Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Hiwmor Du a Chegin Gefn

Aeth Mared Lewis i weld Dynes Ddela Leenane, cyfieithiad Huw Roberts o The Beauty Queen of Leenane gan Martin McDonough

Mae cynhyrchiad gwreiddiol y ddrama yma gan Martin McDonough wedi ennill cryn sylw i’r dramodydd ifanc hwn o Wyddel. Ers y perfformiad cynta’ yn Galaway yn 1996, mae The Beauty Queen of Leenane wedi cael rhediad hir yn Llundain, yn ogystal ag ennill pedair gwobr ‘Tony’ yn Efrog Newydd. Amser a ddengys a fydd cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o gyfieithiad Huw Roberts yn ennill yr un clod. Y clod mwya’ i’r Cwmni fyddai theatr lawn.

Lleolir y ddrama yn gadarn iawn mewn pentra bach gwledig yn ardal Connemara, ac mae’r elfenna hanfodol Wyddelig yn amlwg iawn. Yn wir, gall rhywun ddeall pam fod rhai o drigolion Gorllewin Iwerddon wedi gwrth-wynebu’r elfennau ystrydebol sy’n brithio’r ddrama. Ar y llaw arall, mae Leenane hefyd yn hogan unrhywle. Mae elfenna fel diboblogi cefn gwlad oherwydd diffyg cyfle, glastwreiddio iaith frodorol gan y diwylliant Eingl-Awstraliaidd/Americanaidd, sydd hefyd yn hynod berthnasol i Gymru.

Ond i mi, rhagoriaeth y ddrama yma ydy ei bod hi’n gweithio ar lefel bersonol. Fe’ch llusgir i mewn i’r gegin fach dywyll sy’n edrych dros y buarth mwdlyd lle mae’r ieir yn pigo, i ogleuo piso’r fam wrth iddi wagio cynnwys ei phot i lawr sinc y gegin bob bora. Bron nad ydach chi’n gallu blasu powdwr y ‘Complan’ sy’n cael ei stwffio’n rwgnachlyd dan drwyn y fam pob pryd bwyd. Rhyw ‘Gomplan’ o fodolaeth di-liw sydd gan y fam a’r ferch, gyda lympia tragywydd o chwerwder nad oes posib cael gwared â nhw.

Yn syth wedi i’r golau godi ar y set, fe’ch tynnir i fewn i’r cecru a’r chwerwder sydd wedi tyfu fel tamprwydd drwy berthynas Maureen Folan (Rhian Cadwaladr) a’i mam Mag (Valmai Jones). Mae’r set yn syml; cegin/stafell fyw Maureen a’i mam Mag sydd yno drwy gydol y ddrama, yn cyfleu bodolaeth clawstroffobig y ddwy. Pedwar cymeriad sy’n ymddangos i gyd, a does ‘na ddim giamocs efo gwsgoedd sy’n gofyn i chi ddal eich anghredinedd yn ôl a dychmygu mwy o gymeriadau na’r pedwar yma. Drama gignoeth real yw Dynes Ddela Leenane, a daw gweddill y ‘byd tu allan i’r drws’ yn fyw drwy glyfrwch deialog, ac yn ffurf y set deledu a’r set radio sy’n bresenoldebau ffyddlon drwy’r cwbwl. Mae ‘na efallai bumed cymeriad haniaethol, sef y ‘Ddynes Ddela’ sy’n bodoli ym mhen Maureen Dolway, yr hyn y gallasai hi fod wedi bod.

Mae hon yn ddrama syml, glasurol: stori hen ferch chwerw sy wedi cael ei chaethiwo yn y t_ yn edrych ar ôl ei Mam sy’n ‘glaf di-glefyd’ fel mae’n cael ei disgrifio. Does dim byd ysgytwol o syfrdanol yn y plot. Mae ‘na elfennau disgwyliadwy: y dyn, Pato Dooley (Dewi Rhys) sy’n dal cannwyll i Maureen Folan ac yn cynnig allwedd iddi ddianc a dechra’ bywyd newydd. Acsis cynllun y ddrama ydy llythr sy’n cael ei agor gan y fam a sydd byth yn cyrraedd y ferch. Ac mae ‘na rywbeth pleserus iawn rywffordd mewn gwylio’r dénouement. Yn ei hanfod, mae’r ddrama yn gorwedd yn yr hafn rhwng disgwyliadau fregus Maureen a’r ffordd mae pobl a Ffawd yn cynllwynio i siomi’r disgwyliadau hynny. O safbwynt hynny, rydan ni’n bendant yn nhiriogaeth Aristotlys a’i gorws.

Ond yn gynnar iawn yn y ddrama, rydan ni’n sylweddoli mai ‘drama llofft capal’ efo rhyw dro macâbr yn ei chynffon ydy hon. Nid gwylio stori bach gyffredin yn dad-wau ei hun o’n blaena’ wnawn i yma. Fe’n teflir i mewn yn syth i’r bregetan cas rhwng y fam a’r ferch, cyn ein bod wedi dechra’ cynhesu’n seti. Nid dod i mewn ar ddechra’ dirywiad y ddwy wnawn ni yma, ond ‘rydan ni’n ei chanol hi’n barod.

Cefais yn teimlad od oedd ytn ymylu ar embaras am funudau, fel petawn i’n gwrando ar ffrae deuluol rhywun arall, a ddim yn si_r a ddylech chi chwerthin ta edrych i ffwrdd ac esgus eich bod chi ddim wedi sylwi. Roedd hyn, am wn i, am nad oeddwn i wedi cael cyfle i ddod i adnabod y cymeriada cyn i’r ffrae ddechra’. Ac eto, yr oedd y profiad clustfeiniol yma yn sicrhau ein chwilfrydedd a’n diddordeb o’r cychwyn. Mae adwaith eithafol a threisgar Maureen i’r ffaith fod ei Mam wedi difetha ei chyfle am hapusrwydd yn gredadwy yn y cyd-destun hwn.

Honna Martin McDonagh fod cynhyrchwyr ffilm fel David Lynch a Quentin Tarantino wedi cael dylanwad arno wrth sgwennu. Mae natur a graddfa’r trais a’r defnydd o ryw fel cyfrwng i wawdio yn lled atgoffaol o’r gweithiau tywyll fel Natural Born Killers a Reservoir Dogs. Ond, wrth gwrs, mae’r ffaith ei fod yn digwydd yn fyw, ar lwyfan theatr, yn ei wneud yn fwy anesmwyth, yn cael effaith mwy ingol nag a fuasai ar sgrîn. Fu’r defnydd o hiwmor du erioed yn fwy derbyniol nag yma. Eto, rywsut, wrth chwerthin ar eiria’ dilornus a milain y naill at y llall, rydan ninnau’n cael ein tynnu i mewn i’r côd moesol gwyrdroëdig sydd i’w weld yn dderbyniol bron o fewn byd y ddrama.

Y cymeriada’ sy’n achos i hon godi uwchlaw’r cyffredin; maen nhw i gyd yn gwbwl gredadwy, yn gymeriadau stoc sy’n gig a gwaed ar yr un pryd. Rhaid rhoi clod i bob aelod o’r cast am borteadau hynod gynhyrfus, o Rhian Cadwaladr fel yr hen ferch chwerw, Valmai Jones sy’n pefrio fel y fam hunanol rwgnachlyd, i Dewi Rhys fel y Pato Dooley diffuant, boneddigaidd. Mae Owen Arwyn fel Ray Dooley yn serennu i mi fel y llefnyn sy’n fflewtian i mewn yn ei siaced denim, yn brithio’i eiria’ efo idiomau Eingl-Americanaidd ac wastad ar frys i fod yn unrhywle ‘blaw yn nh_ Maureen a Mag. Er mai yn y Saesneg yr oedd y ddrama wreiddiol, bwriad yr awdur yw awgrymu mai Gwyddeleg maen nhw’n siarad ond ei bod yn araf ildio i’r Saesneg. Ray Dooley sy’n cynrychioli’r colli tir ieithyddol yn y fersiwn Gymraeg ac mae’n gyfrwng effeithiol i wneud hynny. Mae cyfieithiad Huw Roberts drwyddo draw yn slic a chyhyrog.

Yng nghud-destun fframwaith real y ddrama, mae’r awgrym ar y diwedd mai rhith oedd ffarweliad rhamantus Maureen efo Pato ar y tręn, yn gorwedd braidd yn anghyfforddus fel ffordd i ddiweddaru’r ddrama. Wrth gnoi cil hefyd yn oerni’r car ar y ffordd adra, fedrwn i ddim peidio teimlo y byddai’r ddrama ar ei hennill o gael bwa naratif cryfach; er mwyn inni fedru gweld elfen o ddirywiad ym mherthynas Mam a merch, fel bod ‘na arlliw o gynhesrwydd cyn i bethau gyrraedd penllanw’r rhwystredigaeth yn llofruddiaeth y fam.

Apwyntiwyd Ian Rowlands yn Gyfarwyddwr Artistig yn Theatr Gwynedd yn ogystal â chwarae’r un rôl i Bara Caws. Fo hefyd sydd wedi cyfarwyddo Leenane a chynhyrchiad Bara Caws o Bingo gan Siân Summers. Yn y rhagair i raglen y ddrama, mae’n nodi mai ei brif ffocws fel cyfarwyddwr artistig ‘fydd ail-adeiladu’r gynulleidfa ar gyfer y theatr Gymraeg.’ Mewn cyfnod anodd yn hanes Theatr Gwynedd, mae’r cynhyrchiad hwn yn si_r o danlinellu gwerth a chyfraniad Cwmni Theatr Gwynedd i’r tirlun theatrig yng Nghymru. Y peth lleia’, a’r peth mwya’, y gallwn ei wneud yw cefnogi.

awdur:Mared Lewis
cyfrol:465, Hydref 2001

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk