Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Problemau pur ysol

Awdur arall sydd yn gwrthwynebu cynlluniau Cyngor Celfyddydau Cymru yw WILLIAM OWEN ROBERTS. Ei ddrama yntau, Radio Cymru, fydd y ddrama olaf – os caiff cynlluniau’r CCC eu gwireddu – yr â’r cwmni Dalier Sylw â hi ar daith.

Ddiwedd yr wythdegau tyngais ryw fath o addewid i mi fy hun y byddwn yn osgoi ysgolion undydd, penwythnosau trafod neu gyrsiau tan faneri, ‘Argyfwng Erchyllaf Erioed y Theatr yng Nghymru,’ neu ‘Theatr Gymraeg: oes ffordd ymlaen o gwbl?’ neu ‘Ydy’n bosib denu/breibio/meithrin awduron ifanc i sgwennu ar gyfer y theatr,’ bla bla bla. Gorchyl ddiflas, ddi-enaid ar y naw oedd ista’n trin a thrafod yr un hen ystrydebau gan dindroi o gwmpas yr un hen gwestiynau a’r un hen lol-mi-lol. A dyna ni. Hynny a fu. Ni fűm ar gyfyl yr un o’r digwyddiadau yma hyd nes imi ddod ddegawd yn diweddarach wyneb yn wyneb â dogfennau fel ‘Ymgynghori ar Ysgrifennu Newydd yng Nghymru,’ sy’n rhan o ‘Strategaeth Ddrama Cyngor Celfyddydau’ a gyhoeddwyd yn wreiddiol fel papur ymgynghorol ar Ionawr 21ain 1999.

I’r rheiny ohonoch chi sy’ braidd yn ddiarth i’r maes, efallai mai buddiol fyddai imi grynhoi yn fyr y newyddion diweddara o’r ffrynt lein.

Ar Hydref 21ain, 1999 cyhoeddodd y Cyngor ‘ddatganiad i’r cyfryngau’ (a gwell fyddai imi ymddiheuro i’r Cyngor gan mai dim ond copi Saesneg a lwyddais i gael ohono). Yn anffodus, mae’n darllen fel a ganlyn:

‘THE ARTS COUNCIL OF WALES ANNOUNCES Ł170,000 FOR A NEW THEATRE WRITING INITIATIVE.’

A new theatre writing initiative for Wales, committed to developing innovative drama in English and Welsh, is to be set up in June 2000.

‘The setting up of a new writing initiative is an important element of the ACW’s (y Cyngor) drama strategy’ said Joanna Weston, Chief Executive of the ACW.

‘The strategy stressesits commitement to developing innovation in the arts and opportunities for Welsh artists. We believe this initiative offers a fresh start to build on this commitment through providing a platform for new writting in English and in Welsh. This is the first time both languages have been brought together in this way.’

The new writing initiative has been developed following an unprecedented degree of support from writers in English and Welsh responding to the ACW’s draft drama strategy published in January 1999.

Er bod rhyw elfen o amwysedd yn ei geiriad, bwriedir gweithredu’r strategaeth uchod trwy sefydlu cwmni/canolfan newydd ddwyieithog wedi ei lleoli yn Stiwdio Theatr y Sherman yng Nghaerdydd.

Er mwyn gwneud hyn mae Cwmni Dalier Sylw (Cymraeg) a Made in Wales (Saesneg) yn cael eu dileu. Ond fe’u gwahoddir, ynghyd â Chwmni Theatr y Sherman, i wneud cais i redeg y Cwmni/Ganolfan newydd.

Disgwylir y ceisiadau i mewn erbyn Rhafyr 1af, 1999 – a bydd penderfyniad wedi ei wneud o fewn rhyw bythefnos.

A dyna ni.

Dyna’r cefndir.

Dyna eu ‘gweledigaeth’ nhw.

Beiddgarwch? Hyder? Her?

Ar drothwy’r Mileniwm newydd bydd yng Nghaerdydd, prifddinas y Gymry Newydd, y Gymry ‘ôl-ddatganoli’, y Gymru fymryn yn ‘ôl-drefedigaethol’, y Gymru ‘ma sy’n dechrau cael ei thraed odditani o’r diwedd - a phwy a wâd nad yw theatr yn holl bwysig i unrhyw brifddinas werth ei halen? – gwmni dwyieithog blaengar yn llwyfan i awduron sydd isio deud eu deud... Hip hip hwre!

Yn anffodus, nid felly fydd hi o bell, bell ffordd.

I ddechrau...

Tydi’r strategaeth newydd yma ddim wedi derbyn sęl bendith awduron. I’r gwrthwyneb, mae protestio ffyrnig wedi bod. Rydym wedi bod yn lobďo aelodau seneddol, aelodau o’r Cynulliad, yn ysgrifennu i’r wasg, yn codi twrw ar y teledu a radio ac ym mis Medi, neulltuodd Undeb yr Ysgrifenwyr ddiwrnod cyfan i drafod y mater. Doedd neb yn hapus. Mae Cyngor y Celfyddydau yn ymwybodol o hyn ac mae datgan i’r gwrthwyneb yn beth sylfaenol ddrwg ac anonest i’w wneud.

Yn ail, tydi’r syniad o gwmni dwyieithog ddim yn un newydd. Bu cwmni cyffelyb yng Nghymru yn y saithdegau: Theatr yr Ymylon. Mae ganddom ni fel awduron nifer o bryderon yngl_n â hyn. Ar y cyfan, gwell gennym ni sy’n sgwennu yn y Gymraeg fyddai cadw i’r drefn bresennol o Gwmni Gymraeg a Chwmni Saesneg.

Ym mlwyddyn ariannol 1999-2000, mae Cwmni Dalier Sylw a Made in Wales yn derbyn nawdd o Ł260,000 rhyngddyn nhw i gomisiynu, perfformio a mynd â dramâu newydd ar daith. A tydi hyn ddim yn ffortiwn o bell ffordd.

Bydd y Cwmni Arfaethedig weithredu yn ddwyieithog. Ond o dorri’r grant bydd llai o dramâu Cymraeg a byddai llai o ddramâu Saesneg. Bydd llai o gomisiynu. Bydd llai o waith sgwennu newydd. Bydd llai o waith i awduron, hen a newydd. Bydd llai o waith i actorion. Bydd llai o waith i dechnegwyr. Bydd llai o waith yn y bôn i bawb. Bydd y cwbl yn llai cyffrous a herfeiddiol i’r gynulleidfa gan y bydd llai o ddramâu i’w gweld...

Yn y flwyddyn ariannol 1998-1999 yng Nghymru, comisiynwyd 18 o ddramâu hirion. (Ffigwr sy’n alaethus o warthus o isel).

Comisiynwyd 9 o’r rhain gan Gwmni Dalier Sylw, Made in Wales a Chwmni Theatr y Sherman. Does dim ots faint o sbin a rydd y Cyngor y Celfyddydau ar hyn, y sbin ydi o a dim byd arall, y gwir plaen amdani ydi y bydd y ddarpariaeth ysgrifennu newydd yn waeth o lawer nag y mae hi ar hyn o bryd.

Fel y nodais eisioes: bydd y Cwmni Arfaethedig yn y Sherman, o’i hanfod, yn comisiynu llai. Ar gyllid o Ł170,000 – be’ arall gellir ei ddisgwyl mewn difri calon?

O dan y drefn sydd ohoni pan fo awdur yn derbyn comisiwn gan gwmni fel Dalier Sylw, dyweder, mae’n rhaid bod yn ymwybodol o’r cyfyngiadau cyllidol. Er enghraifft, ni ellir ysgrifennu drama hefo cast mawr. Tueddir i gyfyngu i griw bychan o ryw 4 neu 5 actor. Eithriadau prin yn unig yw dramâu hefo castiau mwy. Ond byddai amryw o sgrifennwyr wrth eu boddau yn llunio dramâu epig; a dwi’n si_r y byddai’r gynulleidfa hefyd wrth eu boddau yn eu gweld nhw. Peidiwch â disgwyl i bethau wella o dan y drefn newydd...

Yn hytrach na hanneru’r gwaith theatr newydd, fe ddylai Cyngor y Celfyddydau anelu at greu strategaeth wirioneddol gyffrous; strategaeth chwildroadol, un sy’n dyblu neu dreblu y nifer o gomisiynau. I’r perwyl hwn dylent astudio yn fanwl ddogfen ymgynghorol Roger Williams, Cadeirydd Undeb yr Ysgrifenwyr a’i argymhellion pell-gyrhaeddiol a chreadigol yngl_n â dyfodol ysgrifennu newydd ar gyfer y theatr yng Nghymru...

Ond ceir argoelion y misoedd diwethaf sydd wedi ‘ngwneud yn sinigaidd braidd. Troi clust fyddat wnân nhw. Mae’r agenda i waethygu’r sefyllfa eisioes ar y gweill a’r bwriad i’w gweithredu yn mynd yn ei blaen, doed a ddęl...

Ond rydw i’n dweud eto: mae’r hyn sy’n digwydd i ysgrifennu newydd ar gyfer y theatr yn warthus. Does gan y Cyngor ddim oll i glochdar yn ei gylch eto.

awdur:WILLIAM OWEN ROBERTS
cyfrol:443/444, Ionawr 2000

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk