Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Diafol Drama

Ydy o’n bryd noddi’r dramâu festri? Elin Llwyd Morgan sy’n dweud fod rhaid cefnogi’r noswaith ddrama gymunedol.

Daeth cyfnod y gwyliau drama i ben ddiwedd mis Mai, ynghyd â’r teimlad fflat yna a ddaw yn sgil rhoi’r gorau i rywbeth sydd wedi bod ar y gweill ers hanner blwyddyn.

Yn naturiol ddigon, ychwanegwyd at y teimlad gan y ffaith na chafodd Cwmni Glyn Ceiriog yr un wobr yn un o’r tair g_yl y buom yn cystadlu ynddynt, er i ni gael ein canmol gan y beirniaid a chael ymateb da gan y gynulleidfa ym mhob man.

Roedd y ddrama – Y Dyn Newydd gan Carys Davies ein cyfarwyddwraig – yn wreiddiol a doniol a chyfoes, yn dechrau fel drama cegin ffarm draddodiadol cyn troi’n sgit ar raglenni teledu fel Changing Rooms a Wife Swap. Drama oedd yn torri confensiynau, chwedl Alun Elidir (beirniad g_yl Llanrhaeadr), ond beryg na wnaethon ni’r actorion ddigon o gyfiawnder â hi.

Nid oedd amgylchiadau o’n plaid ni o’r dechrau, gan nad oedd dau o’n hactorion gorau ar gael – y naill yn brysur yn hyfforddi rygbi a’r llall wedi mynd i Galiffornia i labro am ddeufis.

Yna, ar ôl ein début yn neuadd y pentre, bu’n rhaid i ddau actor arall dynnu allan am ei bod hi’n adeg _yna, gan beri i Carys orfod cymryd rhan un ohonynt, tra daeth y labrwr yn ei ôl o’r America mewn pryd i gymryd rhan y llall.

Hwyrach y byddai’n haws cael drama efo llai o gymeriadau ynddi er mwyn osgoi problemau fel hyn, ond y peryg ydi y basan ni’n cael lot llai o hwyl wedyn – a dyna sy’n ein hysgogi ni yn anad dim: cael hwyl wrth ymarfer a pherfformio a diddanu pobol eraill.

Tipyn o agoriad llygad oedd sylweddoli nad dyma sy’n ysgogi rhai cwmnïau, fodd bynnag, wrth i ni ddod ar draws un criw ffroenuchel yng Ng_yl Ddrama Eisteddfod Powys. Ac eithrio un aelod clên, roedden nhw’n rhy fawreddog hyd yn oed i wylio cynhyrchiadau’r cwmnïau eraill, felly pleser o’r mwya oedd gweld eu gwepiau’n disgyn pan na chawson nhw wobr!

‘Os oes ’na gythral canu, mae ’na ddiafol drama hefyd,’ oedd un ymateb. Ond mae ein cwmni ni bob amser yn edrych ymlaen i weld ein cyd-gystadleuwyr yn actio, ac yn methu deall unrhyw un nad ydynt yn rhannu ein chwilfrydedd, hwyl a bonhomie thespiaidd!

Chwerthin ydi’r tonic gorau, medda nhw, a dyna pam dwi’n meddwl fod yn well gan bobol weld dramâu digri na rhai difrifol ar y cyfan – ar ein lefel amatur ni, o leia. Braf o beth ydi gweld dramâu newydd hefyd, yn hytrach na’r un hen ailbobiadau.

Ar ôl dod yn ail yng ng_yl Corwen rai blynyddoedd yn ôl efo ffars yr oeddwn i wedi’i sgwennu o’r enw Bl_ Rins a Blwmars, anfonais y sgript at Wasg Carreg Gwalch yn y gobaith o’i chyhoeddi yng Nghyfres y Llwyfan (wedi i ambell un gysylltu â mi yn gofyn am gopi ohoni).

Eglurodd Myrddin ap Dafydd eu bod wedi gorfod rhoi’r gorau i gyhoeddi dramâu gan nad oedd grantiau ar eu cyfer mwyach, er gwaetha’u poblogrwydd a’r ffaith fod cwmnïau o hyd yn chwilio am ddramâu newydd i’w perfformio (fel y gwyddwn ar ôl treulio oriau yn pori trwy storfa ddramâu’r wasg).

Eleni, gwelwyd tair drama wreiddiol a fyddai wedi bod yn ychwanegiadau gwerth chweil i gyfres o’r fath, yn ogystal â chomedïau ein cwmni ni, gan gynnwys Y Ddau Glaf – drama grafog, off-bît olaf y diweddar Brynmor Griffiths, y mae colled enfawr ar ei ôl.

Awgrymodd y dramodydd/beirniad Gwion Lynch mai un opsiwn fyddai cyhoeddi dramâu ar y we, ond yr opsiwn gorau o ddigon fyddai sicrhau grantiau i’w cyhoeddi ar ffurf llyfrynnau bach hwylus yn arddull Cyfres y Llwyfan (neu’n wir atgyfodi’r gyfres honno).

Mae gwyliau a nosweithiau drama yn dal i ffynnu (yng nghefn gwlad yn enwedig), yn adloniant llenyddol sy’n haeddu nawdd ariannol llawn cymaint ag unrhyw gyfrwng llenyddol ac adloniadol arall. Mae teithiau beirdd ac awduron yn cael eu noddi, felly pam anwybyddu diwylliant poblogaidd ‘dramâu festri’? O bosib am eu bod yn rhy werinol eu hapêl mewn byd elitaidd.

awdur:Elin llwyd Morgan
cyfrol:522/523 Awst 2006

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk