Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Y Dieithredig

Gyda chyhoeddi dramâu Aled Jones Williams ar ffurf cyfrol yn ddiweddar daeth yn bryd, medd Roger Owen, i fwrw golwg beirniadol ar ei gyfraniad fel dramodydd hyd yma.

Pe bai rhywun yn gofyn i groesdoriad o theatrgarwyr Cymraeg enwi’r llais newydd mwyaf arwyddocaol yn y theatr Gymraeg yn ystod y degawd diwethaf, mae’n debyg mai Aled Jones Williams fyddai ateb y mwyafrif ohonynt. Er bod nifer o ddramodwyr eraill wedi gadael eu marc ar y theatr yn ystod y cyfnod hwn, Aled Jones Williams yn anad neb yw’r un a gyfrifir fel yr arloeswr, y mwyaf deifiol a dadlennol. Wrth gwrs, mae ei alw’n llais ‘newydd’ fel hyn braidd yn gamarweiniol, o ystyried bod ei waith wedi’i lwyfannu – a’i wobrwyo – droeon yn ystod y degawd, a bod cyfran ohono bellach wedi’i gasglu ynghyd yn y gyfrol gwmpasog Disgwyl B_s yn Stafell Mam. Daw’r gyfrol hon fel penllanw ar ei yrfa ‘gynnar’ fel dramodydd o fri cenedlaethol, ond, er gwaethaf y gydnabyddiaeth ddigamsyniol a rydd cyhoeddiad o’r fath iddo, mae’n dra phosibl mai parhau i sôn am ei waith fel deunydd ‘newydd’ a wneir am gyfnod sylweddol eto.

Gellid restri nifer o resymau dros hyn. Yn gyntaf oll, mae ei dechneg theatraidd yn wahanol i nifer helaeth o’r dramodwyr Cymraeg cyfoes eraill, yn enwedig y rheini a ddewisodd ennill bywoliaeth trwy ysgrifennu ar gyfer y teledu. O’i gymharu â hwynt, mae ei ddramâu yn gynhenid theatraidd, a heb eu dylanwadu gan arferion a chonfensiynau’r ddrama-gyfres wythnosol (mae hyn ynddo’i hun yn ddigon i’w wneud yn ffigwr pwysig!). Yn ail, mae ei waith yn gignoeth o safbwynt ieithwedd a chynnwys, mae’n feiddgar a herfeiddiol, ac fe’i disgrifir yn aml fel dramodydd ‘dadleuol’ (er mor llipa yw’r defnydd o’r gair hwnnw erbyn hyn), sy’n awgrymu rhyw elfen o newydd-deb trwy fwrw bod y gynulleidfa heb gymhathu gweledigaeth y dramodydd yn llwyr eto. At hynny, mae’r ifainc, boed theatrgarwyr neu theatr-weithredwyr, yn ffoli ar ei waith, ac mae hyn eto’n creu rhyw deimlad nad dramodydd yn unig mohono ond ffenomen, ‘darganfyddiad’ celfyddydol cyfoes. Ategir yr ymdeimlad hwn gan y ffaith fod natur farddonol ei waith – fel y dywed Nic Ros yn ei ragarweiniad sylwgar a chelfydd i’r casgliad – yn gwahodd deongliadau gwahanol: yn wir, mae’r dramâu, yn fwy nag odid unrhyw gynnyrch cyfoes arall yn y Gymraeg, yn mynnu llwyfan a chynulleidfa i’w cwblhau. Yn olaf, rhaid cydnabod hefyd fod menter eofn a chrefft theatraidd digamsyniol ei waith yn arbennig ynddo’i hun, a’i fod yn rhinwedd y cryfderau hyn wedi ysgogi sylw ac awch newydd ymysg y genhedlaeth bresennol o theatrgarwyr. Yn hynny o beth, mae’r traethu am ‘newydd-deb’ ei waith yn arwydd nid yn unig o geidwadaeth neu gyffredinedd y theatr Gymraeg, ond hefyd o’i gyrhaeddiad ef ei hun fel dramodydd a’i afael ar ddychymyg y cyhoedd.

Ond o edrych y tu hwnt i’r arwyneb hwn, a oes sylwedd gwirioneddol i’r corpws hwn o ddramâu? A fydd lle arhosol iddynt o fewn hynny o draddodiad sydd gan y ddrama Gymraeg? Neu a ydynt mewn gwirionedd yn datgelu mwy am ddyheadau a ffasiwn y theatr bresennol?

Yn sicr, mae yna elfen gref o gyfoesedd ynddynt. O safbwynt eu cyfeiriadaeth at rai o obsesiynau’n hoes – megis trais rhywiol, canser, agnosticiaeth, difodiant yr iaith – maent yn gwbl nodweddiadol o’r Gymru gyfredol, ac o’r dosbarth cymdeithasol hwnnw sydd fwyaf cefnogol i’r theatr. Mae tuedd Aled Jones Williams i osod ei waith yn y milieu cyfoes (o ran natur y drafodaeth a geir ynddo, wrth gwrs, nid o ran lleoliad damcaniaethol y dramâu eu hunain) yn gwbl fwriadol, gan mai un o’r dyfeisiadau mwyaf amlwg ynddo yw’r arfer o wreiddio profiad cymeriadau ym manion y disymwth a’r arferol anhelynegol, cyn trawsnewid y gwrysg sychion hynny yn dyfiant barddonol byw.

Er enghraifft, pan fo Tom yn Fel Ystafell yn teithio’n ôl o’r ysbyty ar fws Crosfil wedi marwolaeth ei wraig Gwen, mae llif digymell y beunyddiol o’i gwmpas yn ei lethu a’i wylltio: ‘…be o’dd yn y mygro fi’n fwy na dim o’dd fod pob peth yn mynd ymlaen jyst run fath… Fod ffêr b_s o sbyty Gwynedd i Gnarfon yn dal run pris… Fod pobol yn postio llythyr… Fod pobol yn meiddio prynu da-da…’. Mae bywyd beunyddiol yn ddieithr ac yn swreal-sathredig; ac fe esyd hyn weledigaeth Aled Jones Williams yn ddiogel ymhlith dramodwyr modernaidd amlwg eraill, megis Pirandello, Sartre a hyd yn oed Ionesco, a seiliodd eu gwaith hwy ar ymneilltuad yr unigolyn o’r gymdeithas (hurt) o’i gwmpas. Ef yw apostol cyfoes dieithriad ar y llwyfan Cymraeg, a mae tynged hanesyddol ei waith ynghlwm wrth dynged hanesyddol y dieithredig ôl-Ramataidd a Modern fel modd o fynegi profiad celfyddydol.

Agwedd arall ar y dinodedd cyfoes yn ei ddramâu yw’r cyfeiriadau at fasnach a siopa. Er mor ddibwys yr ymddengys y rhain, maent eto’n dra phwysig iddo fel motiff, ac hefyd fel ffordd o wahaniaethu rhwng ei waith a’i weledigaeth ef a chynnyrch rhai o’i ragflaenwyr, megis Gwenlyn Parry. Fel y noda Nic Ros, mae tebygrwydd sylweddol o ran ffurf a llwyfannu rhwng Pêl Goch a rhai o ddramâu Parry, megis Y T_r ac Y Ffin; eithr y gwahaniaeth rhyngddynt yw’r ffaith fod Aled Jones Williams yn gwbl glir fod profiad ei gymeriadau yntau wedi ymffurfio mewn byd a reolir gan gorfforaethau a chwmnïau, gan rymoedd prynwriaeth. Amhosibl yw crynhoi eu bywyd hwy (a’n bywyd ninnau gan hynny) heb gydnabod dylanwad cyson hysbysebu ac ymwybyddiaeth brand ar eu meddwl a’u lleferydd. Mae hyn, wrth gwrs, yn arbennig o wir yn neialog Sundance a Tiwlips, ac yng ngosodiad llwyfan Pêl Goch. Wrth sylwi ar lwyfan llawn llanast yr olaf (sy’n atgoffa dyn o’r ddramodig Breath gan Beckett a Flowers of the Dead Red Sea gan Ed Thomas), ymddengys bod t_r a chwt bugail ynysig Gwenlyn Parry wedi’u hen gymhathu i’r gymdeithas gyfoes (wedi’u hadnewyddu’n chwaethus, hwyrach, a’u gwerthu am grocbris); a bod cred Gwenlyn Parry, neu ynteu ei ddyhead hiraethus, am gymundod brodorol integreiddiedig i gynnal arwahanrwydd yr adeiladau hynny wedi darfod. Rhydd hyn eto arlliw o ‘newydd-deb’ i waith Aled Jones Williams; ond rhaid fydd aros i weld a gydnabyddir glendid (Persilaidd) Cymreictod hydreiddiedig oes y mewnlifiad a’r egin-Gynulliad gan yr oesoedd a ddêl.

Diau mai’r elfen amlycaf sy’n awgrymu newydd-deb gwaith Aled Jones Williams yw aflonyddwch eithafol ei weledigaeth. Er gwaethaf treigl amser, ni chymedrolwyd ei weledigaeth, a gwrthododd dderbyn gwrthdrawiadau a throeon maith yr yrfa fel rhan o drefn rhagluniaeth. Ac yntau ar ddiwedd ei ddegawd gyntaf fel dramodydd cyhoeddus, mae ei awen yn dal fel pe bai’n cael ei chyffroi gan ei amheuon, ei ofnau a’i sensitifrwydd cynhenid. Er gwaethaf amrywiaeth sylweddol ei waith – ac fe amlygir hynny’n arbennig o glir gan y dramâu a gasglwyd ynghyd yn Disgwyl B_s yn Stafell Mam – mae’r pwyslais ar ryferthwy’r natur dynol, ar boen ac ofnadwyaeth bywyd yn gyson. Diddorol yw gweld hefyd sut y mae’r holl sôn am chwantau mynych y corff yn cael eu cysylltu’n aml gydag elfennau eraill, digon anghymarus, megis ymwybyddiaeth o ddifodiant yr iaith. Ceir hyn oll yn glir yn Ta-Ra Teresa, lle mae’r iaith yn gyfrwng uno’r cariadon, a lle gwelir y dramodydd ei hun yn defnyddio’r perfformiad byw fel cyfrwng i’w harddu; ond eto i gyd, cyflwynir yr iaith hefyd fel cyfrwng twyll, siomiant, dieithriad – a mudandod gwleidyddol. Tua diwedd y ddrama, ac yntau dan droed Johnnny Heneghan, sy’n piso Tryweryn yn ôl i’w geg wrth ddatgelu’r gwirionedd wrtho am briodas sham ei rieni, mae Robat Hefin yn ymosod ar ieithwedd ei fam, a’i Chymraeg, gloyw, ffug:

EIRWEN: (WRTH ROBAT)

Be dduda i wrtha ti? Be dduda i?

ROBAT HEFIN: (O’R LLAWR)

Dim byd fel arfer, Mam. Mond siarad ffwl sbîd. Siarad Cymraeg gloyw, cywir drwy gydol’ch priodas anghyfiaith chi. A Nhad fel dymi dyn-taflyd-ei-lais yn dynwared ’ch deud-dim huawdl chi.

Mae’r oll yn ddieithredig; hyd yn oed yr iaith a ddefnyddir i fynegi’r weledigaeth i’r gynulleidfa. A dyna’r rheswm pennaf, efallai, dros barhad yr ystyriaeth o waith Aled Jones Williams fel newyddbeth: am mai ef yw’r diweddaraf mewn cyfres o ddramodwyr Cymraeg sydd wedi ceisio mynegi syndod ac angst y profiad Modern yn eu gwaith, ond heb lwyddo darbwyllo trwch y gynulleidfa theatr fod y fath weledigaeth yn un arhosol a thrasig.

awdur:Roger Owen
cyfrol:522/523 Awst 2006

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk