Yr ifanc a Wyr
Aeth Dafydd Llywelyn i weld cynhyrchiad Coleg Cerdd a Drama Caerdydd o ddrama newydd gan Siôn Eirian, Hedfan drwy’r Machlud. Ond beth yw ei farn am safon yr hyfforddiant theatrig a gynigir i bobl ifanc heddiw?
Rhwng y dadleuon chwerw a mileinig o fewn rhengoedd Undeb Rygbi Cymru, a’r cecru yngl_n â gwerth a dilysrwydd seremoni groesawu’r Cymry ar wasgar yn yr Eisteddfod Genedlaethol, bu mis bach 2006 yn un tymhestlog ar sawl ystyr. Fodd bynnag, a ninnau ar drothwy’r gwanwyn mae rhywun yn dueddol o edrych tua’r dyfodol gyda hyder a gobaith newydd, a chroesawyd mis Mawrth gyda breichiau agored. Cafwyd syrcas a heip diddiwedd ym Mae Caerdydd wrth i’r Cynulliad droi’n Senedd, mewn enw os nad dim byd arall, ac hyd y wlad gwelwyd y pleidiau gwleidyddol yn cynnig delwedd a sain sonig newydd mewn ymgais i ddenu’r hen a’r newydd yn ôl i’r gorlan.
I gyd-fynd gyda’r naws a’r ymdeimlad o obaith, rydym ar drothwy cyfnod prysur gydag eisteddfodau cylch a sirol yn ein rhagbaratoi ar gyfer yr Eisteddfod yr Urdd, ac o ganlyniad, fe dry’n sylw at y to ifanc, y genhedlaeth a gyfeirir ati hyd at syrffed fel ‘oedolion ein yfory’. Tra bod y to ieuenga’n brysur ddysgu darnau llefaru a chaneuon, gwelwyd rhai o’u cyfoedion h_n mewn cynhyrchiad Cymraeg newydd sbon danlli gan Goleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf cafwyd Byd a’i Brawd gan Roger Williams a Dysgu Hedfan gan Geraint Lewis fel deunydd i gyw actorion ddangos eu dawn a’u talent, ac eleni comisiynwyd Siôn Eirian i ysgrifennu Hedfan Drwy’r Machlud. Bu’r awdur yn cydweithio â’r coleg yn 2003, gan gyfieithu gwaith Arthur Miller, Bont Dros Brooklyn, ond y tro hwn cafwyd drama wreiddiol ganddo.
Thema’r ddrama yw’r bygythiad i ddiwylliannau brodorol o ganlyniad i’r ymgais barhaus i farchnata ac apelio at dwristiaid, beth bynnag fo’r gost a’r pris – ac roedd amseriad y cynhyrchiad yn drasig o amserol o ystyried achos llys Garry Glitter. Er nad oedd ambell agwedd o’r cynhyrchiad yn taro deuddeg, nid ar chwarae bach mae llunio deunydd yn benodol ar gyfer gofynion ac anghenion myfyrwyr y coleg. Yn ogystal, yng nghyd-destun y cynhyrchiad hwn, rhoddwyd cyfle i Arwel Gruffydd fentro i faes cyfarwyddo, ac er iddo ddisgrifio’i hun yn y rhaglen fel ‘tipyn o brentis’, dyna’n union werth a hanfod projectau o’r fath: cynnig deunydd a chyfleoedd iddynt ddysgu crefft ac ennill hyder.
Yn yr un modd, roedd Dominos, cynhyrchiad diweddaraf y Theatr Genedlaethol yn ffrwyth llafur criw o bobl ifanc – yn arwyddocaol, yr awduron i gyd yn fenywaidd. Yn aml iawn, mae llunio cywaith neu gyfanwaith ar y cyd yn fwy o sialens a champ na chael unigolyn i lunio gwaith ar ei liwt ei hun, ac roedd ambell i ddarn o’r cynhyrchiad yn ddigon bywiog ac adloniadol, a’r farn gyffredinol wrth adael y theatr, oedd bod y ddrama’n ddigon hwyliog ac ysgafn. O ddarllen cynnwys rhaglen y ddrama, cafwyd yr argraff nad oedd y siwrnai o’r papur i’r llwyfan wedi mynd yn gwbl esmwyth i ambell i awdur – ond drwy gynnig blas uniongyrchol iddynt o’r broses greadigol, rhoddir y dewis iddynt o barhau yn y maes neu beidio.
Mewn egwyddor, mae cyfle o’r fath i ddarpar-awduron yn hynod bwysig a gwerthfawr, ac o gofio bod cynifer o’n darpar-ysgrifenwyr yn dyheu am ennill eu bara menyn drwy gyfrwng y teledu, mae’r cyfle i fwrw prentisiaeth yn gyntaf yn y theatr yn gwbl allweddol i gryfhau’u sgiliau. Fodd bynnag, yng nghyd-destun y Theatr Genedlaethol, teg yw gofyn onid swyddogaeth y cwmnïau llai yw ceisio hyrwyddo a meithrin darpar-ddramodwyr? Os derbynnir mai llwyfannu pinacl y ddarpariaeth theatrig yw gwaith y Theatr Genedlaethol, drwy gael y cwmnïau llai i ganolbwyntio ar ddatblygu a chanfod awduron newydd, byddai hynny yn ei dro’n bwydo’r Theatr Genedlaethol ag awduron profiadol a hyderus.
Wrth ddadansoddi cynyrchiadau Coleg Cerdd a Drama a’r Theatr Genedlaethol, cyfyd un cwestiwn pwysig a sylfaenol parthed yr arlwy a’r hyfforddiant a gynigir i’r genhedlaeth ifanc. Yn ystod yr wythdegau a’r nawdegau y ganrif ddiwethaf, gwelwyd twf aruthrol yn nifer y cyrsiau a gynigiwyd o fewn ein sefydliadau addysgol i fyfyrwyr astudio’r cyfryngau, gyda nifer o’r myfyrwyr yn credu mai dyna fyddai pasbort ar gyfer gyrfa lewyrchus lwyddiannus yn y maes. Ysywaeth, gwag a di-sail oedd gobeithion y mwyafrif, a digon prin fu’r cyfleoedd iddynt allu gwireddu eu dyheadau. Fodd bynnag, os gellir cael y cydbwysedd priodol rhwng y cefndir theoretig-academaidd a chyfleoedd ymarferol i hogi sgiliau a chrefft myfyrwyr, yna’n ddi-os dylid diogelu a gwarchod y fath ddarpariaeth. Y gamp yw sicrhau gwell dealltwriaeth a pherthynas rhwng yr ystod eang o gyrff sy’n ymwneud â’r maes, a pheidio â gadael i wleidyddiaeth a phlwyfoldeb lesteirio’r ddarpariaeth.
Yn y Gymru gyfoes sydd ohoni gwelir obsesiwn yngl_n â phwysigrwydd apelio a denu ein pobl ifanc. Yn eironig iawn, cymaint yw’n hawydd i’w plesio fel ein bod mewn peryg gwirioneddol o sarhau a dieithrio’r genhedlaeth honno’n llwyr. Ymhob agwedd o’r byd creadigol mae wedi dod yn ffasiynol i gyflwyno gweithiau sy’n llawn rhyw, rhegfeydd a bratiaith gan gyfiawnhau’r cyfan yn enw realaeth. Naïf a simplistig yw cred o’r fath, ac o’i harddel i’r eitha’, mae’n anorfod bydd rhai’n codi cwestiynau yngl_n â’r egwyddor cyffredinol o gynnal a chefnogi’r diwylliant yn yr iaith Gymraeg. Nid portreadu’n slafaidd a diddychymyg yw swyddogaeth y theatr, nag unrhyw agwedd arall o’r byd creadigol o ran hynny, ond yn hytrach ceisio rhoi lliw a sglein ar yr hyn a ystyrir yn ddigwyddiadau bob dydd. Mae’n holl bwysig ein bod yn buddsoddi yn y genhedlaeth iau, a chynnig arlwy ar eu cyfer, ond wedi dweud hynny, ni ddylid eu trin yn nawddoglyd, a chredu nad ydynt yn ddigon call a soffistigedig i wylio a dehongli rhywbeth sydd ychydig yn herfeiddiol ac astrus. Y gwir amdani yw nad ydy pobl ifanc yn wahanol i unrhyw genhedlaeth arall. Os yw’r deunydd yn dda, fe wnân nhw wylio a mwynhau’r arlwy, ond os na cheir safon a graen yng nghorff y gwaith, yna dyw rhoi ambell i reg a chynnwys ambell i gymeriad ifanc yn gwneud dim i hygrededd y gwaith gorffenedig.
Gyda chynhyrchiad Dominos, fe ddaeth teyrnasiad actorion craidd y Theatr Genedlaethol i ben. Digon cymysg fu llwyddiant yr egwyddor o gyflogi actorion craidd, ond wedi dwy flynedd o fwrw prentisiaeth a meithrin hyder, mae rhaid iddynt bellach wynebu’r her o fentro i’r byd mawr. Boed yn ddarpar-actorion, gyfarwyddwyr neu ddramodwyr, mae’n bryd i rai o’r genhedlaeth ifanc brofi faint o ddycnwch a chadernid sy’n perthyn iddynt. Bydd talcen caled yn wynebu nifer ohonynt, ac yn sicr ni fydd yn siwrnai rhwydd, ond a hwythau yng ngwanwyn eu gyrfaoedd, does ond gobeithio na fydd raid iddynt brofi’r blerwch a’r amhroffesiynoldeb sy’n nodweddu cymaint o’n sefydliadau cenedlaethol cyfredol, neu beryg bydd ‘oedolion ein yfory’ yn troi cefn ar y Gymraeg a’u diwylliant brodorol.
awdur:Dafydd Llewelyn
cyfrol:519, Ebrill 2006
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com