Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Nodiadau

O hyn ymlaen, bydd GARETH MILES yn llunio colofn ddrama reolaidd i theatr. Y tro yma, maen beio trafferthion diweddar polisi drama Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfuniad dieflig o Seisnigrwydd a masnach.

Rhyw ddwy flynedd yn l cefais wahoddiad gan Adran Addysg Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru i fynd i bencadlys y cwmni yng Nghaerdydd i drafod y posibilrwydd o lunio libreto ar gyfer opera gymunedol a fyddain adrodd hanes Glaniad y Ffrancwyr yn Sir Benfro yn 1797, a buddugoliaeth Jemima Nicholas ai byddin fenywaidd drostynt. Dywedodd yr ymholydd iddi gael ar ddeall fy mod in meddur cymwysterau a fyddain angenrheidiol ar gyfer y gwaith: diddordeb yn Hanes Cymru, adnabyddiaeth or Ffrangeg a hoffter o ddefnyddio cerddoriaeth yn fy nramu.

Gan fod gen i ddiddordeb gwirioneddol yn y berthynas rhwng drama a cherddoriaeth ac am fy mod yn falch o weld ein Cwmni Opera Cenedlaethol yn ymroi i boblogeiddio celfyddyd mor freiniol, derbyniais y gwahoddiad.

Petawn i wedi bod yn berffaith onest, buaswn wedi diolch ir ddynes am ei sylwadau caredig a chyfaddef fod un peth yn fy anghymwyson llwyr, sef, fy mod yn gresynu ac yn cywilyddio na fuasai Jemeima ai chriw wedi rhoi croeso mwy Gwyddelig i filwyr y Weriniaeth ffrengig au cynorthwyo i drechur Arglwydd Cawdor ai farchilwyr adweithiol. Fe wnes i hynny tua diwedd y cyfweliad, gan ychwanegu, braidd yn wamal, y gallasai bendithion gastronomig a thwristaidd dirifedi fod wedi deillio ir ardal o fuddugoliaeth Ffrengig.

Yn l a ddeallaf, bur prosiect yn llwyddiant mawr ac maer Cwmni Opera ar bobl leol a gymrodd ran yn y cynhyrchiad iw llongyfarch yn galonnog. Dylid cadw hynny mewn cof wrth ddarllen y feirniadaeth ganlynol.

Daeth rhyw wyth o gynrychiolwyr y Cwmni Opera ir cyfarfod. Dim ond un or rhain oedd yn Gymro. Americanwyr, Albanwyr a Saeson oedd y gweddill. Pan ddywedais fy mod yn cymryd yn ganiataol y byddair cyfansoddwr yn Gymro Gymraeg, atebwyd nad oedd hynnyn dilyn o reidrwydd. Gorau oll pe byddair cyfansoddwr a ddewisid yn dod o Gymru ac yn deall Cymraeg ond efallai y bernid fod cerddor o du allan ir Dywysogaeth yn fwy cymwys.

Pan dybiais, yn ddigon diymhongar, fod y berthynas annweledig ond hanfodol rhwng y gerddoriaeth ar geiriau a genir yn mynnu fod cyfansoddwr opera yn siarad iaith y liberto anghytunodd pawb mi, ac eithrior Cymro, na ddywedodd air ar y pwnc nag ar nemor ddim byd arall gydol y cyfarfod.

Rwyn meddwl mair profiad hwn a enynnodd ynof gyntaf ymdeimlad dwfn o gyflwr trefedigaethol ein diwylliant, yn enwedig y gweddau hynny a reolir gan sefydliadai cenedlaethol.

Sefydliad cenedlaethol Prydeinig sydd i bencadlys yn digwydd bod yng Nghymru ywr WNO. Ac maer un peth yn wir am ein Hamgeueddfa Genedlaethol, Prifysgol Cymru, BBC Cymru, gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, HTV Cymru, Theatr Clwyd/Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Diau mai Cymry Cymraeg yw penaethiad rhai or cyrff hyn ond ceir llawer nad ydynt yn Gymry o gwbl yn rhengoedd uchaf yr arweinyddiaeth au tueddiad naturiol hwy yw denu ei tebyg atynt, fel y digwydd yn wastadol mewn trefedigaeth.

Wn i ddim sut y byddai Michael Baker yn diffinio ei genedligrwydd ond rwyf i wedi edrych arno fel Cymro Cymraeg er pan gwrddais ag ef gyntaf, flynyddoedd yn l. Cefais ef bob amser yn gyfeillgar ac yn gefnogol ir prosiectau y bm yn gysylltiedig hwy er na fedrai, wrth reswm, droi ei gefnogaeth yn nawdd ariannol bob tro. Dim ond un g_yn benodol sydd gen i yn ei erbyn, sef, na chadwodd at yr addewis a roes, ddwywaith, ir Academi Gymreig ac i Undeb yr Ysgrifenwyr, y byddair Adran Ddraman cyllido cyhoeddi sgriptiau detholiad o ddramu Cymraeg yr ugain mlynedd diwethaf, ar l cytuno y dylai hynny fod yn un oi flaenoriaethau.

Ond ni ellir symud y drafodaeth yngl_n dyfodol y theatr yng Nghymru yn ei blaen heb ymateb i awgrym Mr. Baker, mewn cyfweliad teledu diweddar, nad ydym ni actorion, cyfarwyddwyr ac awduron syn beirniadu diffyg gweledigaeth Cyngor y Celfyddydau yn byw yn y byd go-iawn. Ai breuddwydio yr wyf fod gweinyddur rheilffyrdd, y gwasanaeth iechyd, yr ysgolion ar celfyddydau yn unol ag egwyddorion cyfrifyddol llym wedi arwain at lanast yn y meysydd hyn i gyd ac nad oes disgwyl ir un or cwangocratiaid syn gyfrifol am redeg y gwasanaethau hynny dderbyn y mymryn lleiaf o gyfrifoldeb am y difrod a wnaed? Ai dychmygu yr wyf fod arian y dylid ei wario ar wella rheilffyrdd, ysgolion, ysbytai, y celfyddydau a.y.y.b yn mynd i boced ymgynghorwyr, awduron adroddiadau a threfnwyr cynadleddau a gyflogir i geisio argyhoeddir cyhoedd fod y gwasanaeth dirywiedig presennol yn well na dim byd a gafwyd erioed or blaen?

Fe ddylai artistiaid a noddir o bwrs y wlad fod yn atebol ir cyhoedd trwy gyfrwng asiantaeth sydd, yn ei thro, yn atebol ir corff democrataidd a etholwyd gan y trethdalwyr. Yng Nghymru, dylair asiantaeth honno gyfryngu rhwng y gymuned greadigol, y cyhoedd ar Cynulliad. Nid yw Cyngor Celfyddydau Cymru, ar hyn o bryd, yn atebol i neb nac yn gwrando ar neb.

Edmygais Federico Garcia Lorca (1899-1936), fel bardd a dramodydd, ers blynyddoedd ond hyd nes i mi ddarllen, yn ddiweddar, fywgraffiad rhagorol y Gwyddel Sbaenaidd, Ian Gibson, anghyflawn oedd fadnabyddiaeth o hanes ei fywyd.

Diddorol fyddai cymharu ymweliadau Lorca a T. H. Parry-Williams r Unol Daleithiau, Cuba ac America Ladin; Catholigiaeth Lorca a Saunders Lewis au hagweddau gwrthgyferbyniol at fenywod; Paganiaeth Lorca a R. Williams-Parry. Rhywoliaeth Lorca ar tri Chymro.

Er bod awen Lorca yn wahanol iawn i eiddo Bertolt Brecht, ystyriau yntau ei hun yn ddramodydd chyldroadol. Sefydlodd La Barraca/Y Cwt, cwmni teithiol, cymunedol, cenedlaethol o fyfyrwyr, a nodwydd gan y Weriniaeth. Cynddeiriogid yr Adwaith yn fwy gan eu dehongliadau o glsuron y theatr Sbaenaidd, gan gynnwys dramu crefyddol, na chan eu agit-prop Sosialaidd.

awdur:Gareth Miles
cyfrol:443/444, Ionawr 2000

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk