Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Theatr Cylch Meithrin

Ar hyn o bryd, mae Arad Goch yn teithio gyda sioe plant newydd Penbobi Hapus, a honno’n darparu ar gyfer plant mor ifanc â thair oed. Jeremy Turner sy’n sôn am gelfyddyd sy’n apelio at y gynulleidfa ieuengaf oll.

Hyd yn oed ar ôl 27 mlynedd o greu theatr, un o’r pethau mwyaf arswydus o heriol yw creu cynhyrchiad newydd i blant bach. Gan nad yw plant bach wedi arfer â chonfensiynau theatr a chan nad ydynt eto wedi dysgu darllen arwyddion ac ymddygiad theatraidd mae’n rhaid i artistiaid theatr sydd yn creu ar gyfer y gynulleidfa arbennig yma ddewis a dethol pob elfen yn ofalus iawn. Mae ’na duedd i feddwl mai rhyw arlwy fast food arwynebol yw’r unig theatr y gall plant ymdopi â hi, rhyw arddull swnllyd, ffwrdd-â-hi a gwirion – y math o arlwy y gwelir gormod ohoni mewn eisteddfodau ac ar nifer o raglenni teledu i blant. Ac er ei bod yn wir fod plant, fel ninnau’r oedolion, yn mwynhau ysgafnder a doniolwch maent hefyd yn gallu gwerthfawrogi celfyddyd mwy sensitif, tawel a soffistigedig. Pethau bregus yw plant bach ac mae’n rhaid i ni gofio hynny a pharchu eu disgwyliadau bob tro. Ac mae gan blant ddisgwyliadau esthetig: dyw’r ffaith eu bod nhw’n llai o faint nag oedolion ddim yn golygu bod eu disgwyliadau’n llai. Yn wir mae eu disgwyliadau yn wahanol ond gyfuwch â’n rhai ni.

Mae Penbobi Hapus – cynhyrchiad diweddara Cwmni Theatr Arad Goch a seilir ar Y Bobinogi – wedi bod yn her mewn sawl ffordd. I’r anwybodusion yn eich plith, cyfres gart_n yw Y Bobinogi (The Bobinogs yn Saesneg) a gynhyrchir gan BBC Cymru. Cymeriadau hoffus a diniwed yw Ogi, Bobin a Nib sydd yn byw ym mhentre delfrydol Abernog. Rhan o’r her wrth addasu cyfres deledu neu lyfr i’r llwyfan yw’r angen i ail-greu’r cymeriadau, yn dri-dimensiwn, gan sicrhau arddull theatraidd gref wrth chwyddo’r cymeriadau a chreu ymddygiad corfforol ar eu cyfer. Nid hawdd o beth mo hynny gan fod y gynulleidfa yn adnabod y cymeriadau yn dda ac yn gyfarwydd iawn a’u hymddygiad. A rhan o’r her, bob tro, yw trosglwyddo cymeriadau o’r sgrîn neu’r llyfr i’r llwyfan heb ddychryn y plant. Ar y teledu mae’r cymeriadau yn fach y tu fewn i’r sgrîn a’r gwylwyr yn ddiogel wrth iddynt reoli maint y s_n a dewis pryd i ddiffodd y rhaglen. Mae’r berthynas rhwng y gwylwyr a’r cymeriadau mewn theatr yn wahanol iawn – y cymeriadau’n fwy, y perfformiad mewn gofod theatr enfawr ac estron (yn hytrach nag adre, yn yr ystafell fyw) a’r gynulleidfa mewn tywyllwch heb reolaeth na dihangfa rhwydd.

Yn ddiddorol iawn, mae ymateb uniongyrchol y gynulleidfa i Penbobi Hapus a’r ymateb i’r fersiwn Saesneg Happy Bobiday yn wahanol. Er nad pantomeim yw’r cynhyrchiad hwn ac er na anogir y gynulleidfa i ymateb, mae’r cynulleidfaoedd yn y perfformiadau Saesneg yn ymateb yn llawer mwy agored a swnllyd fel petaent yn gwylio pantomeim. Mae’r cynulleidfaoedd yn y perfformiadau Cymraeg, fodd bynnag, yn ymateb yn llawer mwy preifat ac er y clywir llawer iawn o chwerthin fel ymateb i’r cymeriadau a’u sefyllfaoedd ni cheir yr un fath o ymateb heriol ac afreolus ag a geir weithiau i’r fersiwn Saesneg. Heb lawer o waith ymchwil nid oes modd esbonio hyn yn llawn ond mae’n hollol bosib fod cynulleidfaeodd Cymraeg eu hiaith yn ymateb yn wahanol oherwydd fod ganddynt lawer mwy o brofiad o wylio perfformiadau a chyngherddau yn eu cymunedau ac o wylio eu cyfoedolion mewn eisteddfodau ysgol, cylch a sir. Mae hyn yn brawf, efallai, o’u gallu a’u hangen i werthfawrogi celfyddyd da mewn ffordd synhwyrol.

Cawsom ein hatgoffa o hyn oll yn ddiweddar gan athrawes a ffoniodd swyddfa Arad Goch cyn iddi fwcio tocynnau i’w disgyblion ddod i weld Penbobi Hapus. Roedd yr athrawes yn pryderu fod y sioe yn mynd i fod yn rhy swnllyd a hynny ar ôl profiad o ymweld â theatr arall pan ddychrynwyd y plant gan y s_n a’r sgrechian. Pwyll a gofal piau hi, felly, a pharch at aelodau bach ein cynulleidfa, eu disgwyliadau, eu dychymyg a’u teimladau.

awdur:Jeremy Turner
cyfrol:522/523 Awst 2006

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk