Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Colofn Gareth Miles

Mae Gareth Miles yn bwrw golwg ar waith Harold Pinter wedi iddo ennill ei Wobr Nobel.

Y Dramodydd a’r Sefydliad

Yn sgil y dadlau diweddar o blaid ac yn erbyn yr ‘egwyddor hyd-braich’ yng nghyd-destun ariannu a gweinyddu’r Celfyddydau, cofier mai dyfais weinyddol ydyw er sicrhau nad yw’r blaid sy’n llywodraethu yn San Steffan, Bae Caerdydd neu Gaeredin yn defnyddio nawdd ariannol i droi ffrydiau artistig i’w melin ei hun. Nid yw’r ‘egwyddor’ yn rhwystr i ymyrraeth gan y wladwriaeth y mae pob un o’r prif bleidiau gwleidyddol wedi addunedu i’w gwasanaethu.

Y gwrthwyneb sy’n wir. Dyletswydd statudol cyrff fel y BBC a Chyngor y Celfyddydau yw gofalu bod yr arlwy a ddarperir ganddynt, boed ffilm, drama, newyddion neu sothach yn achos y Bîb, a’r celfyddydau yn gyffredinol, yn achos y KKK, yn cynnal ac yn hyrwyddo Prydeindod. Fel ym mhob cwango, rhaid i aelodau eu byrddau feddu ‘dwylo diogel’. Dim ond deiliaid dethol y gellir ymddiried ynddynt i beidio â dweud na gwneud dim allai droi’r drol Brydeinig a ddewisir.

Meddyliau sinigaidd fel y rhain ddaeth imi wrth ystyried cyn lleied o sylw a roddodd y BBC (ac S4C hefyd, felly) i Wobr Nobel Harold Pinter yr Hydref diwethaf. Cymharer hyn â chlochdar traddodiadol Huw Edwards, Kirsty Wark a Paxman pan ddyfernir gwobr Nobel i wyddonwyr Prydeinig a’r cynnwrf a enynnir gan Wobr Booker, instillations arobryn, chwerthinllyd Gwobr Turner a chyhoeddi’r Harry Potter diweddaraf, heb sôn am gampau athletwyr a thimau criced, pęl-droed a rygbi Lloegr mewn gornestau rhyngwladol. Er bod cadfridogion Byddin Lloegr a phrifgopynod yr heddluoedd cudd yn feirniadol, erbyn hyn, o bolisi tramor gwaedlyd, imperialaidd Tony Blair, nid yw’r Sefydliad Seisnig am i’w gyfryngau torfol ddathlu camp dramodydd sy’n galw Prif Weinidog Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn gelwyddgi ac yn droseddwr rhyfel ac yn dirmygu’r ‘berthynas arbennig’ bondibethma rhwng y deyrnas hon ac Unol Daleithiau America.

Un sefydliad a roddodd sylw teilwng i lwyddiant diweddaraf Pinter yw’r undeb llafur y mae’n aelod ohono, sef, Undeb Ysgrifenwyr Gwledydd Prydain (sy’n deitl tlysach a chywirach na The Writers’ Guild of Great Britain). Tybiaf y bydd y dyfyniadau isod a godwyd o’r rhifyn diweddaraf o chwarterolyn yr Undeb o ddiddordeb i ddarllenwyr y golofn hon.

Pinter restored theatre to its basic elements: an enclosed space and unpredictable dialogue, where people are at the mercy of each other and pretence crumbles. With a minimum of plot, drama emerges from the power struggle and hide-and-seek of interlocution. Pinter’s drama was first perceived as a variation of absurd theatre but has later more aptly been characterised as ‘comedy of menace’, a genre where the writer allows us to eavesdrop on the play of domination and submission hidden in the most mundane of conversations.

(O ddyfarniad y Pwyllgor Nobel)

Dengys sylwadau Michael Billington, beirniad drama’r Guardian, mai arwynebol ac ymddangosiadol yw’r gwahaniaeth rhwng dramâu cynnar Pinter a’r rhai diweddarach:

What we fail to appreciate is that Pinter’s politics are inseparable from his life and work. His early plays explore the repressive politics of sex, domesticity and marriage. His later plays explore the personal consequences of political attitudes. For Pinter, politics and the personal are indivisible.

Mae’r frawddeg olaf yn ddilys mewn perthynas â gwaith pob dramodydd, hyd yn oed y rhai sy’n efelychu’r arddull Binteraidd – brawddegau cwta, anorffenedig a seibiau trymlwythog – tra’n ffieiddio ‘politics’ ac yn archwilio gorthrymderau rhywiol, cartrefol a phriodasol er mwyn datgan mai ofer pob ymgais i herio’r drefn.

Y Dramodydd yn ei Weithdy

Rwy’n amheus o gyrsiau a gweithdai ar gyfer hyfforddi awduron ifainc i sgrifennu ar gyfer y llwyfan, yn enwedig rhai a drefnir gan bobl nad ydynt erioed wedi sgrifennu drama eu hunain, er y gallent fod â dawn neilltuol mewn adrannau eraill o waith theatr. Pan ddechreuais i sgrifennu’n broffesiynol, ar ddechrau’r wythdegau, bűm yn ddigon ffodus i dderbyn hyfforddiant gan gyfarwyddwyr ac actorion ond nid mewn cwrs na gweithdy. Cyflwynais sgriptiau i gwmnďau Sgwâr Un a Hwyl a Fflag a bu’r cyfarwyddwyr David Lyn a Gruff Jones a’r actorion, Sharon Morgan, Clive Roberts, Gwyn Parry a Mei Jones yn fy nghynorthwyo i droi cymysgedd o ffuglen a phropaganda gwleidyddol yn ddramâu. Ni cheisiwyd newid nac ystumio y storďau a luniais na’r cymeriadau a greais (oni bai fod yr actor wedi dod i adnabod ei gymeriad a’i groestyniadau mewnol yn well na’r awdur) ond mynnwyd, dro ar ôl tro, fy mod yn ailstrwythuro’r chwedl ac yn ailwampio’r ddeialog er mwyn eu gwneud yn fwy theatrig. Gwingwn yn erbyn y symbylau ond heb bwdu a chydag ymddiriedaeth yn ateb Sharon i un o’m cwynion: ‘Ryn ni am dy helpu di i sgrifennu’r ddrama ore gelli di’i sgrifennu’.

Mae llunio chwedl a chreu cymeriadau yn broses ddirgel na all hyfforddwr drosglwyddo ei chyfrinachau i griw o ddarpar-awduron fel petai’n trafod gwaith coed, coginio neu drwsio ceir. Dyma air o brofiad Pinter fel y’i traethir yn ei Ddarlith Nobel, Art, Truth and Politics:

It’s a strange moment, the moment of creating characters who up to that moment have had no existence. What follows is fitful, uncertain, even hallucinatory, although sometimes it can be an unstoppable avalanche. The author’s position is an odd one. In a sense he is not welcomed by the characters. The characters resist him, they are not easy to live with, they are impossible to define. You certainly can’t dictate to them. To a certain extent you play a never-ending game with them, cat and mouse, blind man’s buff, hide and seek. But finally you find that you have people of flesh and blood on your hands, people with will and an individual sensibility of their own, made out of component parts you are unable to change, manipulate or distort

Yr Undeb

O weld fy enw i, o bryd i’w gilydd, yn gysylltiedig â datganiadau a gohebiaeth gan Undeb yr Ysgrifenwyr, gallai aelod o’r cyhoedd sydd heb gysylltiad uniongyrchol â’r cyfryngau, y diwydiant llyfrau a’r theatr feddwl mai band-un-dyn yw’r Undeb; neu gorff nad yw ond enw ac esgus i un awdur draethu barn a rhagfarn. Tybiaeth gyfeiliornus. Mae Undeb Ysgrifenwyr Gwledydd Prydain yn undeb llafur cofrestredig ac yn aelod o’r TUC Prydeinig a TUC Cymru. Sefydlwyd ef hanner canrif yn ôl i gynrychioli ac i wasanaethu awduron sy’n ennill eu bywoliaeth yn rhannol neu’n gyfan gwbl drwy ysgrifennu. Oddeutu tair mil o aelodau sydd gan yr Undeb ledled Prydain a chant yng Nghymru. Y Gymraeg yw iaith waith tua hanner y rheini.

Rheolir gwaith yr Undeb yng Nghymru gan bwyllgor fydd yn cyfarfod yn fisol yng Nghaerdydd. Aelodau’r Pwyllgor presennol yw: Siôn Eirian, Angharad Devonald, Angela Graham, Delyth George, Dafydd Huws, Dafydd Llewelyn, Gareth Miles (Cadeirydd), Sharon Morgan, Wil Roberts, Manon Rhys, Othniel Smith. Bydd enwau nifer o aelodau eraill yr Undeb yn gyfarwydd i ddarllenwyr Barn, awduron fel Manon Eames, Marian Eames, Emyr Humphreys, Elaine Morgan, Bethan Gwanas, T. James Jones, Caryl Lewis, Geraint Lewis, Twm Miall, Meic Povey, Harri Pritchard-Jones, Angharad Tomos a Sęra Moore Williams. Nid yw pob awdur proffesiynol, Cymraeg, llwyddiannus yn aelod o Undeb yr Ysgrifenwyr ond maent oll yn elwa ac wedi elwa o amryfal weithgareddau’r Undeb.

Undeb yr Ysgrifenwyr, a dim ond Undeb yr Ysgrifenwyr, sy’n meddu’r hawl i negodi cytundebau, telerau ac amodau gwaith gyda TAC/S4C, BBC ac ITV ac mae gan y darlledwyr hynny gynlluniau pensiwn ar gyfer aelodau’r Undeb yn unig. Gyda Chyngor Llyfrau Cymru, Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru a Chymdeithas y Llyfrgellwyr, ymgyrchodd a lobďodd yr Undeb yn llwyddiannus ymhlith gwleidyddion Bae Caerdydd o blaid cynyddu’r nawdd ariannol a roddir i awduron llyfrau poblogaidd yn Gymraeg. Bu’n flaenllaw yn yr ymgyrch lwyddiannus i danseilio cynlluniau ancien régime Cyngor y Celfyddydau ar gyfer theatr yn y Gymraeg ac i sefydlu Theatr Genedlaethol Cymru fel y mae. Ein llwyddiant diweddaraf yw cymell ACCAC (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) i ganiatáu i’r awduron y bydd yn eu comisiynu i sgrifennu nofelau difyr ar gyfer pobl ifainc i dderbyn cytundeb awdur/cyhoeddwr sy’n cydnabod hawlfraint yr awdur ac yn gwarantu breindal.

Gallwn restru lliaws o fanteision materol perthyn i Undeb yr Ysgrifenwyr ond terfynaf gan fentro awgrymu bod rhai ysbrydol hefyd:

Lliniaru unigrwydd yr awdur trwy aelodaeth o gymdeithas o sgrifenwyr, er mai drwy gyfryngau electronig y bydd y rheini’n cyfathrebu â’i gilydd fynychaf.

Disgyblu myfďaeth. Mae pob awdur yn ymwybodol o’i athrylith unigryw ac yn gresynu bod y rhelyw mor anymwybodol o hynny. Mae perthyn i undeb llafur yn fodd i’w atgoffa ei fod nid yn unig yn artist ac yn ‘berson o alluoedd anghyffredin’, chwedl Geiriadur Prifysgol Cymru, ond hefyd, fel doctoriaid, nyrsus, athrawon, clercod, hogia’r lori ludw, genod Tesco a chyfieithwyr, yn ennill ei damaid trwy werthu ffrwyth ei lafur i gyflogwr.

Rhinweddau gwrthwenwynol. Peri i’r sgrifennwr weld sgrifenwyr eraill fel cydweithwyr yn hytrach na chystadleuwyr. Byddai gofyn iddo ef neu hi ymuno â mynachdy neu gwfaint cyn bod gobaith iddo/iddi ddifa’r gynneddf genfigennus yn llwyr. Llefarodd yr anfarwol Gore Vidal drosom oll pan gyfaddefodd: ‘Whenever a friend succeeds, a little something in me dies.’

awdur:Gareth Miles
cyfrol:519, Ebrill 2006

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk