Mae Newid yn ‘Change’
Dafydd Llywelyn sy’n crynhoi datblygiadau diweddar ym myd y ddrama.
Wedi perfformiad olaf T_ ar y Tywod o eiddo’r Theatr Genedlaethol yn Theatr y Sherman, Caerdydd ddiwedd mis Mai, daeth diwedd ar gyfnod prysur o ran cynhyrchiadau. Yn ystod yr wythnosau cynt cafwyd arlwy amrywiol o stabl Bara Caws, Llwyfan Gogledd Cymru, Theatr Clwyd a Wales Theatre Company i enwi ond rhai. Gyda chynhyrchiad Frongoch o eiddo Llwyfan Gogledd Cymru’n derbyn canmoliaeth am iddo gynnig arlwy theatrig i’w gynulleidfa, a selogion Bara Caws yn glana chwerthin wrth wylio cyfieithiad Bryn Fôn o ddrama John Godber, Lucky Sods, ymddengys ei bod wedi bod yn gyfnod eitha’ llewyrchus. Er mae’n debyg mai ymateb brwd a chadarnhaol sioeau cerdd sydd wedi nodweddu’r chwarter diwethaf yn bennaf. Yn bersonol, tydi sioeau cerdd yn apelio fawr ddim ata i, ond mae’n amlwg bod eu poblogrwydd ar gynnydd unwaith yn rhagor. Tyrrodd y gynulleidfa i weld Amazing Grace, sef dehongliad Wales Theatre Company a Mal Pope o fywyd Evan Roberts a Diwygiad 1904/05, gyda pherfformiadau yn y Sherman a Theatr Clwyd wedi’u hen werthu.
Er llewyrch y niferoedd a wyliodd y sioeau cerdd, cwta draean o awditoriwm y Sherman oedd wedi’i llenwi ar noson olaf T_ ar y Tywod – trawsnewidiad go sylweddol ers cynhyrchiad cyntaf y cwmni y llynedd. Er mor braf oedd gweld Gwenlyn Parry’n cael ei gydnabyddiaeth haeddiannol am ei ddawn a’i ddylanwad ym myd y ddrama, wrth wylio a gwrando ar y ddrama hon, sylwyd ei bod wedi dyddio ryw gymaint, sydd efallai’n anorfod o gofio mai hon oedd Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Y Barri ym 1968. Yn ddi-os, un o wendidau canolog y cynhyrchiad diweddaraf oedd safon yr actio. Rwyf wedi nodi hyn droeon yn y gorffennol, ac rwy’n parhau i lynu’n gwbl bendant at fy nghred: annoeth ac annheg yw rhoi cymaint o gyfrifoldeb ar ysgwyddau actorion ifanc a chymharol ddi-brofiad. Mae Dafydd Dafis a Jonathon Nefydd wedi hen fwrw’u prentisiaeth, ac wedi ennill eu plwyf fel actorion safonol a sylweddol, ac roedd perfformiad Jonathon Nefydd yn arbennig o raenus a gafaelgar. Yn anffodus, ni ellid dweud yn yr un modd am weddill y cast, yn arbennig aelodau ‘craidd’ y cwmni. Er mwyn hygrededd y ddrama, roedd hi’n gwbl allweddol i Dave Taylor a Carys Eleri Evans bortreadu Llanc a Llances gydag arddeliad ac argyhoeddiad, ond yn anffodus ni chafwyd hynny. Peth ola’ mae rhywun yn ei ddymuno yw dinistrio brwdfrydedd actorion ifanc a newydd, ac yn sicr nid dyna fwriad y feirniadaeth yma, ond roedd yn gwbl amlwg nad oeddent yn teimlo’n gyfforddus nac yn hyderus ar y llwyfan, ac o ganlyniad roedd eu perfformiad yn wan. Mae aelod arall o’r ‘actorion craidd’, Owen Arwyn, wedi datblygu llawer dros y blynyddoedd diwethaf, a hynny am y rheswm syml ei fod wedi cael cyfle i fagu’i hyder a meithrin ei grefft gyda chwmnïau llai’n gyntaf, megis Bara Caws. Ar bob cyfri, dylid caniatáu i actorion ifanc gysgodi a gwylio actorion profiadol yn mynd ati i roi cig ac esgyrn ar gymeriad, ond ni ddylent droedio’r llwyfan yn enw’r Theatr Genedlaethol oni bai eu bod wedi’u trwytho’n gyflawn yn eu crefft ac wedi magu digon o bresenoldeb i gyfareddu’r gynulleidfa.
Os mai diffyg profiad yr ifanc oedd yn amharu ar fwynhad rhywun o ddrama Gwenlyn Parry yn y Sherman, tra gwahanol oedd y sefyllfa dafliad carreg o’r theatr, sef ym Mae Caerdydd yn ystod wythnos gyntaf mis Mehefin. Wedi’r holl sôn a rialtwch, fe heidiodd plant a phobl ifanc i Eisteddfod yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm, gan beri sioc a syndod i ben bandit y Ganolfan – ffaith sy’n codi cwestiwn ynddo’i hun am ei hymdrech i lawn werthfawrogi pwysigrwydd ac ystod eang ei diwylliant mabwysiedig. Roedd y cyngerdd agoriadol ar nos Sul cyntaf yr Eisteddfod, lle gwelwyd nifer o gyn-enillwyr yr Eisteddfod yn rhannu llwyfan, yn glincar o noson, ac yn brawf o allu Cefin Roberts i baratoi a chyflwyno sioe gerdd wirioneddol broffesiynol a safonol.
Yn yr un modd, cafwyd ymateb hynod o ffafriol yn dilyn perfformiad o Les Miserables yn ddiweddarach yn yr wythnos. Bu cymaint o sôn ac edrych ymlaen i weld y cynhyrchiad hwn, roedd rhywun yn pryderu i raddau byddai’r cynnyrch gorffenedig yn siom, ond profodd ofnau o’r fath yn gwbl ddi-sail. Cafwyd perfformiadau graenus gan nifer ohonynt, gyda Siôn Ifan a Siriol Dafydd yn sicr yn llwyddo i ennill calonnau’r gynulleidfa gyda’u portread o’r Thenardiers’. Yn ddi-os roedd y ddau hyn yn gwbl gyfforddus a hyderus wrth gamu i’r llwyfan. Yn anffodus, amharwyd rywfaint ar fwynhad y noson agoriadol o ganlyniad i broblemau technegol. Er i rai nodi mai prin iawn oedd yr amser a gafwyd i baratoi’n dechnegol ar gyfer y sioe, rhaid cofio bod y gynulleidfa wedi talu ar gyfartaledd ugain punt i’w gweld, a chyda phob agwedd arall o’r cynhyrchiad yn edrych mor broffesiynol, roedd y diffyg hwn yn drueni mawr. Wrth lwc, llwyddwyd i ddatrys y problemau hyn ar gyfer yr ail noson, ac yn ôl y sôn, cymaint oedd y bonllef o gymeradwyaeth ar y diwedd fel y gallai trigolion Toulon ei glywed.
Yng nghyd-destun Medal Ddrama yr Eisteddfod, cafwyd tri ymgeisydd ar ddeg, gyda Bethan Williams o Gaernarfon yn dod i’r brig gyda’i drama Ty’d allan y Pwff!. Yn arwyddocaol, nododd y beirniaid mai prin oedd y deunydd comedi/ysgafn a gafwyd yn y gystadleuaeh, patrwm sydd wedi amlygu’i hun yn amlwg iawn yn ystod y blynyddoedd a fu. Ymddengys bod nifer o’n dramodwyr ifanc yn poeni am faterion y dydd, a bod eu pryder am bynciau o’r fath weithiau’n amlygu’i hun yn gryfach na’u crefft i lunio darn o waith creadigol. Yn hyn o beth, mae polisi Radio Cymru o ddarlledu gweithiau a ddaeth i’r brig yn y gystadleuaeth yn cynnig cyfle penigamp i ddramodwyr ifanc gael ymarfer eu crefft a hogi’u sgiliau, ac mae’r bartneriaeth hon rhwng yr Urdd a’r cyfryngau’n un y dylid datblygu ymhellach.
Yn flynyddol, clywir am y tân sydd ym moliau’r dramodwyr ifanc, ond yn aml iawn, nid yw’r unigolion hyn yn cystadlu’n ddiweddarach yn yr Eisteddfod Genedlaethol nac yn parhau i gyfansoddi ar gyfer y llwyfan. Derbyniaf bod sawl rheswm am hyn, ond un ffactor allweddol yw atynfa’r cyfryngau. Mae’n naturiol bod pobl ifanc yn cael eu cyfareddu gan swyn ac arian y cyfryngau, ond ar ddiwedd y dydd mae’r ddau’n bwydo oddi ar ei gilydd, ac fe ddylid pontio’r gagendor rhyngddynt. Nid cyd-ddigwyddiad mo’r ffaith bod Gwenlyn Parry, Meic Povey a Mei Jones i enwi ond tri wedi diddanu cynulleidfaoedd y teledu’n hynod o lwyddiannus, a’u bod hefyd wedi bwrw’u prentisiaeth ym myd y theatr. A chymryd y ddadl gam ymhellach, a’i ehangu i fyd actio a pherfformio, bu sawl un a rannodd lwyfan yr Urdd ar y nos Sul cyntaf yn tystio iddynt ddechrau’u gyrfaoedd drwy fynychu eisteddfodau lleol a’r Urdd, ac i’r profiad hwnnw fod yn gwbl allweddol i ddatblygiad eu crefft.
Sonnir yn gyson y dyddiau hyn am bwysigrwydd y cyfryngau yng Nghymru i gryfhau a mowldio’n diwylliant, ac yn ddi-os, gyda’r holl sôn am Adroddiad Ofcom ar ddyfodol S4C, cais y BBC am adnewyddu’i siartr y flwyddyn nesaf, a’r sôn am newidiadau pellach ym myd y theatr yng Nghymru, mae’n gyfnod allweddol bwysig i nifer o gyrff. Y gwir amdani yw hyn, mae’n cymdeithas yn newid yn ddirfawr, ac o ganlyniad mae ein sefydliadau cenedlaethol yn mynd i orfod newid ac addasu i ymateb i’r newidiadau hyn. Yn hynny o beth, pe bai mwy o gyd-weithio’n digwydd rhwng y sefydliadau yng Nghymru, gan gynnwys y rhai a enwir uchod, gall y deunydd theatrig/dramatig a gynigir i’r gynulleidfa, boed ar lwyfan, radio neu deledu, fod gymaint yn gryfach a gwell.
Gyda Mr Urdd a’i gyfeillion wedi pacio’u bagiau ac wedi gadael y Bae am bedair mlynedd, fe dry sylw nifer o eisteddfodwyr pybyr tuag at Y Faenol a’r Eisteddfod Genedlaethol. Am nifer o resymau, mae dipyn o frwdfrydedd yn perthyn i’r Eisteddfod hon, gyda llawer yn darogan g_yl safonol a chryf. Does ond gobeithio bydd y fath rinweddau’n treiddio’n ddwfn i gystadlaethau’r Adran Ddrama, achos yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi bod yn faes digon hesb o ran nifer yr ymgeiswyr a safon eu cynnyrch. Os bydd teilyngdod, dylai buddugwyr cystadlaethau llunio Drama Hir neu Fer, gael eu hanrhydeddu a’u llongyfarch yn yr un modd â phrif gystadlaethau adrannau eraill, yn hytrach na chael rhyw ddwy linell yn y wasg rhwng yr hysbyseb am y pwdl a gollwyd ym Mhwllheli a manylion cnebrwng Mrs Roberts, Corris Uchaf. Yn gynharach y mis hwn, darlledwyd Y Goron ar S4C oedd yn olrhain gwaith a thasg beirniaid cystadleuaeth y goron yn Eisteddfod Casnewydd y llynedd, ac yn ystod y rhaglen nododd un o’r beirniaid hynny, y Prifardd Alan Llwyd, bod ennill y gystadleuaeth nid yn unig yn binacl yng ngyrfa bardd, ond yn ogystal, yn ffordd wych o agor drysau i gyfleoedd eraill. O feithrin gwell dealltwriaeth a phartneriaeth rhwng ein sefydliadau diwylliannol, sef ein heisteddfodau a’n cyfryngau, gellid sicrhau bod pawb yn elwa o’r cyfleoedd hynny, boed yn awduron, actorion, criw technegol, ac yn bwysicach na neb efallai, y gynulleidfa.
Yn wahanol i Eisteddfod Genedlaethol Y Barri ym 1968, ni cheir drama gomisiwn yn Eryri a’r cyffiniau eleni. Yn dilyn yr holl drafod am gyflwr ariannol yr Eisteddfod Genedlaethol, penderfynwyd bod rhaid tocio rhywfaint ar yr arlwy a gynigir yn flynyddol, ac o ganlyniad aed ati i ddileu’r ddrama gomisiwn. Gwelwyd rhai’n ysgyrnygu’u dannedd wrth glywed hyn, gan ddadlau bod y ddrama’n cael ei gwthio ymhellach i’r cysgodion o fewn ein prifwyl. Fodd bynnag, cred yr Eisteddfod ei bod wedi ymateb yn gadarnhaol i anghenion cyfoes byd y ddrama yng Nghymru, drwy gyd-weithio gyda Sgript Cymru a Llwyfan Gogledd Cymru a chynnal sesiynau a darlleniadau o weithiau newydd, neu weithiau sydd yn y broses o gael eu datblygu ganddynt. Difyr fydd gweld llwyddiant ac effeithiolrwydd hir-dymor cynllun o’r fath. Yn sicr, mae gofyn bod yn amyneddgar a dangos parodrwydd i fod yn hyblyg. Os ydym am ofalu bod y genhedlaeth nesaf yn cael cyfleoedd i arddangos ei doniau creadigol, rhaid derbyn bod newid yn anorfod. Fel arall bydd seiliau ein diwylliant yn brysur simsanu ac yn ddim amgenach na seiliau’r t_ hwnnw a godwyd ar dywod.
awdur:Dafydd Llewelyn
cyfrol:510, Gorffenaf / Awst 2005
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com