Byd y Cyfarwyddwr
Ar Theatr y Maes yn Eisteddfod Eryri eleni cafwyd sgwrs gydag Angharad Elen, Rheolwr Llenyddol Sgript Cymru yn holi Elen Bowman, Cyfarwyddwr Cyswllt y cwmni hwnnw am gyfarwyddo, actio a chyflwr y theatr Gymraeg yn gyffredinol.
Angharad Elen: Rwyt ti’n gyfarwyddwr theatr a theledu; be ddenodd chdi at gyfarwyddo yn y lle cynta’?
Elen Bowman: Fe wnes i gyfarwyddo sioe gerdd Blodeuwedd pan o’n i’n 17 mlwydd oed ac mi ges i wefr aruthrol o wneud hynny. Sylweddolais gymaint o her oedd bod yn gyfrifol am greu theatr. Does dim byd gwell na gosod byd dychymyg y dramodydd ar lwyfan – o’r actio i’r gerddoriaeth i’r cynllun. Ond mynd i actio wnes i ar ôl hynny. Do’n i ddim wedi ystyried datblygu gyrfa fel cyfarwyddwr bryd hynny.
AE: Ar ôl astudio fel actores yn RADA, es ti ymlaen i wneud cwrs tair blynedd mewn cyfarwyddo yn The School of the Science of Acting and Directing yn Llundain. Yn ôl syniadaeth yr ysgol honno, mae’n rhaid i bob cyfarwyddwr fedru actio er mwyn deall proses greadigol yr actor. Sut wyt ti’n meddwl mae dy gefndir actio di wedi bod o gymorth i ti wrth gyfarwyddo?
EB: Her y cyfarwyddwr yw darganfod iaith fydd yn helpu’r actor yn ymarferol. Yn anorfod felly, mae meddu ar brofiad actio yn mynd i roi gwell syniad sut i fynd ati i greu cymeriad, a thrwy hynny, sut i gyfarwyddo eraill. Yn ddi-os, felly, mae’r profiad o berfformio ar lwyfan wedi rhoi persbectif gwerthfawr i mi. Mae gen i brofiad o’r cyfnod ymarfer, a’r cyfnod cyn agor sioe – er enghraifft, dydw i ddim yn rhoi nodiadau dwys a chymhleth i actorion yn syth cyn i sioe agor am fod ffocws yr actor bron yn gyfan gwbl ar y noson agoriadol. Mae sefyll ar lwyfan o flaen pum cant o bobl yn brofiad arbennig ac yn gam sydd yn si_r o ddatblygu’r ddrama a pherfformiad unigol yr actor ymhellach. Bydd yr actor yn llawer parotach i dderbyn nodiadau ar ôl y cyfnod yma.
Dwi’n cofio bod yn rhan o gyfnod ymarfer eithaf anodd yn y gorffennol, lle’r oedd tensiwn yn yr ’stafell ymarfer oherwydd bod rhai unigolion yn teimlo’r angen i lwyddo a’r angen i fod yn ‘well na’r lleill’. O ganlyniad, yr hyn dwi’n ei wneud mewn sefyllfaoedd o’r fath erbyn hyn yw caniatáu i bob actor fethu. Mae hyn wastad yn newid tôn yr ymarfer ac yn raddol daw pawb i ddechrau mwynhau’r gwaith unwaith eto. Rhaid bod yr actorion yn gallu teimlo’n rhydd wrth weithio.
AE: I fynd yn ôl at dy gyfnod di yn The School of the Science of Acting and Directing. Sefydlydd yr ysgol honno – ac un o dy diwtoriaid tra oeddet ti’n astudio yno – oedd y diweddar Sam Kogan. Dwi’n ymwybodol bod yr actorion Morfudd Hughes a Siw Hughes, ymhlith eraill, wedi bod ar rai o’i gyrsiau. Mae o’n swnio fel hanner ffordd rhwng rhyw guru athrylithgar ac unben gwallgo. Sut brofiad oedd cael dy hyfforddi ganddo fo?
EB: Ganwyd Sam yng nghyfnod Stalin a gadawodd Rwsia yn 1973. O ganlyniad dwi’n credu bod ei ddulliau yn deillio o’r gymdeithas unbenaethol honno. Bu’n gweithio yn y diwydiant theatr mewn nifer o wahanol sefydliadau ac roedd ei angerdd a’i awydd i ddyrchafu actio a chyfarwyddo fel gyrfaoedd o safon yn chwa o awyr iach. I mi, dull Sam oedd yr unig ddull gwerth ei astudio. Roeddwn i’n dysgu cymaint am fyd y ddrama o dan ei adain ef, nes ro’n i’n fodlon cuddio fy amheuon am agweddau eraill o’r cwrs. Ond yn y diwedd, aeth pethau’n chwithig ac anodd iawn rhyngom ni. Roedd Sam yn mynnu bod rhaid i ni fod yn gwbl ffyddlon i’w ddull ef ond fedrwn i ddim arddel hyn. I mi, hanfod addysg yw’r hawl i arbrofi a datblygu dulliau personol o weithio. Roedd Stanislavski ei hun yn cadw llyfr yn ei ystafell ymarfer i annog ei fyfyrwyr i greu ymarferion newydd a gwneud nodyn ohonynt. I mi, mae’r rhyddid i arbrofi yn rhan annatod o’r broses. Ond er y problemau hyn, rhoddodd Sam Kogan sylfaen gwerthfawr i mi rydw i wedi ei ddefnyddio dro ar ôl tro a dwi’n hynod ddiolchgar am hynny.
AE: Mi hyfforddwyd Sam ym Moscow o dan adain Maria Knebl, un o ddisgyblion a chyd-weithiwyr Stanislavski. Dwi’n gwybod dy fod ti’n hoff iawn o arddull
theatr Rwsia. Be sy’n dy ddenu di at y dull yma o actio a chyfarwyddo?
EB: Pan es i allan i Rwsia, ges i sioc i ddarganfod faint o barch ac amser sy’n cael ei roi i astudio actio a chyfarwyddo. Mae cyrsiau cyfarwyddo, er enghraifft, yn para pum mlynedd – hyd addysg meddyg yn y wlad yma. Sylweddolais hefyd bod y grefft yn mwynhau statws gwahanol yn Rwsia. Mae’r actorion yn cael eu hyfforddi mewn nifer fawr iawn o wahanol ffyrdd – dyma sydd i gyfrif am y ffaith fod dramâu Rwsieg yn aml iawn yn llawn gwaith corfforol anhygoel – trapeze, acrobateg, gwaith hud a lledrith ac ati. Bu’n agoriad llygad ac yn ysbrydoliaeth enfawr i mi.
AE: Rwyt ti’n gyd-gyfarwyddwr Artistig Living Pictures Productions, sef cwmni wnes ti a dy _r, Robbie ei sefydlu yn ôl yn 1999. Pam yr enw ‘Living Pictures’?
EB: Mae’n ffaith ein bod ni i gyd yn meddwl mewn lluniau. (I brofi hyn, ceisiwch feddwl am eich stafell wely pan oeddech chi’n blentyn, neu am ddilledyn arbennig sydd gennych yn eich cwpwrdd gartref.) Os taw dyma’r broses naturiol o feddwl, yna beth sy’n wahanol ar lwyfan? Beth all ddigwydd yn aml yw bod actor yn profi ei gymeriad drwy eiriau yn unig. Fy ngwaith i fel cyfarwyddwr yw gofyn cwestiynau sy’n helpu’r actor i greu lluniau i’r cymeriad. Erbyn diwedd y cyfnod ymarfer, bydd y lluniau yma yn ymddangos yn naturiol wrth i’r actor berfformio.
AE: Ers i chdi ymuno efo Sgript Cymru fel Cyfarwyddwr Cyswllt yn ôl yn 2002
rwyt ti wedi cyfarwyddo amryw o ddramâu newydd Cymraeg. Be ydi’r sialens fwya’ i chdi wrth fynd ati i ddatblygu sgript newydd efo awdur? Be ydi’r
tensiynau rhwng gweledigaeth yr awdur a gweledigaeth y cyfarwyddwr?
EB: Er bod pob awdur yn hollol wahanol, mae fy mhroses i wastad yr un fath – dehongli’r ddrama yn y gwagle a cheisio rhoi bywyd i’r stori mewn modd theatrig. Pan dwi’n darllen sgript am y tro cyntaf, fel arfer bydd problemau neu ffeithiau anghyson yn dod i’r golwg. Mae trafodaeth gyda’r awdur yn bwysig iawn wrth ddatrys y problemau yma. Fy swydd i yw sicrhau bod yr awdur yn mynegi ei weledigaeth yn y modd mwyaf theatrig. Yn aml iawn, mae’r awdur ei hun yn dal i arbrofi ac yn dal i fod yn ansicr yngl_n â beth yn union yw ei stori. Yn amlach na heb mae egin y syniad cychwynnol yn blaguro i fod yn rhywbeth hollol wahanol sydd, wrth gwrs, yn rhan o’r broses organig o ’sgrifennu drama. Mae amser yn elfen hollbwysig. Yn yr RSC yn Stratford, mae dramâu newydd yn cael blwyddyn o ddatblygu ar ôl cyrraedd y llwyfan ac yn dilyn hynny, perfformiad pellach mewn theatr yn Llundain. Dwi’n gwybod, er enghraifft, fod drama newydd David Edgar, The Prisoner’s Dilemma, wedi cael ei newid yn gyson dros gyfnod hir o amser. Byddai’n braf petai gennym ni’r adnoddau i fedru gwneud rhywbeth tebyg yng Nghymru.
Yr hyn sy’n werthfawr am y cyfnod ymarfer yng nghyd-destun drama newydd yw bod pob actor yng ngofal ei gymeriad ei hun. Yn sgil hynny, mae’r actorion yn teimlo y gallan nhw gynnig syniadau i’r awdur eu hystyried. Ni all yr awdur wir asesu’r ddrama yn ei chyfanrwydd nes bod yr actorion yn ynganu’r geiriau. Mae’r awdur wastad yn meddwl am y cyfanwaith tra bo’r actor yn gweithio yn bersonol ac o ganlyniad, gall yr actor gynnig cymorth gwerthfawr yn ystod y cyfnod ymarfer.
Mae’n hollbwysig cynnal perthynas dda gyda’r awdur – mae’n rhaid i’r awdur fedru ymddiried yn y cyfarwyddwr gant y cant. Wrth gwrs ni ellir osgoi cyfnodau o rwystredigaeth weithiau pan mae’r awdur a’r cyfarwyddwr yn tynnu mewn gwahanol gyfeiriadau.
Yr her gydag awduron newydd yw deall y cyfrwng. Rhaid dychmygu’r ddrama yn y gwagle a bod yn gwbl ymwybodol o’r elfen weladwy, ac ystyried sut y gall un symudiad corfforol ar lwyfan effeithio ar yr holl olygfa. Er enghraifft, dychmygwch y sefyllfa ganlynol; dau berson yn cael cinio ac yn cael trafferth cyfathrebu. Mewn un llun (os ydyn ni’n meddwl am y sefyllfaoedd ’ma yn weledol) efallai y bydd y naill yn bwyta a’r llall yn pigo ar ei bwyd gyda fforc ac yn chwarae gyda’i gwallt. Mae’r gweithredoedd hynny yn mynd i hoelio sylw’r gynulleidfa yn syth. Mae sefyllfa’r ddau yn cael ei chyfleu yn weladwy gorfforol, yn hytrach nag yn eiriol. Mewn llun arall, beth petaent yn siarad fel melin y gwynt ac yn torri ar draws ei gilydd ac yn cystadlu â’i gilydd? Gellir gweld fod pob symudiad a gair wedi eu dewis a’u dethol yn ofalus er mwyn cyfleu pwrpas y cymeriadau.
Wrth gwrs, pan mae awdur yn ’sgrifennu am y tro cyntaf rhaid gadael i’r cyfan arllwys ar y papur cyn mynd yn ôl a thocio. Wrth ddeall mwy, gall yr awdur fynd ati wedyn i arbrofi. Beth yw’r ffordd orau o gyfleu pwrpas golygfa? Pa fath o eiriau sydd eu hangen (os o gwbl)? Beth mae’r cymeriad yn ei wneud yn gorfforol? Ydi hyn yn cyfrannu at bwrpas y cymeriad? Ac yn y blaen.
AE: Fe wnes ti ddweud wrtha i unwaith dy fod ti wedi cymryd dwy flynedd i gyfarwyddo un ddrama. Pam dy fod ti wedi cymryd cyhyd?
EB: Ar ôl ffurfio Living Pictures yn Llundain, fe wnes i gyfarwyddo drama Roegaidd a hynny mewn pedair wythnos. O’n i’n ysu am gael mwy o amser i archwilio ac arbrofi gyda’r hyn a ddysgais yn y cwrs. Felly penderfynais ddewis deialog gan y dramodydd Almaeneg, Franz Xaver Kroetz, a gofyn i’m g_r a’m cyfaill gymryd rhan – pobl a fyddai’n barod i weithio mewn modd arbennig, a hynny heb dâl! Roedd hi’n hawdd wedyn i ymarfer yn nhai ein gilydd a chael sesiwn wythnos o hyd rhyw dair gwaith y flwyddyn. Fe ymarferon ni mewn neuaddau cymuned, mewn stafell yn Stratford ac yn festri’r capel Cymraeg yn Southwark. Mae prosiectau fel hyn yn gofyn am ymroddiad arbennig. Ar ôl blwyddyn, mi ddangoson ni’r ddrama i gynulleidfa. Gofynnais i’r gynulleidfa a fydden nhw’n fodlon rhoi eu barn ar y diwedd. Parodd hyn gryn broblem i rai oherwydd y pwysau i fod yn gwbl ddidwyll. Ond roedd hi’n drafodaeth ddifyr a lliwgar dros ben – roedd y cecru a’r dadlau ymysg y gynulleidfa wir yn rhyfeddol ac yn gryn gymorth i ni wrth fynd ymlaen i ymarfer ymhellach.
Mae’r mwynhad o gael adborth fel hyn yn deillio o brofiad ges i tra’r oeddwn i yn y coleg, pan aethon ni â drama allan i _yl Ryngwladol Myfyrwyr Drama yn Rwsia. Aseswyd y ddrama gan fwrdd yr _yl, derbyniodd Sam Kogan adborth gan y panel a chafwyd trafodaeth ddofn am y cymeriadau a’r set ac ati. Roedd hyn yn wefr i mi oherwydd roedd yn arwydd bod cyfle gan y cyfarwyddwr i barhau i ddysgu ac esblygu ei waith trwy gydol ei yrfa. O ganlyniad, pan fydda i’n cyfarwyddo, dwi’n dueddol o holi’r gynulleidfa am eu barn yn syth ar ôl perfformiad. Mae barn ddidwyll y gynulleidfa yn amhrisiadwy. Weithiau gall rhywun ddweud rhywbeth nad oedd wedi croesi fy meddwl i cyn hynny. Er enghraifft, sylweddolais, ar ôl trafod gydag aelod o un gynulleidfa arbennig, fod lliw y set yn gwbl anghywir ac mai effaith hynny oedd fy mod i wedi gosod gwagle rhy eang i’r lleoliad. Mae adborth felly yn rhan bwysig o’r gwaith. Dwi’n gredwr cryf mewn cynnal sesiwn drafod ar ôl un perfformiad o ddrama newydd er mwyn annog datblygiad yr awdur, y perfformwyr, y cyfarwyddwr a’r gynulleidfa fel ei gilydd.
AE: Mae Sgript Cymru yn ymroddedig i ddatblygu a meithrin lleisiau
newydd ond mae’r theatr Gymraeg yn parhau i fod mewn sefyllfa druenus iawn. Mae ’na ddiffyg dramodwyr newydd, diffyg cyfarwyddwyr a diffyg brwdfrydedd yn gyffredinol. Yn wir, mae’n sefyllfa argyfyngus ar fyd y ddrama Gymraeg. Mae gwaith teledu yn fara menyn wrth gwrs gan ei bod hi’n amhosib gwneud bywoliaeth o sgwennu dramâu yn unig yng Nghymru. Sut fedrwn ni ddenu mwy o awduron i fyd y theatr, wyt ti’n meddwl?
EB: I gychwyn, byddai’n syniad petai Pobol y Cwm yn gwneud addewid i beidio cyflogi’r un awdur nes iddyn nhw ’sgrifennu o leiaf dwy ddrama lwyfan! Ond o ddifri’, mae’n rhaid rhoi hyder i awduron newydd a’u hannog i fentro. Dwi’n meddwl y gall awdur ddysgu llawer wrth fynd i Lundain bob blwyddyn a gweld rhyw dair drama mewn penwythnos. Neu drwy fynd i _yl Caeredin. Wrth gwrs mae’n bwysig mynd i weld gwaith yng Nghymru hefyd, ynghyd â phrofi gwaith cwmnïau cyffrous o dramor sy’n dod i ganolfannau celfyddydol fel y Chapter yng Nghaerdydd o dro i dro. Yn ogystal â chyrsiau Sgript Cymru a chwmnïau eraill yng Nghymru, mae’n bosib cysylltu â theatrau megis theatr y Soho neu’r Royal Court yn Llundain a mynychu cyrsiau ’sgrifennu yno.
Wrth gwrs, mae rhai awduron yn teimlo nad oes ganddyn nhw ‘ddim byd i’w ddweud’. Un peth all helpu yw creu cymuned iach i awduron fod yn rhan ohoni. Yn ddiweddar mi fûm i mewn symposiwm ar y theatr a drefnwyd gan Gyngor y Celfyddydau. Un o’r siaradwyr gwadd oedd Katherine Mendleson, Rheolwr Llenyddol Theatr y Traverse yng Nghaeredin. Roedd hi’n sôn am y gymuned awduron yno, a pha mor iach a ffyniannus yw’r sîn yno yn gyffredinol. Mae dramodwyr Caeredin yn mynd i weld dramâu ei gilydd, yn rhoi adborth ar y gwaith ar ôl y sioeau, ac yn cefnogi ei gilydd yn gyffredinol. Dwi’n credu fod hyn yn elfen hollbwysig o unrhyw ddiwylliant iach.
Dwi’n meddwl y dylen ni ddilyn esiampl y sîn gerddorol yng Nghymru gan fynd ati i greu nosweithiau annibynnol a chreu gwaith newydd a chyffrous. Mae gwyliau fel yr Eisteddfod yn llefydd gwych i arddangos gwaith, er enghraifft ac yn fan cychwyn gwych. Dywedodd Peter Brook rywbeth difyr am gyfarwyddo sydd hefyd yn wir am ysgrifennu: ‘I don’t know any other way apart from convincing people to work with you – even unpaid, presenting it to any public – in a cellar, in a back room of a pub, in a hospital ward, in a prison. The energy produced by working is more important than anything else.’
AE: Awgrymodd ambell un fod y theatr Gymraeg yn hen-ffasiwn, difflach a
thraddodiadol o’i chymharu â’r theatr y tu hwnt i Glawdd Offa. Sut wyt ti’n ymateb i hyn?
EB: Mae ’na elfen o wirionedd yn hyn, dwi’n credu. Ond rhaid dweud hefyd bod digonedd o theatr hen-ffasiwn a ddifflach yn bodoli y tu hwnt i Gymru hefyd!
Yn sicr mae yna waith o’n blaenau i dynnu ein hawduron o grafangau ffurfiau traddodiadol y ddrama. Yw dylanwad Eisteddfodau ein plentyndod yn rhannol gyfrifol am sgrifennu yn barchus a ‘diogel’, tybed? Neu a yw olion arferion crefyddol yn dal yn ein gwaed, yn mygu ein lleisiau ac yn peri i ni beidio â mentro a chanu’n rhydd? Mae parhau i ddysgu a theithio ac arbrofi yn bwysig er mwyn dod â rhywbeth newydd i’r grefft ac i greu diwylliant cyffrous sydd yn rhan o fywyd cyfoes.
Mae hyfforddiant pellach ac ymarfer y grefft o ysgrifennu yn gyson hefyd yn ffactorau hynod o bwysig yn natblygiad yr awdur. Mae hi hefyd yn bosib dysgu drwy groesi draw i ffurfiau eraill o fewn y cyfrwng – actio a chyfarwyddo. Fel rhan o’n menter yn Living Pictures rydyn ni’n cynnig addysg bellach i gyfarwyddwyr neu unrhyw un o fewn y diwydiant sy’n awyddus i ehangu eu sgiliau. Rydyn ni’n dewis cyfarwyddwyr sydd â syniadau arbennig, fel Katie Mitchell a Mike Alfreds. Yn bendant, byddai’n dda i awduron wylio’r math yma o waith, i ddeall proses yr actor ac i ddeall sut y gallwn gyfleu stori yn ddramatig.
awdur:Angharad Elen
cyfrol:513, Hydref 2005
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com