Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Urddas Cenedl a Theatr

Roedd cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Esther yn llawn haeddu’r ganmoliaeth a roddwyd iddo yn ôl Dafydd Llywelyn.

A minnau, wrth ysgrifennu hyn o adolygiad, yng nghanol bwrlwm a rhialtwch Cwpan y Byd, gwelir nifer o faneri San Siôr yn hongian o ffenestri ceir ac yn cyhwfan yn y gwynt. Ystyrir gweithred o’r fath gan rai fel un sarhaus a chul, sy’n cymell casineb, tra bod eraill yn mynnu bod gormod o ffys yn cael ei wneud, gan ychwanegu ei bod hi’n gwbl iach fod pobl yn cael mynegi eu teyrngarwch a’u gwladgarwch mor agored a gweledol. Ffin denau iawn yw honno rhwng balchder cenedlaethol, ag ymddygiad sy’n ymylu ar yr obsesiynol sy’n magu dicter a chasineb tuag at genedl arall.

Dyna mewn gwirionedd thema ganolog cynhyrchiad diweddaraf y Theatr Genedlaethol, Esther o eiddo Saunders Lewis. Gyda’r prif gymeriad yn mynnu rhoi’i bywyd yn y fantol, mewn ymgais i achub dyfodol, urddas, ac enaid ei chenedl, mae amseriad y cynhyrchiad yn eironig o drasig. Ychydig wythnosau wedi perfformiad olaf y ddrama, gwelwyd Hamas yn datgan eu bwriad i ddial ar Israel wedi i saith o Balesteiniaid gael eu llofruddio ar draeth – dim ond un enghraifft o’r llu adroddiadau o’r fath a geir yn y newyddion. Ymddengys nad oes dim yn newid gyda threigl amser, bydd rhai wastad yn dadlau a checru hyd at waed ac angau yngl_n â hawl a pherchnogaeth dros dir – gan gyfiawnhau’r cyfan yn enw crefydd, duw neu wlad.

Er mai dyma’r ddrama gyntaf o dair yn nhymor ‘clasuron’ y Theatr Genedlaethol, go brin y gellid ei hystyried fel un o ddramâu gorau ac enwocaf Saunders Lewis. Mae’n ddrama ddigon astrus a geiriol, a chydag ymateb digon cymysg wedi bod i gynyrchiadau blaenorol y cwmni, gallai’n hawdd iawn fod wedi bod yn fethiant llwyr, ac yn ergyd arall i hygrededd y cwmni.

Mae llawer wedi’i ddweud am rôl a chyfraniad actorion craidd yng ngweithiau blaenorol y cwmni – gyda rhai’n cwestiynu nid yn unig egwyddor polisi o’r fath, ond cryfder ac addasrwydd y rhai a ddewiswyd. Gydag Esther gwelwyd actorion oedd yn perfformio yn enw’r Theatr Genedlaethol am y tro cyntaf, ac er eu bod yn amrywio yn ôl profiad, roeddent i gyd yn ymddangos yn gwbl gyfforddus ar lwyfan, ac o’r herwydd yn gwneud y cynhyrchiad yn llawer mwy credadwy a phleserus i’w gwylio. Roedd portread Carwyn Jones o Harbona yn hynod o effeithiol, ac yn brawf o actor ifanc sy’n sicr o’i grefft. Oherwydd natur a thema’r ddrama, ynghyd â’r ffaith bod cymaint o wybodaeth yng nghorff y gwaith, gallai’r cynhyrchiad fod wedi bod yn hynod o feichus a syrffedus, ac mae’n glod i bob un ohonynt na ddigwyddodd hynny.

Fel cynifer o ddramâu Saunders Lewis, mae Esther yn ddrama sy’n dibynnu llawer ar rythm a llif deialog, a theg yw dweud nad oedd ynganiad ambell i actor wastad yn gyson ac yn taro deuddeg. Wedi dweud hynny, yn gyffredinol roedd perfformiadau’r cast yn gryf, ac yn ddi-os roedd perfformiad Rhys Parry Jones yn ysgubol a disglair. Mae degawdau wedi mynd heibio ers i ni ei weld yn rhan o gynyrchiadau Theatr Gorllewin Morgannwg, ac er bod tueddiad i rywun gyplysu’i enw gyda’i ddawn i drin deunydd ysgafn neu gomedi, profa’r cynhyrchiad hwn bod ganddo ystod llawer ehangach na hynny. Er mai Esther a’i dewrder sy’n ganolbwynt i’r chwarae roedd ei bortread o Haman yn wirioneddol ysgytwol, ac er mor atgas a chiaidd oedd y cymeriad, roedd rhywun yn dal i gael ei sigo wrth weld ei yrfa yn chwalu a’i fyd yn raddol ddadfeilio, prawf diamheuol o’i allu a’i grefft fel actor.

Yn y rhaglen a luniwyd i gyd-fynd gyda’r cynhyrchiad, ceir erthygl fer gan Catrin Beard yn trafod ochr gynllunio’r cynhyrchiad – agwedd a anwybyddir yn rhy aml o fewn y theatr Gymraeg. Guto Humphreys gafodd y gorchwyl o gynllunio’r set a’r gwisgoedd, ac yn rhyfedd ddigon mae’n _yr i Emyr Humphreys, sef y g_r a gynigiodd gomisiwn i Saunders Lewis i ysgrifennu Esther yn y lle cyntaf ar gyfer y BBC. Mewn ambell i gynhyrchiad blaenorol gan y cwmni, mae’r setiau wedi bod yn anferthol o drwsgl a chwbl anghynnil, ond o safbwynt y cynhyrchiad diweddaraf, llwyddwyd i lunio set oedd yn briodol ac yn gweddu i naws y ddrama. I raddau helaeth gellir gweld y set yn grynhoad ac yn adlewyrchiad o’r cynhyrchiad fel cyfanwaith – dim sbloets, dim honglad o beth hyll a goramlwg, ond yn hytrach y cyfan wedi’i blethu’n gynnil gyda phob agwedd ohono’n syml a deheuig.

Yn groes i ambell sylwebydd pęl-droed dros Glawdd Offa ac yn y wasg Lundeinig, mae gofyn bod yn ofalus a gwrthrychol wrth gloriannu ac asesu. Does dim diben mynd dros ben llestri gan honni bod y cyfan yn ffantastig a pherffaith. Yn bersonol, doedd y canu a’r dawnsio a bontiai’r actau ddim fel petaent yn asio nac yn gorwedd yn gwbl gyfforddus yng nghyd-destun gweddill y cynhyrchiad, gan amharu ychydig ar lif y chwarae. Wedi dweud hynny, rhaid canmol y cwmni am lwyfannu cynhyrchiad safonol iawn, ac un sy’n llwyr haeddu cael ei briodoli â label a statws ‘theatr genedlaethol’. Ystyrir Daniel Evans fel un sydd wedi hen ennill ei blwyf ym myd perfformio ac actio ar lwyfan yng Nghymru, ond dyma’r tro cyntaf iddo fynd ati i gyfarwyddo cynhyrchiad proffesiynol yn y Gymraeg. Yn sicr, mae ganddo le i ymfalchďo gydag Esther, doedd dim ymgais i orgymhlethu na bod yn orglyfar – yn hytrach cadwodd y cyfan yn gwbl syml, ac o’r herwydd cafwyd cynhyrchiad hynod effeithiol.

Wrth weld llwyfaniad o’r ddrama yn y de a’r gogledd, braf oedd gweld y theatrau’n llawn a chysondeb yn ymateb y gynulleidfa, gyda phawb o bob oed yn gadael y theatrau’n trafod cynnwys y cynhyrchiad, a’r mwyafrif llethol ohonynt yn gwneud hynny’n gadarnhaol gan nodi eu bod wedi mwynhau – rhywbeth sy’n brysur prinhau ym myd y theatr Gymraeg. Yn niwedd Hydref bwriada’r cwmni lwyfannu Diweddgan, sef cyfieithiad Gwyn Thomas o waith Samuel Beckett, Endgame ac yna’n fuan y flwyddyn nesaf fe eir ati i gynhyrchu addasiad Siôn Eirian o nofel arloesol Islwyn Ffowc Elis, Cysgod y Cryman. Dyna’r drindod a labelir fel ‘tymor y clasuron’. Does ond gobeithio bydd y ddau gynhyrchiad arall yr un mor llwyddiannus ag Esther.

Mewn cyfres deledu yn olrhain hynt a helynt y Theatr Genedlaethol, nododd un o actorion cynhyrchiad cyntaf y cwmni, Siw Hughes, ei bod hi’n gwbl angenrheidiol i unrhyw wlad a chenedl ffyniannus gael darpariaeth theatrig a chwmni cenedlaethol cryf, gan eu bod yn dynodi hyder a sicrwydd. Yn sicr, ni ellir ond amenio hynny. A ninnau’n byw mewn oes lle ymdrybaeddir mewn ystrydebau, mae peryg gwirioneddol i ni dwyllo’n hunain a byw mewn ffug realaeth, lle nad ydi seiliau’n ymwybyddiaeth cenedlaethol yn ddim amgenach na darn o ddefnydd simsan a rhad yn cyhwfan yn y gwynt.

awdur:Dafydd Llewelyn
cyfrol:522/523 Awst 2006

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk