Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Ffani a Dic yn Ffestiniog

Gydag un o sioeau clybiau Bara Caws unwaith eto ar daith, tybia Gareth Evans fod angen gwell plot a strwythur ar y cynhyrchiad.

Gan ei bod hi’n nesáu at y Nadolig, fe fydd theatrau Cymru unwaith eto yn llwyfannu pantomeimau, gyda phob un ohonynt yn dilyn yr un hen gonfensiynau: ceffylau ffug, dynion wedi gwisgo fel merched, triciau, morwyn ifanc yn chwilio am gariad, y gelyn cyfoethog a’r arwr dewr sy’n goresgyn y cwbwl er mwyn achub y dydd. Yn gadarn yng nghanol y confensiynau ystrydebol yma mae sioe glybiau newydd Bara Caws, Y Bonc Fawr gan Geraint Derbyshire, yn ei gosod ei hun. ‘Mae hi’n galed ar y werin’ ym Mlaenau Ffestiniog, ac mae’r chwarelwr gweddw Dic Pugh (Bryn Fôn) a’i ferch Ffani (Awen Wyn Williams) yn aelodau o’r werin dlawd. Mae’r sioe yn dilyn ymgais Dic i godi ei hun a’i ferch allan o’r sefyllfa druenus yma, ac yn y broses fe ddaw yna ddau Wyddel, lesbian dominatrix, gweinidog ‘sex-obsessed’, ceffyl o’r enw Dobbin, a nyrs, i’w cartref yn 13 Tan y Dibyn Terrace.

Dic, Ffani, a chân yn pwysleisio pa mor ‘galed’ ydi hi. Nid oes angen athronydd i allu gweld sut y gellir creu jôc o’r tri enghraifft yma, ac yn wir mae llawer o sbort Y Bonc Fawr yn deillio o’r math ansoffistigedig yma o hiwmor. Nid yw hyn yn feirniadaeth negyddol mewn unrhyw ffordd; nid yn unig mae’r sioe yn seiliedig ar gonfensiynau pantomeim a ffars, ond mae yma hefyd gyfoeth o gelfyddyd Gymraeg. Roedd y cefnlen agoriadol fel golygfa allan o un o straeon Kate Roberts, er bod yr hyn a ddilynodd yn gwbwl annhebyg i unrhyw beth a gyhoeddwyd gan Frenhines Ein Llên.

Cafwyd perfformiadau cryf gan y cast i gyd gyda phob un ohonynt yn mynd i ysbryd y darn yn llwyr. Yn union fel pantomeim, ychydig iawn o gynildeb oedd yma, ac roedd y cast cyfan i’w gweld yn mwynhau’r rhyddid o beidio gorfod poeni’n ormodol am oractio. Mae hi’n destament i dalentau’r cast bod y perfformiadau yn ddoniol tu hwnt, er gwaetha’r ffaith bod bron pob un yn ystrydeb amlwg. Roedd y ddau Wyddel, er enghraifft, Pat O’Shamrock a Seamus, a berfformiwyd yn egnïol gan Robin Griffith a Fraser Cains, yn siarad ag acen Wyddelig lydan ac wedi’u gwisgo mewn gwyrdd fel leprecôn ac yn dawnsio’n achlysurol i gerddoriaeth Riverdance. Catrin Mara a roddodd berfformiad gorau’r noson, a hynny efallai gan bod Camilla, fel lesbiad rheibus, yn tanseilio’r confensiynau o gael rhyw is-blot rhamantaidd mewn pantomeim.Yn ogystal â bod yn gymeriad doniol, roedd ganddi fwy o gyfle i greu rhywbeth gwahanol i’r disgwyl.

Rhaid bod yn ofalus wrth bwyso a mesur cryfderau sioe fel hon, gan fod yna beryg o ofyn gormod a gosod disgwyliadau theatrig arni. Er enghraifft, er bod gan y plot elfennau hynod o ffarsaidd a’i bod hi’n bosib dehongli’r sioe gyfan fel tair ffars fechan, roedd yr elfennau hyn wedi eu clymu yn ei gilydd braidd yn llac. Roedd y tair brif naratif neu ffars neu stori fechan yn dilyn ei gilydd yn hytrach nag wedi’u plethu’n fwy crefftus gyda’i gilydd. Ni fuasai hyn wedi bod mor amlwg pe bai’r sioe wedi’i rhannu’n ddwy act, ond heb egwyl roedd y plotio ar brydiau ychydig yn lletchwith. Gan bod rhediad gweddill y sioe mor gythreulig o egnïol a chyflym, roedd diffyg plethiad y storïau yn amlygu’i hun llawer mwy.

Un o wendidau arall y cynhyrchiad ar brydiau oedd lefel yr hiwmor, y gorddefnydd o regfeydd a’r disgrifiadau rhywiol. Nid yw ‘Ffycin hel’ ar ei ben ei hun o reidrwydd yn ddigri, yn enwedig pan y’i clywir ddegau o weithiau. Yn yr un modd, fe fuaswn i’n argymell unrhyw ddramodydd arall i gadw draw o geisio siapio jôc o’r enw ‘Ffani’ gan fod Y Bonc Fawr wedi dihysbyddu holl bosibiliadau gwneud hyn, gan niwtraleiddio’r hiwmor yn y broses. Roedd tuedd weithiau i gael dim byd ond un jôc goch ar ôl y llall. Roedd golygfeydd ble roedd natur yr hiwmor yn amrywio o’r coch, – er enghraifft, disgrifiad o ‘arogl’ gwraig Dic a ddilynwyd gan jôc fwy diniwed, ‘Da ni mor dlawd nes bod llygod eglwys yn dod â food parcels’ – yn elwa’n arw o’r amrywiaeth.

Wrth gwrs, nid yw ac ni ddylai sioe glybiau o’r natur yma fod yn wirioneddol atebol i’r un disgwyliadau a’r safonau beirniadol a roddir ar ddramâu neu gynyrchiadau mwy traddodiadol. Yn y bôn, nid oes ots fod y sgript yn llawn ystrydebau, y strwythur braidd yn llac a’r cymeriadu’n fras – yn enwedig ar ôl peint neu ddwy. Unig ddiben y sioe yw diddanu’i chynulleidfa, ac yn yr ystyr hwn roedd Y Bonc Fawr yn llwyddiant ysgubol. Rwyf yn dal i drysori’r atgof o gael fy swyngyfareddu, fel bachgen yn fy arddegau, tra’n gwylio cynhyrchiad o Bargen gan Bara Caws. Mae’r atsyniadau rhwng honno a Y Bonc Fawr yn amlwg, er bod bwriad ac effaith y ddau gynhyrchiad ar begynau gwahanol i’w gilydd. Ond roedd y cysylltiad yn tanlinellu cryfder mawr cwmni fel Bara Caws. Maent unwaith eto yn dangos ei bod hi’n bosib teithio i leoliadau nad oes unrhyw gwmni theatr Gymraeg yn teithio iddynt ac oblegid hynny yn llwyddo i ddenu cynulleidfaoedd nad oes unrhyw gwmni theatr Gymraeg arall yn ei wneud, gan gynhyrchu perfformiadau o safon sy’n ymestyn o un pen y sbectrwm theatrig i’r llall.

awdur:Gareth Evans
cyfrol:515-516 Rhag 2005/Ion 2006

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk