Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Drama yn y Cyngor

Sut mae cael golwg wrthrychol a theg ar yr ymafael parhaol yngl_n â’r polisi drama? Gofynnodd theatr i JON GOWER fentro draw i Gyngor Celfyddydau Cymru ar ein rhan.

Mae’r ffordd y mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi llunio dyfodol newydd ar gyfer y theatr yng Nghymru wedi cythruddo nifer fawr o bobl. Fel y dywedodd swyddog Equity yng Nghymru, Chris Ryde, ‘Mae’r bas sgiliau sydd wedi ei adeiladu dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn Theatr Mewn Addysg a gwaith ar raddfa bach, yn cael ei golli. Gyda dim ond hanner y cwmnïau ar ôl yng Nghymru ni fydd ‘na swyddi ar ôl i geisio amdanynt.’

Yn ôl y strategaeth bydd yr wyth cwmni Theatr mewn addysg presennol yn mynd i’r wal ddiwedd y flwyddyn.

Mae Jeff Teare, cyfarwyddwr cwmni Made in Wales sy’n datblygu gwaith newydd yn Saesneg, yn gweld y ‘diwydiant yn cael ei rwygo’n ddarnau. Does ‘na ddim gwaith yng Nghymru, yn enwee. Mae ymrwymiad y Cyngor i greu swyddi yn nonsens.’

Y bwriad yw dosbarthu’r rhan fwyaf o’r gyllideb theatr o ryw £3 miliwn rhwng Clwyd Theatr Cymru a chwmni newydd yn y Gymraeg, y Pwerdy. Mi es i draw i siarad â Mike Baker, prif bensaer y strategaeth newydd, ym mhencadlys Cyngor Celfyddydau Cymru yng Nghaerdydd.

Jon Gower: Beth oedd bwriad y strategaeth newydd?

Mike Baker: Y bwriad oedd trio ffindo datrysiad i sawl peth. Yr un mwya’ pwysig, dwi’n meddwl, oedd y gostyngiad dros y blynyddoedd mewn arian ar gyfer y celfyddydau, a drama yn arbennig. Oherwydd drwy’r wythdegau, a hyd at ganol y nawdegau, un o’n prif gymhellion fel Cyngor oedd denu arian oddi wrth awdurdodau lleol. Wrth gwrs, o ganol yr wythdegau ymlaen, dechreuodd arian o awdurdodau lleol ddiflannu ac roedd hyn wedi effeithio ar Theatr Mewn Addysg yn arbennig, a chyfraniadau’n gyffredinol tuag at, nid yn unig drama, ond y celfyddydau eraill. Ynghyd â hynny roedd grantiau i’r Cyngor oddi wrth y Llywodraeth – drwy’r Swyddfa Gymreig bryd hynny – yn lleihau ac fel canlyniad roedd y sail economaidd i ddrama broffesiynol ar draws Cymru yn cael ei effeithio. Problem arall – ar gyfer y dyfodol – oedd bod y llywodraeth yn tanlinellu’r ffaith na fyddai’r cyfraniad tuag at y celfyddydau yng Nghymru yn codi mwy na chwyddiant, ac, a dweud y gwir, byddai ‘na nifer o flynyddoedd o 1995 ymlaen ble fyddai’r cyfraniad ddim yn cadw lan ‘da chwyddiant hyd yn oed.

Tra bod Lloegr, ar y llaw arall, yn derbyn mwy?

Mewn datganiad ddwy flynedd yn ôl dywedodd Chris Smith ei fod yn bwriadu codi’r cymorth i’r celfyddydau yn Lloegr gan ryw 15% a bron yr un peth yn yr Alban gyda chodiad o 7%, felly ry’n ni’n bredu bod cymru o gymharu â Lloegr a’r Alban wedi codi allan. Pan glywsom am gynlluniau ariannol y Swyddfa Gymreig am y tair blynedd o ’98 ymlaen roedd yn amlwg fod angen edrych ar draws pob rhan o wariant Cyngor Celfyddydau Cymru. Roedd rhaid i ni ailystyried blaenoriaethau, roedd egaud i ni edrych ar gyfartaledd ar draws y celfyddydau – pam oedd daws a chrefft, er enghraifft, allan yn yr oerfel o gymharu ag opera a drama? Y rheswm dros y strategaeth ddrama oedd trio sefydlu darpariaeth mwy cynaladwy ar gyfer y pum neu ddeng mlynedd nesaf ac i drio gwneud hynny drwy ganolbwynito’r cymorthdal ar lai o gwmnïau yn hytrach na thrio ymestyn cefnogateh prin ar draws pawb oedd yn ceisio am arian.

Digwyddodd hyn er gwaetha’r ffaith bod y Cyngor wedi bod yn tanlinellu gwerth y celfyddydau i’r economi’n gyffredinol – yn creu 29,000 o swyddi yng Nghymru, er bod nifer o’r rheini’n rhai dros dro – ac yn werth cyfanswm o £1.1 biliwn.

Ar ba sail oeddech chi’n dewis y cwmnïau fyddai’n parhau i dderbyn cefnogaeth ariannol?

Wel, drwy ddefnyddio rhesymau strategol yn gyntaf a wedyn gweithio i sicrhau bod ‘na elfen o ddarpariaeth ar gyfer gwaith y prif lwyfan sy’n esbonio’r penderfyniad i gefnogi, er enghraiff, Clwyd Theatr Cymru, ac mi roedd ‘na ddadl dros ddatblygu rhywbeth rhywbeth tebyg yn y Gymraeg. Roedd yn amlwg o’r dechrau na fyddai’n bosib parhau i gefnogi yr un nifer o gwmnïau ac felly y boen. Yn anffodus iawn byddai llai o gwmnïau yn derbyn cymorth.

Beth fydd y ddarpariaeth yn Gymraeg?

Wel, bydd hyn yn dechrau gyda phwysigrwydd ddwyieithrwydd yn rhaglenni cenedlaethol cwmnïau Theatr Mewn Addysg – i rai pobl mi fyddai hynny’n garreg filltir allweddol. Wythnos nesaf byddwn yn cwrdd i gynnal y ‘brainstorm’ cyntaf yngl_n â’r Pwerdy – rwy’n gwybod bod nifer o bobl ddim yn licio’r enw – ac rydym wedi gwahodd 25 o bobl yn cynrychioli sawl maes; ymarferwyr, pobl o fyd theatr amatur, awdurdodau lleol, pobl sy’n rhedeg canolfannau a phobl o’r cyfryngau sy’n gysylltiedig â byd y ddrama. Pwrpas y cyfarfod fydd datblygu papur ymgynghorol – felly nid y bobl sy’n bwysig ond ffrwyth eu llafur – y ddogfen fydd yn cwmpasu dyheadau, gweledigaethau, rôl, pwrpas a pholisïau y Pwerdy er mwyn cynnig y rhain gerbron y cyhoedd i ddenu ein sylwadau nhw.

Ai cyfuno’r ddau gwmni – Bara Caws a Theatr Gwynedd – yw’r nod?

Neu gyfuno adnoddau’r cwmnïau. Nhw yw’r bobl, yn y lle cynta’, sy wedi cynnig cymaint o ewyllys da i’r fenter – i’r fath raddau bod o leiaf un, neu si_r o fod y ddau gwmni, yn gorfod peidio â bod er mwyn i hyn ddigwydd. Dyma un o’r pethau mwya cyffrous o fewn y strategaeth a dwi’n falch bod ‘na gymaint o gefnogaeth hyd yn hyn.

Ond mae cwmnïau fel Bara Caws wedi llwyddo drwy blesio cynulleidfa yn y Gogledd, yn perfformio yn acenion y lle. Fydd angen rhyw gydraddoldeb iaith – tebyg falle i’r hyn sy’n digwydd yng Nghwmderi Pobol y Cwm?

Bydd y theatr yn adlewyrchu nid yn unig hunaniaeth y gogledd ond y nifer o hunaniaethau mae pobl yn cytuno sy’n bod ar hyd a lled Cymru.

Mae’r arian yn mynd i’r Gogledd felly...

Ydy e’n wir bod arian yn mynd i’r Gogledd? Mae ‘na ddau gwmni yn mynd i fod yn y Gogledd. Gawn ni ystyried Clwyd Theatr Cymru. Flwyddyn nesaf bydd y cwmni’n derbyn £1,100,000 sydd yn cynrychioli yn agos at 30% o gyllideb drama, tra ein bod ni’n anelu at godi arian tuag at y fenter Gymraeg o ryw hanner miliwn y flwyddyn nesaf. Barn y Gogleddwyr ydy bod cymaint o arian yn mynd i’r De – os ych chi’n ystyried lleoliad y Cwmni Opera, y Gerddorfa, cwmni dawns Diversions a llawer o sefydliadau eraill.

Ond mae’r rheini’n feysydd ar wahân...

Maen nhw’n feysydd ar wahân, ond dyna pam ein bod ni’n pwysleisio nad oes ots ble mae cwmni yn cael ei leoli – mae’r ddarpariaeth yn genedlaethol – yn gorfod bod.

Fydd disgwyl felly i’r cwmnïau yn y gogledd deithio llawer?

Bydd ehangu ar deithio’n genedlaethol, datblygu partneriaethau gyda theatrau a chanolfannau ar draws Cymru a sefydlu perthynas gyda’r awdurdodau lleol. Cofiwch mae hwn yn strategaeth hir dymor, felly fyddwn i ddim yn disgwyl i’r partneriaeth a’r dealltwriaethau ddigwydd dros nos.

Mi roedd ‘na gyfnod pan oedd hi’n bosib i’r cyhoedd a chyrff yng Nghymru ymateb i’r strategaeth ac mi wnaeth nifer dda hynny. Dim ond nifer bach o’r rheini sgrifennodd at y Cyngor yn dymuno gweld Cwmni Celfyddydau Perfformio Cenedlaethol yn cael ei greu dan adain Terry Hands a Clwyd Theatr Cymru, er enghraifft. Wnaethoch chi dalu sylw go iawn i’r sylwadau ddaeth i law?

Do. Cofiwch nad gwaith Terry Hands yn unig sydd yn cael ei ddarparu yn Saesneg. Ry’n ni’n dal i gefnogi Theatr y Sherman yng Nghaerdydd – sydd yn dal yn mynd i gynhyrchu gwaith yn Saesneg a mynd ag ef ar daith. Ry’n ni’n dal i gefnogi Theatr y Torch yn Aberdaugleddau ac rydym yn mynd i roi arian ychwanegol iddyn nhw er mwyn gweld teithiau o’u cynyrchiadau hwythau ac mi fydd cwmnïau eraill yn y De. Felly nid Theatr Clwyd yn unig sy’n ganolbwynt i’r strategaeth. Rydym yn ceisio lledaenu athroniaeth gymharol newydd – bod yr holl ddarpariaeth yn un intergreddiedig yn y bôn, sef y byddwn yn disgwyl i’r cwmnïau gydweithio a mwy na hynny yn gweld eu hunain fel rhan o ddarpariaeth genedlaethol sydd yn fwy a thu hwnt i waith un cwmni yn unig.

Beth am sgrifennu newydd a gweithiau newydd?

‘Dan ni’n cymryd gwaith newydd yn ganiataol yn Gymraeg oherwydd does dim gymaint o repetoire ar gael i’r cwmnïau. Mae ‘na helynt ynghylch y sefyllfa yn Saesneg oherwydd bod rhai ponl yn dadlau ein bod ni wedi torri nôl ar waith newydd a sgrifennu newydd. Mae ymarferwyr a phobl sy’n credu mewn lleisiau Cymreig yn credu bod sgrifennu newydd yn hollbwysig ond os ydyn ni’n edrych dros yr holl ddarpariaeth y’n ni’n edrych dros yr holl ddarpariaeth y’n ni wedi gorfod cymryd yn ganiataol ei fod yn amhosib cadw popeth yn yr un modd fel ag yr oedd. Ac felly ein hymateb i’r bobl sy’n beirniadu ni yw y dylsen nhw edrych ar draws y ddarpariaeth. Byddwn yn sgrifennu yn y cytundebau cymhorthdal bod yn rhaid iddyn nhw gomisiynu awduron a sicrhau bod gwaith newydd, bod lleisiau newydd, yn cael eu clywed ar draws drama yng Nghymru.

Mae’r bwriad i sgrapo Theatr Mewn Addysg yn ei ffurf bresennol wedi denu ymateb ffyrnig, a’r bwriad i dorri arian Theatr Powys er enghraifft fel slap i’r awdurdod sir, sydd wedi bod yn hael iawn ei gefnogaeth...

Fel ‘rych chi’n gwybod mae Cwmni Theatr Powys wedi datgan ei fwriad i apelio. Fe alla i ddim siarad yngl_n â’r cwmni’n unigol, ond fe alla i siarad am yr egwyddor – ein bod ni wedi ymdrechu ers blynyddoedd i gadw cefnogaeth awdurdodau lleol tuag at y rhwydwaith newydd hyd yn oed pan nad oedd yn eglur yn union beth oedd y rhwydwaith. Rydym wedi ymdrechu i ymgynghori yn aml iawn – o leiaf ers Mehefin ’98. Rydym yn trial cadw arian o’r awdurdodai lleol yn y pictiwr.

A beth am theatr arbrofol?

Bydd cronfa prosiect ar gael fydd yn hyblyg – sydd yn mynd i ymateb i syniadau cyffrous – ar yr amod y byddai canolfan neu hyrwyddwr yn rhan o’r cais. Rydym yn edrych mlaen at dderbyn llwyth o geisiadau amrywiol. Dyn ni ddim wedi dweud beth yw hyd y strategaeth drama – r’yn ni’n trial rhoi sail cadarn i’r tair, pum a deng mlynedd nesa. Fydd e’ ddim yn bosib gwneud yr un peth ag y gwnaethpwyd dair blynedd yn ôl ond mae gennym ymrwymiad llwyr i waith newydd a gwaith arbrofol a dwi’n edrych mlaen at weld amrywiaeth o stwff yn cael ei gynhyrchu o nawr ymlaen.

Rych chi’n gwneud cymaint o bethau positif – ar bob lefel – ond eto mae ‘na actorion sydd wedi penderfynu gadael Cymru...

Mae’n rhaid codi cwestiwn yngl_n ag ystadegau sy’n awgrymu bod mwy o actorion yn gadael Cymru nawr. Tybed a yw actorion yn gadael Cymru nawr oherwydd y strategaeth drama neu oherwydd tueddiadau eraill yn y byd drama proffesiynol – a dwi’n cynnwys ffilm, teledu a radio ac ‘ryn ni’n gwybod bod nifer o gyfresi drama ar S4C wedi lleihau, does dim llawer ymlaen yn Saesneg gan y BBC. Nid yw’r strategaeth drama wedi dechrau ‘to – dyw e ddim yn dechrau yn ei gyfanrwydd tan dechrau’r flwyddyn nesaf.

Ond mae ‘na dystiolaeth o diaspora – y ddawnswraig Sioned Huws yn cael ei hariannu ym Mhortiwgal, cyn-aelodau o gwmni Brith Gof yn cael cynnig stiwdios yn yr Alban, Marc Rees yn symud i Berlin, y ddramodwraig Kate O’Reilly yn gweld ei drama newydd ar lwyfan yn yr Almaen, yn Lloegr ind nid yng Nghymru.

Mae’n rhaid i hyn achosi pryder, achos rych chi newydd eu henwi wedi gwneud cais i wneud peth o’u gwaith yng Nghymru y flwyddyn nesaf. Dwi’n cofio diaspora bum mlynedd yn ôl ac un arall ddeng mlynedd yn ôl a phymtheg mlynedd yn ôl – un o’r problemau yw ein bod ni ddim yn medru cynnal cynifer o’n hartistiaid ni yng Nghymru.

Oes ‘na unrhyw siawns bod y strategaeth yn newid?

Does gan y Cyngor yr un bwriad i newid y strategaeth. Wedi dweud hynny – yn llygad y Cynulliad – mae’n rhaid i ni ddweud ein bod yn ystyried pob dadl yn ddifrifol iawn, iawn; yn arbennig, ond nid yn unig, y lleisiau dros theatr mewn addysg, neu theatr ar gyfer pobl ifanc. Rydan ni’n dal i wrando...

Ydy theatr yn gorfod dioddef oherwydd aneffeithiolrwydd y Cyngor yn y busnes o hawlio arian digonol ar gyfer y Celfyddydau?

Rydan ni i gyd wedi methu – nid dim ond y cyngor - i leisio pwysigrwydd y celfyddydau a’u cyfraniad i fywyd ac i’r economi. Mae’r gyfrifoldeb ar ein ‘sgwyddau ni i gyd. Rydan ni’n byw mewn gobaith y bydd y Cynulliad yn sylweddoli gwerth y celfyddydau...

awdur:Jon Gower
cyfrol:443/444, Ionawr 2000

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk