos ar ddiwedd Y T_r ac yn cynnig cymhathiad Cymreig mwy positif i dechnegau’r abswrd.

Gwenlyn hefyd a ddaeth â thechnegau teledu i mewn i fyd y theatr o ran arddull sgrifennu. Y brif elfen mewn teledu yw fod y rhaglen yn cael ei hadeiladu allan o episodau bychain, yn para dwy neu dair munud neu lai. Rhain yw’r blociau adeiladu wrth greu sebon fel Pobol y Cwm neu Eastenders neu wrth greu drama hirach megis Amdani neu E.R. Y nhw hefyd yw blociau adeiladu rhaglenni dogfen a newyddion i’r graddau ein bod yn eu cymryd yn ganiataol fel gramadeg y sgrîn. Wrth i waith Gwenlyn ddatblygu, gwelwn ei fod o hefyd yn sgrifennu mewn episodau bychain iawn. Mae natur y chwarae rhwng y cymeriadau yn amrywio fesul pum munud neu ddeg. Weithiau’n chwareus, weithiau’n fygythiol, gellir torri ei ddramâu i lawr i episodau byrion ac fe amlygir y dechneg yn Y T_r pan symuda’r chwarae drwy fisoedd lawer o fewn yr un olygfa. Perthyn y dechneg hon yn nes at ystwythder theatr Shakespeare a’i golygfeydd byrion amrywiol, nag at olygfeydd hir crefftus Ibsen neu Bernard Shaw.

Wrth sgrifennu mewn arddull episodig o’r fath, mae Gwenlyn hefyd yn graddol symud i ffwrdd oddi wrth yr olygfa hir gyda’r araith ganolog, sef arddull prif ffrwd y theatr Gymraeg hefyd hyd ei ddydd. Does dim ond eisiau meddwl am ail act Siwan gyda’r disgrifiad o grogi Gwilym Brewys neu drydedd act Siwan lle ceir nid un ond dwy araith odidog. Neu’r darnau adrodd y gellid eu tynnu allan o Buchedd Garmon. Gallwn feddwl am Ac Eto Nid Myfi, John Gwilym Jones, sydd yn episodig o ran natur ond eto yn dibynnu’n llwyr am effaith ar areithiau eglurhaol emosiynol a myfyrgar. Wrth ddarllen Y T_r, neu’r Ffin, daw iaith bob dydd yn iaith theatr. Fwelir troi cefn ar arddull o ddatgan eglurhaol a’r math o actio sydd yn galw am araith blaen llwyfan. Yn ei le, daw symud cyflym bwriadus rhwng cymeriadau a sawl newid mewn tonfedd emosiynol o fewn amser byr. Gellir dadlau bod arddull gyflym o’r fath a natur episodig y chwarae yn galw am gwmni ifanc proffesiynol ac adeilad theatr soffistigedig i gyflawni’r weledigaeth. Ond roedd y cwmni a’r theatrau angen Gwenlyn hefyd i gyfleu eu moderneiddrwydd.

Ystydeb bellach yw dweud fod y mudiad modern yn gweld y gynulleidfa neu’r darllenwr fel rhan ganolog o greu ystyr. Nid oedd T. S Eliot yn dehongli The Waste Land; gad hynny i’w ddarllenwyr. Yn yr un ffordd, y mae Gwenlyn yn rhyddhau’r gynulleidfa Gymraeg ac yn cydnabod ei haeddfedrwydd, drwy wrthod egluro. Nid oed le mewn techneg o’r fath i araith ganolog eglurhaol. Yn yr asiad o’r llun a’r gair y mae’r ystyr ond y gynulleidfa sydd yn rhoi y jigso at ei gilydd. Nid yw hyn yn gyfystyr wrth gwrs â dweud bod unrhyw ystyr yn gwneud y tro. Y mae’r awdur wedi rhoi ei fynegbyst ar y llwyfan o’n blaenau: yn y weithred o chwilio ac adeiladu a churo a malu y mae ystyr Y Ffin am golli cyfeillgarwch ac ymddiriaeth. Yn Y T_r, er enghraifft, y mae rôl ganolog i’r gynulleidfa fel cof y cymeriadau. Y gynulleidfa sydd yn gwrando ar araith yr hen _r ac yn ei mesur yn erbyn ei sgwrsus pan yn iau. Y gynulleidfa sydd yn nabod celwydd ac yn adnabod hefyd bod celwydd yn esmwythàu hen friwiau. Ond yr awdur sydd wedi rhoi’r arfau i’r gynulleidfa i greu’r darlun cyfansawdd.

Tristwch hanes y ddrama yng Nghymru yw mai’r teledu sydd yn talu’r deyrnged helaethaf i waith Gwenlyn Parry, Oedd, yr oedd yn ddyn teledu, yn gyd-awdur y gomedi fwyaf gafaelgar a gawsom, yn olygydd sebon a dyfodd yn rhan ganolog o fywyd Cymru, yn rhan o dîm gyda’i gyfaill mawr Rhydderch a John Hefin yn y BBC. Ond y theatr biau’r dramâuu gyntaf – yno y gellir gweld y llun heb lygad cyfarwyddwr yn dewis ongl y camera trosom; yno y gellir gwerthfawrogi crefft actio ieuenctid a henaint yn Y T_r o fewn yr un ddwyawr; yno yn sicr y gellir gwerthfawrogi profiad theatrig Panto – drama sydd yn dal heb ei llwyfannu yn theatrau Cymru; o bosib am ei bod hi’n gynhyrchiad drud. Y mae angen theatr Gymraeg gref i ail-ymweld â’r gorffennol ac i fagu’r dyfodol. Gall y sgrîn wneud llawer iawn i atgyfnerthu creadigrwydd a datblygu talentau unigryw; gall gynnig profiadau grymus a’n lleoli mewn bydoedd gwahanol; ond ni all fyth roi profiad a her theatr fyw i actor a sgwennwr. Gwenlyn, mi wn, fyddai’r cyntaf i gytuno.

awdur:Elaan Closs Stephens
cyfrol:465, Hydref 2001

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk