Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Y Ffair a’r Ty

Ar gyfer ei Doethuriaeth astudiodd Gwenan Mared waith Gwenlyn Parry. Ond taith ddiweddar Theatr Genedlaethol Cymru gydag un o’i ddramâu enwocaf oedd ei chyfle cyntaf i weld Ty ar y Tywod ar y llwyfan Cymraeg.

Roedd ’na fwrlwm diwrnod Ffair Borth yng nghyntedd Theatr y Sherman nos Iau. Roedd y celebs yno, roedd ‘crach Caerdydd’ yno, roedd yno fyfyrwyr ifanc, a hen stagers profiadol. Yn eu canol roeddwn i yn ciwio – ia, ciwio i weld drama Gymraeg goeliwch chi – am ein tocynnau, ac yn paratoi i weld drama dwi’n ei nabod fel cefn fy llaw, ond na welais i erioed mohoni’n cael ei pherfformio. Naw oed oeddwn i’n 1983, y tro diwethaf i Ty ar y Tywod weld golau dydd ar y llwyfan proffesiynol. A finnau wedi dringo dros y bryncyn tri deg y llynedd, roedd hi’n hen bryd, felly, i rywun roi męr yn ei hesgyrn o’r newydd (yn esgyrn y ddrama, nid y fi dach chi’n dallt, er y gallwn i wneud efo rhyw hwb adnewyddol hefyd!) Oedd wir, roedd disgwyliadau yn drwch yn yr aer a Gwenlyn Parry, yn amlwg, yn dal i fedru denu’r dorf.

Wrth wylio drama newydd sbon, mae pawb yn yr un cwch, neb yn gwybod sut fydd pethau’n datblygu. Ond mae ’na bwyslais gwahanol wrth berfformio drama fel hon sydd bellach yn perthyn ar silff y ‘clasur’. Mae i ddrama fel Ty ar y Tywod haenau, a daw sawl aelod o’r gynulleidfa ati gyda bag carped o brofiadau blaenorol. Mae hi’n dipyn o gontract plesio pawb, a’r hyn y dewisodd Theatr Genedlaethol Cymru ei wneud oedd chwarae’r ddrama gan lynu mor union driw i’r gwreiddiol â bo modd, perfformio’r clasur fel clasur per se. Roedd y set weddol syml yn cyd-fynd â’r naws yma, gan gryfhau’r digwydd ond heb ddwyn sylw oddi wrth yr actorion. Gosodwyd dodrefn y t_ ar ongl i gyfleu seiliau’r t_ yn suddo i’r tywod. Yn fy meddwl i roedd y ddyfais hon hefyd yn atgyfnerthu’r naws forwrol gyffredinol gan roi’r argraff bod y dodrefn yn cael eu taflu gan donnau’r môr, neu’r naws swreal, efallai, gyda’r bydolwg groes-gongl yn adlewyrchu troeon dychymyg rhyfedd G_r y T_. Defnyddiwyd triciau goleuo a phersbectif i ddangos y ffair yn y pellter, ac fel yr oedd y ddrama’n mynd rhagddi roedd y goleuo yn cyfleu’r syniad bod y ffair yn dod yn nes ac yn nes at ormesu G_r y T_.

Dyma yw cynsail digon syml y ddrama. Ceir G_r y Ffair sydd eisiau prynu cwt G_r y T_ er mwyn ymestyn ei ffair ar hyd y traeth. Ond mae G_r y T_ eisiau aros yn ei gartref lle caiff heddwch i siarad efo’r ddelw gwyr y mae o wedi ei dwyn ac sy’n dod yn fyw yn ei ddychymyg ef, ac o’n blaen ni’r gynulleidfa. Erbyn diwedd y ddrama, mae’r safleoedd grym wedi eu gwyrdroi a G_r y T_ a G_r y Ffair wedi cyfnewid safleoedd. Y frwydr seicolegol ac emosiynol sy’n arwain at hyn yw craidd y ddrama.

Mae’n rhaid cyfaddef bod T_ ar y Tywod wedi goroesi’n syndod o dda (ac nid yn unig am fod y llances wedi benthyg steil Cilla, Coronation Street!) Mae tranc y gwan ar draul y cryf yn thema oesol, yn enwedig felly yng Nghymru lle rydym bob amser yn brwydro i gadw’n hunaniaeth. Mae’n debyg iawn mai’r thema hon o genedlaetholdeb sydd yn neidio amlycaf o’r llwyfan erbyn heddiw, a hawdd y gallem ddychmygu arwydd Cymuned ‘Dal dy Dir’ yn addurno cwt G_r y T_. Fe’m trawodd hefyd bod rhagfarn, erbyn hyn efallai, wedi symud o blaid G_r y Ffair, unigolyn heb fawr ddim sydd yn codi o’r domen i lwyddo ym myd busnes. Entrepreneur o’r iawn ryw, felly, un y byddai Sir Alan Sugar yn falch ohono. Yn fwy nag yn unrhyw ddegawd blaenorol, dyma’r cyfnod lle y byddem yn fwyaf tebygol o gydymdeimlo â G_r y Ffair. Ond ni chawn ryddid i wneud hynny gan mai cryfder y ddrama yw bod Gwenlyn Parry yn gallu darlunio’r cyflwr dynol yn ei holl wendid barus, ac yn codi cywilydd arnom am y dyheadau bas sydd weithiau’n ein meddiannu. Mae’n condemnio’r bwli sy’n sathru ar bobl eraill er mwyn llwyddo, tra’n dangos mor fregus yw ein daliadau a’n credoau mewn gwirionedd, ac mor rhwydd y gellir ein troi. Mae’r da a’r drwg yn ymladd o fewn pob un ohonom, fel yn amryw o ddramâu Gwenlyn, a hwyrach mai’r gwrthdaro sylfaenol yma sydd yn gwneud y dramâu yn rhai oesol.

Mae T_ ar y Tywod yn enghraifft berffaith o hoff themâu a phatrymau theatrig Gwenlyn. Ceir yma ddigonedd o elfennau’r Abswrd, y mudiad y cysylltir Gwenlyn ag ef gan amlaf, ac mae naws Pinteraidd iawn i’r digwydd. Benthycir rhai o’r cysyniadau yn uniongyrchol o ddramâu fel A Slight Ache lle, erbyn diwedd y ddrama, mae cymeriad y g_r a’r gwerthwr matsys wedi newid safle. Mae dawns G_r y Ffair yn adleisio dawns Lucky yn Waiting for Godot ac mae’r syniad o weld a methu gweld, y defnydd o sbectol a sbienddrych, a’r awgrym cyffredinol o gyneddfau’n methu, yn ymddangos mewn dramâu fel End Game, The Birthday Party a sawl enghraifft arall. Eto i gyd mae Gwenlyn yn cadw naws llawer mwy agosatoch, a llai astrus yn ei ddramâu ef. Gellwch eu gwylio heb boeni am athroniaeth gan fod yno fel arfer awgrym o reswm tu ôl i’r digwydd, er bod y digwydd hwnnw’n ddigon od. Yn T_ ar y Tywod mae dryswch G_r y T_ yn amlwg yn deillio o’i blentyndod cythryblus pan oedd ei dad yn curo’i fam. Nid yw’n gallu ffurfio perthynas normal â neb, yn enwedig merched, ac mae rhywbeth yn wyrdroëdig ac yn druenus yn ei obsesiwn â’r ddelw. Tra mae odrwydd cymeriadau’r Abswrd yn aml heb na rheswm na gwreiddiau, yn y cynhyrchiad hwn, o leiaf, mi ges i’r argraff bod Jonathan Nefydd yn chwarae rhan rhywun oedd yn dioddef o afiechyd meddwl yn deillio o’i orffennol anodd. Fe wna hynny’n fedrus iawn ac roedd y munudau ingol bersonol yma yn cyffwrdd. Llwyddodd yr actor hefyd i ennyn ein tosturi; nid peth hawdd o ystyried ei olwg ‘pervy’ mewn mac hen ddyn budur! Roedd Dafydd Dafis (G_r y Ffair) yn ddrych teilwng iawn iddo hefyd a safon y perfformio’n uchel. Yn arbennig o effeithiol oedd y gofal a roddwyd i’r llinellau a’r golygfeydd sydd yn cael eu hail-adrodd o fewn ffurf gylchol y ddrama, gan sicrhau bod y gwylwyr yn gallu blasu rhythmau a llanw a thrai naturiol y ddeialog.

Does yna fawr o syndod bod y cynhyrchiad hwn yn un caboledig, mewn gwirionedd, gan ei bod yn amlwg o’r rhaglen (difyr iawn, gyda llaw, bargen am Ł2) bod CV’s y rhai oedd yn gweithio arno yn nodedig iawn. Maent wedi gweithio ar hyd a lled y byd, ond maent yr un mor hapus yn gweithio efo cwmni yng Nghymru. Dyna’r math o broffesiynoldeb yr oedd Wilbert Lloyd Roberts yn gweithio tuag ato flynyddoedd yn ôl pan sefydlwyd y Cwmni Theatr Cymru gwreiddiol, y cwmni bychan hwnnw y bu Gwenlyn Parry yn rhan mor hanfodol o’i lwyddiant. Hwyrach mai peth fel hyn yw karma, dwn i ddim.

Dim ond un g_yn sydd gen i am y cynhyrchiad hwn, (heblaw bod y llanc a’r llances yn cael trafferth efo’u hacenion ar adegau), a dewis hollol bersonol ydyw mewn gwirionedd. Yn y ddrama wreiddiol mae cymaint o gysyniadau a awgrymir yn y testun ond sydd heb eu datblygu, fel fy mod wedi gobeithio am ddehongliad ychydig yn fwy newydd a gwahanol. Ymysg y themâu mae’r cymhlethdod Oedipus, rôl y ferch fel symbol eiconaidd bron, y rhywioldeb sydd ynghudd o fewn yr iaith, ffaligrwydd G_r y T_ a’i wn (er y cafwyd chwarae cynnil ar hynny) a’r gyfeiriadaeth at grefydd y mae cenhedlaeth heb ei magu yn s_n y capel yn prysur golli adnabod arni. Dwi’n meddwl y byddwn i wedi hoffi gweld dychymyg gwyllt yn chwilio a chwalu o fewn symbolau’r ddrama ac yn ei chyflwyno ar ei newydd wedd. Wrth gwrs, fe gafwyd cynyrchiadau mwy arbrofol o waith Gwenlyn yn y gorffennol a dyna pam, efallai, y dewiswyd perfformio fersiwn mwy traddodiadol y tro hwn. Fyddai ddim tamaid o ots gan Gwenlyn beth bynnag, fyddai o’n teimlo dim ond direidi ein bod ni’n dal i drafod a ffraeo ymysg ein gilydd, a boddhad o wybod bod ei waith yn dal i allu cyfathrebu â chynulleidfa. Fu yno erioed gwestiynu ar hynny mewn gwirionedd; yn y theatr gallech yn hawdd fod wedi clywed y bin ystrydebol yn syrthio trwy gydol y perfformiad. Ydi, fel meistr ei stondin adloniant, mae Gwenlyn yn parhau i allu’n dal yng nghylch ei ‘hwp-lâ’ a’n cyffroi gyda’i ‘helter sgelter’ unigryw ei hun.

awdur:Gwenan Mared
cyfrol:510, Gorffenaf / Awst 2005

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk