Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Theatr Lwcus

Fe blesiwyd Emyr Edwards yn arw gan gynhyrchiad Theatr Bara Caws o gyfieithiad Bryn Fôn o Ffernols Lwcus John Godber.

Unwaith eto mae Theatr Bara Caws wedi sgorio gyda chlamp o gynhyrchiad hollol broffesiynol wrth iddynt deithio trwy Gymru gydag addasiad Bryn Fon o ddrama John Godber, Ffernols Lwcus. Roedd Theatr Chapter, Caerdydd, yn llawn dop ar gyfer eu hymweliad â’r brifddinas, a chafwyd ar ddeall nad oedd yr un tocyn ar gael ar gyfer y nosweithiau dilynnol wedi i mi eu gweld. Dyma beth yw gwledd theatrig i ni o’r diwedd, ar ôl dwy flynedd o gyffredinedd yn y theatr Gymraeg.

Wrth gael ein hwynebu gan set syml ond hollol drawiadol cyn i’r perfformiad gychwyn, gwyddem fod yma gynllunydd (Emyr Morris-Jones) a chyfarwyddwr (Tony Llewelyn) sydd yn gwybod sut i ddefnyddio llwyfan yn gelfyddyd ac eto’n gryno a di-wastraff. Wrth i’r chwarae ddatblygu o fewn y set syml yma, roedd effeithiau goleuo a’r defnydd o ofod yn gweddu nid yn unig i’r llwyfannu a drefnwyd ond hefyd i gynnwys symudol a rhaniadol y ddrama ei hun.

Mae llawer o ddramâu Godber yn adlewyrchu nid yn unig technegau theatr ddychanol Dario Fo, ond arfer Fo hefyd o ddefnyddio cyn lleied o baraffanalia llwyfan ag sy’n bosib i bortreadu byd ei gymeriadau. Peth arall sy’n drawiadol yng nghymeriadau Godber a’u bywydau yw’r ffaith mai tyfu o fyd cyffredin y dramodydd ei hun a wnânt. Rhoddwyd gofal arbennig i’r cyffredinedd yma yn addasiad Bryn Fôn. Roedd blas y t_ cownsil a bywydau teli a bingo wedi eu sefydlu’n gelfydd o gychwyn y perfformiad. Ychwanegodd hyn yn y pen draw at y gwahaniaeth a ddaeth ym mywydau’r ddau brif gymeriad wedi iddynt ennill y lotri ddwywaith a cheisio ymgymryd â’u cyfoeth mewn modd a ymddangosai’n ddigri ac eto’n drist.

Mae’r ddrama ei hun yn portreadu lwc dda Jean (Gwenno Elis Hodgkins) a’i g_r Morris (Wyn Bowen Harries) wrth iddynt ennill anferth o swm ar y lotri. Mae’n dangos yr effaith mae hyn yn ei gael nid yn unig ar eu bywydau hwy, ond, hefyd, bywydau eu perthnasau a’r bobl sydd ar ymylon eu byd. Nid yw’r ddau yn medru cynnal eu llawenydd na’u cyfrifoldeb wrth ymgymryd â’r fath swm o arian. Wrth i’r ddrama ddatblygu gwelwn y straen, yr anhapusrwydd a’r digofaint a ddaw yn sgil yr ennill. Roedd rhythm comig a thrasig y ddrama yn ymddangos yn gelfydd ac yn feistrolgar yn nwylo’r cyfarwyddwr a’r actorion trwy gydol y chwarae. Wrth i Jean a Morris ymbellhau oddi wrth ei gilydd, gwelwn oferedd eu hymdrechion i ddygymod â’u cyfoeth.

Mae Bryn Fôn wedi creu clamp o addasiad llwyddiannus wrth ddefnyddio dwy dafodiaith ar wahanol adegau, iaith Cofis ar gyfer bywyd cyffredin prif gymeriadau Godber, ac iaith yn codi o ardal y tu allan i Gaernarfon ar gyfer rhannau dwysach y ddrama. Yr oedd y ddeuoliaeth yma’n ychwanegu at ystyr lawnaf y mynegiant.

Roedd cael cylch ar ganol cefndirol y set lle taflwyd cefn-luniau cymwys i leoliad y gwahanol olygfeydd yn gampus o syniad. Gwelwyd, er enghraifft, tafluniau o adar Vernon Ward ar gyfer t_ cownsil Jean a Morris, coridor ysbyty wrth i Morris ymweld â’i fam (Catrin Fychan), relins yn portreadu’r fynwent yn angladd mam Morris, ac yn gweu trwy’r cyfan tafluniau o beli lotri’n twmblo ar draws ei gilydd fel motiff gweladwy canolog y cynhyrchiad.

Fel roedd y chwarae’n datblygu, cawsom olygfeydd o gomedi bur wedi eu cyfoethogi â deialog ffraeth, ystumio celfydd, amseru meistrolgar a chyd-actio tu hwnt o gelfydd. Roedd mynegiant amryfal wyneprydau Gwenno Elis Hodgkins yn y darnau comedïol ac yn ei thristwch, amseru comedïol Wyn Bowen Harries, yr amryddawn Catrin Fychan wrth iddi bortreadu gyda gofal manylion cymeriadol Mam idiosyncratig Morris, chwaer fyrlymol Jean, yna’r cynllwyngar Fagi, ac Eilir Jones fel y cellweirus Gwyndaf, g_r Ann, a’r trachwantus Rheithior i gyd yn arbennig. Dyma berfformio gan gr_p o actorion o’r safon a ddisgwylir gan gelfyddyd theatr o’r radd flaenaf mewn gwlad.

Fel y datblygai’r chwarae cawsom gip cynhwysfawr nid yn unig trwy’r perfformio, ond hefyd trwy strwythur ac ansawdd yr ysgrifennu, o’r hyn y mae John Godber yn anelu ato mewn cymaint o’i ddramâu, sef ‘ysgrifennu comedi gyda brathiad a gyda diben.’ Roedd y gomedi yn nerthol ac yn finiog yn nwylo’r cwmni yma o actorion a chyfarwyddwr, ac roedd y brathiad yn sicr yn nirywiad bywydau’r ddau brif gymeriad wrth iddynt blymio i’r gwaelodion.

Daliwyd at yr ychydig fflamau comedïol a geir yn y sgript hyd y diwedd. Yna, boddwyd hyn yn y pathos sydd yn tyfu wrth i’r ddau brif gymeriad sylweddoli’r camgymeriadau a wnaethpwyd ganddynt ar hyd y daith. Gosodir ergyd olaf y gomedi hon yn nychweliad Morris sydd yn edrych ymlaen at geisio adfer y bywyd syml a fu gyda’i wraig Jean, dim ond i wynebu ei marwolaeth truenus. Roedd dehongliad Wyn Bowen Harries yn gampus hyd y diwedd, fel yr oedd llewyrch ar gelfyddyd ei gyd-actorion yn yr ensemble. Mae’n rhaid cytuno â’r gosodiad a geir yn rhaglen y cynhyrchiad, sef mai ‘byddwch yn ofalus o’r hyn a ddeisyfwch - rhag ofn i chi gael eich dymuniad’ yw moeswers y ddrama.

Noson wir wefreiddiol a thrawiadol yn y theatr oedd hon, noson i’w chofio am amser maith, a’r math o noson i obeithio amdani yn y dyfodol.

awdur:Emyr Edwards
cyfrol:510, Gorffenaf / Awst 2005

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk