Cyngor i Ddramodydd Ifanc
Yn ôl Gareth Miles mae’n rhaid i ysgrifenwyr ifainc drechu haniaeth a negyddiaeth os am lwyddo i greu llenyddiaeth gofiadwy.
Siomwyd llawer gan Drws Arall i’r Coed, cynhyrchiad Cymraeg diweddaraf Sgript Cymru, a fu ar daith yn gynharach eleni. Y farn gyffredinol oedd fod y pum drama fer, gan bump o awduron gwahanol, yn rhy debyg i’w gilydd; yn ddeialogau di-stori, di-hiwmor rhwng cymeriadau arwynebol ac anniddorol. Hawdd credu, meddid, mai’r un awdur canol oed a luniodd y cwbl.
Clywais nifer o awgrymiadau pam bod pump o bobl ifainc a chanddynt ddawn digamsyniol wrth drin geiriau wedi llunio dramodigau di-fflach a difywyd:
Ni allaf warantu dilysrwydd y ddau bwynt cyntaf ond mae’r ddau arall yn teilyngu trafodaeth.
Mae gen innau ychydig o brofiad fel tiwtor yn ceisio annog myfyrwyr Cymraeg i ‘sgwennu’n greadigol’ a thystiaf mai gwaith anodd yw. Maent mor fodlon ar eu byd, ar y wyneb o leia, ac nid oedd gen i na’r tiwtoriaid eraill amser i dwrio i isymwybod a dirgel-fannau cof pob myfyriwr, fesul un, i brocio a chynhyrfu’r dyheadau a’r ofnau a lechai yno. Ychydig iawn o’r lên a gynhyrchwyd a ddeilliai o brofiadau personol yr awduron. Nemor ddim am bobl o’r un oedran â nhw ond tipyn go-lew am hen w_r a hen wragedd a phlant bach. Er bod crefydd ar drai, nid yw’r genhedlaeth hon wedi ymryddhau o hualau’r biwritaniaeth Anghydffurfiol i raddau a fuasai’n caniatáu iddynt ymdrin â rhywioldeb ac emosiynau dyfna’r galon gydag aeddfedrwydd.
‘Sgwennwch am be’ ydach chi’n malio’, meddai un o fy nghyd-diwtoriaid gan fynd yn ei flaen i holi ‘Am be ydach chi’n malio?’. ‘Am fy ffrindia a ’nheulu’ oedd ateb llywaeth pawb ac ambell un yn ychwanegu, ‘a’r iaith Gymraeg’.
Mae’r byd yn lle cysurus i’n petit-bourgeoisie genedlaethol ond a yw llewyrch materol y dosbarth wedi lobotomeiddio’r genhedlaeth bresennol fel nad yw’n amgyffred cyffro a chythrwfl y byd o’i hamgylch? Os bwriada Sgript Cymru gynnal rhagor o weithdai ar gyfer aelodau o’r un garfan gymdeithasol, awgrymaf bod yr hyfforddwyr yn eu hannog i ysgrifennu o’u profiad eu hunain ar themâu diriaethol fel y rhain:
Cyn imi ddechrau trafod dramâu Gwenlyn Parry, Meic Povey ac Aled Jones-Williams, mae’n briodol imi gyfaddef fod ideoleg yn ogystal ag ystyriaethau esthetig yn lliwio fy meirniadaeth. Rwy’n fodlon cydnabod yn ogystal bod eu gweithiau yn darlunio bydolwg llawer o Gymry Cymraeg, gan gynnwys nifer dda o ddarlithwyr, athrawon, actorion a chyfarwyddwyr theatrig. O’m rhan i, er cymaint a welais i’w ganmol mewn cynyrchiadau diweddar o Yn debyg iawn i ti a fi, Meic Povey (Th.G.C.), Lysh, Aled Jones-Williams (Bara Caws) a T_ ar y Tywod, Gwenlyn Parry (Th.G.C.), dda gen i mo negyddiaeth a phesimistiaeth y gweithiau hyn a’r geidwadaeth adweithiol sy’n eu hydreiddio.
Ystyriai Gwenlyn ei fod ar y chwith yn wleidyddol. Gallai’r un peth fod yn wir am Povey ac AJW, neu efallai y dywedent eu bod yn ‘anwleidyddol’. Ond mae’r datganiad ‘Does gen i ddim diddordeb mewn politics’ yn un gwleidyddol gan fod y llefarydd yn derbyn y status quo. Beth bynnag am hynny, dehongliad Thatcheraidd o’r byd a’i bobl a geir yn y tair drama a enwais: ‘Nid oes y fath beth â Chymdeithas. Dim ond unigolion a theuluoedd yn cystadlu â’i gilydd. Ofer pob ymdrech i newid y byd er gwell’.
Elfen arall nad yw at fy nant yw’r darlun diraddiol a dirmygus a geir o’r ddynol ryw. Edwinodd y ffydd ond deil y gred Galfinaidd, mai creadur gwael a phechadurus yw dyn, â’i gafael haearnaidd yn eneidiau llawer o Gymry. Tybiaf i fod yr hyn a ddywedodd R. Williams Parry amdano ef ei hun yn wir am y rhan fwyaf ohonom, ‘Rwy’n wych, rwy’n wael, rwy’n gymysg oll i gyd.’ Rwyf hefyd o’r farn mai nod pob celfyddyd, boed gân neu gerflun, soned, nofel neu baentiad, a hyd yn oed trasiedi, yw dangos fod bywyd yn werth ei fyw. Fel hyn, yn onest iawn, y traethodd Povey ei athrawiaeth wrthgyferbyniol ef mewn rhifyn diweddar o Golwg: ‘Dydw i ddim yn licio pobol yn gyffredinol. Mae lot o bobol yn horibl. A dwi’n trio cyfleu hynny.’
Povey y dramodydd sy’n siarad, wrth gwrs. Rwy’n meddwl fod awdur Talcen Caled yn reit hoff o adar brith y gyfres deledu ragorol honno. Gellir dweud yr un peth am y Gwenlyn Parry a gyd-ysgrifennodd Fo a Fe. Ac yn Eisteddfod Genedlaethol 1994 gwobrwyais gomedi sglyfaethus ond doniol iawn gan Aled Jones-Williams. Beth sydd i gyfri am y paradocs? Argyhoeddiad llawer o’n cydwladwyr nad yw awdur digri o ddifri a bod gofyn iddo suddo i waelodion aflan cors anobaith cyn teilyngu parch?
Wn i ddim am unrhyw ddramodydd o unrhyw wlad arall sy’n mynd ati’n fwriadol i ’neud yn siwr y bydd y gynulleidfa’n teimlo’n ddiflas ar ddiwedd y perfformiad, nac am wlad arall lle mae cynulleidfaoedd yn mwynhau’r teimlad. Ond ai drwy barhau â’r traddodiad digalon hwn y llwydda ein hawduron ifainc i adfywio’r ddrama Gymraeg ac i ddenu cynulleidfaoedd lluosog yn ôl i’n theatrau? Rwy’n amau hynny.
awdur:Gareth Miles
cyfrol:510, Gorffenaf / Awst 2005
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com