Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Gobaith Wil

Gydar Theatr Genedlaethol wedi ei lansio ym mis Mawrth, bu DAFYDD LLYWELYN ar drywydd gwaith ein dramodwyr ifanc, gan ganolbwyntio yn arebennig ar waith Sgript Cymru.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae llawer wedi ei ddweud ai ysgrifennu yngl_n chyfnod allweddol syn wynebu nifer on sefydliadau. Wedir ffars ar syrcas a barodd am dragwyddoldeb gwelwyd Undeb Rygbi Cymru yn coronir cyfan drwy gyhoeddi mai Mike Ruddock fydd achubiaeth y gm yn dilyn ymadawiad Steve Hansen. Ac o ganlyniad i ffars drastig arall, Adroddiad Hutton, gwelir y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig yn brwydro am ei henaid ai hannibyniaeth. Ac yn ystod mis Mawrth, cafwyd pennod newydd yn hanes y Theatr yng Nghymru gyda lansiad y Theatr Genedlaethol Gymraeg.

Er i nifer fawr dynnu sylw at agwedd broffesiynol y lansiad, bu i ambell un ddefnyddior wasg Gymraeg i fynegi amheuaeth yngl_n r defnydd a wnaed yn y cyflwyniad o waith Shakespeare. Prin bod y cwmni wedi bodoli ddwyawr nad oedd hin ymddangos bod rhai eisoes yn ysgyrnygu dannedd a hynny yn gwbl ddiangen. Er efallai nad yw gweithiau Shakespeare at ddant pawb, maen bwysig nad ydym yn rhy blwyfol ac unllygeidiog ein gweledigaeth. Dywedir droeon bod prinder dramodwyr yn nodweddur theatr yng Nghymru, a chan nad oes gennym gasgliad toreithiog o ddramu maen ofynnol ac yn bwysicach efallai yn llesol cael deunydd o ddiwilliannau a gwledydd eraill. Rhaid cael ystod eang o ddramu a chynyrchiadau os ywr cwmni am ennill ei blwyf, a siawns nad oes gan y Cyfarwyddwr Artistig yr hawl i ddewis a dethol y deunydd a wl ef yn briodol ac yn addas.

Yn sgl dyfodiad y Theatr Genedlaethol mae ambell un wedi ceisio codi bwganod yngl_n dyfodol rhai or cwmnau llai. O ran tegwch mae Lynn T. Jones, Cadeirydd y Theatr Genedlaethol, wedi datgan yn gwbwl glir na fyddain fodlon parhau yn ei swydd pe byddai perygl iddynt hwy. Mae unigolion a charedigion blaenllaw eraill yn y maes, megis Meic Povey, wedi mynegi yr un farn, gan ddweud y byddai eu colli yn eithriadol o niweidiol ir ddrama yng Nghymru ac, yn ddi-os, os ywr Theatr Genedlaethol i lwyddo, mae bodolaeth y cwmnau llai hyn yn gwbl allweddol.

Un or cwmnau hynny yw Sgript Cymru, sydd yn meddu ar swyddogaeth eithriadol o eang. Yn ogystal llwyfannu gweithiau awduron profiadol megis Meic Povey, ceisiar cwmni gynnig profiad a hyfforddiant i rai newydd yn y maes. Ym mis Chwefror gwelwyd y cwmnin cydweithio Choleg Cerdd a Drama Caerdydd, gan lwyfannu drama newydd o eiddo Roger Williams; Y Byd (ai Brawd) (sic.). Yng nghud-destun y ddrama honno, y brif swyddogaeth oedd cynnig profiad i actorion ifanc ond, yn gyffredinol, tueddir i gyplysu enw Sgript Cymru swyddogaeth hyrwyddo ysgrifennu newydd a cheisio meithrin darpar-ddramodwyr, gan gynnig gwasanaeth a chyfleoedd iddynt weld eu gwaith yn mynd drwyr broses or papur ir llwyfan.

Er bod Meredydd Barker wedi gweithio gydag Everyman Playhouse Theatre a Chwmni Theatr Clwyd yn y gorffenol, Buzz yw ei ddrama gyntaf yn y Gymraeg. Tran bwrw cipolwg sydyn dros gynnwys y rhaglen sylwais fod allwedd i eirfar ddrama wedi ei chynnwys, a rhaid cyfaddef i hynny wneud i mi deimlon ddigon petrusgar. Maer ddeialog yn gyfoeth o dafodiaith y gorllewin, ac fe gymerodd hi dipyn o amser ir glyst ymgyfarwyddo hynny. Braf oedd clywed acen ac ieithwedd mor fywiog, ond yn achlysurol roedd ceisio deall rhediad ambell i frawddeg yn cael ei wneud yn anos o ganlyniad i ddiffyg ynganiad clir yr actorion fenga. Yn sicr, roedd cael actores brofiadol fel Rhian Morgan yn gymorth mawr i Gareth John Bale ac Eiry Hughes, ac roedd ei pherfformiad hi yn gyson safonol drwy gydol y cynhyrchiad.

Meddair sgript a hiwmor cynnil iawn, gellid dadlau ei fod yn rhy gynnil ar brydau, ac er bod ambell i ddarn nad oedd yn taro deuddeg roedd cyffyrddiadau gwirioneddol hudolus yn perthyn iddo. Pinacl y ddrama i mi yn bersonol oedd yr olygfa gyda Shandyr ci roedd hin werth talur pris mynediad petai ddim ond am hynny. Roedd rhywun wedi amau sbel cyn diwedd y ddrama beth oedd y gwir am berthynas Ifan a Mair, ond fe gynhaliwyd diddordeb y gynulleidfa yn sgl nodweddion eraill y cynhyrchiad. Wrth adael y theatr, roedd rhywun yn cael yr argraff bod gwir botensial yn y ddrama ar syniad, ac efallai na wyntyllwyd pob agwedd yn gyflawn. Ar yr olwg gyntaf, fe ellid gweld hyn fel beirniadaeth, ond ar y llaw arall fe gyfyd hyn bwynt hollbwysig o safbwynt rl a gwerth cynhyrchiad or fath. Fel yng nghyd-destun yr ymateb i ddrama Past Away o eiddo Tracy Harris, efallai bod rhai agweddau or cynhyrchiad nad oeddynt yn taro deuddeg ac yn gwbl slic, ond yr hyn syn bwysig yw y rhydd gyfle i ddramodwyr ennyn ymateb iw gwaith. Yn wahanol i ffurfiau eraill ar lenyddiaeth ni welir unrhyw ddrama yn gyflawn nes ei bod ar y llwyfan ac, o ganlyniad, mae rhinweddau a ffaeleddau awdur iw gweld yn llawer amlycach. Roedd diffygion yn perthyn i Buzz, ond roedd sawl rhinwedd yn perthyn iddi hefyd, a rhaid rhoi penrhyddid i gwmnau gael mentro gyda sgriptiau a dramodwyr newydd.

Nid Sgript Cymru ywr unig gwmni syn ceisio annog sgwennu newydd. Gwelwyd Gwyneth Glyn, awdures ifanc syn brysur ennill ei phlwyf, yn gyfrifol am gynhyrchu ei drama ei hun, Ar y Lein, arlwy ddiweddaraf Bara Caws. Ymdrinir r ddrama hon yn fanylach mewn erthyglau eraill o fewn y rhifyn hwn, ond yr hyn oedd yn amlygui hun wrth ei gwylio oedd ymateb y gynulleidfa ir cymeriadau ar y llwyfan. Er efallai bod deg munud cyntaf y ddrama yn dueddol o lusgo, wrth ir ddrama fynd rhagddi roedd rhywun eisiau gwybod pa mor gywir oedd proffwydolaeth Brenda o safbwynt gwerth cyfranddaliadau gwahanol gwmnau a sut effaith a gi hynny ar fusnes Daniel. Yn y cynhyrchiad hwn gwelwyd dau actor, mwy pofiadol a chadarnach eu crefft, yn llwyddo i ennyn diddordeb y gynulleidfa. Wedi dweud hynny, roedd naws naturiolaidd Ar y Lein yn ei gwneud hin haws i uniaethu r rhai a welwyd yn Buzz, lle roedd rhaid ir gynulleidfa weithion galetach er mwyn dilyn rhediad y stori ar cymeriadau.

Er y gall proses meithrin a hogi sgiliau dramodydd fod yn un anodd a chaled, fe ddylid argyhoeddir unigolion hynny o werth bwrw prentisiaeth or fath, fel y tystia cynhyrchiad cyfredol arall o eiddo Sgript Cymru sef Ghost City gan Gary Owen. Rhag i rai ohonoch chi feddwl, fel y ddynes siomedig oedd yn eistedd nesaf ataf, nid y darlledwr newyddion cyfeillgar a glywir ac a welir ar S4C ar radio yw awdur y ddrama. Y dramodydd yw awdur Crazy Garys Mobile Disco ac Amser Canser, ac un y cyfeiriwyd ato yng ngholofnaur Western Mail yn gynharach eleni fel awdur a fydd yn gwneud ei farc ym myd y theatr eleni. Yn sicr, os yw Ghost City yn ffon fesur oi waith, yna mae dyfodol disglair oi flaen. Cyfres o fonologau a geir yma, pob un yn cynnig llais i eneidiau coll syn crwydro strydoedd ein prifddinas. Er y gellid fod wedi tocio ambell i ddarn roedd y cyfanwaith yn gryf ar cynhyrchiad yn clecian, ac yn sicr roedd yn ddarn theatrig iawn.

Ddiwedd Chwefror eleni gwelwyd cwmni Mega yn cychwyn teithio gyda drama Gwenlyn Parry, Panto. Er bod modd dadlau nad hon yw ei ddrama orau, cafodd y cynhyrchiad hwn groeso gwresog yn Theatr y Sherman, ac er bod codi tl o ddwy bunt am raglen gythreulig o denau yn hyfdra or mwya, roedd y cynhyrchiad yn un hynod o raenus a braf oedd gweld cynulleidfa niferus yn y theatr yn mwynhau ac yn glana chwerthin. Bu ir cwmni hwn lwyfanu Perthyn o eiddo Meic Povey y llynedd, ac er nad oedd rhai agweddau or cynhyrchiad hwnnw yn llwyddianus megis y defnydd or sgrn fideo enfawr tystiar ddau gynhyrchiad i allu diamheuol Parry a Povey. Bodau prin iawn yw awduron or fath, a nod a swyddogaeth Sgript Cymru, ynghyd chwmnau eraill, yw chwilotan ddigyfaddawd am yr unigolion hynny au siapio au meithrin ar gyfer y dyfodol. Yn sicr, roedd Buzz ac Ar y Lein yn gynhyrchiadau gwahanol iawn iw gilydd, ond yn brawf pendant bod dyfodol disglair i Meredydd Barker a Gwyneth Glyn.

Gyda lansiad y Theatr Genedlaethol fe egyr pennod newydd yn hanes y Ddrama yng Nghymru, ac mae elfen cydweithio yn un gwbwl allweddol os ywr maes i ffynnu a llwyddo unwaith yn rhagor. Yng nghyfnod cynnar ein Cynulliad Cenedlaethol bu cryn ddefnydd ar y term gwleidyddiaeth gynhwysol, gydar gobaith y byddai unigolion o bob plaid yn cydweithio a chyd-dynnu er lles ac esblygiad gwleidyddiaeth ein gwlad. Er i egwyddor or fath fynd yn angof yng nghyswllt gwleidyddiaeth Cymru, rhaid ceisio sicrhau nad dyna fydd yn digwydd yng nghud-destun y Theatr yng Nghymru. Yn y diwedd nid oes ddiben cael Theatr Genedlaethol os na cheir cwmnau llai iw bwydo ai chefnogin gyson. Os llwyddir i wneud hyn yna efallai, rhyw ddydd, gellir dweud gyda balchder bod storfa dramu safonol Cymraeg yn orlawn, a gellir rhoi Wil iw wely unwaith ac am byth.

awdur:Dafydd Llewelyn
cyfrol:495, Ebrill 2004

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk