Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Hwyl mewn esgidiau jazz

Gyda’r Eisteddfod eleni ar stepen drws Ysgol Glaenaethwy, mae Luned Emyr yn cofio am y cyflwyniad i fyd y theatr a gafodd yn yr ysgol honno.

Gwylio cynhyrchiad Magdalen a blannodd yr hedyn syniad ynof i y byddwn i, o bosib, yn mwynhau mynd i Ysgol Glanaethwy. Rwy’n cofio’r cynhyrchiad yn cydio yn fy nychymyg ar lwyfan Theatr Gwynedd gyda’r cyfuniad trawiadol o ddrama a dawns, a chaneuon Gareth Glyn, wrth gwrs, sy’n parhau yn eglur yn MP3 y cof.

Felly mynd i fy ngwers gyntaf yng Nglanaethwy wnes i, mewn neuadd olau yn Ysgol David Hughes uwch tonnau Afon Menai, oddeutu blwyddyn wedi i’r ysgol gael ei sefydlu gan Cefin a Rhian Roberts yn 1990. Er na wyddwn hynny ar y pryd, byddwn yn parhau i fynychu’r gwersi, yn Ysgol David Hughes a’r adeilad newydd ym Mharc Menai, am saith mlynedd.

Ni allaf lai nag edrych yn ôl ar fy nyddiau yng Nglanaethwy fel rhai hapus ac eithriadol o greadigol a chynhyrchiol. Cofiaf yn glir y wefr a deimlwn wedi i mi ddysgu llinellau gair am air neu fanylion dawns gymhleth, ac yna perfformio’r cyfan o flaen cynulleidfa. Cefais i, fel gweddill y criw, y fraint o berfformio ar lwyfannau lleol a rhyngwladol, yn y Neuadd Albert a Neuadd Elizabeth yn Llundain, ar strydoedd caregog Prâg, yn yr _yl Ban-Geltaidd yn Iwerddon, ac mewn eisteddfodau niferus.

Un o nodweddion athrawon da yw’r gallu i ysbrydoli’r disgyblion i fwynhau eu pwnc, ac roeddem ni’n ddigon ffodus i feddu ar athrawon felly yng Nglanaethwy. Unigolion ar dân dros y ddrama oedden nhw, ac roedd y tân hwnnw’n codi’n wreichion ynom ninnau’r disgyblion. ‘Heb frwdfrydedd ni chyflawnwyd unrhyw beth rhagorol,’ meddai Ralph Waldo Emerson. Yng ngwersi Glanaethwy ceid afiaith a brwdfrydedd yn rhan annatod o’r dysgu.

Un o gryfderau amlwg yr ysgol yw’r pwyslais a roddir ar safon a mireinio. Er cryfderau traddodiad amatur y ddrama gegin – a does dim o’i le yn y traddodiad hwnnw, wrth reswm – mae angen amrywiaeth ym mhob disgyblaeth greadigol er mwyn sicrhau cenedl gytbwys ei phrofiadau artistig.

Un o uchafbwyntiau blynyddol yr ysgol, ac enghraifft dda o’r ymroddiad i grefft, yw’r sioeau cerdd a gaiff eu perfformio yn Theatr Gwynedd. Mae’r sioeau hyn yn parhau i gael eu llwyfannu, a hynny fel rheol yn ystod gwyliau’r Pasg. Byddai oriau hamdden y gwyliau hyn yn ein galluogi fel disgyblion i ymgolli’n llwyr yn y cynhyrchiad a threulio’n diwrnodau yn ymarfer a siapio’r ddrama nes cyrhaeddai’r noson agoriadol. Dyddiau cyffrous oedd y rheini, a rhoddent gyfle i ni ddisgyblion o wahanol oedrannau a dosbarthiadau gydweithio ar yr un prosiect a mwynhau cwmni ffrindiau oedd yn rhannu’r un diddordeb ym myd perfformio byw.

Yng Nglanaethwy hefyd y rhoddodd rhai ohonom gynnig ar ysgrifennu deialog am y tro cyntaf. Caem ein hannog i droi ein llaw at bethau newydd, ac o wneud hynny, a bod yn agored i gyffro arbrawf creu, roeddem ni’n elwa ar ein canfed. Roedd drama yn un o’r pynciau a astudiwn ar gyfer arholiadau lefel TGAU a Lefel A, ac yng Nglanaethwy, fel yn achos llu o’m cyfoedion, cawn fwynhau’r pwnc y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Bu’r cyfnodau hyn o fudd i mi ehangu ar fy nealltwriaeth o’r theatr ac ymdrwytho ymhellach ym mhosibiliadau’r cyfrwng drwy astudio dramâu cyfoes a’r clasuron. Er mai creadur digon astrus a phellennig oedd William Shakespeare i ni ar y pryd, llwyddwyd i’n hargyhoeddi fod ei weithiau nid yn unig yn glasuron ond yn destunau deinamig a pherthnasol i bob diwylliant a phob oes. Cawsom gyfleoedd i berfformio fersiynau Cymraeg o Macbeth, Hamlet, Romeo a Juliet ac eraill.

Caem ein cynorthwyo i werthfawrogi’r clasuron yn ogystal â gweithiau modern a berthyn i’n traddodiad drama yng Nghymru. Anogwyd ni i weld gwerth dramâu, llên unigolion, yn ogystal â llên gwerin. I bob pwrpas, caem ein trwytho yn niwylliant a thraddodiad Cymreig eang ond yng nghyd-destun mwynhad o ddawns a chân.

Nid profiad ail law o faes perfformio a gaem yn y sesiynau wythnosol. I’r gwrthwyneb, caem y fraint o brofi posibiliadau’r cyfrwng mewn modd darganfyddus wrth i ni gael ein harwain gan rai fel Cefin a Rhian Roberts, Lowri Hughes, Einion Dafydd, Mari Emlyn, Siân Summers a llu o athrawon gwadd (ni cheisiaf eu henwi i gyd). Unigolion oeddent oedd yn awyddus i drosglwyddo eu profiadau a’u dealltwriaeth o’r grefft i genhedlaeth newydd o berfformwyr.

Yn sicr fe wnes i a nifer o’m cyd-ddisgyblion elwa’n fawr o’m cyfnod yng Nglanaethwy. Ond nid magwrfa ar gyfer actorion, cantorion, dramodwyr a dawnswyr yn unig ydoedd. Bellach gellir gweld i nifer ohonom fwrw ati i astudio neu weithio ym maes theatr a pherfformio, mewn rhyw ddull neu fodd, tra bod eraill wedi mynd yn eu blaenau i brofi meysydd amrywiol eraill. Ond rwy’n ffyddiog fod y rhelyw ohonom wedi elwa rywsut o’n haddysg yng Nglanaethwy oherwydd fod yr ysgol hon wedi llwyddo i ysgogi’r hunanhyder cywir sy’n gyfrwng gwerthfawr ym mhob maes. Mewn gwlad sydd, i raddau o hyd, yn ddigon dihyder ar brydiau, dyma, yn fy nhyb i, yw un o bennaf cryfderau Ysgol Glanaethwy.

Ac yng Nglanaethwy y cefais fy narbwyllo bod posibiliadau yn gallu troi’n ffaith. Pan fyddwn i'n camu yn fy esgidiau jazz dros drothwy’r pyrth llachar felyn hynny ym Mharc Menai, gwelwn freuddwyd wedi’i wireddu o’m blaen. Gwelwn fod modd i’r rhai sy’n fodlon gweithio’n ddiflino – ac ymarfer amynedd, dycnwch ac ymroddiad – gyrraedd eu nod.

awdur:Luned Emyr
cyfrol:510, Gorffenaf / Awst 2005

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk