Cysgod Columbine
Aeth Meleri Wyn James i weld sioe newydd Arad Goch, Riff.
Os y’ch chi’n berson ifanc yna fe ddylech weld y sioe hon. Os y’ch chi’n rhiant fe ddylech weld y sioe hon. Os y’ch chi’n athro fe ddylech weld y sioe hon. Mae Riff yn rhoi cipolwg ar fyd tywyll dyn ifanc sy’n teimlo ei fod ar ymylon cymdeithas, ac yn olrhain ei dwf o grwtyn bach ‘normal’ cyn oed ysgol i fod yn ddyn ifanc sy’n ffllyrtio gyda – ac yn gwrthod – hunan-laddiad. Efallai.
Mae’r cyfan yn cael ei bortreadu trwy gyfres o olygfeydd sy’n cyd-fynd â digwyddiadau mwyaf arwyddocaol ei fywyd. Dyma’r camau sy’n gwneud Syb yr hyn ydyw – a’r hyn nad ydyw. Ni ddylid tanbrisio camp Darren Stokes fel Syb. Mae cynnal sioe hir (ar ei ben ei hun, bron) yn fynydd i actor profiadol. Ystyriwch hefyd fod hwn yn portreadu cymeriad cymhleth a chynddeiriog yn ystod gwahanol gyfnodau yn ei fywyd – a nifer o gymeriadau eraill (mymryn yn unochrog). A hynny gyda chân a gair ac egni sy’n llenwi’r llwyfan. Hwyrach y byddai rhywun, felly, yn disgwyl ambell lithriad. Y trueni yw bod llithriadau prin hyn yn tarfu ar y ‘suspension of disbelief’ hollbwysig, ac yn atgoffa’r gynulleidfa ein bod yn gwylio actor ar lwyfan.
Sioe un-dyn, meddaf, ac eto nid yw’r disgrifiad hwnnw yn un cwbwl gywir. Owain Ll_r Edwards sy’n darparu’r gerddoriaeth sy’n si_r o apelio at unrhyw ferch neu fachgen sydd erioed wedi sefyll yn ei stafell wely yn cogio chwarae ‘air-guitar’. Trwy’r cyfan, cawn ein harwain ar daith – ac mae’r daith honno yn darlunio dirywiad sy’n mynd â ni yr holl ffordd i Columbine.
Hwyrach byddai Syb yn teimlo iddo gael ei drin yn anheg, bod bywyd yn anghyfiawn. Ac, eto, dw i ddim mor siwr. Mae ei ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol yn drawma. Wel, fe wnes innau hefyd lefain y glaw am oriau! Mae’n cael ei adael allan o dîm pêl-droed yr ysgol. Ro’n innau’n gwbl anobeithiol ym mhob camp dan haul, a chefais i erioed fy newis i dîm. Mae plant yn tynnu ei goes oherwydd bod ei feic yn wahanol. Fy meic innau oedd yr unig un i fethu’r prawf ‘cycling proficiency’ bondigrybwyll yn Ysgol Gynradd Beulah. Y pwynt ydyw, dw i ddim wedi troi’n seico sydd eisiau lladd pobl! Mae’n anodd cydymdeimlo, weithiau, gydag anallu Syb i godi uwchlaw pethau sy’n rhan gwbl normal o fywyd rhywun, dd’wedwn i. Mae’n rhaid bod yna ryw ddifyg mwy yn ei gyfansoddiad sy’n gwneud iddo wrthryfela trwy droi yn erbyn y byd. Os mai’r neges yw y gallai pob un ohonom droi’n Syb, dydy e ddim yn f’argyhoeddi i.
Rwy’n dweud y dylai rhieni ac athrawon weld y sioe yma oherwydd y bydd yn eu hatgoffa faint yn union o gyfrifoldeb sydd arnyn nhw. Chi yw’r bobl sy’n llunio cymdeithas. Felly, da chi cofiwch, mae geiriau’n brifo.
Os y’ch chi’n gwisgo’ch angylion annwyl mewn crys-t – ‘little monster’ – fe allai gydymffurfio gyda’ch stereoteip a thyfu fyny i fod yn anghenfil bach. A chi athrawon, os y’ch chi’n flin gyda rhywun trwy’r adeg yna fe fyddan nhw’n tyfu fyny’n flin gyda chi, yn flin gyda’r byd. Dim ond trwy annog a chanmol mae creu bod cyflawn a hyderus. Dyma’r alwad gan Sybs y byd – os byddwch chi’n fy nhrin yn wahanol, iawn, fe fydda i’n ymddwyn yn wahanol. Mae e’n newid i ffitio’r mowld sydd wedi ei greu ar ei gyfer. Mae’r Syb newydd yn sicrhau ei fod yn sefyll allan.
Mae’n prynu côt newydd. Côt ledr hir, ddu. Y math o beth sydd bellach yn c_l, diolch i lwyddiant anhygoel ffilmiau’r Matrix. Mae’r gôt yn fwy nag addurn allanol. Mae’n ail groen trwchus, sy’n ei gadw rhag cael ei frifo. Mae’n darian, sy’n ei amddiffyn rhag y byd a’i flinderau. Mae’n gwcwll, i guddio y tu ôl iddo. Mae byd Syb bellach yn gylch dieflig. Mae e’n cael ei drin yn wahanol ac felly mae e’n wahanol ac felly mae e’n cael ei drin yn wahanol. Yn sydyn, mae’r holl siom ac anghyfiawnder a chynddaredd yn berwi tu mewn. Mae e fel daeargryn yn barod i ddirgrynu – ac i foddi pawb sydd wedi ei frifo. Mae e’n gallu uniaethu gyda’r rhai a achosodd gyflafan Columbine.
A dyna ein harwain at uchafbwynt ac isafbwynt y sioe i mi. Yr uchafbwynt yw cân ‘Columbine’ sy’n efelychu teimladau mewnol Syb mewn ffordd anarchaidd hynod o addas. Owain Ll_r Edwards sydd wrth y gitâr ond mae ei gyfraniad ar lwyfan yn fwy nag un gitarydd. Mae e’n cynrychioli rhyw fath o ‘fi fewnol’, yn aml iawn wrth ysgwydd Syb – fel yr angel a’r diafol arfaethedig wedi eu cyfuno yn un. Mae e yno fel cysgod, ac, yn wir, mae’n cysgodi teimladau Syb – ar un adeg mae’r ddau’n gwisgo’r gôt fondigrybwyll fel un dyn.
Ond, Columbine yw’r isafbwynt hefyd. Mae enw’r ysgol yng Ngholorado wedi ei serio ar ein meddyliau ers i ddau fachgen ifanc saethu deuddeg o’u cyfoedion yno yn 1999. Go brin bod angen i mi eich atgoffa o hynny. Mae Michael Moore eisioes wedi gwneud ffilm ddogfen gofiadwy iawn.
Ond yma, rwy’n teimlo bod y sioe yn troi’n bregeth. Mae’r hanes hyd yn oed yn cael ei ail-adrodd o’r llwyfan, air am air o adroddiad papur newydd, ac yn creu effaith amaturaidd yn hytrach nag un pwerus. Yn gefndir ar sgrîn mae tusw o rosys cochion yn symbol o gariad ac o farwolaeth. Mae’n ymdebygu i dorch ar lan bedd, neu i iard ysgol. A allai rhywbeth tebyg ddigwydd yng Nghymru tybed?
Mae’r Arad Goch wedi cymryd cam dewr a phwysig wrth gomisiynu’r sioe. Gyda chymaint o sioeau am bobl ifanc yn defnyddio digrifwch i drin hyd yn oed bynciau trymion, mae Riff yn gwbl ddigyfaddawd yn ei phortread o’r ‘angst’ fi-yn-erbyn-y-byd mae cymaint yn ei deimlo. Mae hi’n ein gadael ar nodyn gobeithiol. Fy ngobaith innau yw y bydd y sioe gymunedol yma yn cyrraedd y gynulleidfa iawn. Byddai’n wych o beth i’r ifanc sydd ar yr ymylon weld bod ganddyn hwythau hefyd lais yn y theatr yng Nghymru
awdur:Meleri Wyn James
cyfrol:495, Ebrill 2004
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com