Diwrnod Dwynwen
Chwech o ddramâu byr gan chwe dramodydd ifanc fu cynhyrchiad diweddaraf Sgript Cymru. LLINOS NELSON sy’n bwrw golwg ar eu gwaith.
Cymerwch griw o ddramodwyr ifanc a brwdfrydig. Rhowch deitl iddyn nhw; sodrwch nhw yng nghanolfan ysgrifennu T_ Newydd yn Llanystumdwy am wythnos; anfonwch nhw i lawr at y traeth yng Nghricieth am ysbrydoliaeth a be’ ‘dach chi’n gael? Cynhyrchiad diweddaraf Sgript Cymru, Diwrnod Dwynwen.
Y mae’n ffordd arbrofol a dewr iawn o greu drama. Bwriad Sgript Cymru oedd creu cywaith o chwe drama fer, pob un ohonynt o dan y deitl ‘Dwynwen’ a phob un wedi ei gosod ger y môr. Y canlyniad yw collage lliwgar ac amrywiol o ddramâu gwreiddiol a’r cyfan wedi eu hasio a’u plethu gan nodwydd gelfydd y gyfarwyddwraig, Elen Bowman.
Rhaid tynnu het i gwmni Sgript Cymru am ei waith diflino a’i agwedd agored ac anelitaidd tuag at awduron a dramodwyr. Mae’n cynnal gweithdai a chyrsiau ledled Cymru yn gyson ac mae croeso i unrhyw un eu mynychu – o’r dramodydd profiadol i’r amatur llwyr. Yn sicr, fe fyddai’r theatr yng Nghymru yn lle tipyn tlotach heb Sgript Cymru, a theimlaf nad yw’n derbyn y gydnabyddiaeth na’r gwerthfawrogiad haeddianol.
Yr hyn a’m trawodd wrth gnoi cil dros y dramâu oedd mai criw digon sinigaidd a negatif oedd y chwe dramodydd a ddewiswyd sef Fflur Dafydd, Angharad Elen, Angharad Devoland, Nia Wyn Roberts, Dafydd Llewelyn a Meleri Wyn James. I ni’r Cymry, mae Dwynwen i fod i gyffroi emosiynau cariadus a rhamantus – mynd am dro law yn llaw ar y traeth wrth i’r haul fachlud yn fendigedig ar y gorwel, llythyrau caru sydd i’w trysori am weddill oes, rhosod o liw coch tanbaid a swigod hyfryd o champagne yn nofio i’r wyneb. Fodd bynnag, nid oes yna unrhyw arwydd o galonnau, cardiau na chusanau yn y dramâu hyn.
Er bod pob drama yn dra gwahanol o ran naws ac arddull, mae yna un nodwedd gyffredin yn bresenol ym mhob un ohonynt. Mae’r prif gymeriadau i gyd wedi creu byd ffantasïol iddynt eu hunain, gan adeiladu wal ddychmygol i’w hamddiffyn rhag realiti caled y byd. Mae pob un hefyd yn gorfod wynebu’r realiti hwnnw wyneb yn wyneb yn ystod y dramâu.
Er mawr ryddhad, mae yna hefyd fflachiadau o hiwmor mewn ambell ddrama a diolch i’r drefn am hynny. Hebddynt, fe fuaswn yn sicr wedi gadael y theatr o dan gwmwl du y felan.
Y mae perfformio casgliad o ddramâu byrion yn her i unrhyw actor, ond mae pob un o’r cast – Gwion Huw, Arwel Gruffydd, Rhian Green a Lisa Jên Brown – yn llwyddo i lithro’n rhwydd a didrafferth i mewn ac allan o’u cymeriadau toreithiog. Fodd bynnag, Arwel Gruffydd yw seren y sioe i mi wrth iddo arddangos ei ddawn fel actor comig gyda’i amseru perffaith cyn plymio i grombil cymeriad trasig a thrist.
Egyr y gyfres gyda Hugo gan Flur Dafydd. Y mae enw Fflur yn gyfarwydd o fewn y byd llenyddol a cherddorol ac i ddarllenwyr ffyddlon Barn wrth gwrs. Fodd bynnag, dyma’r tro cyntaf iddi droi ei llaw at y ddrama.
Tri chymeriad sydd yn y ddrama, sef y pysgotwr – Cerrynt (Gwion Huw), Huw (Arwel Gruffydd) a Lisa (Rhian Green) y newyddiadurwraig. Y mae Huw wedi darganfod llyfr a ysgrifennwyd gan fardd di-fflach o’r ddeunawfed ganrif sy’n telynegu am gymeriad chwedlonol o’r enw Hugo. Credir mai ef oedd y cyntaf i ymgartrefu ar yr ynys. Y mae Huw, mewn ymgais i lenwi ei fywyd gwag, wedi gadael i Hugo feddiannu ei fywyd. Yn wir, y mae’n ymbellhau oddi wrth realiti i’r fath raddau hyd nes ei fod yn hollol grediniol nad Huw mohono bellach, ond Hugo ei hunan. Ond, fel y crybwyllwyd yn gynharach, gorfodir pob cymeriad i wynebu realiti caled y byd go-iawn ac mae Lisa, fel pob newyddiadurwraig werth ei halen, yn chwalu byd ffuglennol a diogel Huw.
Mae cymeriad Huw (neu Hugo!) wedi ei lunio’n grefftus. Wrth i mi chwerthin am ben ei ymdrechion pathetig i brofi’r stori, roeddwn hefyd yn ei bitïo bwrth iddo lynu’n ffyddlon at ei chwedl denau a di-brawf. Y mae Fflur Dafydd wedi ymateb i’r teitl gyda dychymyg a gweledigaeth arbennig. Wrth fentro i fyd y ddrama, y mae hi wedi profi ei bod yn ysgrifenwraig amryddawn dros ben i greu drama unigryw a chofiadwy.
Fel yn Hugo, mae’r cymeriadau yn y ddrama ddilynol, Gwesty, gan Angharad Elen hefyd yn gwrthod wynebu eu realiti personol hwythau. Y mae Sera (Lisa Jên Brown) a’i merch Bambi (Rhian Green) yn rhedeg gwesty bychan mewn tref glan môr. O’r eiliad y camodd Lisa Jên Brown ar y llwyfan yn ei dillad di-siâp a’i spectol fawr drwsgwl gan ddatgan yn ddramatig ei nbod am wneud treiffl roeddwn yn gwybod fy mod am fwynhau’r ddrama hon. Mae yna rhywbeth doniol iawn am ei dull gorfanwl a gofalus o baratoi treiffl i’w g_r. Ond y tu ôl i’r cyfuniad melus a meddal o gwstard, spwng, ffrwythau, hufen a’r anfarwol glacé cherry, y mae byd chwerw a chaled yn llechu. Yn y byd didostur hwn, ni fydd ei g_r byth yn dychwelyd. Y mae Bambi, yn ei gwylltineb, yn chwalu’r treiffl. Trwy wneud hyn mae hi hefyd yn chwalu breuddwydion ei mam ac yn ei gorfodi i dderbyn y gwirionedd llym. Fodd bynnag, nid Sera yw’r unig un sy’n byw mewn byd ffantasïol. Y mae Bambi hefyd wedi creu byd dychmygol iddi hi ei hunan. O fewn muriau’r byd hwn, y mae hi’n arwres ramantus sy’n byw bywyd cyffroes, ac nid merch unig sy’n byw mewn gwesty llwm gyda’i mam. Mewn cwta ddeng munud mae Angharad Elen wedi llwyddo i greu portread gwych o ddwy ferch, ill dwy’n byw bywydau trist a gwag, a’n harwain drwy ddrysfa cymhleth eu gobeithion a’u dyheadau. Perl o ddrama.
Chwelir mwy o freuddwydion yn nrama Angharad Devoland, Y Dadebru. Y mae’r plot yn un cryf. Yr ydym ar draeth ac y mae Meilyr, sydd newydd gael ei ryddhau o’r carchar, yn aros am Delyth, y ferch sydd wedi bod yn ysgrifennu ato drwy gydol ei gyfnod o dan glo. Y mae’n cydio’n dynn mewn tusw o flodau a hefyd yn cydio’n dynn yn y gobaith y bydd Delyth yn fodlon ei briodi, er mai dyma’r tro cyntaf iddynt gyfarfod wyneb yn wyneb. Maent yn rhannu’r llwyfan gyda chwpwl arall, sef y Meilyr ifanc a merch o’r enw Dyddgu.Wrth i bethau boethi rhwng y ddau y mae Dyddgu’n cael traed oer ac nid yw am fynd ymhellach. Yna, fe ddatgelir beth oedd y drosedd erchyll a gyflawnodd Meilyr a pham y’i hanfonwyd i garchar. Yn ôl yn y presennol, y mae ei freuddwydion yn disgyn yn ddeilchion o’i gwmpas wrth i Delyth wrthod y fodrwy a gyflwynir iddi. Y mae’n ceisio ei gwthio ar ei bys yn erbyn ei hewyllys mewn un ymdrech olaf i wireddu’r freuddwyd, ond methiant ydyw.
Er gwaethaf cryfderau’r plot, nid oes digon o ddyfnder i gymeriadau Angharad Devoland. Maent yn fflat ac yn llwyd ac roeddwn ar dân eisiau gwybod mwy amdanynt. Beth yw cefndir Meilyr? Pam bod Delyth wedi llythyru gyda Meilyr mor ffyddlon ar hyd y blynyddoedd? Ydi hi’n unig? Yn drist? Gadewir nifer fawr o gwestiynau heb eu hateb. Petawn yn bwyta pryd o fwyd, dim ond y cwrs cyntaf fyddai’r ddrama hon, rhyw prawn cocktail neu felon dyfrllyd ac ni fuaswn yn teimlo’n llawn nac yn fodlon ar ôl ei fwyta.
Tro Rhian Green i ddisgleirio yw’r ddrama nesaf sef Chwara Plant gan Nia Wyn Roberts. Mae gan nifer o actorion arferiad anffodus o oractio wrth chwarae y rhan meddwyn a’r plentyn. Ond mae portread cynnil Rhian Green o Rebecca, merch wyth oed sydd mewn galar am ei thaid, yn wych. Plentyn unig yw Rebecca ac mae ei rhieni’n rhy brysyr yn dadlau i sylweddoli fod eu merch fach nhw’n boddi mewn môr o alar am ei hannwyl daid. Er mwyn ddianc rhag y byd didostur hwn, y mae Rebecca’n mynd i’r traeth ac yn creu byd arall, ffantisïol iddi hi eu hunan. Yma, mae hi’n ferch fach ddedwydd ac mae ganddi ffrindiau hoffus yn gwmni. Pan mae Rebecca’n darganfo llysywen farw ar y traeth mae hi’n ei gweld fel cyfrwng i gysylltu â’i thaid yn y nefoedd ac yn mynd ati i drefnu angladd iddi. Ceir golygfa swreal sydd ar un llaw yn ddigrif iawn, ac ar y llaw arall yn drist iawn wrth iddi weld ei thaid (Arwel Gruffydd) yn dawnsio yn y nefoedd gyda’i ‘ffrindiau’ ac yn cynnig hufen iâ iddynt. Wrth i’r ffantisi dyfu y tu hwnt i bob rheolaeth y mae Rebecca druan yn llithro ym mhellach oddi wrth realiti. Ond a yw hi wedi mynd yn rhy bell y tro hwn? Yn rhy bell i ddod yn ei hôl? Y mae Chwara’ Plant yn ddrama unigryw a chelfydd iawn ac y mae’r ddeialog gyfoethog a chynnil yn brawf o dalent ddiamheuaeth Nia Wyn Roberts.
Os mai cwrs cyntaf yn unig yw Y Dadebru, yna ny mae Dwy Wylan gan Dafydd Llywelyn yn bryd tri chwrs gyda choffi a mint i orffen. Mae yna bob dim yn hon. Llinellau cofiadwy, tristwch dirdynnol a chymeriadau cryfion. Dyma, heb os nac oni bai, uchafbwynt y gyfres. Gwelwn _r (Arwel Gruffydd) a Gwraig (Lisa Jên Brown) yn mwynhau picnic hamddenol ar draeth, gan edrych yn ôl ar y bywyd y maent wedi ei rannu gyda’i gilydd. Y mae’n swnio’n fywyd digon dedwydd. Ond, yn araf bach, y mae’r craciau anochel yn dechrau ymddangos. Datgelir nad oedd y g_r yn gallu cael plant ac yr oedd hefyd byw bywyd meudwy. Y mae’r ddau’n llithro i fyd ffantasi am ennyd wrth ddychmygu sut y buasai bywyd wedi bod petai natur wedi caniatáu iddynt fod yn rhieni. Â’r G_r â’r ffantasi ymhellach gan ddweud ei fod yn deall pam y cafodd ei wraig berthynas gyda dyn arall. Y mae hithau’n ei ysgwyd allan o’r ffantasi gan ddweud mai yn ei ddychymyg yn unig y digwyddodd hyn ac ni fu hi erioed yn anffyddlon iddo. Ceir tro annisgwyl ar ddiwedd y ddrama pan datgelir mai ffantisi yw’r picnic cyfan ac mai ail-fyw’r gorffenol mae’r G_r. Wrth iddo estyn i mewn i’w fag, nid brechdanau tomato neu fflasg o de sy’n ymddangos, ond llwch ei wraig. Dyma’r realiti eithaf a’r un anoddaf i’w derbyn. Wedi blynyddoedd o gyd-fyw fel g_r a gwraig prin y mae’r ddau yn adnabod ei gilydd mewn gwirionedd a bellach mae hi’n rhy hwyr i newid pethau. Drama wedi ei llunio’n gelfydd yw Dwy Wylan ac mae Dafydd Llewelyn wedi llwyddo i grisialu bywyd by G_r a’r Wraig mewn deng munud byr, gan lithro o’r digrif i’r dwys yn slic ac yn ddiymdrech.
Cyfrinach dramâu byrion yw eu cadw’n syml. Wedi’r cyfan, mae hi’n amhosib ysgrifennu nofel gyfan mewn un bennod ac y mae’r un peth yn wir am ddrama. Wrth geisio dweud gormod, ni lwyddir i ddweud dim mewn gwirionedd gan fod neges a phwrpas y ddrama’n mynd ar goll. Efallai mai dyma felly yw gwendid Ar Ben Dibyn gan Meleri Wyn James. Portread o ddau frawd a geir yma, sef Paul a Kevin. Nid ydynt wedi gweld ei gilydd ers angladd eu mam flwyddyn ynghynt ond, drwy hap a damwain, maent yn taro ei gilydd ar ochr dibyn unig. Sylweddolwn fod Paul wedi dod i’r llecyn hwn er mwyn gwneud amdano’i hun. Mae Kevin yn awyddus i helpu ei frawd. Ond a oes yna ormod o dd_r wedi mynd dan yr hen bont ‘na erbyn hyn? Unwaith yn rhagor mae’n rhaid i’r ddau chwalu’r ffantasïau diogel a grëwyd ganddynt a chydnabod y cyfrinachau a’r celwyddau sydd wedi ffurfio rhwng y ddau.
Y mae hi’n bosib nad yw’r dull hwn o greu drama yn gweddu i ffordd Meleri Wyn James o ysgrifennu. Y mae hi wedi dweud ei hunan ei bod hi’n hoff o ‘adael i syniad fudlosgi’. Ond, fel rhan o’r prosiect hwn, mae’n bur debyg nad oedd amser yn caniatáu iddi wneud hyn. Mewn ffordd, y mae’n drueni fod y gyfres wedi dod i ben gyda’r ddrama wannaf. Ond fe allaf deall beth oedd y rhesymeg dros orffen gydag Ar Ben Dibyn. Yn wahanol i’r pum drama arall, y mae hi’n diweddu gyda thinc o obaith. Gobaith y bydd brodyr yn llwyddo i ollwng gafael ar y gorffenol a wynebu’r dyfodol.
Beth bynnag fy marn am y dramâu unigol, rhaid cofio mai cywaith yw Diwrnod Dwynwen. Fe ddaw’r chwe drama ynghyd i greu bwffe theatrig. Ac er fod rhai seigiau’n dipyn mwy blasus na’i gilydd, fe lwyddir i greu gwledd amrywiol a chyfoethog sy’n gadael y gloddestwr yn llawn dop. Gyda blas Diwrnod Dwynwen yn dal i bara ar fy nhafod, edrychaf ymlaen yn eiddgar at weld beth fydd ar fwydlen Sgript Cymru y tro nesaf.
awdur:Llinos Nelson
cyfrol:483, Ebrill 2003
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com