Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Chwarae Gêm

Cafodd Gwenan Mared gryn hwyl wrth fynd i weld Dominos – cynhyrchiad diweddaraf y Theatr Genedlaethol – ond nid oedd yno, gwaetha’r modd, yr x ffactor.

Un o hoff arferion fy nith dair oed yw gosod ei bys a’i bawd ar ffurf ‘L’ ger ei thalcen fach angylaidd a fy ngalw i’n ‘Loser’! Mae hi wedi meistroli’r grefft ac er nad ydi hi eto’n deall rheolau go iawn y gemau fyddwn ni’n ei chwarae, mae hi’n gwybod pa dafliad o’r dis sydd fwyaf llwyddiannus. Hwyrach bod hynny’n brawf, fel y dywedai’r bonwr mwstashiog Dr Robert (Child of our Time) Winston, mai hap chwarae yw un o’r sgiliau cyntaf mae plant yn ei dysgu. Ac mae hi’n sgil mae rhywun yn gorfod ei hogi gydol oes. Dydi hi’n fawr o syndod felly bod dramodwyr ac athronwyr, o Saunders Lewis a’i ‘antur enbyd’ i gemau iaith Wittgenstein, o T_ Dol Ibsen i gêm wyddbwyll Hamn a Clov yn Diweddgan, Samuel Beckett, wedi gweld bywyd a chwarae gêm yn annatod glwm yn ei gilydd. A gyda dyfodiad technoleg fel y Playstation sy’n cyfuno adloniant gweledol a chwarae gêm, lle mae nofel yn cael ei throi’n ffilm, a ffilm yn cael ei throi’n gêm, mae’r cwestiwn pwy yn hollol sy’n rheoli’r naratif yn mynd yn fwyfwy annelwig.

Daw Dominos, gyda’i gwefan fyw (sy’n mynnu mynd trwy’i phethau hyd yn oed pan da chi’n trio ei thewi!) o graidd y meddylfryd yma lle mae ffawd a hap yn gymeriadau pwysig ym mhob drama. Nid oes rhaid edrych yn bell i weld y ‘domino effect’ sydd ar waith ynddi, gyda’r saith cymeriad yn bwrw i’w gilydd, yn llythrennol weithiau, gan greu’r gadwyn o achos ac effaith sy’n gyrru’r chwarae yn ei flaen. Mae’r ddrama yn rhoi cipolwg ar fywyd saith cymeriad dros bedair awr ar hugain yn y ddinas fawr ddrwg. Yr elfen gyntaf o hap yw bod y trenau wedi peidio rhedeg, ac mae gorfod disgwyl am y trên nesaf yn cychwyn y gadwyn sy’n dod â’r cymeriadau at ei gilydd. Dyma’r ddomino gyntaf, ac fe atgoffir rhywun o’r ffilm Sliding Doors lle mae un eiliad yn newid popeth sydd yn dilyn. Mae’r cwestiwn yma o ‘beth petai’ yn elfen gref yn y ddrama ac mae’r ymdeimlad o hap a siawns bywyd yn cael ei adlewyrchu yn yr adeiladwaith amrywiol sy’n ei gwneud hi’n amhosib i’r gwyliwr wybod beth yn union fydd yn digwydd nesaf.

Efallai hefyd bod effaith domino y teitl yn cyfeirio at y broses ysgrifennu wreiddiol sydd yn gefndir i’r ddrama. Fel yr eglura’r gyfarwyddwraig Judith Roberts yn y rhaglen, cychwynnodd y gwaith fel gweithdy sgriptio. Gofynnwyd i’r actorion eu hunain greu eu cymeriad ac roeddynt i ddewis fel man cychwyn un ai yr enw y byddent wedi mopio ei gael fel plentyn neu’r eithaf arall. O’r crisalys yma y tyfodd Ann, Siân, Ceinwen, Robat, Nigel, Mati a Frances a rhoddwyd mêr yn esgyrn y saith drwy broses hir o greu cefndir a nodweddion manwl i bob un. Dim ond wedyn y gwahoddwyd y sgriptwyr i ysgrifennu ar eu cyfer ac yn hyn o beth, byddwn i’n tybio bod y broses yn ymdebygu i sgriptio ar gyfer rhaglen deledu neu opera sebon lle mae’r cymeriadau yn bodoli eisoes. Ar ddiwedd y cwrs dewiswyd pedair sgriptwraig o’r gweithdy, Manon Wyn, Mared Swain, Angharad Llwyd a Branwen Davies, i fynd ymlaen i ysgrifennu’r ddrama.

Dyma ddwy elfen, felly, o blith llawer fyddai’n sicr o effeithio ar y ddrama derfynol, y dewis eithafol o hoffter neu gasineb oedd yn fan cychwyn i’r cymeriadau, a’r broses greadigol gymhleth lle roedd rhaid i bedair awdur gael hyd i un llais. Mae’r dull a ddewiswyd i adrodd hanes y saith cymeriad yn adlewyrchu’r broses hon. Llwyfannwyd y ddrama ar ffurf theatr y Traverse, (neu, i chi a fi, – llwyfan tebyg iawn i ‘catwalk’ gyda’r gynulleidfa o boptu iddo) ac roedd yna ymdeimlad o fod yn wylwyr pry ar y wal oedd yn gallu llithro i mewn ac allan o’r digwydd efo clamp o chwyddwydr fusneslyd. Nid damwain chwaith oedd y ffaith bod y goleuo yn gwneud i’r llwyfan hir cul ymddangos fel cledrau trên, gan bod y syniad o fod ar daith neu o fod yn chwilio am rywbeth neu rywun yn thema bwysig. Mewn lleoedd cyhoeddus y gosodwyd pob golygfa ond un – caffi, bar, bwyty, ysbyty, gorsaf trenau a ffefryn fy ng_r (oedd ddim wedi disgwyl y fath hwyl mewn drama Gymraeg) – y clwb ‘lap dancing’! Roedd hynny yn galluogi’r cymeriadau i ddod ar draws ei gilydd ac i blethu ei storïau gwahanol. Wrth gwrs, mae’n anarferol cael cymaint o brif gymeriadau mewn drama ac yn hynny o beth roedd Dominos yn ffitio’n daclus iawn efo genre rhaglenni fel Lost. I ryw raddau mae’r gwyliwr cyfoes wedi dysgu ffordd newydd o ‘ddarllen’ drama ac mae disgwyliadau confensiynol eisoes wedi cael eu gwyrdroi.

Er gwaethaf hynny, mae hi’n rhyfedd weithiau sut y mae mân argraffiadau a syniadau sydd wedi taro rhywun yn ystod perfformiad yn tyfu a newid wrth gael eu dadansoddi. Gyda Dominos rydw i’n dod yn ôl dro ar ôl tro at y tebygrwydd rhyngddi a rhaglenni theledu, a hynny’n bennaf am fod yr olygfa a’r cymeriadau sy’n ymddangos ynddi yn newid mor gyson. Er mwyn cadw llif y ddrama a sylw’r gynulleidfa roedd newid golygfa yn rhan o’r chwarae gyda’r dynion propiau yn perfformio dawns o fath wrth symud y dodrefn. Bron iawn nad ydw i wedi disgrifio’r ddrama erbyn hyn fel rhyw gymysgedd o Billy Elliot, Rownd a Rownd a Hollyoaks after Dark! Efallai bod hynny’n adlewyrchu yr amrywiol leisiau, yr actorion, y sgriptwyr a’r gyfarwyddwraig, oedd i gyd â rhannau allweddol wedi ei chreu. Gellid gweld ar adegau sut yr oedd modd rhannu’r gwaith ysgrifennu, gydag un awdur yn cael canolbwyntio ar olygfeydd unigol ac efallai hefyd ar hanes un cymeriad unigol. Ond roedd hi bron yn anorfod, o gyfuno’r cwbwl, y dôi rhai o’r cymeriadau yn bwysicach na’i gilydd gyda stori Mati, er enghraifft, yn cael ei gwthio i un ochr o blaid cymeriad llawn hiwmor a pathos Ceinwen. Roedd yna duedd hefyd i’r cymeriadau ymylu ar yr ystrydebol; roedd Ann yn sicr yn ymddangos felly ar y cychwyn ond fe wnaeth Rhian Blythe hi’n gymeriad real a hoffus er gwaethaf ei hymddangosiad chwyrn a’i hoffter anarferol o pizza madarch a phinafal! O’r pedwar actor craidd Rhian Blythe yw’r chameleon gorau; er fy mod i wedi ei gwylio ar y llwyfan sawl tro, mae hi bob amser yn llwyddo i argyhoeddi fel cymeriad gwahanol. Dyma gynhyrchiad olaf yr actorion craidd, ac yn yr un modd ag y mae hi’n braf weithiau cael pâr o esgidiau newydd er bod na ddim byd o’i le ar yr hen rai, mi fydd hi’n braf gweld wynebau newydd ar y llwyfan.

Un wyneb gweddol newydd o safbwynt y Theatr Genedlaethol yw Angharad Lee, a hi yn sicr oedd seren Dominos i mi, nid yn unig oherwydd yr actio, ond hefyd am fod sgript Ceinwen yn argyhoeddi, a mod i’n teimlo mod i’n adnabod ac yn cydymdeimlo efo’r cymeriad er nad oeddwn yn gwybod fawr ddim o’i hanes. Roedd y cydbwysedd hwnnw yn beth digon anodd cael hyd iddo, cawsom wybod holl hanes bywyd Siôn Sbanar er enghraifft, ond fe’n gadawyd yn reit ddryslyd am gefndir Robat a Frances, er mai eu golygfeydd nhw oedd rhai o’r rhai mwyaf amlwg. Yn sicr roedd Robat yn ddomino bwysig iawn yn y chwarae, yn cynrychioli’r elfen o chwarae gêm efo teimladau, efo rhywioldeb ac efo bywyd yn gyffredinol, ond digon od oedd diweddglo swta’r ddrama pan eglurir yr hunan dwyll sydd wrth wraidd ei broblemau. Fel pob un o’r cymeriadau mae yna rywbeth yn y gorffennol sy’n clymu Robat wrth ei dynged, ond mae ambell un o’r saith cymeriad yn fwy llwyddiannus na’i gilydd wrth chwalu’r patrwm a theg edrych tuag at ddyfodol mwy disglair. Dyma, am wn i, yw craidd y ddrama ond eto i gyd, wrth eistedd i lawr a ceisio rhesymoli’r digwydd a’r diweddglo mae yna deimlad bod rhywbeth ar goll. Efallai yn wir y ceid wythfed cymeriad i’r ddrama mewn gwirionedd, pryfyn o adolygydd Theatr, fel Rita Skeeter JK Rowling, yn hedfan fel rhywbeth gwallgof rhwng llinellau’r ddrama, yn chwilio am undod ond ddim cweit yn llwyddo i gael hyd iddo!

Ond pe byddai’n rhaid rhoi pen ar y mwdwl a chrynhoi, beth fyddai fy argraffiadau i o Dominos? Wel, yn sicr roedd yma ddrama ddifyr, hawdd i’w gwylio gyda sgript dda a digon o chwerthin a thyndra hefyd. Roedd yma drawsdoriad ddiddorol o gymdeithas Gymreig, a chymeriadau difyr er ein bod ni’n malio mwy am hanes ambell un na’r llall. A beth am yr elfennau ‘anweddus’ a gafodd sylw ar Radio Cymru? Wel oedd, ar adegau roedd y digwydd yn risqué, ond ddim mwy felly na mewn sawl drama arall ‘anaddas i blant’. Roedd yr elfennau rheiny yn cydfynd ag ymdeimlad cyfoes y digwydd, gyda symbol y degawd hwn – y ffôn symudol, yn gymeriad bron mor bwysig â’r bobl. Yn sicr roedd hi’n braf gweld rhywbeth gwahanol gan awduron newydd yn dod o stabl y Theatr Genedlaethol. Ond yn y pen draw roedd hi’n anodd cael hyd i’r ffactor x hwnnw sy’n codi drama lwyfan uwchlaw y cyffredin. Efallai bod Dominos yn debyg i raglen deledu dda, yn llenwi bryd rhywun yn llwyr am funud ac yna yn cael ei anghofio. Ond hwyrach mai dyna yw tynged pob gêm yn y pen draw, – daw llaw o gardiau newydd i gymryd lle’r llall, a hynny hyd ddifancoll. Y peth pwysig, fel y dywed Clov wrth Hamn yn Diweddgan, Samuel Beckett, drama y bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn ei pherfformio yn yr Hydref, yw ein bod ni byth yn rhoi gorau i chwarae!

awdur:Gwenan Mared
cyfrol:519, Ebrill 2006

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk