Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Dramur Wyl

Dafydd Llywelyn syn bwrw golwg ar gystadlaethaur Fedal Ddrama ar Ddrama Hir yn yr Eisteddfod eleni, ac yn awgrymu ffyrdd ymlaen i ddarpariaeth theatrig Eisteddfodaur dyfodol.

Wedi rhialtwch yr haf, y gwyliau llawn tyndra, y ffraeo ar cecru diddiwedd, gwelir elfen o normalrwydd yn raddol ddychwelyd in bywydau gydar ysgolion yn ailagor, ar oedolion yn dychwelyd iw gwaith. Wrth weld y dail yn crino, ar dyddiaun brysur ildio tir i dywyllwch ar oerfel, rywsut neui gilydd maen haws mynd ati i sgwennu. Maen amlwg bod gaeaf y llynedd wedi bod yn gyfnod prysur a chynhyrchiol iawn i Manon Steffan Ros, gan iddi gipior Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol. Nid yn unig hynny, ond llwyddodd i ddod yn ail yng nghystadleuaeth y goron hefyd, a braf oedd gweld dwy arall syn ymdrybaeddu ym myd y ddrama, Eigra Lewis Roberts a Fflur Dafydd, yn dod ir brig ym mhrif gystadlaethaur brifwyl.

Er gwaethar ffaith bod Manon Steffan Ros wedi derbyn canmoliaeth uchel iawn gan y beirniaid, ac yn llwyr deilyngur fedal ddrama, go brin y gallwn orfoleddun llawen a dathlu o ran y cynnyrch a ddaeth i lawr beirniaid. Cafwyd deg ymgais yng nghystadleuaeth y ddrama hir, saith yn perthyn ir trydydd dosbarth, a thri yn yr ail ddosbarth; tra bod pymtheg wedi ymgeisio yng nghystadleuaeth y ddrama fer, a dim ond creadigaeth o eiddo Manon Steffan Ros a haeddai unrhyw fath o glod. Pump ar hugain o weithiau ar cwbl, ag eithrio un, yn dorcalonnus, a nodwyd mai prif wendid yr ymgeiswyr yng nghystadleuaeth llunio drama hir oedd eu [h]anallu i ysgrifennu stori dda.

I raddau, cawl eildwym ywr drafodaeth a geir yma, achos dagrau pethau yw bod sefyllfa or fath wedi codii phen dro ar l tro ers blynyddoedd bellach, ac mae rhywun yn dechrau alaru ar yr holl ddadansoddi. Fodd bynnag, maen rhaid i rywun fod yn gwbl agored a gonest, a chydnabod bod y safon yn drybeilig o isel a gwael. Yn y Gymru gyfoes sydd ohoni lle mae tramgwyddo a phechu mor rhwydd iw wneud dylid pwysleisio nad beirniadaeth bersonol mo hon, ni ellid gosod y cyfrifoldeb neur bai ar ysgwyddau un unigolyn. Does dim dwywaith bod nifer yn gweithion galed ac yn ddiflino a dylid ychwanegu bod y ddarpariaeth a geir ar gyfer cwmnoedd amatur o fewn yr Eisteddfod Genedlaethol iw gweld llawer iachach a llwyddiannus ond yng nghyd-destun cystadlaethau cyfansoddi drama hir a fer, maer sefyllfa fel ag y mae ar y funud yn fethiant llwyr.

Mewn ymgais i newid y sefyllfa hon, mae sawl awgrym wedii wneud dros y blynyddoedd; yn eu plith symud seremoni wobrwyo yn l ir pafiliwn, ynghyd chael yr Orsedd yn bresennol yn ystod y seremoni honno. Mewn egwyddor, mae awgrym or fath yn ddigon teg, ond o edrych ar y sefyllfan gwbl bragmataidd ac ymarferol, go brin y gellid gwireddu hyn. Er bod camau or fath wedi adfywio a chryfhau statws a safon cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith, go brin y gellid disgwyl i aelodaur Orsedd ei heglu hi am y pafiliwn ar gyfer pedair seremoni mewn pum diwrnod ac yn ddi-os byddai trefnwyr seremonau Tlws y Cerddor a Gwobr Goffa Daniel Owen yn cicio a strancio. Yn hytrach na chael seremoni ysblennydd, haerwn mair pleser mwya y gellid ei roi i unrhyw ddramodydd werth ei halen, yw cael gweld ei waith wedi ei lwyfannun broffesiynol, a chael gweld a gwrando ar ymateb y gynulleidfa.

Beirniaid cystadlaethau llunio drama hir a fer yn Abertawe eleni oedd Meic Povey, dramodydd mwya cynhyrchiol a llwyddiannus y degawdau diwethaf, a Branwen Cennard, sydd wedi bod yn ymwneud byd y theatr a theledu ers blynyddoedd. Byddai rhywun yn tybio bod natur a chalibr y beirniaid ynddoi hun yn ddigon o abwyd i sicrhau bod yna ddiddordeb ymhlith dramodwyr newydd ar rhai sydd eisoes wedi ennill eu plwyf ysywaeth, nid dyna ddigwyddodd.

Ychydig flynyddoedd yn l aed ati i geisio atal y patrwm truenus o ddiffyg teilyngdod drwy gynnig gwobr ariannol sylweddol fel abwyd. Un rheswm a grybwyllwyd fel cyfiawnhad dros hyn oedd bod sgwennu ar gyfer y teledu yn cynnig llawer mwy o arian na byd y theatr, ac ystyriwyd y byddai ychydig o filoedd yn gwneud iawn am hynny. Roedd cam or fath yn fwy o sarhad na dim arall, gan ei fod yn awgrymu mai dyna unig gymhelliad ysgrifenwyr dros gystadlu, a buan y sylweddolwyd mai cam gwag ydoedd. Nid arian syn mynd i ddenur dramodwyr, ond yn hytrach ychydig o barch, ac yn y bn dynar gwahaniaeth pennaf rhwng prif gystadlaethau eraill y Brifwyl ar Fedal Ddrama, sef y diffyg parch a ddangosir tuag at y grefft o lunio drama.

Pan mae beirdd a llenorion yn rhoir atalnod llawn olaf ar eu gweithiau maer gwaith, i bob pwrpas, yn gynnyrch gorffenedig a chyflawn. Ni ellid dweud yn yr un modd am lunio drama. A defnyddior gymhariaeth a wnaed gan Ron Davies wrth drafod y Cynulliad yng Nghaerdydd, proses yw rhoi drama ar lwyfan. Maen gwbl arferol cynnal gweithdai, darlleniadau a chyflwyno drafft ar l drafft o ddrama, cyn yr eir ati iw hymarfer yn iawn, ac hyd yn oed wedyn, ceir newidiadau a thocio man hyn a man draw cyn iddi weld golau dydd. Dyna realitir broses o lwyfannu drama, ac os yw dramodydd mor brofiadol Meic Povey yn mynd drwyr broses honno, yna siawns na all dramodwyr llai profiadol ond elwa o brofiad or fath. Yn ei beirniadaeth, dywedodd Branwen Cennard bod gofynion y cystadlaethau cyfansoddi yn enfawr, ond drwy fabwysiadu polisi or fath, efallai y gellid ysgafnhau ychydig ar y pwysau a osodir ar ysgwyddaun dramodwyr.

O ganlyniad ir argyfwng ariannol a wynebodd yr Eisteddfod ychydig flynyddoedd yn l, penderfynwyd diddymur ddrama gomisiwn. Beth bynnag oedd y dadleuon o blaid ac yn erbyn penderfyniad or fath, yr hyn syn bwysig nawr yw edrych a chynllunio tuag at y dyfodol, a chyda ychydig o ewyllys da a chydweithio call, gellid manteisio ar absenoldeb y ddrama gomisiwn, a bod yn gadarnhaol. Pe bai cystadleuwyr yn gwybod i sicrwydd bod y gwaith buddugol iw lwyfannun llawn (ac nid darlleniad or gwaith) gan gwmni proffesiynol yn yr Eisteddfod ganlynol, gall fod yn ysgogiad ac yn nod i anelu ato. A phe byddair beirniaid or farn nad oedd teilyngdod, o leiaf byddai gan yr awduron ddeuddeg mis i weithio gyda chwmni proffesiynol, er mwyn datblygur egin ddrama ai gweld yn tyfu ac yn siapio. Drwy wneud hyn, rhoddid cyfle ir awduron ddatblygu hyder a chael profiad amhrisiadwy o gydweithio gyda chwmni ac actorion proffesiynol. Yn ogystal, gellid sicrhau wedyn bod yna gynhyrchiad proffesiynol yn cael ei lwyfannun flynyddol yn enwr Eisteddfod, a chyda momentwm a hyrwyddo gofalus gall etifeddu mantell y ddrama gomisiwn yn ddigon rhwydd. Dwin ymwybodol bod ymgais debyg wedii roi ar brawf yn y gorffennol, ond yr argraff roedd rhywun yn ei gael bryd hynny oedd mai trefniant a syniad nas ddatblygwyd iw llawn botensial ydoedd. Os yw cynllun or fath i lwyddo, nid ar chwarae bach mae gosod peiriant a system yn ei le. Rhaid sicrhau bod y cyfan yn cael ei drefnun gwbl drwyadl, a bod y gefnogaeth ar ddarpariaeth yn gynhwysfawr, yn ddigonol, ac yn anad dim, yn gwbl broffesiynol.

Honna rhai bod y ddrama ar theatr yng Nghymru mewn cryn argyfwng, a bod y broblem yn llawer dyfnach nar hyn a ellid yn rhesymol ddisgwyl ir Eisteddfod Genedlaethol ei chyflawni. Yn sicr, mae gwirionedd yn perthyn ir gosodiad, ond ni ddylai hynny lyffetheirio rl ac ymdrech yr Eisteddfod i geisio newid pethau er gwell. Mae cynulleidfaoedd niferus cynyrchiadau y Theatr Genedlaethol yn gwrthbrofir ddadl nad oes diddordeb bellach ym myd y theatr. Teg yw dweud bod angen adennill hyder a ffydd y gynulleidfa, ond os ywr arlwy theatrig yn gyson dda a safonol, buan y llenwir ein theatrau. Yr hyn sydd wedi newid yn ystod y degawdau diwethaf ywr dirywiad yn y tueddiad ymhlith y cyhoedd i fynychu cynyrchiadau oherwydd eu bod yn teimlo rheidrwydd i gefnogir pethe a gweithgareddau yn y Gymraeg a diolch ir drefn am hynny. Nid elusen ywr theatr, ac ni ddylai ddibynnu ar gardod a chydymdeimlad y Cymry am ei chynhaliaeth dylair gweithiau a gynigir fod yn ddigon cryf a deinamig i gynnal diddordeb a chwilfrydedd y cyhoedd. Gall yr Eisteddfod chwarae rl amhrisiadwy yn y broses o geisio adfywio byd y ddrama yng Nghymru, a rhoi hwb sylweddol i awduron a gweithiau newydd.

Gydag eisteddfodwyr pybyr wedi hen adael maes llychlyd Abertawe, maen golygon bellach ar Sir y Fflint. Yn yr Eisteddfod honno, gwelir dramodydd ac actores hynod brofiadol a chadarn yn beirniadu cystadleuaeth y Fedal Ddrama. Does ond gobeithio y bydd y cynnyrch a gaiff Sin Eirian a Betsan Llwyd drwyr post ganmil gwell a safonol nar hyn a gyflwynwyd eleni.

Er bod natur yr erthygl hon ychydig yn besimistaidd, dylai camp Manon Steffan Ros gynnig llygedyn o obaith i garedigion y ddrama yng Nghymru. Tra roedd y dail yn disgyn ar nosweithiaun oeri yn ystod gaeaf 2005, fe aeth hi atin ddiwyd i lunio drama sydd yn dweud stori dda ar storin cael ei datgelun gelfydd. Drama ac ynddi gymeriadau crwn, cymhleth, diddorol, cymeriadau y gellir cydymdeimlo ac uniaethu nhw ar rheiny yn gymeriadau wedi eu gosod mewn sefyllfa gwbl gredadwy. Llongyfarchiadau mawr iddi ar ei champ, does ond gobeithio y bydd gaeaf eleni yn ysbrydoli ei chyd-ddramodwyr ir un graddau.

awdur:Dafydd Llewelyn
cyfrol:525, Hydref 2006

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk