Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Cyfri mawrion fesul deg

Deg dramodydd gorau’r mileniwm. DAFYDD LLYWELYN gafodd y fraint o gyfri’r jeremeiaid

Rhybydd Swyddogol: y person nesaf sy’n gofyn imi beth yw fy nghynlluniau yn ystod oriau ola’r mileniwm hwn, mi fyddai’n estyn am fy ngwn ac yn ei saethu’n gelain. Nid fy mod i’n berson cas ac anghymdeithasol (wel...), ond fy mod i wedi hen laru ar yr holl gybôl. Wela’i ddim synnwyr yn yr holl syrcas a’r miri yngl_n â’r achlysur – a beth bynnag, onid yw’r arbenigwyr wedi datgan fod y mileniwm newydd eisoes yn bod ers sawl blwyddyn? Mae rhagrith aruthrol yn perthyn i’r cyfan, a’r unig rai sy’n mynd i elwa arno yw’r cwmnïau a’r cyfalafwyr masnachol. Datgelwyd yn orfoleddus dro yn ôl fod y Frenhines a’i g_r yn mynd i ymweld â chanolfannau’r digartref ar eu ffordd i agor y Dôm: rwy’n mawr obeithio na fydd yr iaith frwnt a’r sylwadau haerllug yn merwinio gormod ar eu clustiau – mae’n ddigon drwg arnyn nhw eisoes heb sôn am orfod gwrando ar Philip yn mynd trwy’i bethau. Ond yr hyn sy’n codi’r cyfog mwyaf yw’r modd y mae’r cyfryngau yn mynnu edrych yn ôl ar ddigwyddiadau’r ganrif sydd ohoni yn fuddugoliaethus, fel petai gennym ni le i ymhyfrydu yn ein dawn i gychwyn dau ryfel byd, i ddifetha a dinistrio’r amgylchfyd ac i sicrhau bod cyfoeth y byd yn cael ei gadw’n saff yn nwylo’r ychydig.

Felly, yn gwbl gyson â’m daliadau cryf a’m hegwyddorion cadarn, dyma gytuno i gyfrannu i rifyn ola’r ugeinfed ganrif o theatr. Waeth i minnau gynnig fy noethinebau sylweddol i’r genedl gyfan a dinistrio coeden neu ddwy yn y broses. Fodd bynnag, pan ofynnwyd am erthygl yn trafod deg dramodydd Cymraeg amlyca’r ganrif hon fe feddyliais mai dim ond ambell gangen fyddai’n mynd yn ofer. Ar ei ffurf bresennol, mae byd y ddrama Gymraeg yn debyg i dwrci Nadolig ar _yl San Steffan, ond nid felly bu hi o hyd ac mae llewyrch ac ambell gracyr wedi dod i’r wyneb. Cyn datgelu fy rhestr fe ddylid pwysleisio mai dramodwyr sydd wedi ysgrifennu ar gyfer y theatr Gymraeg sydd dan sylw. Pe bae’r dimensiwn Cymreig yn cael ei ychwanegu, yna byddai’n rhaid cynnwys rhai megis Dic Edwards, Ian Rowlands ac Ed Thomas – tri sy’n llwyddo i roi proffeil rhyngwladol i’r ddrama Gymreig, ond y tueddir i’w beirniadu am wneud yr union beth hynny gan rai sydd mor gul eu gweledigaeth â’r Tywysog Philip. Ac i’r rhai ohonoch sy’n ceisio dod o hyd i ryw ystyr neu arwyddocâd yn nhrefn y rhestr ganlynol, yna mae’n ddrwg gen i’ch siomi: fe’m trwythwyd yn egwyddorion cadarn yr oes wleidyddol gywir, ac fe restrir y dramodwyr yn nhrefn yr wyddor.

Os oes un enw y tueddir i’w wthio i’r cysgodion wrth drafod cewri byd y ddrama, yna HUW LLOYD EDWARDS yw hwnnw. Efallai nad yw’n meddu ar broffeil uchel, ond yn sicr bu’n gynhyrchiol iawn yn ystod ei oes, gan fabwysiadu ystod eang o ddulliau theatrig. Mae’n debyg mai Ar Ddu a Gwyn a Pros Kairon yw ei weithiau enwocaf, ac yn ogystal â bod yn awdur creadigol, bu’n ddarlithydd yn y pwnc. Efallai bod peryg i’w ddramâu gael eu cysgodi rhwng gweithiau John Gwilym Jones a Gwenlyn Parry, ond mae’n sicr yn ffigur pwysig, ac yn un sy’n haeddu ymdriniaeth academaidd bellach â’i fywyd a’i waith.

Gyda chynhyrchiad o Wastad ar y Tu Fas ganol yr wythdegau, daeth yn amlwg fod SIÔN EIRIAN ymhlith dramodwyr mwyaf amrwd a gonest ei genhedlaeth. Gwrywgydiaeth oedd thema’r ddrama honno, ac fel yn achos unrhyw ddrama dda, buan yr aeth si ar led fod hon yn ddrama bwysig a sylweddol. Nid oesarno ofn tynnu blewyn o drwyn y Cymry Cymraeg parchus, ac mae ei bortreadau o’r Gymru gyfoes yn sicr yn chwalu sawl myth. I raddau helaeth, mae wedi canolbwyntio’n broffesiynol ar ysgrifennu ar gyfer y teledu a’r ffilm. Digon llugoer fu’r ymateb i’w ddrama ddiweddaraf Epa yn y Parlwr Cefn a lwyfannwyd ym 1994. Fodd bynnag, yn ôl y sôn mae’r awdur hwn yn mynd i weithio gyda Bara Caws yn ystod y flwyddyn nesaf, a difyr fydd gweld esblygiad ei syniadaeth a’i arddull.

Er i JOHN GWILYM JONES ymhél â ffurfiau llenyddol eraill, ystyrir ei ddramâu ymhlith ei gampweithiau. Gyda’r ddrama naturiolaidd y cypylswyd ei enw’n bennaf, ond fe fentrodd hefyd gyda sawl arddull a llwyddodd i lunio gweithiau hynod o gofiadwy a phoblogaidd. Ymhlith y rhai disgleiriaf mae Y Tad, a’r Mab a Hanes Rhyw Gymro gydag Ac Eto Nid Myfi yn goron ar y cyfan. Yn ogystal â bod yn ddramodydd, dysgodd ac ysbrydolodd genhedlaeth o bobl a ddilynodd yrfaoedd disglair iawn yn y cyfryngau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf codwyd cwestiynau yngl_n â’r rywioldeb personol, ac awgrymwyd bod ei waith yn rhy dechnegol elfennol. Rhydd i bawb ei farn, ond roedd y boi bach o’r Groeslon yn feistr yn ei faes a go brin y gall neb efelychu’i gamp.

O’r holl ddramodwyr yn y rhestr hon, mae’n debyg mai W. S. Jones (WIL SAM) yw’r un sydd wedi llwyddo orau i bontio rhwng y theatr amatur a’r theatr broffesiynol. Ceir elfen grefn o snobyddiaeth tuag at y ddrama amatur erbyn hyn – er bod modd dadlau bod mwy o lewyrch a diddordeb yn y maes hwn yn y dyddiau sydd ohoni. Nid ennill bywoliaeth o’r cyfrwng fu ei hanes, a’r gwahaniaeth rhyngddo ef a’r mwyafrif llethol o ddramodwyr yw ei fod yn meddu ar berspectif ehangach ar bethau ar wahân i fyd y ddrama – motobeics a’r ddawn i wenu, er enghraifft. Camp Wil Sam fu cadw ei draed yn soled ar ddaear ei ffilltir sgwâr, a sgwennu am gymeriadau sy’n gyfuniad o bobl go iawn. Fe aeth cwmni Bara Caws ati i anrhydeddu’r meistr hwn yn 70 mlwydd oed drwy lwyfannu dwy ddrama o’i eiddo, ac yn sicr dyma Harley Davidson o awdur sy’n nabod ei gymuned leol.

Pen bandit byd y ddrama, does dim dwywaith, yw SAUNDERS LEWIS, ac ef yn ddi-os a osododd seiliau’r ddrama broffesiynol yng Nghymru. Tra oedd nifer yn barod i ddefnyddio’r cyfrwng dramatig i bregethu rhinweddau crefydd a dirwest, llwyddodd Saunders Lewis i godi golygon y ddrama Gymraeg drwy gyflwyno iddi’r elfen o anrhydedd – nodwedd oedd mor amlwg yng ngwead ei gymeriadau – ac yn ystod y degawdau wedi i Gwaed yr Uchelwyr weld golau dydd, cafwyd llu o ddramâu Cymraeg a weddnewidodd gwrs y ddrama Gymraeg weddill y ganrif. Fe wn i am sawl un sy’ bellach yn cael blas ar ddilorni’r awdur toreithiog hwn, ond diffyg dealltwriaeth o hanes a nodweddion byd y ddrama Gymraeg sydd i gyfri am hynny. Efallai’n wir ei fod yn snob llenyddol, ond fe wyddai’n iawn am ofynion drama, ac roedd ganddo fwy o ddawn yng ngwewyn ei fys bach nag sydd gan y rhelyw o’r ffug wybodusion diweddar.

Un o ddisgynyddion John Gwilym Jones yw WILLIAM R. LEWIS, ac un rheswm dros ei gynnwys ef yn y rhestr hon yw’r ffaith iddo fod yn ffyddlon i draddodiad ei ragflaenydd, a chynnig dramâu mwy confensiynol eu naws a’u ffurf mewn oes lle mae cymaint o bwyslais ar drio bod yn ‘wahanol’ – a methu gan amlaf wrth wneud hynny. Un o rinweddau’r ddrama gomisiwn yn Eisteddfod Môn eleni, Ffrwd Ceinwen, oedd ei bod yn meddu ar ieithwedd gref. Ac yn hynny o beth y mae Wil Lewis yn wahanol i nifer sy’n sgwennu heddiw – mae ganddo glust at ddeialog, ac mae honno’n llifo’n fyrlymus a grymus, ond yn fwy na hynny, mae’i gymeriadau yn siarad Cymraeg safonol. Nid dynwarediad gwael a geir ganddo ond iaith fywiog a safonol – ac fe ddylai unrhyw un sy’n ymhél â’r busnes sgwennu yma gofio’r wers honno. Camp Wil Lewis fu peidio â mabwysiadu unrhyw un o ddulliau theatrig poblogaidd y dydd, ond iddo’n hytrach gofio am y cynhwysion sylfaenol y mae’n rhaid wrthyn nhw ar gyfer drama dda.

Os mai ceidwadol oedd gwleidyddiaeth pen bandit byd y ddrama, yna fersiwn Cymru o Karl Marx yw GARETH MILES (heb ei barf). Unwaith yn rhagor, nid y ddrama yw’r unig arf llenyddol y mae wedi’i ddefnyddio i geisio addysgu’r werin bobl, ond mae’n debyg mai dyma ei arf amlycaf. Dramodydd hynod o ddeallus ac ôl darllen rhyngwladol yn perthyn i’w waith – ac yn baradocsaidd efallai, fe ellid dadlau na fyddai’r proletariad cyffredin yn medru llawn werthfawrogi peth o’i gynnyrch oherwydd yr ideolegau astrus sy’n eu nodweddu. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi mynd ati i gyfieithu ac addasu gweithiau dramor – gyda’i addasiad o waith Daniel Danis, Lludw’r Garreg, yn ddigon o ryfeddod. Yn ddiweddar, mae wedi dweud mai CCC yw opiwm caredigion byd y ddrama, ac wedi bygwth troi cefn ar y maes. Mi fyddai hynny’n drueni, a braf fyddai ei weld yn dychwelyd i lunio dramâu creadigol unwaith yn rhagor.

Y dramodydd a lwyddodd yn anad neb arall i gipio’r ddrama Gymraeg o grafangau realaeth yw GWENLYN PARRY. Ystyrir Saer Doliau, T_ ar y Tywod ac Y T_r yn glasuron diweddar, ac yr oedd y dechneg theatrig a fabwysiadodd, ynghyd ag ystyron amwys y delweddau a geid yn ei weithiau, yn ddigon hyblyg i rywun allu eu dehongli mewn sawl dull. Yn wahanol i ddramâu o eiddo awduron cynharach, prif bwyslais Gwenlyn Parry fu ceisio trafod ystyr a gwacter bywyd bywyd. Er, efallai nad oedd ei themâu yn rhai unigryw Gymreig, llwyddasant i afael yn nychymyg y gynulleidfa Gymraeg. Llugoer iawn fu’r ymateb i’w ddrama hir olaf Panto, ond dylid dehongli honno fel ymgais hunangofiannol ar ran yr awdur, ac mae sawl rhinwedd yn perthyn iddi. Yr oedd ei bartneriaeth greadigol gyda Rhydderch Jones yn unigryw, ac yn dilyn marwolaeth y ddau collodd Cymru nid yn unig ddramodwyr sylweddol, ond cymeriadau lliwgar – onid yw’r rheilyw o’r sgwenwyr modern yma yn greaduriaid mor ddi-liw a diflas?

Y g_r sy’n sicr yn teyrnasu ar hyn o bryd fel ein prif ddramodydd yw MEIC POVEY. Er ei fod yn ennill ei fara menyn drwy sgwennu ar gyfer y teledu – gyda Sul y Blodau a Nel ymhlith ei gampweithiau – mae wedi llwyddo i fod yn gynhyrchiol ym myd y theatr yn ogystal. Cafwyd ymdriniaeth theatrig iawn â phwnc hynod sensitif – llosgach – yn ei ddrama gomisiwn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Port ym 1987, sef Perthyn, ac mae’r cynhyrchiad hwnnw yn aros yn y cof, a phinacl yr arlwy theatrig yn Eisteddfod Bro Colwyn 1995 oedd ei ddrama Fel Anifail. Nid oedd ei gynnig ar gomedi, Bonanza, yn llwyddiant ysgubol, ond fe’i gwelwyd yn ailadfer ei grefft arferol yn Tair. Awdur hynod o ddisgybleig a thoreithiog, mae’n rhaid ei fod ar viagra creadigol i allu cynhyrchu cymaint o ddeunydd safonol.

Y diweddaraf i gamu i mewn i ystafell anfarwolion byd y ddrama yw ALED JONES WILLIAMS. Yn sicr mae ei gefndir anghonfensiynol yn ychwanegu at liw ei waith, ond mae’i ddramâu yn fwy na hynny. Gyda Cnawd cafwyd drama gignoeth a oedd yn ymwneud ag anniddigrwydd dau, a bu iaith gref y ddrama yn destun siarad. Cafwyd themâu cyffelyb yn ei ddramâu diweddarach, megis Wal a Sundance, ond yr oedd eu techneg yn dynnach a’u hiaith yn llawer cynilach. Mae’r elfen theatrig yn amlygu’i hun yn ei waith. Y gamp nesaf i Aled Jones Williams fydd ehangu ychydig ar ei themâu a’i destunau, ac os lwydda i wneud hynny a chynnal yr un safod, yna’n sicr mi fydd yn teimlo’n gartrefol iawn yng nghwmni y naw arall, ac yn llwyr haeddu’i le ymhlith cewri dramatig y ganrif.

Nid yw’n cymryd athrylith o fri i sylweddoli nad yw merched yn amlwg yn y rhestr uchod. Camgymeriad dybryd, fodd bynnag, fyddai ystyried y fath ffaith fel tystiolaeth nad yw merched yn greadigol nac yn llwyddiannus ym myd y ddrama. Hwyrach ei fod yn dadlennu mwy am system batriarchaidd y theatr Gymraeg, neu efallai ei fod yn awgrymu pa mor hirben yw merched, ac iddynt benderfynu bod mwy o gyfle a dyfodol yn y dechnoleg ddiweddaraf. Gwelir mai tair merch sydd wedi llwyddo i greu o’r cyfresi mwyaf poblogaidd yn hanes S4C, sef Minafon gan Eigra Lewis Roberts, Y Palmant Aur gan Manon Rhys, a’r ddiweddaraf, Tair Chwaer, gan Siwan Jones. Dyma dair sydd wedi ymdrwytho yn y traddodiad llenyddol, wedi meithrin eu crefft ac wedi’i haddasu ar gyfer anghenion y dydd. Mae’n hynod o arwyddocaol fod Siwan Jones yn wyres i’r pen bandit ei hun, Saunders Lewis, ac mae cylch hanes y teulu hwnnw’n arwyddo’r newidiadau cymdeithasol sydd wedi digwydd mewn dwy genhedlaeth.

Ym myd y ddrama Gymraeg, boed ar lwyfan neu deledu, gwelwyd datblygiad pwysig iawn yn niwedd y saithdegau pan gyflwynwyd cynhyrchiad proffesiynol cyntaf cwmni Bara Caws, Bargen, a oedd yn llwyddiant ysgubol. Nid creadigaeth unigolyn oedd y cynhyrchiad hwn, ond yn hytrach ymdrech ar y cyd, gan adlewyrchu ethos gydweithredol y cwmni. Daeth criw o actorion at ei gilydd i lunio clincar o sioe, a dechreuwyd gweld posibiliadau’r fath fenter. Mabwysiadodd cwmnïau fel Brith Gof a Theatr Gorllewin Morgannwg yr un dechneg, a phrofi llwyddiant cyffelyb. Bu sioeau o’r fath yn ergyd i’r duedd o osod awdur ar bedestal, cynrychiolent her i deyrnasiad yr awdur unigol.

Un o rinweddau’r deg dramodydd a restrir uchod yw eu bod wedi llwyddo i gadw’r ddysgl yn wastad rhwng gwerthfawrogi a pharchu traddodiadau eu rhagflaenwyr ar y naill law a thorri cwys newydd eu hunain a gwthio’r ffiniau ymhellach ar y llaw arall. Ni all y theatr Gymraeg ffynnu os yw yn nwylo deinosoriaid tebyg i’r math Philipaidd, ond fe ellir ei chlwyfo’n angeuol oni sylweddola rai werth traddodiad y gorffennol. Tra bydd y cloc yn tician ar noson ola’r flwyddyn, a’r frenhines a’i g_r yn yfed Oxo gyda thrueniaid Llundain, peidied neb â chamu i’r ganrif nesaf heb ddysgu gwersi’r ganrif a fu.

awdur:Dafydd Llewelyn
cyfrol:443/444, Ionawr 2000

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk