Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Y Diwygiad di-ddigwyddiad

Oni bai am y canu, perfformiad fflat. Dyna ddyfarniad Dafydd Llywelyn ar Hen Rebel drama Theatr Genedlaethol Cymru am Ddiwygiad 1904/5.

A ninnaun byw yn oes dechnolegol yr unfed ganrif ar hugain, un ffenomen sydd yn peri cryn benbleth ac anesmwythyd i nifer ywr berthynas honno rhwng y byd modern a chrefydd. Gydar holl bwyslais ar wyddoniaeth an hobsesiwn i geisio esbonio popeth mewn modd rhesymegol, mae rl a chyfraniad crefydd heddiw iw weld, ar un wedd o leiaf, yn edwino. Yn baradocsaidd, er mai lleiafrif bychan iawn syn mentro i addoldy y dyddiau hyn, fe barhar ystrydeb ein bod yn genedl syn canu emynau wrth reddf, boed hynny ar l cwpwl o beintiau ar nos Sadwrn, neu mewn gwasanaethau ar fore Sul.

Er gwaethar dirywiad honedig mewn crefydd, bu diddordeb ysol wrth ddynodi canmlwyddiant Diwygiad 1904/05. Gyda sawl rhaglen radio a theledu, ynghyd llu o llyfrau, wediu neilltuon benodol i ganolbwyntio ar natur a goblygiadaur Diwygiad, roedd yn anorfod y byddai pwnc or fath yn ei gynnig ei hun fel testun priodol ar gyfer ymdriniaeth theatrig.

Maen anodd iawn i ni lwyr amgyffred cysyniad diwygiad. Wrth siarad Luned Emyr am ei chryno-ddisg syn dwyn y teitl Duw a _yr, soniodd Lleuwen Steffan am Ddiwygiad 1904/05, gan ddwyn cymhariaeth gydar hyn a welwyd yn chwedegaur ganrif ddiwethaf, sef y Beatlemania. Enghraifft arall y gellid ei defnyddio i gyfleur hysteria a deimlodd y genedl oedd marwolaeth y Dywysgoes Diana yn niwedd y nawdegau. Yn sgil y digwyddiadau hyn, gwelwyd unigolion yn ymateb yn gwbl afresymol ac eithafol. Eu cyfiawnhad neu eu hesgus am ymddygiad or fath oedd iddynt gael eu heffeithio au cyfareddu gan gryfder emosiwn.

O dderbyn hyn, gosodir cyfrifoldeb anferthol ar ysgwyddaur actor a bortreadai Evan Roberts, y g_r a ystyrir, gan rai o leiaf, fel ysbrydolwr a thad Diwygiad 1904/05. Wrth drin a thrafod cynyrchiadau blaenorol y cwmni, yr wyf wedi cwestiynu doethineb yr egwyddor o osod rhai on hactorion ifanc neu ddibrofiad ar lwyfan; a chan amlaf, ystyriaf bod hoelio cymaint o sylw ar berfformiad un unigolyn mewn erthygl fel hon yn annheg. Fodd bynnag, yng nghyd-destun y cynhyrchiad hwn, credaf bod llwyr gyfiawnhad dros wneud hynny, gan fod portread David Lyndon o Evan Roberts yn gwbl allweddol i hygrededd a llwyddiant y sioe.

Yn y rhaglen, ceir y frawddeg ganlynol gyferbyn llun or actor: [b]un chwarae rhan Prince Charming mewn pantomeimiau yn rhy aml iw cyfrif! Does dim dwywaith ei fod wedi serennu mewn nifer o gynyrchiadau yn y gorffennol. Maer rhestr faith o gynyrchiadau yn y rhaglen yn tystio i hynny. Fodd bynnag, ymddengys mai cynyrchiadau Saesneg oedd y mwyafrif helaeth ohonynt, ar gwir amdani yw, doedd safon ei Gymraeg ddim yn safonol nac yn dderbyniol ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Wrth ir ddrama fynd rhagddi, y cwestiwn oedd yn mynnu fy mhrocio oedd: pam nad Rhys ap William oedd yn chwaraer brif ran? O leiaf roedd ganddo bresenoldeb ar y llwyfan, a digon o hyder a phrofiad i argyhoeddir gynulleidfa. Yn anffodus, roedd dehongliad David Lyndon yn gwbl ddi-liw a llipa, ac o ganlyniad ir diffyg hwn, roedd y cynhyrchiad yn wynebu talcen caled or cychwyn cyntaf.

Yn wyneb hyn, gosodwyd mwy o bwysau ar weddill y cast, a chafwyd perfformiad caboledig gan rai ohonynt, yn arbennig felly Llion Williams, Maldwyn John ac Angharad Lee. Ar ddiwedd y cynhyrchiad, Elin oedd yr unig gymeriad oedd yn ennyn rhywfaint o gydymdeimlad wrth iddi gael ei dadrithion llwyr gydai harwr ar Diwygiad. Cyfyd hyn gwestiwn eithaf sylfaenol ond cwbl allweddol: drama am bwyn union oedd Hen Rebel? Cafwyd pytiau a chipolwg ar fywydau sawl cymeriad yn y ddrama, ond ni ellid dweud bod yr un ohonynt yn ddigon cynhwysfawr na chrwn i hawlior sylw canolog.

Awgrymar teitl mai Evan Roberts oedd canolbwynt y ddrama, ond ni chafwyd hanner digon o ddeunydd i ganiatu ir gynulleidfa ddod i adnabod Evan Roberts y person. Drwy gydol y cynhyrchiad, cafwyd arlliw o berthynas rhwng Wil ac Elin, ond unwaith yn rhagor, doedd dim digon o gig iw chynnal, nac i greu chwilfrydedd ymhlith y gynulleidfa. Roedd chwarter olaf y ddrama, yn awgrymun gryf mai Stokes oedd y prif gymeriad, ac er mor dda oedd portread Maldwyn John ohono, i raddau helaeth roedd yn gymeriad digon stoc ac arwynebol. Roedd golygfa olaf un y ddrama lle gwelwyd etifedd Stokes yn yfed gydai gyfeillion yn y Gymru fodern yn 2005 yn taro rhywun yn od, ac nid oedd yn asion gyfforddus gyda gweddill y ddrama.

Gan nad oedd un cymeriad yn cynnig ffocws penodol ir cynhyrchiad, roedd cynnal diddordeb y gynulleidfa cymaint yn anoddach. Wrth drafod cynnwys y ddrama ar Radio Cymru, fe soniodd y cyfarwyddwr Cefin Roberts, ynghyd ag aelodaur cast, am eu hymgais i gynnig portread cytbwys or Diwygiad ac Evan Roberts. Drwy sicrhau bod dwy ochr y ddadl yn cael eu cyflwyno, ceisiant rhoi rhwydd hynt ir gynulleidfa benderfynu drostynt eu hunain yngl_n gwir natur y Diwygiad a chymhellion a chyfraniad Evan Roberts. Fodd bynnag, erbyn diwedd y ddrama doedd rhywun ddim yn malio ryw lawer y naill ffordd neur llall, ar rheswm syml am hynny oedd nad oedd hanner digon o ddyfnder, emosiwn na chic yn perthyn ir cymeriadau.

Yn gynharach eleni cafwyd sioe Amazing Grace o eiddo Mal Pope oedd yn trafod yr un maes yn union chynhyrchiad diweddaraf y Theatr Genedlaethol. Yn sicr, roedd gwendidaun perthyn ir cynhyrchiad hwnnw, ond o leiaf roedd yn cynnig cipolwg ar fwrlwm ac ysbryd heintus y Diwygiad. Yng nghyd-destun Hen Rebel roedd y cyfan wedii dan-chwarae, ac yn achlysurol roedd rhywun yn cael yr argraff bod profiad Diwygiad yn debycach i gladdedigaeth yn hytrach nar gorfoledd o ganfod gwir ryddid ir enaid. Gallwn fod wedi derbyn dehongliad tywyll or fath pe bai natur y storin cyfiawnhaur fath ymdriniaeth, ond oherwydd nad oedd y storin un cryf, roedd yna wacter yn perthyn ir cyfanwaith. Er enghraifft, roedd cyfle gwirioneddol i archwilion drylwyr natur y berthynas rhwng Evan Roberts ai ddilynwyr benywaidd ond megis crafur wyneb a wnaed yma. Tran sgwrsio gydai gyflogwr yn y dafarn, nododd Wil bod gan bobl fwy o ddiddordeb mewn cwymp unigolion nau dyrchafiad. Gosodiad y byddwn yn cytuno cant y cant ag ef, ond dagrau pethau oedd na chafwyd ymdriniaeth gynhwysfawr or agwedd hon yn y ddrama. Awgrymwyd bod gwedd dywyll yn perthyn i gefndir a hanes Evan Roberts, ond roedd fel pe bai rhyw amharodrwydd i fentro lawr y ln honnon ormodol. Or herwydd roedd rhywun yn cael yr argraff mai sefyllian yn ddi-gyfeiriad ar groesffordd a wnaed.

Ar yr olwg gyntaf, roedd y set yn wirioneddol wych ac ysblennydd, ond wrth ir cynhyrchiad fynd rhagddo, roedd rhywun yn teimlo nad oedd yn cael ei ddefnyddio ir eithaf, ac ambell dro roedd yn ymylu ar fod ychydig yn nawddoglyd. Er enghraifft, pan gerddodd Llion Williams ar y llwyfan, gyda thp mesur o amgylch ei wddf, ac yn cario model bren, roedd hynnyn ddigon i ddweud mai teiliwr ydoedd, a bod yr olygfa wedii lleoli mewn siop teiliwr. Doedd dim angen llun ar frig y set i ddynodi hynny. Yn yr un modd gyda gorsaf drenau, siawns na fyddai s_n trn wedi bod yn ddigon i gyfleur lleoliad, yn hytrach na chael llun sleid iw ddynodi.

Prif rinwedd y cynhyrchiad i mi oedd lleisiau canur cast, ac oni bai am yr agwedd hon, byddair cynhyrchiad wedi bod yn fflat. Wedi dweud hynny, er nad ydwyf yn arbenigwr ar gerddoriaeth nac ar ganu, roedd y syniad fod Elin yn medru canun swynol hyd at y nodyn olaf yn fy nharo i bach yn od. Os yw rhywun yn tone-deaf, oni fyddair nodwedd honnon amlygui hun drwy gydol y caneuon? Er ir cynhyrchiad gael ei ddisgrifio fel drama gerdd newydd, ar y cyfan ychydig o ganeuon gwreiddiol a gafwyd, ac roedd hynnyn drueni, gan y byddai hynny o bosib wedi cryfhaur cynhyrchiad drwyddi draw.

Gydar holl sylw sydd wedi bod yn ddiweddar i Ddiwygiad 1904/05, byddai wedi bod yn braf o beth pe bai rhywun wedi cael yr hyder ar dycnwch i gynnig dehongliad neu bersbectif gwahanol wrth gyflwyno hanes y Diwygiad ac Evan Roberts. Byddai ffresni or fath wedi gwneud byd o les ir testun, ac ir ymdriniaeth ohono. Er enghraifft, yn y rhaglen oedd yn cyd-fynd r sioe cafwyd hanes y Prifardd Dafydd John Pritchard yn mentro i Los Angeles gydar bwriad o adfer silindr cwyr ac arno recordiad o lais Evan Roberts. Roedd y stori syml hon yn cynnal diddordeb or cychwyn, a chyda ychydig bach o ddyfeisgarwch byddai wedi bod yn ddull hollol anghonfensiynol a theatrig i gyflwynor stori.

Drannoeth perfformiad cyntaf Hen Rebel bur papurau ar wasg torfol yn sn am honiad George Bush bod Duw wedii orchymyn i ymosod ar Irac. Wele ddyn mwyaf pwerus y byd yn defnyddior Prif Awdurdod i gyfiawnhaui weithredoedd, syn profi nad yw dylanwad crefydd yn gwbl gelain yn y gymdeithas fodern. Er gwaethai honiad iddo feddu ar gefnogaeth ac ewyllys da y Bod Mawr, ystyria nifer mai gwallgofddyn heb owns o synnwyr cyffredin am y byd real syn trigo yn y T_ Gwyn yn America. Yn eironig iawn, dyna natur y feirniadaeth a daflwyd at Evan Roberts union ganrif yn nl ymddengys nad yw rhai pethaun newid dim. Er gwaethar holl ddatblygiadau ym myd technoleg a gwyddoniaeth, mae rhai pethau mewn bywyd yn parhaun ddirgelwch llwyr i ni, a boed mewn tafarn neu gapel, gwelir sawl un yn canu ambell i emyn, mewn ymgais i chwilio am atebion a chysur.

awdur:Dafydd Llewelyn
cyfrol:515-516 Rhag 2005/Ion 2006

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk