Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Trasiedi a Chomedi

Sut mae ysgrifennu drama sy’n seiliedig ar bobl y mae rhai yn y gynulleidfa yn eu hadnabod yn bersonol? Dyna, i Gwenan Mared Jones, y cwestiwn canolog y mae Life of Ryan... and Ronnie Meic Povey yn ei godi.

Dwi’n ofni bod y g_r a finna’n ffansio’n hunain fel dipyn o Hywel a Blodwen, mi ydan ni wedi bod yn canu ‘Myfanwy’ drwy’r penwythnos! Mae’r gân ar ‘loop’ yn y cof ar ôl gweld Life of Ryan... and Ronnie yn Theatr Weston, Canolfan y Mileniwm, nos Wener, a rydan ni’n ddeuawd digon swynol, mae’n rhaid cyfaddef! Pwy a _yr, r_an mod i’n ystyried y peth, hwyrach yr awn ni am y clyweliadau tro nesaf mae Simon Cowell yn dod â’i X Factor i Gaerdydd? Dyna ydi conglfaen adloniant y degawd presennol, wedi’r cwbwl, ond gyda Ryan a Ronnie mi daflwyd ni ar ein pennau yn ôl i’r saithdegau. Dyma oedd cychwyn oes aur y ddeuawd gomedi – Morecombe and Wise, The Two Ronnies, Little and Large a phan oeddwn i’n blentyn rhain oedd y prif adloniant nos Sadwrn ar y teledu. Ac roedd y peth yn hollol anorfod, fel Ant a Dec heddiw, na fyddech chi byth yn gweld un hanner o’r ddeuawd heb weld y llall.

A dyma sydd wrth graidd drama Meic Povey am Ryan a Ronnie, y berthynas symbiotig yma oedd rhyngddynt, y tensiynau a’r dyheadau oedd yn eu clymu ynghyd ac yn y pen draw a chwalodd eu perthynas. Mewn cyfweliad yn y Western Mail mi ddywed Povey bod y ddrama hon yn benllanw pum mlynedd o waith ymchwil. Ar un adeg, ymchwilio deunydd ar gyfer rhaglen i’r teledu oedd o, ond pan aeth hynny i’r gwellt, mi benderfynodd droi’r deunydd yn ddrama. Edrychodd ar y berthynas rhwng y ddau gomedïwr bron fel priodas a phenderfynodd ganolbwyntio ar ddim ond y ddau gymeriad yma. Mae’n cyfaddef mai un o’r prif broblemau wrth ysgrifennu oedd gwneud yn si_r bod y ddrama’n apelio at y rhai oedd yn adnabod ac yn cofio’r ddau gomedïwr, yn ogystal â phobl iau nad ydynt yn gwybod fawr ddim amdanynt. Ac er bod hynny’n swnio’n ddigon ffwrdd-â-hi, mewn gwirionedd roedd o’n dipyn o gontract. Dyma ddrama am bobl go iawn, a rheiny’n rhai byw ac annwyl iawn yn y cof. Ond eto i gyd mae’n rhaid i’r ddrama weithredu fel darn o theatr, ac nid fel pastiche arwynebol o brif ddigwyddiadau bywydau Ryan a Ronnie neu o brif nodweddion y ddau gymeriad. Ac mae gwaith yr actorion o’r herwydd yn anoddach fyth, – sut mae cyflwyno pobl ‘go iawn’ y mae dros hanner y gynulleidfa yn eu cofio ond gan ddal i arddangos gweledigaeth oddrychol yr awdur? Dipyn o gontract fel y dywedais i, ond os oedd rhywun a allai wynebu’r sialens, Meic Povey gyda chefnogaeth Sgript Cymru oedd hwnnw.

Mae’r ddrama yn canolbwyntio ar y saith mlynedd rhwng 1967 a 1974 pan fu’r pâr yn teithio i bob cwr o Gymru a thu draw gyda’u sioe lwyfan. Heblaw am eu perfformiadau byw roeddynt hefyd yn gweithio ar dair cyfres ar rwydwaith y BBC ac ychydig cyn iddynt benderfynu gwahanu roeddynt wedi cael cynnig cyfres o sioeau 50 munud ar BBC2 a fyddai wedi eu gwneud cyn enwoced, hwyrach, â’r Two Ronnies oedd â slot tebyg. Mae’n rhyfedd felly iddynt benderfynu gwahanu bryd hynny, ac mae llawer o’r ddrama yn olrhain y rhesymau posibl tu ôl i’r noson dyngedfennol honno yn y Double Diamond Club, Caerffili, pan ddaeth eu perthynas broffesiynol i ben. Ymhen tair blynedd wedi hynny, bu Ryan farw o wendid ar y galon ac asthma, clefyd y bu’n ymladd yn ei erbyn gydol ei oes. O ddarllen rhwng llinellau’r ddrama, gellir dysgu’r ffeithiau hyn i gyd a llawer mwy, ond nid drama fywgraffyddol yw hi o bell ffordd. Mae’r adeiladwaith ar un llaw yn ddigon syml; ceir set clwb nos traddodiadol ac fe ddefnyddir y gofod fel llwyfan, ystafell wisgo a bar. Mae’r ddeialog felly yn gymysgfa o cabaret a chomedi blaen llwyfan, a monologau a deialog llawn tyndra gefn llwyfan, ond yn aml mae un elfen yn llifo i’r llall heb doriad amlwg, ac yn neidio o gyfnod i gyfnod hefyd.

Er mai enw Ronnie sy’n ymddangos fel ‘after thought’, chwadal y Sais, yn nheitl y ddrama, arno ef y mae’r sylw pennaf yn y ddrama. Mae cylch y ddrama wedi ei chanoli arno ef, a’i ofn a’i unigrwydd ef o fod heb ei bartner. O’r cychwyn un, mae’n chwilio’n wyllt amdano, nes y daw Ryan, fel rhyw rith nefol, neu chwa o awyr iach llawn digrifwch, i’w achub. Mae’n ymddangos bod Ronnie, yn llythrennol, yng nghysgod ei bartner, ond roedd yna gysgod arall, llawer gwaeth, yn ei fygu hefyd. Fe frwydrodd gydag alcoholiaeth gydol ei oes a phen draw hynny oedd ei hunanladdiad ym 1997. Unwaith eto, mae’r ffeithiau hyn i’w canfod ymhlith golygfeydd a chyfeiriadau amrywiol y ddrama, ynghyd â nifer o bwyntiau eraill lle mae dadansoddiad yr awdur yn lliwio’r digwydd. Ymhlith rhain, mae’r awgrym bod Ryan, mae’n debyg, yn ofni ac yn methu plesio ei fam, bod y syniad o enwogrwydd byd-eang bron fel cyffur iddo a bod ofn methiant yn ei sigo. Roedd Ronnie, yn ôl yr awdur, yn dioddef o nerfusrwydd enbyd cyn ymddangos ar y llwyfan ac yn casáu bod yng nghysgod llwyddiant Ryan ac yntau’n teimlo iddo ddod o stabl well. Yn groes i’w bartner, ei ddymuniad ef oedd aros yng Nghymru a bod yn llwyddiant yn ei wlad ei hun yn hytrach na mentro mewn gwlad ddieithr. Prif thema’r gwaith i mi, fodd bynnag, oedd y syniad i’w berthynas â Ryan liwio ei fywyd i gyd, ac iddo fethu dygymod â’i alar ar ôl i Ryan farw.

Dyna’r argraffiadau sydd wedi aros efo mi ar ôl gwylio’r ddrama, – pigion o ffeithiau a syniadau am y ddau gomedïwr, a rhyw ymdeimlad cyffredinol o dristwch a methiant. Ai dyna fwriad yr awdur? Dwn i ddim, ond yn sicr mae’r syniad o’r clown trist yn thema gref yma. Mae’n sicr bod canran helaeth o’r gynulleidfa y noson y bûm i’n gweld Life of Ryan... and Ronnie yn cofio’r ddau yn iawn, a byddai’n ddiddorol gwybod a oeddynt hwy yn gweld elfennau gwahanol yn y ddrama. Am ryw reswm roedd rhediad cyson cyflym y ddrama, a’r ffurf lle roedd y digwydd yn neidio ymlaen ond eto i ryw raddau yn troi mewn cylchoedd, yn gwneud i mi deimlo ychydig fel ’mod i ar y donfedd anghywir – doeddwn i ddim cweit yn gallu tiwnio i mewn i’r digwydd, ac roedd yn brofiad digon od.

Efallai, o edrych yn ôl ar y profiad, bod cael adnabyddiaeth o’r cymeriadau a gwybod rhyw ychydig mwy o’u cefndir yn bwysicach i’r gwyliwr nag oedd yr awdur yn tybio. Yn sicr, roedd ymateb rhai o’r gynulleidfa, pan ymddangosodd Aled Pugh (gyda’i wig talcen uchel) ar y llwyfan am y tro cyntaf, yn dangos i’r actor fedru dal ystum ac ysbryd Ryan, ac roedd yna ymdeimlad cryf o hoffter a hiraeth ar ei ôl yn yr awyrgylch. Ond os oedd pobl yn disgwyl gweld comedi gwallgof Ryan a fawr ddim arall roeddynt yn si_r o gael eu siomi. Trwy ganolbwyntio mwy ar ‘Ryan Davies citizen’, fel y’i gelwir ef gan Ronnie’r ddrama, yn hytrach na’r perfformiwr, mae’r ddrama yn symud oddi wrth yr elfen anorfod o ddynwared ac yn edrych mwy ar y wyneb tu ôl i’r persona cyhoeddus. Bron na fyddwn i’n dweud i’r ddrama symud yn rhy bell oddi wrth y doniol gan i mi deimlo y byddwn wedi hoffi gweld mwy o adloniant enwog y ddau. Gan nad wyf yn cofio fawr ddim amdanynt ond yn gwybod am eu henw da roeddwn i wedi cymryd yn ganiataol y byddai yno ddigon o chwerthin yn y ddrama. Yn hytrach yr hyn a’m trawodd oedd sut y mae comedi slapstic o’r math yna wedi dyddio, a sut y mae ffasiwn wedi newid. Mae yna fyd o wahaniaeth rhwng golygfeydd The Two Ronnies a’u cyfoedion er enghraifft, a golygfeydd rhaglen fel Extras Ricky Gervais, sydd ar flaen y gad o ran comedi heddiw.

Un peth oedd yn amlwg iawn yn y ddrama oedd y modd unigryw roedd Ryan a Ronnie yn cymysgu’r Gymraeg a’r Saesneg yn eu comedi. Fe ddywed Povey eu bod yn ‘siarad Cymraeg trwy gyfrwng y Saesneg’, cysyniad digon od, ond un y gellid ei ddeall rhyw ychydig yn well o wylio’r ddrama. Ar adeg pan oedd Cymru yn enwog am ei thîm rygbi, fe lwyddodd Ryan a Ronnie i ddefnyddio Cymreictod fel sail i’w hiwmor, ond mewn ffordd annwyl, reddfol bron. Mae’n si_r bod rhai yn amau cymhellion Meic Povey wrth ddewis ysgrifennu’n Saesneg, ond doedd yna ddim ansicrwydd yn y chwarae, roedd y ddrama’n ‘siarad’ yn rhwydd mewn Saesneg na allai neb ond Cymro fod wedi ei ysgrifennu. Eto i gyd, rhaid cyfaddef bod llawer o’r gynulleidfa’n Gymry Cymraeg a bod eu profiad yn si_r o liwio eu hymateb a’u dealltwriaeth o’r jôcs.

Yn anffodus, dim ond hanner llawn oedd y theatr y noson y bûm i yno, ac roedd hynny’n ei gwneud hi’n anoddach cadw’r egni angenrheidiol yn y perfformio. Er gwaethaf hynny, fe lwyddodd Aled Pugh a Kai Owen i gyflawni’r dasg ddigon anodd o fod yn Ryan a Ronnie y comediwyr, ac yn gymeriadau mewn drama ddychmygol ar yr un pryd. Roeddynt ar y llwyfan gydol y perfformiad gan ysgwyddo’r baich yn gyfan gwbwl, yn gorfod cyflwyno drama eiriol iawn, bod yn gyfrifol am dempo’r chwarae ac am y newid cywair rhwng y doniol a’r lleddf. Er bod y set yn cyfleu cyfnod yn effeithiol iawn (gyda’r bonws annisgwyl o glywed Tony ac Aloma yn canu yng Nghanolfan y Mileniwm!), gallai’r ddrama fod wedi cael ei pherfformio mewn gwagle. Ar yr actorion roedd y pwyslais, ac roedd y goleuo, y set a’r cynhyrchu wedi ei gynllunio i fframio’r digwydd yn gynnil ac effeithiol.

Mi glywais gynhyrchydd unwaith yn dweud mai un o’r pethau anoddaf i awdur ei wneud yw ysgrifennu drama am bobl go iawn. Mi fyddwn i’n tybio bod hynny’n fwyfwy gwir pan mae’r cymeriadau rheiny yn rhai y mae cymaint o bobl, gan gynnwys yr awdur ei hun, yn eu cofio mor glir. Mae yna gynifer o haenau o ddisgwyliadau yn yr ysgrifennu, y perfformio a’r derbyniad. Ai sioe deyrnged sydd yma? Ai drama ddychmygol ynteu hanes ffeithiol? Ydan ni’n gwybod mwy am y gwir Ryan a Ronnie ar ôl gweld y ddrama, ynteu dim ond am argraffiadau Meical Povey ohonynt? Yn sicr rydan ni’n gwerthfawrogi’n well gymhlethdod y math yma o berthynas, a’r anwyldeb na ellid ei guddio rhwng y pâr doniol. Meistres go galed yw adloniant yn y pen draw a hwyrach ein bod ni’n gweld, o wylio’r ddrama, fod yna bris go ddrud i’w dalu am chwerthin. ‘Comedy is a very serious business’ fel y mae Ryan y ddrama yn hoff o’n hatgoffa. Ond eto mae hud a lledrith showbiz yn dal i ddenu pobl yn eu miloedd, y wannabes sy’n fodlon ymdrechu hyd dragwyddoldeb i gyrraedd rhyw nod neu’i gilydd. Be’ fyddai cyngor Ryan a Ronnie i’r rhai sy’n mentro i fyd adloniant heddiw tybed? Fydden nhw’n dewis newid y blynyddoedd tyngedfennol rheiny y mae’r ddrama’n eu portreadu? Mae fy ngreddf i’n dweud, fel un yr awdur dwi’n amau, os oes yna nefoedd lle mae Ryan a Ronnie yn canu Myfanwy o gysur y cymylau, na fyddent yn dewis newid eiliad o’r bartneriaeth gymhleth, ddisglair hon a wnaeth yr enwau Ryan... a Ronnie yn rhai hollol anfarwol.

awdur:Gwenan Mared
cyfrol:515-516 Rhag 2005/Ion 2006

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk