Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Drama Cefn Gwlad

Bu’r ddrama Ysbryd Beca ar daith drwy Gymru ym mis Hydref. Mae ELINOR WYN REYNOLDS yn bwrw golwg ar yr hyn a ysgogodd y ddrama.

Yn ôl y dramodydd, Geraint Lewis, roedd yn rhaid iddo ysgrifennu ei ddrama ddiweddara’, Ysbryd Beca, am ei bod hi wedi bod yn corddi oddi mewn iddo ers peth amser. ‘Roedd dau achos wedi bod yn y papure yn lled ddiweddar, na’th i fi ddechre meddwl. Un oedd achos ym Mhontrhydfendigaid pan na’th bois lleol gymryd y gyfraith i’w dwylo nhw eu hunain ac mi fuodd achos llys yn Abertawe, er bod y Cyngor Cymuned wedi’u cefnogi nhw. Yr ail achos oedd un Tony Martin, y dyn gafodd ei garcharu am ladd rhywun na’th dresmasu ac ymosod arno fe a’i eiddo. Y cwestiwn dda’th i ‘meddwl i oedd, beth yffach o’n nhw fod i neud?’

Hanes tri dyn o wahanol genedlaethau sy’n cadw gwyliadwriaeth mewn ystafell uwchben siop er mwyn cadw llygad ar ddyn sy’n cael ei amau o werthu cyffuriau, yw’r ddrama. Mae’r tri yn aelodau o glwb snwcer lleol ac yn ofni fod bywyd yn mynd â’i ben iddo yn eu patshyn bach nhw o’r byd. Does gan yr heddlu ddim diddordeb yn eu hachos, felly maen’ nhw’n gwneud y gwaith plismona eu hunain. Mae tipyn o ysbryd gwrthryfelgar Merched Beca’n fyw yng nghefn gwlad Cymru, felly. Wrth gwrs, mae cryn drafod ar bob math o bethau yn ystod eu gwylio; a chaiff popeth dan haul ei wyntyllu. Daw’r byd i gyd trwy ddrws yr ystafell ar y noson honno.

Mae’r argyfwng sydd yn nghefn gwlad wedi codi sawl cwestiwn ym meddwl Geraint Lewis, ac at bwrpas y ddrama hon mi oedd torcyfraith yn ffordd mewn i’r stori. ‘Dyw’n meini prawf moesol ni o fewn cymdeithas ddim mor glir ag oedden nhw’n arfer bod. Y’n ni bellach yn byw mewn cyfnod lle nad yw pethau’n ddu a gwyn a dyna mae’n pobl ifanc ni’n gyfarwydd ag e nawr, yr ansicrwydd yma.’

Mae Geraint wedi mynnu rhoi synnwyr lle pendant yn ei ddrama, gan ddefnyddio tua deugain o enwau llefydd ynddi. Ac er nad yw’r ddrama yn symud o’r ystafell uwchben y siop, mae yna deimlad o bentref ac o gymuned ac o berthyn yma. Fel mae’n digwydd, un o deitlau cynnar y ddrama oedd Cymuned, gan fod y ddrama yn cyffwrdd â phroblemau mewnfudo ac allfudo, sy’n gweddnewid a chwalu cymunedau’n rhacs, fel y gwyddom ni’n rhy dda.

Dewisiodd Geraint ddefnyddio agweddau tair cenhedlaeth wahanol ar gyfer y ddrama, gan ddewis gosod tri chymeriad ar y llwyfan i leisio’r safbwyntiau gwahanol. Roedd her ymhlyg yn yr ysgrifennu, sef ysgrifennu o geg y tri chymeriad yn gredadwy. ‘Mae cymeriad Dai yn teimlo fod y byd wedi symud mla’n ac wedi’i ad’el e ar ôl, mae’n llawn rhwystredigaeth ac yn dipyn o gymeriad truenus. Cafodd ei ddifreinio gan y system wleidyddol ac mae’n teimlo ei fod yn iawn iddo weithio y tu allan i’r system. Mae’n teimlo fod y ffactore sy’n dylanwadu ar ei fywyd yn rhai global, ac mae’n methu gwneud dim am y peth. Gweld pethau’n ddu a gwyn mae Dai.’

‘Cymeriad gwahanol yw Dilwyn, sydd ychydig bach yn iau. Mae e’n teimlo fod y gair “gwleidyddiaeth” wedi myhnd yn air brwnt. Bachan sy’n hoff o ishte ar y ffens yw Dilwyn, dyw e ddim ishe trafod dim, yn hytrach, mae’n well ganddo fe frwsho popeth dan y carped. Un sy’n dueddol o weld dwy ochr y stori ond sy’n methu gwneud penderfyniad ar sail hynny wedyn.’

‘Rhys yw’r ienga’ o’r tri. Boi ifanc sy’n aros ei gyfle i ddianc o gefn gwlad. Mae ei ganllawiau moesol e’n ddierth i’r ddau arall. Dyw e’n gweld dim byd o’i le ar gymryd cyffuriau ambell waith, mae’n rhan o fywyd. Mae ei olwg e ar y byd yn wahanol i’r ddau arall.’

Mae’n debyg fod elfennau o Geraint Lewis ymhob un o’r tri, ond gobeithiodd hefyd y byddai pobl yn gweld elfennau ohonyn nhw eu hunain yn y ddrama. Mi deithiodd y ddrama trwy Gymru ac i ardaloedd cefn gwlad. Codi cwestiynau yw pwrpas yr awdur yn y ddrama, ‘Mae gymaint o gwestiyne i’w gofyn, a wy ddim yn si_r os o’s ‘da fi’r atebion chwaith. Pethe fel y syniad o gywirdeb gwleidyddol yn erbyn synnwyr cyffredin, odi hynny wedi mynd yn rhemp? Neu a yw pobl cefn gwlad jyst yn gul?’ Rhaid dal i holi’r cwestiynau, yn ôl yr awdur, gan obeithio, rhyw ddydd y down ni o hyd i atebion. ‘Deimles i fod Ysbryd Beca yn amserol iawn o ystyried yr hyn sy’n digwydd yng nghefn gwlad – mae’n bwysig ‘sgrifennu am bethe sy’n corddi tu fewn. O’dd hwn yn digwydd nawr, ac o’n i’n teimlo fod yr amser yn iawn. Fwynheuais i ‘sgrifennu’r ddrama’n ofnadw’. Wy’n mwynhau ‘sgrifennu beth wy’n sgrifennu ar y pryd – os nad wy i’n mwynhau, pwy ddishgw’l i’r gynulleidfa joio.’

awdur:ELINOR WYN REYNOLDS
cyfrol:465, Hydref 2001

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk