Y Gwyddyl a’r Brits
Wrth fynd i weld Frongoch yng Nghaernarfon, argyhoeddwyd y cenedlaetholwr Aran Jones gan ei neges wleidyddol. Ond beth tybed oedd ei farn am ei rhagoriaethau fel drama?
Mae llawer o sôn wedi bod am y cynhyrchiad hwn, ac mae rhywun yn gweld pam o fewn eiliadau iddo gychwyn. Mae awyrgylch noeth, tywyll y llwyfan yn drawiadol, ac mae’r defnydd creadigol o’r sgriniau arddangos yn tynnu sylw yn syth. Yn fuan iawn, roeddwn yn hyderus bod un o brofiadau theatrig mwyaf dwys y ganrif newydd yn ein haros, ac o fewn y cyd-destun Cymraeg, ni chefais fy siomi. Serch hynny, wrth gerdded yn ôl i’r car wedi’r perfformiad, roedd yna dinc o siom ynddo i hefyd. Doedd y profiad ddim wedi bod yn bell o fod cystal pob tamaid ag unrhyw ddrama roeddwn wedi’i gweld erioed, ond, yn y pen draw, ni chyrhaeddodd yr uchelfannau mwyaf.
Ond nid oes dwywaith bod Llwyfan Gogledd Cymru, yr awduron Ifor ap Glyn a Micháel Ó Conghaile, a’r actorion ar lwyfan ac ar ffilm yn haeddu clod sylweddol am Frongoch, a bod hen ddigon o elfennau hynod lwyddiannus yn perthyn iddo. Rhan o fwriad y Cyfarwyddwr a’r awduron oedd tynnu sylw at hanesyn arwyddocaol yn natblygiad Gweriniaeth Iwerddon sydd hefyd yn ei chysylltu gyda Chymru mewn ffordd real. Wedi’r cwbl mae’r ‘cysylltiad Celtaidd’ yn rhywbeth mae llawer wedi rhamantu amdano, yn enwedig yng Nghymru, ond prin bod hanes y naill wlad wedi cyffwrdd y llall dros y ganrif ddiwethaf. Yn ystod cyfnod gwersyll Frongoch, daeth dau ddiwylliant Celtaidd ar draws ei gilydd mewn ffordd anarferol: gweriniaethwyr ymrwymedig Iwerddon a llawer ohonynt heb y Wyddeleg mewn gwrthgyferbyniad trawiadol â Chymry Cymraeg a llawer ohonynt yn Brydeinlyd eu hagweddau. Mae’r sail hanesyddol yn gweithio fel meicrocosm o’r berthynas ryfedd rhwng y Cymry a’r Gwyddelod, ninnau’n gysetlyd wrth ochr eu hawch am ryddid, hwythau wedi colli iaith. Fel drama hanesyddol, nid oes dwywaith bod y ddrama hon yn bwysig iawn.
Mae fframwaith y gwaith yn ymddangos yn syml. Mae’n digwydd mewn gwersyll ger y Bala lle roedd dros 1,800 o Wyddelod wedi’u carcharu heb wynebu achos llys ar ôl Gwrthryfel y Pasg yn Nulyn yn 1916. Mae’r ddrama yn canolbwyntio ar y tyndra rhwng Gwyddel yn y wersyll, meddyg lleol, a’r Sais sy’n rheoli’r wersyll o dan oruchwyliaeth ei Gyrnol. Mae’r deinamig theatrig yn fwy cymhleth na hynny, fodd bynnag. Yn ymuno â’r tri chymeriad canolog y mae nifer o gymeriadau roedd wedi ffilmio eu cyfraniadau, gyda’r canlyniadau yn cael eu dangos ar y sgriniau symudol sydd yn britho’r llwyfan. Cefais hyn yn eithriadol o effeithiol, yn enwedig wrth ystyried y cwestiynau y mae’n codi am natur y bwlch rhwng y sawl sydd yn gwneud penderfyniadau a’r sawl sy’n cael eu heffeithio ganddynt. Wrth gyflwyno Cyrnol y wersyll a’r gwleidyddion ar sgriniau yn unig, llwyddwyd i greu awyrgylch bygythiol ddaeth â gwaith Orwel neu Kafka i’r meddwl, a phwysleiswyd natur ‘allan o gyrraedd’ grym gwleidyddol.
Mae’r sgriniau hefyd yn cael eu defnyddio i ddangos cyfieithiadau rhwng y tair gwahanol iaith, sef y Gymraeg, y Wyddeleg a’r Saesneg. Roeddwn yn amheus iawn am hyn i gychwyn, ond erbyn y diwedd roeddwn wedi f’argyhoeddi’n llwyr. Doeddwn i ddim yn teimlo bod modd i unrhywun ddilyn pob dim, hyd yn oed rhywun tair-ieithog, ond roedd y llif o’r gwahanol ieithoedd yn heriol ac yn bleserus ar yr un pryd. Nid oedd pawb yn fodlon am nad oedd y Wyddeleg yn cael ei chyfieithu i’r Gymraeg ar y sgriniau. Tybiaf mai penderfyniad technolegol o ran y gofod oedd hynny.
Ar lwyfan gyda chymaint o elfennau arbrofol yn perthyn iddo, mae’n rhaid ei fod wedi bod yn dipyn o her i’r cymeriadau ‘cig a gwaed’ ddal eu tir, ond llwyddwyd i wneud hynny. Fel Captain Bevan, y Sais (a gafodd ei eni yng Nghymru) sydd yn rhedeg y wersyll, mae Michael Atkinson yn dod yn agos at gipio pob golygfa mae’n ymddangos ynddi. Mae’n fendigedig o oer fel milwr Seisnig ystrydebol, er efallai ychydig bach yn llai effeithiol pan mae’n rhaid i’w deimladau godi rhywfaint. Mae Richard Elfyn yn gadarn fel Dr Peters, y meddyg lleol sydd yn brwydro yn ei erbyn ei hun wedi iddo dderbyn gorchymyn i beidio â thrin y carcharorion wrth iddynt fynd ar streic newyn. Mae Caoimhín Ó Conghaile yn dod ag angerdd a hiwmwr i’w rôl fel Malone, un o’r carcharorion.
Ond gyda’r rhinweddau hyn yn fan cychwyn, pam nad oeddwn yn teimlo bod y ddrama wedi cyflawni’i photensial? Un peth ar goll oedd tyndra adroddiadol. Os na fydd y gynulleidfa’n teimlo awch naturiol i wybod beth sy’n dod nesaf, mae’r profiad o wylio drama yn medru mynd yn rhy haniaethol. Mae asesu tyndra adroddiadol, wrth gwrs, yn rhywbeth goddrychol, ond rwy’n sicr mai dyma’r rheswm nad oeddwn yn gweld Frongoch yn ddrama berffaith.
Am gyfnod hir, roeddwn yn teimlo bod natur hanesyddol y gwaith wedi sicrhau y byddai creu tyndra adroddiadol yn agos at fod yn amhosibl. Wedi’r cyfan, mae’n rhaid bod yn hynod ofalus wrth greu digwyddiadau i gynyddu tensiwn o fewn fframwaith hanesyddol. Ond wedi i ni ddarganfod tynged y meddyg, teimlais fod cyfle wedi’i golli i ddefnyddio’r ffeithiau hanesyddol er mwyn tynnu’r cynulleidfa bellach i fewn. Pe bai penderfyniad y meddyg i wrthod neu dderbyn y gorchymyn i beidio â thrin ei gleifion wedi cael ei ddefnyddio fel ffocws amlycach, ac ymatebion y carcharorion ynghyd â’i ymateb ei hun i’r penderfyniad hwnnw wedi cael eu cyflwyno’n fwy fanwl, gallasai Frongoch wedi mynd y tu hwnt i fod yn ddrama hanesyddol pwerus a heriol, a throi’n drasiedi o’r radd blaenaf.
I mi, o leia, ni ddigwyddodd hynny. Teimlaf bod yr awydd cwbl ddealladwy i gyflwyno cymaint o wybodaeth hanesyddol ag oedd yn bosib, a’r awydd i roi darlun llawn o bob un o’r tri chymeriad, gan gynnwys y gwarchodwr o Sais, wedi cael ei fodloni ar draul yr angen am drywydd adroddiadol mwy pwerus.
Ond, wedi’r cyfan, profiad bendigedig oedd gwylio’r ddrama hon. Er ei bod wedi boddi wrth ymyl y lan fel trasiedi, roedd yn hollol lwyddiannus wrth godi cwestiynau o sylwedd yngl?n â’r perthynas rhwng y Gwyddelod a’r Cymry, ac yn benodol rhwng cenedlaetholwyr Gwyddelig a chenedlaetholwyr Cymreig. Cafodd Frongoch ei bedyddio’n ‘Brifysgol y Chwyldro’ pan ddaeth y Gwyddelod i weld bod y cyfnod mewn carchar estron, profiad a rannwyd gan gynifer o’u gwrthryfelwyr mwyaf ymroddedig, wedi creu strwythur ar gyfer datblygu byddin. Ganrif yn ddiweddarach, mae Gweriniaeth Iwerddon wedi hen arfer â’i rhyddid, tra bod Cymru’n dal i gael ei rheoli gan Lloegr, ac roedd agwedd heriol y Gwyddel Malone tuag at natur Prydeinllyd Dr Peters yn taro nodyn effeithiol iawn. ‘We are not part of your us,’ mae’n poeri, a’r meddyg wedi cyfeirio at Brydain fel ‘ni’. Mae’r ‘ni’ cywilyddus hwnnw yn dal i swyno gormod o Gymry.
Mae un eiliad, i mi, yn cynrychioli’r herio a’r cwestiynu yma yn berffaith. Pan mae Malone, ar streic newyn, yn herio Dr Peters am ei ddiffygion egwyddorol, ac am blygu i reolaeth y Sais, mae Malone yn eistedd ar gadair tua chefn y llwyfan, yn wynebu’r gynulleidfa, gyda’r meddyg yn sefyll y tu ôl iddo. Yn ystod ymosodiad geiriol pwerus, mae Malone yn codi ac yn cerdded tuag at y gynulleidfa, yn eu cyhuddo hwythau’n fwy na’r meddyg.
Roedd yn eiliad gwefreiddiol, a theimlais gywilydd wrth feddwl y gallai Gwyddel heddiw anelu yn union yr un cyhuddiadau atom fel cenedl. Mewn cynulleidfa yn y Galeri yng Nghaernarfon yn llawn cenedlaetholwyr amlwg, rwy’n siwr i’r neges daro adref. Gobeithio y bu i’r un neges, trwy gydol taith y perfformiad, daro, brifo, ac ysbrydoli ton newydd o Gymry i weithio dros ryddid. Mae’r cynhyrchiad yn haeddu ennyn ymateb felly, ac os bydd, ni fydd fy amheuon iddo golli’r cyfle i fod yn drasiedi o safon yn bwysig o gwbl. Pan mae hanes yn ein haddysgu ac ein hysbrydoli, mae’n ein galluogi i osgoi ein trasiedi ein hunain, a fedr dim byd fod yn bwysicach na hynny.
awdur:Aran Jones
cyfrol:510, Gorffenaf / Awst 2005
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com