Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Gwyntoedd Croesion

Mae Gareth Miles yn cynnig dehongliad ar ‘ddrama ar wleidyddiaeth Cymru’ a luniwyd yn y 1920au; drama sy’n dweud llawer am Sosialaeth a Chenedlaetholdeb yng Nghymru heddiw.

Y Cefndir

‘Drama ar Wleidyddiaeth Cymru’ yw is-deitl Gwyntoedd Croesion ac ers rhai blynyddoedd bu Wil Garn a minnau o’r farn fod hon ymhlith goreuon y genre. Edmygem dreiddgarwch y dadansoddiad o’r croestyniadau politicaidd a gythryblai ein gwlad ar adeg tyngedfennol yn ei hanes diweddar; eithr gan holi a yw hi’n ddrama a fyddai’n diddanu cynulleidfaoedd dros bedwar ugain o flynyddoedd er pan y’i llwyfannwyd gyntaf. Diolch i hynawsedd Cefin Roberts a Judith Roberts, Cyfarwyddwr a Dirprwy-gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, a doniau actorion craidd y Cwmni cawsom ateb i’n cwestiwn.

Am bythefnos ym mis Mehefin eleni cynhaliodd Th.G.C. gyfres o ddarlleniadau o ddramâu y tybiai Cefin a Judith y gellid ystyried eu llwyfannu yn ystod y blynyddoedd nesaf. Derbyniasant ein hawgrym fod Gwyntoedd Croesion yn haeddu sylw a fore dydd Mercher, Mehefin 29, aeth Wil a minnau draw i bencadlys dros dro y Cwmni i wrando ar actorion yn ei darllen am y tro cyntaf ers blynyddoedd maith.

Yn bresennol yn y darlleniad yr oedd: Cefin Roberts, Judith Roberts, Rhian Blythe, Carys Eleri Evans, Owen Arwyn, Dave Taylor, W.O. Roberts a Gareth Miles.

Yr Awdur

‘FRANCIS, JOHN OSWALD (1882-1956), dramodydd a anwyd ym Merthyr Tudful, Morg. Wedi ei addysgu yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ymunodd â’r Gwasanaeth Sifil yn Llundain ond cadwodd gysylltiad clos â Chymru lle y cyhoeddwyd ac y perfformiwyd ei waith. Llwyfanwyd ei ddrama Mrs Howells Intervenes (a ail-enwyd yn ddiweddarach The Bakehouse) yn Llundain yn 1912. Wedyn daeth Change, drama a seiliwyd ar streic gweithwyr rheilffordd yn Llanelli yn 1911, ac a enillodd iddo wobr a roddwyd gan yr Arglwydd Howard de Walden am ‘ddrama addas i gwmni cenedlaethol’. Cymerai J. O. Francis ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth Ryddfrydol yn ei ddyddiau cynnar ac ysgrifennodd y ddrama Cross Currents: a play of Welsh politics (1923). Ond nid oherwydd yr elfen hon o realaeth gymdeithasol y cofir ei waith. Ei waith mwyaf adnabyddus yw ei gomedi wledig un-act, The Poacher (1914)...’

(Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru – gol. Meic Stephens)

Y Cyfieithydd

Troswyd Cross Currents i’r Gymraeg gan R. Silyn Roberts (1871-1930) yn fuan iawn wedi i Francis ei hysgrifennu.

Cefndir Hanesyddol y Ddrama

Roedd y cyfnod rhwng diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1918 a dechrau’r Dirwasgiad yn 1929 yn un cythryblus ledled Ewrop a’r Unol Daleithiau. Roedd Chwyldro Bolsieficaidd 1917 yn ysbrydoliaeth i werinoedd ac yn fraw i gyflogwyr, tirfeddianwyr a cheidwaid y drefn. Roedd esiampl gwledydd dwyrain Ewrop a ymryddhaodd o ormes ymerodraethau’r Almaen, Awstria, Rwsia a Thwrci yn ennyn dyheadau am annibyniaeth ymhlith cenhedloedd di-wladwriaeth Ewrop. Yn Neheudir Cymru, roedd y glowyr a gweithwyr diwydiannol eraill dan arweiniad Sosialwyr a Chomiwnyddion fel A.J. Cooke ac Arthur Horner yn galw am ddisodli’r drefn gyfalafol gan Sofiet Brydeinig a Chenedlaetholwyr a daniwyd gan Wrthryfel y Pasg a’r Rhyfel Annibyniaeth yn Iwerddon yn meddwl am ffurfio ‘Sinn Fein’ Cymreig. Yn etholaethau cymoedd y De, disodlwyd y Blaid Ryddfrydol gan y Blaid Lafur ac roedd y Rhyddfrydwyr yn rhanedig drwy Brydain, y naill garfan yn dilyn y Prif Weinidog, David Lloyd George a’r llall, a wrthwynebai’r Llywodraeth, yn derbyn arweiniad H.H. Asquith.

Y Cymeriadau

Gareth Parri, 38, darlithydd mewn Economeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd a mab i’r diweddar Gwilym Parri, A.S., a fu farw’n ifanc ar ôl cymryd rhan flaenllaw yn ymgyrchoedd y mudiad Cymru Fydd, yn ystod chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg; bu hefyd yn lladmerydd grymus dros hawliau’r tenantiaid yn erbyn landlordiaeth. (cf. T.E. Ellis, 1859-99).

Y Parchedig Trefnant Jones, gweinidog wedi ymddeol ar ôl gwasanaethu ei enwad yn Lerpwl am flynyddoedd.

Gomer Davies, mab i was ffarm tlawd sydd wedi mudo i Donypandy.

Mrs Parri, mam Gareth.

Evan Parri, ewythr Gareth a’i wraig Ann; Yr Hen Domos (gwas ym Mronawel ers dyddiau Gwilym Parri M.P.); Letisia, morwyn Bronawel; John Morgan, Manchester House; John Davies-Hughes, Benjamin Rees, Amos Roberts, Richard Owen, John Williams, Tan y Graig, Thomas Peters, Bryn Coch, Robert Jones, Glanrafon (ffermwyr a siopwyr, ceffylau blaen cymdeithas, Rhyddfrydwyr ac Anghydffurfwyr cadarn, bob un).

Ymwelwyr.

Golygfa

Stydi Bronawel, ffermdy yn agos i bentref Dinas yng ngogledd Cymru; yr un yw’r olygfa trwy’r ddrama.

Amser

ACT I. – Bore Mercher yn wythnos olaf Gorffennaf, 1921. ACT II. – Golygfa I. Prynhawn Iau oddeutu dau o’r gloch. Golygfa II. Oddeutu hanner awr wedi tri yr un prynhawn. ACT III. – Oddeutu saith o’r gloch yn hwyr yr un dydd.

Y Chwedl

Ar ddechrau’r ddrama mae Gareth Parri yn disgwyl yn eiddgar am ymweliad y postmon gyda llythyr fydd yn rhoi gwybod iddo a benodwyd ef yn Athro Economeg yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe (sydd newydd ei sefydlu). Yn ystod sgwrs rhwng Gareth, ei fam, ei ewythr a’i fodryb a’r hen was ffyddlon, Tomos, ategir drwgdybiaeth Mrs Parri o ddylanwad y De ar ei mab pan glyw ef yn siarad yn edmygus am ei gyfaill, Gomer Davies, bachgen lleol llai breintiedig sydd wedi ymgartrefu yno:

GARETH: Bolshefic chwilboeth ... adref ar ei wyliau o Donypandy; ac ’roedd o’n siarad Moscow pur wrthyf – gydag acen Gymreig gref. Ac am Lewis Edwards y Bala – nid oedd mwy o ystyr yn yr enw iddo fo na phe buasai yn Grand Lama Tibet!

Clywn fod Gareth wedi traddodi araith deilwng o’i dad mewn eisteddfod leol y noson gynt ac wedi iddo adael y stafell deallwn y byddai’n well gan Mrs Parri a’r lleill weld Gareth yn aelod seneddol nag yn ‘broffeswr’.

Yn ystod absenoldeb Gareth clywn am farwolaeth Ffoulkes-Jenkins, yr A.S. Rhyddfrydol diddrwg-didda a fu’n cynrychioli’r etholaeth oddi ar farwolaeth Gwilym Parri a bod y newydd hwnnw wedi ysgogi’r Parch. Trefnant Jones i ddychwelyd i’w fro enedigol ar frys gyda’r bwriad o ymweld â Bron Awel. Yn ddiweddar iawn, etifeddodd Trefnant ffortiwn o £200,000 ar ôl ei fasnachwr llwyddiannus o frawd a phan gyrhaedda mae’n datgan y bwriada ddefnyddio’i ‘hylltod o arian’ i hyrwyddo’r amcanion a’r delfrydau y bu ef a Gwilym Parri yn ymgyrchu trostynt:

TREFNANT: A’r holl arian yma – welwch chi! Gallu mawr ydi o. Yr ydw i wedi gwasanaethu fy nghenedl am flynyddoedd meithion – do, ac yn nesaf at y Duw Anfeidrol! Ac yn awr hefo’r holl arian yma yn fy llaw mi gwasanaethaf hi eto ... Mi wyddoch sut y mae hi yng ngwleidyddiaeth Cymru. Pan ddaw ein gw_r ieuainc ymlaen i sefyll etholiad rhaid iddynt gael help ariannol gan un o’r pleidiau mawr yn Lloegr ... ’Rydw i am roi cyfle i rai o’n Cymry ieuainc i ymladd nid fel Rhyddfrydwyr ond fel Cymry cenedlaethol – yn rhwym i neb na dim ond eu cenedl eu hunain.

Pan glyw Gomer Davies fod is-etholiad ar y gorwel, daw yntau draw i Fronawel i ofyn i Gareth Parri gefnogi ei ymgeisyddiaeth ef dros y Blaid Lafur, neu, yn well fyth, iddo ef ei hun sefyll dros Lafur. Nid yw geiriau Gomer yn llai huawdl na’i weledigaeth yn llai eirias nag eiddo Trefnant:

GOMER: ... Rydwi’n cofio’r llu fu farw cyn ’i hamsar – wedi gwisgo allan a thorri. Rydwi’n meddwl am y rhai sydd eto heb ’i geni. Ac mi dyngis i Dduw, pwy bynnag alla hwnnw fod, y rhown i ’mywyd i newid pethau i ’nosbarth fy hun...

... Gareth, Gareth, – rhaid i chi beidio bod yn chwit chwat r_an. Mae hi’n d_ad – popeth y breuddwidiais amdano, yr ymdrechais erddo, ie, ac y newynais er ’i fwyn. Dyma ni’n cario’r frwydr y tu allan i’r rhanbarthau diwydiannol r_an. Mae’r gwas ffarm yn deffro – yn dechra teimlo i bwy mae o’n perthyn.

GARETH: Dyna chi, Gomer; dosbarth, dosbarth, dosbarth!

GOMER: Yn sicir i chi, Gareth, nid oes iechydwriaeth i’r gweithwyr ond trwy ymuno â’i gilydd – tros bob cyffiniau, a thrwy bob gwrthgloddiau iaith ... nid oes ffordd arall. Un ai’r Labour International – neu fod dan draed.

Yn y drydedd act, clywir Trefnant a Gomer am y gorau i argyhoeddi Gareth a gwrandawyr eraill o ddilysrwydd eu daliadau:

TREFNANT: Gyfeillion, nid wyf yn ffwl ddigon dall a chul i siarad yn ddifriol am genedl y Saeson. Pobl nerthol ydynt hwy, a rhywbeth anorchfygol yn eu gwareiddiad. Ac y mae Lloegr yn gadael llonydd i ni. Yn ei ffordd ddifater y mae’n garedig ac hyd yn oed yn haelionus tuag atom. A ’rydw i’n dweud wrthych gyda phob difrifwch fod Lloegr o achos hyn yn fwy peryglus nag erioed. Mae ei grym yn treiddio i bobman ac yn lefeinio popeth. Nid bygwth ein gorthrymu y mae Lloegr, ond bygwth ein llyncu...

Beth yw dalennau ardderchocaf hanes? Y rheiny sy’n traethu am y cenhedloedd bychain yn ymladd i gadw eu heneidiau’n fyw. Mae lluoedd o ddynion, rhai enwog a llawer anenwog wedi caru’r tir hwn a garwn ni, wedi gweithio trosto, ymladd trosto a marw trosto yn y diwedd ... (Pwyntia â’i law trwy’r drysau gwydr) Bum cant o flynyddoedd yn ôl ar ael y bryn acw cerddai Cymro mawr, ysgolhaig, gwladweinydd, milwr. Yr oedd yn wahanol iawn i ni mewn llawer peth. Ond yn ei gariad at Gymru yr oedd Glynd_r yn un ohonom. Yn y nwyd hwn gallwn ei ddeall. Ac yn y nwyd hwn y dylid ein deall ninnau. Efe yw ein harwr a’n hysbrydoliaeth. Efe yw arwyddlun gweledig breuddwydion ac ymdrechion mil o flynyddoedd. A yw’r enw hwn i golli ei ystyr? Ai yn ofer y bu’r holl obeithio hwnnw, y goddef a’r dioddef poen? Na, nid yn ofer. Ni chaiff fyned yn ofer. Gydwladwyr, mae’r _ys i’r gad wedi cyrraedd eto. Mae s_n yn y dyffryn, eco’r anfarwol lef. Gwrandewch! Glywch chi? Utgorn Glynd_r? (Am foment saif yn ystum un yn gwrando. Dan ei gyfaredd try ei wrandawyr yn reddfol i wrando hefyd.)

LLEISIAU (yn murmur) Glynd_r! Glynd_r!

Dyma Gomer yn herio apêl Trefnant ar i Gareth ymwrthod â’r fateroliaeth sosialaidd:

GOMER: A’r credo cenedlaethol yma ’rydach chi mor awyddus i’w bregethu o – beth yw ffrwyth hwnnw? Beth sydd wedi mwydo Iwrob mewn gwaed am bum can mlynadd? A phwy gafodd y proffid? Brenhinoedd, tywysogion a chyfoethogion, a’r bobol yn ’i gofid a’u dagrau yn talu am y cwbwl. Ma hi’n bryd i roi gorau i sentimentaleiddio yng nghylch cenhedloedd...

TREFNANT ... Proffid, cyflogau! Ai tybed na cheir byth derfyn ar y siarad yma am gyflogau a phroffid? Gareth, nid er mwyn cyflog a phrofid yr ydw i’n galw arnoch chi i weithio, ond er mwyn rhywbeth uwch, rhywbeth a adwaenom yn ein heneidiau yn unig – ein cariad at ein gwlad, brawdoliaeth y Cymry, tlawd a chyfoethog yr un fath...

GOMER: Gareth, os ydan ni am wynebu ffeithia, rhaid i ni eu hwynebu, hyd yn oed y ffeithia yng nghylch eich tad. (Yn troi yn siarp at EVAN) Aflonyddwr ydw i, meddwch? Gwir! Rydw i’n ennyn fflam rhyfal rhwng dosbarthiada cymdeithas yn y sir yma? O’r gora! Pwy gychwynodd beth felly yn y sir? Pwy ddeffrodd y ffermwyr a’u harwain yn erbyn yr ysweiniaid? Gwilym Parri.

GARETH (yn syn): Beth?

EVAN: Dydi hynna ddim yn deg. Saeson oedd yr ysweiniaid.

TREFNANT: Neu waeth byth – Cymry wedi troi eu cefnau ar eu pobl eu hunain. Arwain protest gyfiawn yn erbyn gormes a wnaeth Gwilym Parri.

GOMER: Ia, mi wn. Pan gododd ffermwyr y dosbarth canol yn erbyn yr arglwyddi tir protest gyfiawn oedd hynny. Ond pan feiddia’r gweision druain ddadleu ei hiawnderau yn erbyn y ffermwyr rhaid galw hynny yn rhyfal dosbarth. Mab i was ffarm ydw i. Beth gawson ni allan o’r fuddugoliaeth enwog honno? Dim, llai na dim! Defnyddiasoch enw’r genedl i gau yn safna ni tra y byddech chi’n sicrhau’r gallu a’r awdurdod yn ych dwylo’ch hunain.

Ond yn ofer y rhethrega y cenedlaetholwr a’r sosialydd. Ar ddiwedd y ddrama deil pen-ôl Gareth Parri, y mab darogan manqué, yn sownd ar dop y clawdd a’i lygaid ar y broffeswriaeth yn Abertawe.

GARETH: Foneddigion, diolch yn fawr i chi am eich holl garedigrwydd. Ond rydw i’n gweld fy ffordd ac wedi setlo beth i wneud. Gomer, Trefnant, nid y fi ydi’r dyn i’r naill na’r llall ohonoch chi. Dyma ni yng nghanol gwyntoedd croesion ein hoes, a fy nheimlad i yw y rhaid i rai ohonom geisio aros y tu allan i’r rhyferthwy. Rhaid i rywrai ymysgwyd oddi wrth eich holl raglenni a’ch gwleidyddiaeth ymarferol. A phwy _yr nad y rheiny yn y pen draw a wna’r peth mwyaf angenrheidiol i rwystro dinistr y cwbl a adeiladodd dyn.

MORGAN: Beth ydi hynny?

GARETH: Meddwl – meddwl – meddwl!

Y Drafodaeth

Cytunwyd bod i’r ddrama ei rhinweddau a’i diffygion. Ei rhagoriaethau pennaf yw ei hymdriniaeth ddeallus o gyfnod allweddol yn hanes diweddar Cymru a’r ddeialog, yn enwedig areithiau Gomer a Trefnant, sy’n hynod o effeithiol.

Buasai drama ac iddi gast un-ar-bymtheg (o leiaf!), heb fod y rhan fwyaf o’r rheiny’n llefaru mwy na dwy neu dair linell, yn ormod o dreth ar adnoddau ein Theatr Genedlaethol, oni bai ei bod yn gampwaith celfyddydol. Mae hynny ymhell o fod yn wir am Gwyntoedd Croesion, gwaetha’r modd. Disylwedd-dod ei phrif gymeriad, Gareth Parri, yw’r gwendid pennaf. Mae’n 38 mlwydd oed ond nid oes sôn fod ganddo na gwraig na chariad. Cyfeiria sawl cymeriad arall at ddawn areithyddol Gareth ond ni chawn brawf o hynny. Dywedir ei fod yn feddyliwr praff ond encilio yw ei ymateb i her ideolegol Gomer ar y naill law a Trefnant ar y llall. A beth fu ei hanes yn ystod y Rhyfel Mawr? Ai oherwydd ei gysylltiadau â’r Taffia Rhyddfrydol, a oedd mor ddylanwadol tua San Steffan a Whitehall yn y blynyddoedd hynny, nas anfonwyd ef i’r ffosydd? Mae dylanwad ei rieni’n drwm ar Gareth Parri ond ni archwiliwyd dyfnderoedd emosiynol y berthynas honno fel y buasai Ibsen wedi gwneud. Mae’n debyg fod J.O. Francis yn ystyried ei hun yn ddisgybl i’r dramodydd Norwyaidd ond ni cheir yn ei weithiau ef y cyfuniad o naturiolaeth, symbolaeth, a threiddgarwch seicolegol sy’n nodweddu gweithiau’r meistr.

Gwas sifil oedd Francis. Dyn wedi arfer bwrw golwg gytbwys ar broblemau cymdeithas a chloriannu’r ddadl o blaid ac yn erbyn unrhyw gynnig yn bwyllog cyn llunio memorandwm cymrodeddus. Un tebyg i Gareth Parri. Dyna pam na ellir cymharu Francis hyd yn oed â George Bernard Shaw. Er na feddai gweithiau ffraeth y Gwyddel rymuster a dyfnder emosiynol rhai y Norwyad, llwyddant i ddiddanu cynulleidfaoedd hyd heddiw wrth danseilio rhagrith a rhagfarnau cymdeithas.

Tanlinellodd ein darlleniad y gwirionedd sylfaenol mai dirgelion y galon ddynol, ei dyheadau, ei serchiadau a’i hofnau, yw cynhwysyn creiddiol, hanfodol pob drama, hyd yn oed ‘drama syniadau’. Prin yw’r elfen honno yn Gwyntoedd Croesion.

Tybiai W.O.R. y gellid llwyfannu’r ddrama eto petai hi’n cael ei hailwampio gan wneud Gomer yn ferch a hithau a Gareth yn gariadon. Posibilrwydd arall fyddai gwneud Gareth a Gomer yn gariadon heb newid rhyw y ‘Bolshefic’. Byddai honno’n ddrama ddiddorol iawn pe ceid dramodydd hoyw, dawnus i gymryd at y swydd.

Y dyfodol

Argyhoeddwyd pawb a gymerodd ran yn y darlleniadau hyn o’u gwerth ymarferol ac addysgol a’u bod yn teilyngu eu lle yng nghalendr y Theatr Genedlaethol. Mae’n bosib y caiff aelodau o’r cyhoedd eu gwahodd i rai o’r darlleniadau yn y dyfodol ac y cynhelir hwy yn rhywle mwy hygyrch na chartref dros dro Th.G.C..

Ôl-nodiadau

(Eiddo awdur yr awdur hwn a neb arall yw’r farn a draethir yn y paragraffau isod)

Mae’n arfer ar ddiwedd ffilm neu ddrama deledu ac iddi thema hanesyddol i nodi beth fu tynged y prif gymeriadau wedi i’r chwarae ddod i ben. Dyma ddamcaniaethu yngl_n â’r hyn a ddigwyddodd i Gareth Parri, Gomer Davies, y Parch. Trefnant Jones a Chymru yn dilyn y noswaith annhyngedfennol honno yn wythnos olaf Gorffennaf, 1921.

Gareth Parri

Ddeng mlynedd wedi ei benodi’n Athro Economeg Coleg Brifysgol Abertawe, fe’i dyrchafwyd yn Brifathro’r Coleg a rhoddodd arweiniad pwyllog a chydwybodol i’r sefydliad hwnnw hyd ei ymddeoliad yn 1948. O hynny hyd ei farwolaeth yn 1956 parhaodd i wasanaethu ei genedl fel aelod o gyrff dylanwadol megis Llys a Chyngor Prifysgol Cymru, Cyngor Cymreig y BBC a Chyngor Celfyddydau Cymru. Cydnabyddwyd ei gyfraniad gwerthfawr i fywyd Cymru yn 1950 pan urddwyd ef yn farchog. Priododd yn 1923 ag Elizabeth Jane Caruthers o’r Bontfaen, myfyrwraig yn Adran Economeg Coleg Abertawe a’r ferch gyntaf i raddio yno yn y pwnc. Ganwyd dau o blant i Syr Gareth Parry a Lady Elizabeth, Gwilym a ddaeth yn Athro Cemeg ym Mhrifysgol Rhydychen a Dorothy, gweddw y diweddar Air Vice Marshal Sir Godfrey Loudon.

Y Parch. Trefnant Jones

Bu farw Mr Jones yn 1922, gan adael ei arian i’w ddosbarthu ymhlith achosion ei enwad yn Lerpwl. Mae’r rheini bellach wedi hen ddiflannu a’r capeli a’u cartrefai yn glybiau yfed, siopau carpedi, neu’n addoldai a fynychir gan fewnfudwyr diweddarach na’r Cymry ac sy’n arddel credoau pur wahanol iddynt. Petai’r Parch. Trefnant Jones wedi cael byw ychydig flynyddoedd yn hwy dichon y buasai’r Blaid Genedlaethol, a sefydlwyd yn 1925, wedi elwa. Cofier mai yn Lerpwl y ganwyd ac y magwyd Llywydd cyntaf y Blaid, Saunders Lewis.

Gomer Davies

Wedi ymgyrch etholiadol aflwyddiannus ond anrhydeddus yn yr is-etholiad dychwelodd Gomer i’r De ac ail-gydio yn ei weithgareddau gwleidyddol ac undebol. Carcharwyd ef am chwe mis yn 1926, blwyddyn y Streic Gyffredinol, am ei ran mewn ymrafael rhwng aelodau o’r ‘Fed’ a phlismyn oedd yn gwarchod cynffonwyr, ac am fis yn 1936 am ei ran mewn gwrthdaro rhwng plismyn a’r rhai a wrthwynebai ymweliadau Oswald Mosley, arweinydd y British Union of Fascists, â chymoedd y De. Cyrhaeddodd Gomer Davies San Steffan yn 1945, fel Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth lofaol. Bu’n Weinidog Gwladol yn y Swyddfa Gymreig am gyfnod yn ystod Llywodraeth Lafur Harold Wilson (1964-70). Ni safodd yn etholiad cyffredinol 1974 ond cyfnewidiodd ei sedd yn Nh_’r Cyffredin am un yn Nh_’r Arglwyddi gan arddel y teitl ‘Lord Gomer of Dinas’.

Petai Gomer wedi ymuno â’r Blaid Gomiwnyddol yn hytrach na’r Blaid Lafur ei wobrau am oes o wasanaeth i’r werin weithiol fuasai sedd ar Gyngor Sir Morgannwg a gwyliau rhad yn yr Undeb Sofietaidd a’r gwledydd Sosialaidd.

Cymru

Yn Gwyntoedd Croesion mae J.O. Francis yn portreadu gyda chraffter anghyffredin ffurfiadau’r Blaid Lafur Gymreig a’r Blaid Genedlaethol, gan ddadlennu diffygion hanfodol yn y ddwy blaid sydd wedi cystadlu am y bleidlais flaengar yng Nghymru yn ystod y pedwar ugain mlynedd diwethaf. Nid yw Gomer Davies yn deall na ellir chwyldro cymdeithasol heb blaid chwyldroadol. Er tanbeitied ei argyhoeddiad, ideoleg philistaidd-faterol ac unoliaethol-Brydeinig yw ei Sosialaeth ef. Nid oes ganddo’r amcan lleiaf o botensial blaengar y dimensiwn cenedlaethol Cymreig; yn wahanol iawn i James Connolly yn Iwerddon, John Maclean yn yr Alban ac Antonio Gramcsi, y Sardwr a arweiniai Blaid Gomiwnyddol yr Eidal yn y dauddegau a’r tridegau.

Crwsâd ysbrydol yw Cenedlaetholdeb y Parch. Trefnant Jones heb nemor ddim cynnwys cymdeithasol a apeliai at werin weithiol anghenus y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel byd. Buasai wedi teimlo’n gartrefol yn y Blaid Genedlaethol ac mae hynny’n esbonio pam na fu i’r ‘Blaid Bach’ apelio at nemor neb ond ‘prygethwrs a titsiars’ tan y chwedegau.

Erbyn hyn mae’r Blaid Lafur wedi cefnu ar Sosialaeth a Phlaid Cymru-The Party of Wales wedi cefnu ar Genedlaetholdeb; y naill yn cael ei harwain gan yrfawyr, bradwyr a throseddwyr rhyfel a’r llall gan ddynion neis, di-glem. Eithr mae gennym ni ein Cynulliad Cenedlaethol. ‘Mid-Glamorgan County Council on stilts’ oedd darogan aelod o’r WAG presennol wrthyf yn 1997. Gwireddwyd ei phroffwydoliaeth.

Biti garw nad ellir llwyfannu Gwyntoedd Croesion yn ei ffurf bresennol gan ei bod yn cynnig esboniad dilys, yn fy marn i, o gyflwr truenus gwleidyddiaeth y Gymru sydd ohoni. Cytuno â hynny ai peidio, pwy a wad gywirdeb disgrifiad Trefnant o’r berthynas oesol rhwng Cymru a Lloegr?

Ac y mae Lloegr yn gadael llonydd i ni. Yn ei ffordd ddifater y mae’n garedig ac hyd yn oed yn haelionus tuag atom. A ’rydw i’n dweud wrthych gyda phob difrifwch fod Lloegr o achos hyn yn fwy peryglus nag erioed. Mae ei grym yn treiddio i bobman ac yn lefeinio popeth. Nid bygwth ein gorthrymu y mae Lloegr, ond bygwth ein llyncu...

awdur:Gareth Miles
cyfrol:513, Hydref 2005

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk