Amrywiaeth mewn ’Steddfod
Er gwaetha’ diffyg drama gomisiwn, roedd digonedd o weithgarwch theatrig yn Eisteddfod Eryri a’r Cyffiniau. Gwenan Mared aeth i weld dramâu’r Steddfod ar ran Barn.
Fel y dywedai pobol ardal Eryri, dwi’n ‘sgut’ am list. Byddai’n gwneud fy ngorau i gael un at bob achlysur, ac mae rhoi tic newydd taclus ar y rhestr yn fy ngwneud i’n fodlon fy myd bach! Roedd rhestr ‘Steddfod Eryri wedi ei sgwennu ar gefn fy nghopi o Galwad:
Ac roeddwn i’n gwneud yn lled dda nes cyrraedd gwaelod y rhestr. Beryg ei bod hi braidd yn hwyr i gael gafael ar yr eitem olaf erbyn dydd Llun cyntaf y ‘Steddfod, ond buan iawn y dysgais, fel sawl un arall, mai’r welingtons oedd yr eitem anhepgor go iawn eleni. Ac roedd cael gafael ar bâr o rheiny mewn seis 8 ar fyr-rybudd, bron mor amhosib â chael y ‘Steddfod i gydnabod bod drama a theatr yn rhan cyn bwysiced o’r _yl â phrifeirdd mewn cobanau.
Wel, os dan ni’n onest, mae pawb yn gwybod y drefn ddwyfol eisteddfodol. Ar y llwyfan: canu, adrodd, dawnsio, gyda’r dawnswyr druan prin yn cael cyfle i g’nesu eu clocsiau eleni. Ac o ran ‘y pethe’, mae’r drefn yn eglurach fyth: barddoniaeth yn gyntaf, ail a thrydydd, rhyddiaith yn bedwerydd, ac wedyn, os da chi’n lwcus iawn, drama. Ond, wrth gwrs, mae’n gorfod ymladd am ei lle efo’r gweddill anffodus: y dysgwr, y cerddor a’r celf a chrefftwyr. Ac, wrth gwrs, ni ddylid anghofio’r hollbresennol: y bradwyr ar wasgar, yr ivy league gymhleth o falu awyr dyddiol yn y babell lên, a’r gystadleuaeth flynyddol i roi’r Wil fythol flinedig yn ei wely.
Mae’n amlwg hefyd bod yn well gan S4C ddangos Tara Bethan yn holi dau lembo sut flwmars ‘Pishyn’ maen nhw’n ‘i licio na thrafod unrhyw ddramâu sy’n ennill gwobr neu’n ymddangos yn y brifwyl. Does ryfedd fod yna ddim llawer o fynd ar gystadlaethau cyfansoddi’r adran ddrama. Os enillwch chi, beryg iawn na chewch chi fawr mwy na’ch enw yn y Daily Post (ac mi gewch chi’r fraint honno pan da chi’n marw beth bynnag!). Yn sicr does yna ddim greal sanctaidd i ddarpar-ddramodwyr weithio tuag ato fel sydd i feirdd a llenorion. Mae’n rhan o’r cylch dieflig hwnnw lle diddymwyd Tlws y Ddrama (oherwydd diffyg safon) ac, o ganlyniad, statws cystadleuaeth y ddrama. Un cam tuag at adfer y sefyllfa eleni oedd cyflwyno’r Fedal Ddrama ar lwyfan y brifwyl i awdur gorau’r cystadlaethau cyfansoddi. Yn anffodus i’r Eisteddfod (ond nid i’r enillydd mae’n si_r gen i), roedd Manon Steffan yn brysur yn cael babi a bu’n rhaid iddi anfon ei g_r i nôl y fedal yn ei lle. Ta waeth, ychydig iawn o sylw a dderbyniodd y seremoni ac ynghyd â hepgor y ddrama gomisiwn eleni doedd pethau ddim yn edrych yn addawol.
A r_an mod i wedi cael chwydu ’nghwyn o ’mherfedd, (yr unig chwydu dwi wedi ei wneud mewn steddfod ers tro byd, gyda llaw) mae’n si_r bod rhywun yn disgwyl i weddill yr erthygl yma fod yn litani o fethiannau a diffygion arlwy theatrig yr Eisteddfod eleni. Ond nid felly roedd hi. Er ’mod i’n hoff iawn o’r theatr, roeddwn i’n lled amau ’mod i’n cael cam, yn rhoi fy nosweithiau i wylio dramâu tra oedd pobl eraill yn cael mynd i gigs, nosweithiau comedi a stomp yn y castell. Ond mewn gwirionedd, fe ges i wythnos wrth fy modd. Hwyrach mod i’n fwy o culture vulture nag o’n i’n sylweddoli. Neu hwyrach bod yr arlwy eleni yn cynnig llai o’r uchel-ael a mwy o adloniant agos atoch chi, y math o dumbing down, chwadal y Sais, fydd ddim at ddant pawb, mae’n sicr, ond sydd o leiaf yn gwerthu tocynnau ac yn rhoi pen ôl ar bob sedd.
Fy stop cyntaf i oedd bar Theatr Gwynedd, nos Sul, ar gyfer noson elusen Cofio Graham Laker. Roeddwn i’n tybio wrth gyrraedd ’mod i wedi amharu ar ryw fath o love in i’r ‘lyfis’. Ond dyna oedd y fformat – rhai o actorion enwocaf Cymru yn perfformio uchafbwyntiau o wahanol gynyrchiadau Graham. Amrywiai’r rheiny o Enoc Huws i Godspell. Ac er bod fy ffrind di-flewyn ar dafod yn meddwl ei bod hi’n amlwg bod yna ‘ormod o bobl o lawer eisiau talu teyrnged i Graham’, mi ges i dipyn o flas ar y noson. Oedd, roedd hi’n amlwg bod ambell un heb ymarfer y vocal chords ers tro, ac eraill yn ansicr, ar y cychwyn, o gamu i esgidiau hen gymeriad. Ond er gwaetha’r ffaith eu bod yn perfformio mewn gwagle – peth digon anodd mae’n rhaid gen i – roedd hi’n noson gynnes, safonol, gyda rhai perfformiadau yn creu ias o fwynhad gan godi’r cwbl uwchlaw sentiment anhepgor noson deyrnged. Ac er bod y côr bach poenus yn edrych fel bod rhywun yn eu harteithio, o gau eich llygaid a gwrando, mi allech yn hawdd glywed llais angylion yn y requiem o waith Mozart oedd yn cloi’r noson. Hoelwyd y sylw ar Graham Laker ei hun, g_r a wnaeth gymaint yn y blynyddoedd rhwng cyrraedd Bangor yn ei siwt denim binc a’i farwolaeth yn 2001. Mae’n amlwg bod yna hiraeth mawr ar ei ôl.
Roedd hi’n addas iawn edrych yn ôl ar Sul cyntaf y Steddfod fel hyn gan mai edrych ymlaen yn sicr oedd thema gweddill yr wythnos. Roedd yno wynebau ifanc yn perfformio, a chynulleidfa ifanc yn gwylio. Er gwaetha diffyg drama gomisiwn, roedd yno hefyd ysgrifennu newydd, ac asiad o berfformio a chanu yn cyflwyno theatr gyfoes, broffesiynol.
Cwmni Bara Caws oedd sêr yr _yl, yn gorfod cael perfformiadau ychwanegol er mwyn boddio’r galw am docynnau, ond mi fues i hefyd yn ciwio tu allan i Theatr y Maes, yn cyfri’r pennau o ’mlaen i weld os baswn i’n cael mynediad. Os nad yw hyn yn dangos bod yna ddyfodol i’r theatr yng Nghymru, dwn i ddim be wnaiff, a does ’na ddim byd brafiach nag eistedd mewn theatr llawn dop yn blasu’r awyrgylch unigryw honno a gewch chi mewn theatr fyw.
O un arch i’r llall, roedd yna ddau begwn i adloniant yr _yl. O’r arch/bath y mae Owen Arwyn yn ymddangos ohoni yn Sundance, i’r arch y mae Defi yn atgyfodi ohoni er mwyn cael gafael ar ei iâr yn Sioe Lwyfan, Porc Peis Bach (wir yr r_an – peidiwch â gofyn pam)! Dyma’r ddau eithaf dramatig, – drama gymhleth, ingol, gythryblus Aled Jones Williams, a ffars wallgof Wynford Ellis Owen. Os ydi un yn high brow, wel mae’r llall yn sicr yn low brow.
Yn Theatr y Maes y perfformiwyd Sundance (Theatr Genedlaethol Cymru), monolog un act a ymddangosodd gyntaf yn 1999. Ac, er gwaetha lleoliad difeddwl y babell a phroblemau sain eithriadol wrth i ribidirês o loris swnllyd rifersio tu allan, fe gododd perfformiad Owen Arwyn uwchlaw popeth. Roedd o’n ddoniol, yn iasol, yn byw pob cameo ond hynny heb golli gafael ar y cymeriad trist, cymhleth yr oedd yn ei bortreadu. Ac nid camp fach yw rhoi ystyr i eiriau’r awdur hwn. Mae barddoniaeth arbennig i’r dramâu lle mae pob brawddeg, pob symudiad a phob cefnlun yn hollbwysig. O’r herwydd mae perfformio’r gwaith yn sialens eithriadol, rhywbeth a adlewyrchwyd, efallai, wrth i nifer o’r rhai a ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Richard Burton eleni ddewis monologau o’i waith. Y sialens yw cadw’r ymennydd a’r emosiwn ar y cyd â’i gilydd, rhag i’r cwbl chwalu’n nonsens amhosib i’w ddilyn. Fe lwyddodd Owen Arwyn gydag arddeliad. Chwaraewyd Sundance fel breuddwyd neu lif ymwybod gan lithro rhwng atgofion a realiti swreal y presennol, a’r cyfan ar gefnlun o ffilmiau cowboi sy’n rhan annatod o hunaniaeth y prif gymeriad. Ymhlith y themâu dirdynnol mae natur byw a marw, natur Duw, a natur geiriau, ond ceir yno hefyd lawer o hiwmor ynghyd â defnydd arbennig o wagle’r llwyfan a phrops annisgwyl. Llwyddwyd i hoelio sylw’r gynulleidfa, gan ddod â drama astrus yn rhywbeth byw o gig a gwaed o flaen ein llygaid.
Dipyn yn llai dirdynnol oedd cynyrchiadau Bara Caws eleni. Os oedd rhywun yn gyfarwydd â’r rhaglen deledu Porc Peis byddent yn weddol si_r beth i’w ddisgwyl yn y sioe lwyfan. Mae’n rhaglen boblogaidd ymhlith plant a phobl ifanc ac roedd hynny’n amlwg iawn yn y gynulleidfa. Ai dyma cult viewing yng Nghymru? Ein Little Wales ni efallai yn cystadlu â chreadigaeth Matt Lucas a David Walliams? Os hynny, mae’n sicr mai Wynford Ellis Owen yw’r Dennis Waterman sy’n ‘write the theme tune, sing the theme tune ...’! Wedi’r cwbl, sioe yw hon wedi ei seilio ar blentyndod Wynford, wedi ei sgwennu gan Wynford, a gyda Wynford yn actio ynddi, a’i ddychymyg bywiog ef sydd yn caniatáu i holl ferched pentref Llanllewyn syrthio mewn cariad â’i gymeriad ef! Heb os mae hon wedi bod yn gyfres lwyddiannus a chafwyd cynhyrchiad llwyfan teilwng iawn (er mod i’n cael trafferth clywed rhai pethau yn y rhes gefn – y Kenneth Parry bach ’na wedi arfer cael camera dan ei drwyn ac nid llond gwlad o gynulleidfa, debyg iawn). Ac mae’n si_r bod clywed llond theatr o Gymry ifanc rhugl yn chwerthin yn eli ar glwyfau’r rhai ohonom ni oedd yn teimlo ein bod ni uwchlaw’r fath nonsens!
Os gwyddai rhywun beth i’w ddisgwyl gan un sioe Bara Caws, roedd lle i fod ychydig yn fwy nerfus o’r llall. Sioe yn cael ei pherfformio ar fws oedd Y Wibdaith Wirion gan Daniel a Mathew Glyn, a doedd hynny’n golygu dim ond un peth – audience participation – Duw a’n gwaredo! Gan ’mod i’n cuddio dan fy sedd rhag ofn cael fy newis i fynd ar lwyfan pantomeim Theatr Gwynedd ’slawer dydd, doeddwn i ddim yn llawn brwdfrydedd. Ond eto roeddwn i’n ddigon chwilfrydig i fentro. Ac er bod gofyn i’r gynulleidfa ganu a gweiddi rhyw ychydig, roeddwn i mor brysur yn chwerthin doedd gen i ddim amser i deimlo’n swil. Ar ben hynny, roedd brwdfrydedd yr actorion yn heintus. Fel mae’r teitl yn awgrymu, roedd y cynnwys yn hollol wirion ond yn gyfuniad dyfeisgar o daith, sgript a stori. Rhyw fath o sioe glybiau ar olwynion oedd hi gyda digon o hiwmor coch ac mae meddwl am berfformiadau Rhodri Meilir a Tudur Owen yn dal i dynnu gwên. Pe byddai gan Derfel, y dreifar, beiriant air conditioning ar ei fws byddai wedi bod yn brynhawn perffaith. Ac unwaith eto, roedd trwch y gynulleidfa yn blant a phobl ifanc, rhyw fath o Iwtopia Gymreig lle mae dyfodol yr iaith (a’r theatr) yn ddiogel ar fws sy’n cylchu’n ddiddiwedd rhwng Y Felinheli a Phlas Menai.
Ac o un ganolfan hwylio i’r llall – ar nos Iau’r Eisteddfod roedd ‘s_n hwyliau’n codi’ yn y pafiliwn, a hynny gyda’r fath ddawn ei fod bron â chodi’r to. Ymhlith perfformwyr Sgidie’ Bach i Ddawnsio roedd Ysgol Glanaethwy, Côr CF1, Dawnswyr Nantgarw, Gr_p Jazz Gwynedd a Môn ac actorion craidd Theatr Genedlaethol Cymru. Cafwyd medli gerddorol o’r hen a’r newydd gyda dramâu a chaneuon cyfarwydd yn gymysg â barddoniaeth, alawon gwerin, hwiangerddi a cherdd dant jazzy. Er bod y llinyn storïol a glymai’r cwbwl braidd yn llipa, ac ambell dro gellid amau mai hysbyseb Bwrdd Croeso Gwynedd oedd y cwbwl (come and see the BIG country!) roedd safon y canu a’r gerddoriaeth yn arbennig iawn, iawn ac roedd hi’n noson werth chweil.
Dyma ddylanwad Cefin Roberts, a bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn perfformio’r ddrama gerdd Hen Rebel yn yr Hydref. Fel un sy’n grediniol, heb fawr o eironi, mai The Sound of Music yw’r ffilm orau erioed, mi ydw i’n falch o weld yr elfen sioe gerdd hon yn cael lle ar ein llwyfan cenedlaethol, er bod puryddion theatr yn debygol o anghytuno. A dim ond bod yna amrywiaeth, i gynnwys clasuron a dramâu newydd, dwi ddim yn rhagweld problemau.
Defnyddiwyd cerddoriaeth fyw eto yng nghynhyrchiad Arad Goch o Confetti. Llwyddodd y cwmni bywiog o dri i dynnu cynulleidfa fechan anghysurus ar eu pennau i mewn i’r chwarae, a hynny ar fyr-rybudd; (methwyd â pherfformio Crash, drama newydd Sarah Moore Williams, oherwydd clwy’r pennau, melltith yr Eisteddfod hon, yn ôl y sôn.)
Ond, diolch byth, roedd arlwy theatr y maes yn ddigon iach. Cafwyd darpariaeth gref gan y cwmnïau amatur gyda Chwmni Bro Cernyw yn mynd â hi gyda’u perfformiad o Leni. Yn ystod yr wythnos hefyd, roedd Sgript Cymru yn dathlu pumed pen-blwydd a chynhaliwyd gweithdy sgriptio, sgwrs heriol gyda’r hen ben, Meic Povey, a detholiad o waith gwreiddiol y cwmni. Er bod y diymhongar Mr Povey yn honni na all neb ysgrifennu drama gwerth ei halen nes cyrraedd ei ddeugain oed, roedd hi’n amlwg o’r pytiau a berfformiwyd bod y cwmni’n credu’n gryf mewn talent ifanc. Er ei bod hi’n anodd mynd i’r afael â’r pytiau byr, roedd o leiaf yn dangos addewid.
Syniad tebyg oedd gan Llwyfan Gogledd Cymru wrth gyflwyno darlleniadau dramatig o waith dan ddatblygiad. Bu Dewi Rhys yn trafod Maes Breuddwydion, drama y mae’n ei hysgrifennu am hynt a helynt criw o gefnogwyr ‘Man U’. Ar ôl gweld pwt difyr o’r ddrama lle ymddengys y bydd gêm bêl-droed go iawn yn cael ei dangos ar sgrîn gydol y perfformiad, cafwyd trafodaeth fywiog. Rhan o’r drafodaeth oedd sut i wneud yn si_r bod y ddrama’n addas i fechgyn ifanc, gan fod y testun yn si_r o apelio. Cwestiwn arall oedd sut argraff wnaiff iaith y Cofi pan ddaw’r cynhyrchiad i Gaerdydd flwyddyn nesaf. Pwy a _yr, ond mi fydd hi’n gêm werth ei gwylio, si_r gen i!
Os oes yna unrhyw gwmni mae’n werth cadw llygaid ar ei ddatblygiad, Llwyfan Gogledd Cymru yw hwnnw, gan ei fod yn ymddangos yn eang a heriol iawn ei ystod. Un cynhyrchiad gan y cwmni na lwyddais i’w weld oedd Caerdroia, perfformiad a osodwyd mewn labyrinth yng Nghoedwig Gwydyr ger Llanrwst. Yno, aiff pob aelod o’r gynulleidfa ar daith unigol i wneud pethau rhyfedd fel gwisgo mwgwd am ei lygaid, golchi ei draed, rhannu hanesion a derbyn cerdd gan brifardd! Er ei fod yn swnio’n brofiad hollol unigryw, dim ond hanner difaru ydw i nad oedd gen i noson rydd ar ôl i brofi Caerdroia, hunllef yr hen audience participation yn dod yn ôl i’m dychryn unwaith eto debyg iawn!
Does yna ddim byd cystal â chael amrywiaeth dewis, ac i mi, o leiaf, mi oedd yna ddigon o hwnnw yn Eisteddfod Eryri. Rhywbeth i’w weld a’i flasu a’i deimlo yn y pen draw yw theatr ac mae’n rhaid gallu denu pobl yno. Yn sicr, fe wnaed hynny yn yr Eisteddfod hon, ac mae’n braf gwybod nad fi ydi’r unig un sy’n ‘sgut’ am noson ddiwylliannol!
awdur:Gwenan Mared
cyfrol:513, Hydref 2005
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com