Bôrd neu beidio â bod? Dyna’r Cwestiwn.
Bu Eurgain Haf yn gweld perfformiad Cymraeg Cwmni Theatr Cymru o Hamlet yn ddiweddar. Ond a gafodd ei hargyhoeddi?
Brwydro yn erbyn y llif fu’n hanes er mwyn cyrraedd Theatr Newydd Caerdydd mewn pryd a hynny wrth i fôr coch o gefnogwyr rygbi lifo i’r cyfeiriad arall tuag at Stadiwm y Mileniwm.
Roedd yna ddisgwyliadau mawr i weld tîm Cymru yn trechu Fiji, a hynny o nifer o bwyntiau. Ond wrth i mi gyrraedd y theatr yn chwys-domen-dail, doedd gen i, ar y llaw arall, ddim syniad beth i’w ddisgwyl. Â’m mhen-ôl yn dal i brotestio wedi eistedd trwy dair awr a hanner o gynhyrchiad diweddar o Romeo a Juliet, mae’n rhaid i mi gyfaddef, roedd gen i fy amheuon.
Hamlet yw un o ddramâu enwocaf Shakespeare ac mae ei themâu, sef dialedd, llofruddiaeth a gwleidyddiaeth yn rai oesol. Dyna pam fod y ddrama wedi ei dehongli mewn sawl ffordd dros y blynyddoedd gyda hyd yn oed ffilm Disney The Lion King a phennod o’r Simpsons yn dwyn adleisiau ohoni.
Ond er i mi astudio fersiynau ffilm Zeffirelli a Laurence Olivier yn y Brifysgol, dyma’r tro cyntaf i mi weld cynhyrchiad theatr o Hamlet ac roeddwn yn falch fod hynny yn mynd i fod yn y Gymraeg. Ac fe ddechreuodd y noson yn dda wrth i mi ddarganfod na fyddai’n rhaid talu am fy nhocyn gan fod Cyngor Caerdydd yn eu cynnig am ddim fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant Caerdydd fel dinas a hanner can mlynedd fel prifddinas. Teilwng oedd nifer y gynulleidfa hefyd ac roedd hynny yn beth braf yn enwedig o ystyried cyn lleied a ddaeth i weld y perfformiad cyntaf yn Theatr y Grand, Abertawe.
Comisiynwyd Michael Bogdanov, un a fu’n gweithio i’r Royal Shakespeare Company ac a sylfaenodd yr English Shakespeare Company, gan Gyngor Celfyddydau Cymru i lwyfannu Hamlet yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yr awdur a’r dramodydd Gareth Miles a gomisiynwyd i drosi’r ddrama i’r Gymraeg ac o’r golygfeydd cyntaf roedd yn amlwg fod y sgript ar fin profi fod y Gymraeg mor atebol ag unrhyw iaith arall i gyfleu athrylith ddramatig Shakespeare yn effeithiol.
Naws fodern a chyfoes oedd i gynhyrchiad Bogdanov gyda’r ddrama’n agor mewn canolfan filitaraidd gyda lloeren enfawr yn hollbresennol ar y llwyfan. Defnyddiwyd y lloeren yma er mwyn darlledu ysbryd tad Hamlet, yr hwn a lofruddiwyd gan ei frawd Clawdiws er mwyn iddo ef allu cipio coron Denmarc. Darn o theatr effeithiol a mentrus a lwyddodd yn ei nod, heblaw ei bod yn anodd ar adegau ddilyn y geiriau wrth i’r llun fynd allan o ffocws. Y tric, dybiwn i, wrth foderneiddio ydi defnyddio technegau heb fod yn rhy uchelgeisiol a dibris o hanfodion gwreiddiol Shakespeare ac ar y cyfan llwyddodd y llwyfaniad yma i wneud hynny.
Roedd y set a’r gwisgoedd a ddyluniwyd gan Ed Thomas a Sean Crowley yn drawiadol gyda’r newidiadau cyson rhwng y golygfeydd yn slic a hynny i gyfeiliant cloch y cnul a ragfynegai’r drasiedi ar y gweill. Gwisgai’r actorion ffasiwn y dwthwn hwn yn amrywio o lifrau militaraidd ffurfiol i tuxedos, ffrogiau smart a Hamlet yn ei drowsus combat ac Offelia yn ei jîns a’i siwmper binc.
Roedd y defnydd o brops hefyd yn gynnil. Defnyddiodd Hamlet wn i ladd Poloniws, cafwyd padiau ysgrifennu a dictaffon ac ymddangosodd ffon golff a beic mynydd hyd yn oed ar y llwyfan. Ac os oedd ysmygwr ymhlith y cast roedd Bogdanov si_r o fod yn arwr gan fod sawl cyfle am ddracht yn ystod y perfformiad. Ond er ei bod yn demtasiwn i orwneud pethau wrth gyfoesi testun (diolch byth na wnaed defnydd o ffonau symudol!), ni aed yn rhy bell. Serch hynny roedd gweld Offelia yn darllen rhifyn o Golwg yn yr olygfa gyda’i thad Poloniws wedi codi gwên am y rhesymau anghywir efallai.
Mae Hamlet yn ddrama hir ac roedd gofyn i’r actorion ei pherfformio yn y Gymraeg a’r Saesneg yn dipyn o beth – cymaint yn wir fel y bu’n rhaid i’r actor Wayne Carter, a fwriadwyd i chwarae rhan Hamlet yn y ddwy iaith, dynnu’n ôl ar y funud olaf. Yr actor Gareth Bale ddaeth i’r adwy yn y cynhyrchiad Cymraeg a chafwyd perfformiad clodwiw ac argyhoeddedig ganddo. Un peth a’m tarodd yn od, fodd bynnag, oedd ei ymdriniaeth o ymsonau enwog y ddrama. Tueddai’r rhain i gael eu hadrodd yn rhy ffwrdd-â-hi heb eu cyfeirio at y gynulleidfa fel y bwriadai Shakespeare. Ond fe dybiwn mai cam gwag ar ran y cyfarwyddwr ac nid yr actor oedd hyn.
Cafwyd perfformiadau canmoladwy iawn hefyd gan Julian Lewis Jones fel y brenin halogedig Clawdiws ac roedd ffrâm fechan Catrin Rhys yn ei gwneud yn berffaith ar gyfer yr Offelia fregus pedair-ar-ddeg oed. Ond y seren oedd Owen Garmon gyda’i bortrad o’r hirwyntog a chynllwyngar Poloniws a’r mwydryn o dorrwr beddau.
Roedd yr olygfa hon pan agorwyd twll ar flaen y llwyfan yn fedd i Offelia yn un o berlau’r cynhyrchiad gyda’r torrwr beddau yn pysgota’r penglogau o’r pridd gan eu cyflwyno i Hamlet gyda’r hen ‘Ioric druan’. Darn hyfryd arall o theatr weledol oedd golygfa’r actorion yn perfformio’r ddrama Y Trap Llygod Mawr ar ffurf meim Siapaneaidd. Roedd y lliwiau a’r symudiadau yn wledd i’r llygad ac yn arddangos amrediad talent yr actorion yn eu hystwythder corff a’u gallu i drin offerynnau cerddorol.
Ond cryder y cynhyrchiad yw’r sgript. Llwyddodd Gareth Miles yn gelfydd i drosi’r ddrama yn hytrach na’i chyfieithu’n Slafaidd. Roedd y geiriau yn llifo yn rhwydd ac yn naturiol ac yn gwneud y gwaith o ddilyn y plot, sydd yn ei hanfod yn un cymhleth iawn, yn llawer haws i’r gynulleidfa. Mae’r trosiad wedi ei gyhoeddi erbyn hyn ac yn werth ei ddarllen.
A’r ateb i’r cwestiwn felly? Na, doeddwn i ddim yn bôrd, wnes i ddim gwingo yn fy set, ac fe wnes i fwynhau. Yn fwy, dybiwn i, na chefnogwyr tîm rygbi Cymru y noson honno.
awdur:Eurgain Haf
cyfrol:515-516 Rhag 2005/Ion 2006
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com