Colofn Gareth Miles
Ymateb i: Cais gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer Cwmni Theatr Teithiol Cymraeg Newydd Mae GARETH MILES yn feirniadol o gynlluniau Cyngor y Celfyddydau ar gyfer theatr yng Nghymru.
Nghymru.
Ni all hyd yn oed beirniad llymaf Adran Ddrama CCC wadu fod priodas berffaith rhwng cynnwys y ddogfen hon a’i harddull. Llith ffuantus a disylwedd ydyw, arwynebol ac ystrydebol ei Saesneg, niwlog a chlogyrnaidd ei Chymraeg.
Y Saesneg a ddaeth gyntaf wrth gwrs ac mae’r fersiwn wreiddiol yn gymorth anhepgorol i’r sawl a gais ddehongli ceinion megis:
Theatr gyffrous a chlodforus...
Mae hapddeiliaid eraill... yn diwallu’r angen tymor-byr am gynnyrch Cymraeg drwy gynnig cyfres fer o berfformiadau ar gyfer cynhyrchiadau yn yr _yl flynyddol...
Mae allbyniau cynhyrchu’n rhagdybio pedwar cynhyrchiad teithiol.
Rhaid i’w steil artistig edrych y tu hwnt i raglen lenyddol y brif ffrwd tra, ar yr un pryd, yn ei pharchu...
Nid yw’r darllenydd lawer callach, yn aml iawn, wedi troi i’r Saesneg ond mae adran 2.5, ‘Crynodeb o’r problemau’ yn ddilys ac yn ddealltadwy yn y ddwy iaith:
Ym syml, yr achos gerbron yw bod angen dirfawr i wella’r canlynol:
Gofynion rheolwyr y canolfannau heb gael eu diwallu; mae’r gylchdaith genedlaethol yn cael ei gwasanaethu’n wael;
Dirywiad yng nghynnyrch ac effaith teithiau Cwmni Theatr Gwynedd;
Diffyg cydraddoldeb o ran darpariaeth rhwng theatr yn y Gymraeg o’i chymharu â theatr Saesneg;
Llai o gynhyrchiadau Cymraeg ar gael: llai o geisiadau am rantiau prosiect CCC;
Fawr o gynlluniau deinamig i ddal grwpiau newydd o siaradwyr Cymraeg a chynnal diddordeb yn yr ardaloedd traddodiadol;
Fawr o waith ar gael ar y prif lwyfannau ar gyfer llawer iawn o artistiaid Cymraeg hynod o dalentog.
Tra’n cyd-fynd â’r disgrifiad o gyflwr truenus y theatr Gymraeg gyfoes – a hepgor y sylw am Theatr Gwynedd – rhaid imi nodi fy mod i ynghyd â phob dramodydd, actor a chyfarwyddwr y trafodais y sefyllfa gydag ef neu hi, o’r farn mai swyddogion Adran Drama CCC sy’n bennaf gyfrifol am y llanast ac mai Michael Baker, Sybil Crouch ac Anna Holmes yw’r prif ddrwgweithredwyr.
Mae’r feirniadaeth ar Theatr Gwynedd yn annheg. Parlyswyd Theatr Gwynedd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf gan grintachrwydd a diffyg gweledigaeth CCC ac wele’r Cyngor yn awr yn ei difrïo, er mwyn ennill cefnogaeth i newid polisi sylfaenol ynglyn â Theatr Genedlaethol Gymraeg. Cyhoeddwyd strategaeth ddrama gan CCC ym mis Ionawr 1999 yn codi o’i arolwg polisi ym 1998 dan y teitl ‘Adeiladu Cymdeithas Greadigol’:
Arwyddodd y Strategaeth Ddrama derfynol a gyhoeddwyd ym Mehefin 1999, fwriad CCC i weithio mewn partneriaeth i ‘ddatblygu cwmni cynhyrchu cenedlaethol newydd wedi’i leoli yng ngogledd-orllewin Cymru: i atgyfnerthu ac adeiladu ar swyddogaethau Cwmni Theatr Gwynedd a Theatr Bara Caws.’
Ymhlith y lleisiau a gefnogodd y cais hwn roedd y rheini a gredai y dylai fod cwmni ar waith yn y Gymraeg a chanddo adnoddau yr un mor ddigonol â’r rheini a oedd ar gael i Glwyd Theatr Cymru a oedd yn gweithredu yn Saesneg.
Mae’r ddau baragraff uchod yn grynodeb cywir o bolisi CCC ddwy flynedd yn ôl. Fis Mehefin 2001, er bod trafodaethau rhwng Theatr Gwynedd, Theatr Bara Caws a rhai awdurdodau lleol bron â llwyddo i uno’r ddua gwmni, cefnodd CCC ar Y Pwerdy, gan gyfiawnhau hynny trwy enllibio Theatr Gwynedd a chyfeirio at newidiadau gwleidyddol a sosio-ddiwylliannol honedig yn y Gymru Gymraeg, a ‘phenodiadau newydd i aelodaeth Cyngor Celfyddydau Cymru’n cynnwys rhai a chanddynt ddiddordeb arbennig mewn materion yn ymwneud â diwylliant Cymraeg?’
Dyma seiliau athronyddol y penderfyniad i ymwrthod â’r hyn a elwir yn fodel theatr traddodiadol:
Mae hyn yn golygu cwmni cynhyrchu o dan arweinyddiaeth cyfarwyddwr artistig a fyddai’n arwain dewis a chyfeiriad y cynyrchiadau. Gellid dadlau bod hyn yn annhebygol i (sic) gyflwyno’n foddhaol anghenion rhyw gynllun newydd oherwydd y byddai’r steil a’r ffurf mewn hinsawdd artistig ac economaidd yn newidiol yn cael eu llyffetheirio.
Ni fyddai newydd-deb artistig pellach yn cael ei uchafu; mae prinder arweinyddion artistig sy’n gallu ac yn fodlon ymrwymo yn y tymor-hir i’r theatr. Model anaddas yw hwn ar gyfer y gymuned ddisberod Gymraeg, ac ni dderbyniodd ond cefnogaeth amodol yn nadansoddiad ymghynghorol y Pwerdy. Gellid dadlau y byddai’r model hwn yn anhyblyg wrth ddarparu, yn rhannol oherwydd y byddai’n cael ei ddominyddu gan ffigur artistig unigol.
Yn lle’r strwythur diffygiol hwn, dylid mabwysiadu model y Cynhyrchydd:
Golyga hyn gwmni cynhyrchu lle y byddai eu tymhorau cynhyrchu’n cael eu cynllunio gan arweinydd artistig gan dynnu o’r doniau proffesiynol sydd ar gael a fyddai’n cyfarwyddo ac yn gosod steil y cynyrchiadau. Byddai’r model hwn yn gofyn i’r Prif Weithredwr fod yn gynhyrchydd, yn debyg i Reolwr Cyffredinol Opera Cenedlaethol Cymru, lle y penderfynir yn ddrallus ar bob cynhyrchiad er mwyn cyfrannu at gymysgfa’r tymor a chefnogir artistiaid gwadd gan staff perfformio creiddiol...
Er bod gan bob un o’r modelau eu rhinweddau, o bwyso a mesur, y model hwn a allai gyflwyno ystod a safon y cynhyrchiadau orau...
Diau y perthyn rhinweddau eraill i’r model hwn yng ngolwg llunwyr y ddogfen. Divide et impera, er enghraifft. Rhannu’r Cymry er mwyn eu rheoli. Diogelu’r status quo. Byddai’r entrepreneur a’r impresario o Gynhyrchydd neu Reolwr Cyffredinol yn dosbarthu nawdd ymhlith nifer o gwmnïau bychain tlawd, gwasaidd, am y gorau i’w blesio. Efelychai rôl Cyfarwyddwr Drama CCC yn yr wythdegau a’r nawdegau. A byddai’r Cynhyrchydd a’i gwmni’n dal o dan reolaeth CCC. Dyma fodel y Cwangocrat.
... byddai cyfraniad gan... Swyddogion Datblygu’r Celfyddydau CCC hefyd yn hanfodol i’r cwmni dargedu anghenion lleol yn llwyddiannus.
Bydd arwain y rheolaeth er newid yma’n syrthio yn y lle cyntaf i CCC... efallai y byddai’n rhaid i’r hysbysebion am Gadeirydd gael eu gosod a’r broses benodi gael ei rheoli gan CCC ar y cyd ag eraill.
Tra bo angen i CCC fod yr asiant gweithredol yng nghynllun y cwmni newydd yma y bydd angen cryn dipyn o gymhorthdal ac fe ddichon y daw’r rhan fwyaf o gronfeydd y Cynulliad wedu’u gweinyddu gan CCC. Ymhlith trefniadau eraill, ystyrir y cwmni newydd ar gyfer cytundeb cyllido a bydd yn cael ei fonitro yn erbyn targedau cytûn
Roeddwn i ymhlith y rheini a gredai y dylai fod cwmni ar waith yn y Gymraeg a chanddo adnoddau yr un mor ddigonol â’r rheini a oedd ar gael i Glwyd Theatr Cymru. Cytunwn hefyd mai Theatr Gwynedd fyddai cartref naturiol sefydliad o’r fath.
Dyma ddyfyniad o bapur a anfonais at CCC ddechrau 1999, yn ymateb i’r bwriad i sefydlu Y Pwerdy.
Yr hyn sydd arnom ei angen ar unwaith, beth bynnag fo’i deithl, yw cwmni theatr sefydlog, Cymraeg, mewn adeilad cymwys, gyda chnewyllyn da o actorion, ynghyd â Chyfarwyddwr Artistig sy’n meddu ar ddiwylliant eang, gweledigaeth theatrig glir, a phrofiad helaeth o gyfarwyddo proffesiynol.
Beth fyddai’r répetoire y cwmni hwnnw?
1. Dehongliadau cyfoes o ddramâu gorau’r dengmlynedd-ar-hugain diwethaf.
(Rhai blynyddau’n ôl, es at Michael Baker gyda dirprwyaeth o awduron a gynrychiolai Undeb yr Ysgrifenwyr a’r Academi Gymreig yn unswydd i annog Adran Ddrama CCC i ystyried fod cyhoeddi dramâu cyfoes yn ddyletswydd lawn mor bwysig â noddi cynyrchiadau ohonynt. Heb destun cyhoeddedig, meddem, nid yw drama ond perfformiad byrhoedlog. Gwrandawodd Mr Baker yn gydymdeimladol a chydsynio â’n cais ar i’w Adran gyhoeddi, ar ffurf cyfres o lyfrynnau, destunau’r dramâu yr ariannwyd cynyrchiadau ohonynt gan Gyngor y Celfyddydau yn ystod yr ugain mlynedd blaenorol. Ddigwyddodd hynny ddim ond mae sgriptiau gwerth eu llwyfannu eto ar gael.)
2. Dramâu gorau’r dauddegau a’r tridegau wedi eu rhyddhau o gaethiwed confensiynau dramatig a melodramatig y cyfnod.
Collodd Theatr Gwynedd gyfle bendigedig, yn ddiweddar, i gyfleu’n ddiymatal wrthryfel tanbaid, dyneiddiol Cwm Glo Kitchener Davies, trwy lacio staes anhyblyg strwythur y ddrama. Sgrifennodd J. O Francis, D. T. Davies a nifer o’u cyfoedion weithiau diddorol y gellid eu hadfer a’u haddasu’n effeithiol.
3. Dramâu clasurol o wledydd eraill.
Meddwn stoc o gyfieithiadau perfformiadwy erbyn hyn. Gellid cynnal Gwyliau Sbaenaidd, Ffrengig, Eidalaidd, Americanaidd a.y.y.b, o bryd i’w gilydd.
4. Addasiadau a chyfieithiadau o ddramâu cyfoes o wledydd â hanes tebyg i Gymru: Québec, Catalwnia, cenhedloedd yn Affrica a De America.
5. Dramâu a chomedïau newydd, yn cynnwys rhai ‘canol-y-ffordd’ yn ogystal â gweithiau mwy beiddgar.
6. Cyfaddasiadau o nofelau Cymraeg
Dymunwn weld rhai o’r gweithiau hyn yn cael eu cyflwyno mewn theatrau confensiynol ac eraill mewn canolfannau lleol, neuaddau ysgolion ac ati.
Trwy brofiad maith o gyd-chwarae mewn amrywiaeth helaeth o ddeunydd ac o arddulliau buasai’r cwmni’n datblygu estheteg theatraidd gynhenid Gymraeg a Chymreig, a maes o law yn dod yn deilwng o’i alw’n Gwmni Theatr Genedlaethol Cymru.
Dengys dwy o ddadleuon Adran Ddrama CCC yn erbyn y model traddodiadol un ai anonestrwydd digywilydd neu anwybodaeth gywilyddus:
... byddai’n cael ei ddominyddu gan ffigur artistig unigol/... it would be dominated by a single artistic figure.
Arweinydd pob cwmni theatr o bwys o’r dechrau cyntaf gan unigolion dawnus, egnïol, dychmygus yn meddu ar weledigaeth theatrig unigryw, ynghyd â phenderfyniad diysgog i lwyfannu’r weledigaeth honno. Mae arwain ac ysbrydoli cwmni dram llwyddiannus, castio’n gywir, dehongli’r drama ac ysgogi perfformiadau cofiadwy yn gymaint mynegiant o greadigrwydd unigolyddol ag yw actio neu sgrifennu drama, cerdd a nofel.
... mae prinder arweinyddion artistig syu’n gallu ac yn fodlon ymrwymo yn y tymor-hir i’r theatr.
Rhaid fod llunwyr y ddogfen yn gwybod gystal â mi fod y pedwar canlynol yn meddu’r cymwysterau y byddai eu hangen ar y sawl a benodid yn Gyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Cenedlaethol Cymraeg ac na ellir amau eu hymroddiad: Bethan Jones, Gruffudd Jones, Menna Price ac Ian Rowlands.
Cefnogaf uniad Theatr Gwynedd a Theatr Bara caws o dan gyfarwyddyd artistig Ian Rowlands. Rwy’n annog caredigion y ddrama Gymraeg oll i wneud yr un modd ac i ddatgan eu hanghymeradwyaeth o’r cynllun a gynigir gan y biwrocratiaid di-glem a’i niweidiodd yn ddifrifol eisioes.
awdur:Gareth Miles
cyfrol:465, Hydref 2001
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com