Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Y Farchnad a’i Psyche

Ydy Ar y Lein yn cyhoeddi dyfodiad dramodydd ifanc newydd gwefreiddiol? Dyna yw barn HEFIN WYN am ddrama gyntaf Gwyneth Glyn.

Mae’r ddrama Ar y Lein, sydd wedi ei chyfansoddi a’i chyfarwyddo gan Gwyneth Glyn, yn berl o ddrama. Nid sôn am ddyddiau atgofus rhyw lein fach rheilffordd ddiarffordd a diflaniad ffordd o fyw a wneir, ond, yn hytrach, y lein honno sy’n ffin rhwng gwallgofrwydd a sadrwydd yng nghanol ein byd cyfoes llawn tranglwns a hunandwyll.

Mae’r ddau gymeriad, Daniel (Rhodri Meilir) a Brenda (Tammi Gwyn) yn gwbl gredadwy. Mae’r ddeialog yn slic a realaidd, a’r datblygiad yn glyfar gyfrwys. Mae yntau’n blentyn gwerthoedd y farchnad yn perthyn i genhedlaeth ôl-Thatcheraidd. Y farchnad stoc yw ei beth a cholli ac ennill symiau eithafol o arian dros nos. Rhithiau yw’r cymeriadau o gig a gwaed sydd yn ei fywyd; ei wraig a’i bennaeth y clywir eu lleisiau ar y ffôn. Mae ei berthynas â bocs o Sugar Puffs yn fwy ystyrlon.

Mae hithau hefyd yn byw yn Llundain mewn fflat sydd gyferbyn i’w eiddo yntau. Mae’r ddau, yn ddiarwybod i’w gilydd, yn gymdogion. Mae’r coridor yn un ffin sydd rhyngddynt ac mae’n ofynnol i’r ddau ei chroesi cyn diwedd y ddrama. Twyll astroleg yw ei pheth hi. Cymer arni fantell Psychic Sue er mwyn mwytho ei chwsmeriaid ar y ffôn â’r hyn maen’ nhw am ei glywed am eu buchedd. Russell Grant a’i feibl horiscopaidd yw ei ffon gynnal. Greddf dynes sy’n ei llywio.

Ymyrraeth yw mynych alwadau ffôn ei mam o Ddeiniolen ond fe brawf hi’n fwy o seicic na Brenda, mewn gwirionedd, wrth iddi synhwyro meddyliau tryblith ei merch. Y seryddwr yw cwmni penna’r hocedwraig yng nghyfyndra ei fflat. ‘Wyt ti’n gw’bod Russel, yr unig beth dwi’n ei w’bod yw fy mod i ddim yn gw’bod’ meddai wrth adleisio cri ei chenhedlaeth. Adleisir hyn yn sylw Daniel drws nesa’ pan ddywed ei bod yn berffaith bosib twyllo eich hun nad oes eliffant yn eistedd yn eich ystafell er ei fod yn ddiamau’n llenwi’r ystafell.

Daw tro ar fyd pan dderbynia Phsychic Sue alwad oddi wrth Daniel – neu Peter fel y cyflwyna ei hun – a chanlyniad y berthynas yw iddi’n gwbl fympwyol, heb gymorth Russell Grant, enwi tri o gwmnïau’r farchnad stoc yn ymwneud â siocled, coffi a nwy iddo fuddsoddi ynddynt, a’r buddsoddiadau hynny’n talu ar eu miliynfed.

Oherwydd ymdrechion trwsgwl Brenda i gynnal safon o Saesneg soffistigedig a’i mynych dyngu yn ei mamiaith, yn ei rhwystredigaeth, fe sylweddola Daniel/Peter bod Psychic Sue, y metropolis, yn Gymraes lân loyw.

Mae yntau’n datgelu mymryn am ei geifndir bore oes wrth iddo alw i gof ddylanwad Robert Drewi a’r Ysgol Sul tra bo’n ei haleliwio hi wrth i’r miliynau ddodwy a deor. Ond o weld y dryll yn ei law, ac yntau’n rêl boi, mae’n amlwg bod ffilmiau Westerns yn gymaint o ddylanwad â Rhodd Mam yn nyddiau plentyndod. Bellach dyw sinigiaeth byth yn bell o’r wyneb.

Fe ddaw’r dénouement terfynol yn y coridor yn rhyddhad i’r ddau fe dybiwn i ac yn gyfle o bosib i ddechrau byw. Dengys gafael tenau y ddau ar werthoedd nad ydyn nhw y tu hwnt i achubiaeth neu brynedigaeth. Daw’r ddau i olau dydd o’u cocynau a mater i’r gynulleidfa, wrth gwrs, yw dyfalu beth fydd y cam nesaf.

O ran profiad theatrig roedd gwylio a gwrando ar Ar y Lein yn Theatr y Gromlech, Crymych, yn f’atgoffa o brofiad cyffelyb dros chwarter canrif yn ôl yn Arena, Theatr y Sherman, Caerdydd, yn gwylio drama o’r enw Y Cadfridog. Roedd y ddrama honno o bendilio emosiynol rhwng dau filwr o eiddo Meic Povey hefyd yn cyhoeddi dyfodiad dramodydd ieuanc newydd cyffrous.

Mewn adolygiad yn y cylchgrawn hwn dri rhifyn yn ôl fe fu Gwyneth Glyn, wrth adrodd ei haml-ddoniau, yn tafoli cynhyrchiad Cwmni Bara Caws o’r ddrama Dulce Domum gan Valmai Jones. ‘. . .diolch diffuant i Gwmni Bara Caws am roi ar lwyfan gynhyrchiad mor bur â hufen iâ, mor gyffrous â thrên sgrech ac mor ysgytwol â rhyw (h.y. rhyw ysgytwol!)’ meddai. Gellir dweud bod Cwmni Bara Caws wedi llwyddo yn hynny o beth am yr eildro gyda’i gyflwyniad o Ar y Lein.

Os yw gwir theatr i fod yn fwy na noson o adloniant, prin y medr ein Theatr Genedlaethol atgyfodedig ragori ar brofiad y ddwy awr yma o ddeunydd cnoi cil. Ac yn sicr mae yma ddramodydd a all gyfrannu at dwf y Theatr Genedlaethol. Does dim ond gobeithio na wna Gwyneth Glyn, ar sail ei chynnyrch proliffig hyd yma, losgi ei dawn yn ulw cyn aeddfedu.

Tua chwarter canrif yn ôl hefyd roedd Siôn Eirian yn amlygu ei hun fel dramodydd a oedd yn gwingo yn erbyn confensiynau a chredoau ei gyfnod a’i gefndir Anghydffurfiol. Taranu yn erbyn spam cyfrifiadurol, merfeidd-dra rhaglenni teledu realiti pry-ar-y-wal selebs a thwyll byw bywyd trwy fotymau ffôns mudol mae Gwyneth Glyn.

Yn ystod y nawdegau roedd nifer o ddoniau cyffelyb yn y meysydd creadigol â’u bryd ar ddefnyddio llwyddiant yn y byd Cymraeg fel carreg gamu i’r byd Saesneg. Dyna oedd yn c_l wrth i Ed Thomas arwain yr haid trwy gyhoeddi’n groch ei fod yn Gymro a oedd yn arddel safbwynt cignoeth a wlatgar tra’n cyfleu realiti a myth Y Cymoedd wrth roi llais i froc môr ôl-ddiwydiannol.

Hyderaf na ddigwydd hynny i Gwyneth Glyn yn negawd gyntaf canrif a milrif newydd gan ei bod, ar un olwg, wedi bwrw ei phrentisiaeth dros y ffin tra roedd yn fyfyrwraig yn Rhydychen. Dyw hynny ddim i ddweud na fyddai trosiad o Ar y Lein yn hudo cynulleidfaoedd Hampstead. Ond gall dyhead ac uchelgais ei harwain i greu dramâu ysgytwol a doniol am y cyflwr Cymreig.

awdur:Hefin Wyn
cyfrol:495, Ebrill 2004

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk