O Gelloedd Walton
Mae drama gyntaf Dewi Prysor DW2416 yn adrodd ei brofiadau fel carcharor gwleidyddol sy’n disgwyl sefyll ei brawf. Ym marn Gareth Evans mae’n fonolog pwerus ac effeithiol.
Mae hanes achos llys Dewi Prysor Williams, Siôn Aubrey Roberts a David Gareth Davies ar gyhuddiadau o gynllwynio i achosi ffrwydriadau yn adnabyddus, yn rhan annatod o hanes cenedlaetholdeb Cymreig. Er gwaethaf hynny, nid yw hanes y flwyddyn o garchar a ddioddefodd y tri rhwng cael eu harestio a chynnal yr achos llys, o bosib, yr un mor gyfarwydd. Monolog gan Dewi Prysor dan gyfarwyddyd Ian Rowlands o Lwyfan Gogledd Cymru yw DW2416. Fe’i perfformiwyd gyda Dyfrig Evans yn chwarae rhan yr awdur, yn adrodd ei brofiadau yn ystod ei bedwar mis ar ddeg o garchar.
Gan ystyried mai drama yn adrodd profiadau hynod bersonol yr awdur yw DW2416, fe fuasai beirniadu haeddiannau’r sgript yn ôl llinynnau mesur ‘drama’ yn annheg ac efallai yn ansensitif. Rwy’n dychmygu bod y byd a ddisgrifir yn y sgript yn gwbl estron i’r rhan fwyaf o’r gynulleidfa, ac nid oes lle i leisio barn ar effeithiolrwydd y naratif fel y gellir ei wneud gyda chynhyrchiad llwyfan mwy confensiynol. Serch hynny, ni ellir gwadu fod yma sgript arbennig o dda. Trwy lithro’n ôl ac ymlaen rhwng iaith dafodieithol Sir Feirionnydd ac un fwy ffurfiol a barddonol, fe geir nid yn unig hanes un sefyllfa unigryw, ond hefyd plethiad ohono yng nghyd-destun iaith a thraddodiad Cymreig gan bwysleisio a chryfhau meddylfryd gwleidyddol a gwladgarol yr awdur. Er gwaetha’r ffaith fod yna rai elfennau eithaf hyll yma, yn aml roedd yna brydferthwch barddonol yn disgleirio hefyd. Un o ddelweddau mwyaf effeithiol y ddrama oedd y disgrifiad o bapurau newydd ar dân yn cael eu taflu o ffenestri celloedd i ddathlu’r flwyddyn newydd.
Mae’r sgript yn cael ei chyfannu’n berffaith gan Dyfrig Evans yn ei berfformiad o’r awdur. Yn aml iawn mewn sioeau un dyn, waeth pa mor gryf ydi’r sgript, mae’r cyfan yn llwyr ddibynnol ar y perfformiwr. Yma mae’r ddwy elfen cyn gryfed â’i gilydd gan fod ei ddehongliad yn un medrus a dewr, ac un oedd yn llawn argyhoeddiad. Mae’r elfen yma’n bwysig mewn cynhyrchiad sydd o natur gyffesol fel DW2416. Mewn dwylo llai medrus roedd hi’n hawdd gweld sut y gallai’r noson fod wedi troi i fod yn arbrawf narsisaidd heb unrhyw ddiben. Er mwyn i’r ddrama lwyddo, roedd angen i’r gynulleidfa gydymdeimlo, ddeall, ac uniaethu â Dewi Prysor. Rwy’n amau mai ychydig iawn a fyddai’n methu gwneud hynny ar ôl gwylio’r perfformiad campus hwn.
Gwnaethpwyd defnydd trawiadol o’r gofod, gyda’r set gywrain yn arbennig o effeithiol gan gyfleu nid yn unig fflat yn Llan Ffestiniog ond hefyd gell yng ngharchar Walton, gwely heb fatres, cist, ffrâm ffenestr, a bylb golau. Roedd y fonolog yn cael ei hadrodd i gamera fideo, er mwyn recordio’i brofiadau ar gyfer ei fab sydd ar fin cael ei eni, ac yna’n cael ei gyfleu’n gydamserol i ddeuddeg sgrîn deledu oedd wedi’u trefnu yng nghefn y gofod.
Roedd cynildeb ac esthetig syml y cynhyrchiad hefyd i’w weld yn y cyfarwyddo. Nid oedd yma unrhyw gampiau na gimics dianghenraid yn y llwyfannu er mwyn syfrdanu’r gynulleidfa, er gwaetha’r ffaith bod yna sawl cyfle yn y naratif i wneud hynny. O ganlyniad, nid oedd yna ddim yn tarfu ar ddau brif elfen DW2416: y sgript gelfydd gan Dewi Prysor, a pherfformiad trawiadol Dyfrig Evans.
Cryfder mwyaf y llwyfannu oedd y ddyfais ganolog o adrodd y stori i gamera fideo ar gyfer y plentyn. Heb orfod annerch y gynulleidfa’n uniongyrchol fel yr arferir mewn dramâu un dyn, roedd y ddeialog yn cael cyfle i lifo’n rhwydd ac yn gwbl naturiol. Hefyd, gan fod yna natur gyfaddefol i’r noson, roedd cwlwm y berthynas rhwng tad a’i blentyn, o reidrwydd yn gwneud y gyffes yn un fwy gonest a chignoeth. Yn wir, un o lwyddiannau dewraf y ddrama oedd parodrwydd Dewi Prysor i rannu hanesion oedd efallai’n mynd yn erbyn y darlun disgwyliedig ohono fel arwr di-fai. Er ei fod yn brofiad anghysurus, roedd ei ddisgrifiad o’r tro lle y bu iddo ef a carcharor arall guro troseddwr rhyw â batri PP9 mewn hosan, yn un o uchafbwyntiau dramatig y cynhyrchiad.
Roedd y camera a’r delweddau ar y sgriniau teledu hefyd yn galluogi’r ddrama i gyfleu mwy nag y gellir ei wneud gyda geiriau yn unig. Trwy wneud dim ond ailchwarae y stori uchod, datblygwyd rhyw is-destun o alar, gofid, a chywilydd; emosiynau a allai’n hawdd iawn fod wedi troi’n felodramatig wrth eu cyfleu ar lafar. Drwy beidio gwneud hynny, roedd DW2416 yn cyrraedd uchelfannau gwefreiddiol, gan greu theatr hynod soffistigedig. Yn yr un modd, trwy ddefnyddio’r camera i nesáu a phellhau yn ystod yr holi gan yr heddlu, ac hefyd manylu ar ffrâm y gwely er mwyn troi’r ddelwedd i gyfleu’r bariau mewn ‘sweat box’, roedd yma gelfyddyd oedd yn mynd uwchlaw’r llwyfannu syml. Dyma theatr ar ei gorau; yn awgrymu digon er mwyn galluogi’r gynulleidfa i gwblhau eu darlun eu hunain.
Gan redeg ond ychydig dros awr, fe derfynodd DW2416 braidd yn sydyn, yn enwedig o ystyried manylder y sylw a roddwyd gan yr awdur i’r disgrifiadau o’i gefndir a’i ddyheadau gwleidyddol; yr arestio; a’i gyfnod yn y carchar. Roeddwn yn disgwyl i hanes yr achos llys gael ei adrodd i’r un graddfa, ac o’i anwybyddu roedd y diweddglo ar y pryd yn teimlo ychydig yn anfoddhaol. Yn y rhaglen fe esbonnir gan y dramodydd pam y gwnaed hynny, ac ar ôl cael cyfle i feddwl fe ellir gweld mai yn ei habsenoldeb y ceir calon y ddrama. Trwy ddatgelu’r hyn ’roedd yn rhaid ei ddioddef er mwyn cyrraedd y diweddglo adnabyddedig, roedd DW2416 fel petai yn anelu at yr isymwybod, yn dangos i’w gynulleidfa os gallai un dyn oresgyn profiad o’r fath er mwyn ei genedl, siawns na allwn ninnau rannu ychydig o’r baich hwnnw hefyd. ‘Mi ddaru’r Meibion gynna mwy na tai ha’’ meddai Dewi Prysor. Da yw cael dweud bod ei ddrama gyntaf yn gwneud yr un peth.
awdur:Gareth Evans
cyfrol:519, Ebrill 2006
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com