Mudiad y Bobl
Gwerth cymunedol ac nid esthetig oedd i’r ddrama Gymraeg yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Felly y dehongla Dafydd Morgan Lewis neges llyfr newydd gan Ioan Williams, Y Mudiad Drama yng Nghymru 1880-1940.
Arferai ewythr i mi adrodd fel y byddai y genhedlaeth hynaf a gofiai – pobl a aned yn y 1850au, debygwn i – yn amheus iawn o’r ddrama a sawl cyfrwng diwylliannol arall o ran hynny. Yr oedd rhywfaint o’r hyn a alwai ef yn ‘ysbryd Mari Lewis’ yn perthyn iddynt a thueddent i wgu ar bopeth nad oedd yn gysylltiedig â chapel a chrefydd. Ond mae awdur y llyfr hwn yn dadlau fod Mari Lewis ei hun yn ddigon hoff o anterliwtiau Twm o’r Nant ac y byddai’n rhaid mynd yn ôl i ddyddiau ei phlentyndod hi i ddarganfod gwrthwynebiad gwirioneddol ffyrnig i’r theatr. Nid nad oedd yna ragfarnau o hyd. Ond yr oedd y byd yn prysur newid a Methodistiaid ‘creulon cas’ ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi ildio eu lle i Anghydffurfwyr mwy seciwlar eu byd.
Yn yr astudiaeth hon dadleuir yn gryf i Daniel Owen, ac yn arbennig y cymeriadau yn Rhys Lewis, chwarae rhan allweddol yn nadeni’r ddrama Gymraeg ar ddiwedd y ganrif. Ond yn yr amryw addasiadau llwyfan o’r nofel nid y ddadl ddiwinyddol rhwng Mari Lewis a Bob sy’n cael blaenoriaeth ond y cymeriadau comig fel Tomos a Barbara Bartley, Williams y ‘student’ a Wil Bryan. Tystiolaeth gref fod Calfiniaeth yn ildio’i lle i’r ddyneiddiaeth newydd.
Yn ystod wythdegau a nawdegau y bedwaredd ganrif ar bymtheg fe dyfodd y Mudiad Drama yn gyflym iawn gyda chwmnïau yn cael eu sefydlu dros y wlad i gyd. Roedd llawer o’r cwmnïau hyn yn gysylltiedig â’r capeli a’r cynhyrchwyr oedd y gweinidogion a’r ysgolfeistri, cynyrch yr ysgolion canolraddol a’r colegau addysg. Yr hyn a ddethlid yn y dramâu a berfformid ganddynt oedd Cymreictod, arferion Cymreig a’r setliad Rhyddfrydol a ddaeth i fodolaeth yn 1868. Dyma’r union werthoedd oedd dan warchae yn yn y Gymru ddwyieithog ddiwydiannol oedd ohoni ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif.
Er bod seiliau gwareiddiad yn gwegian aeth y Mudiad Drama o nerth i nerth ac ar drothwy y Rhyfel Byd Cyntaf cawn D. E Davies yn datgan, ‘Wales is on the mental threshold of a new continent of promise and achievment.’ Edrychai pethau’n addawol iawn gydag ymddangosiad Beddau’r Proffwydi W. J.Gruffydd a gweithiau eraill gan J. O. Francis, D. T. Davies ac R.G Berry. Ond yr oedd llawer o’r dramâu hyn eto wedi eu gosod yn y gorffennol ac fe fethodd y to newydd o ddramodwyr ag ymateb o gwbl i erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Ar ôl y Rhyfel fe barhaodd poblogrwydd y ddrama er bod tuedd i gwmnïau bellach fod yn grwpiau ardal a phentre ac yn llai cysylltiedig â’r capel. Poenid hefyd am safonau a gwnaed y sylw ei bod hi’n ‘hen bryd i’r cwmnïau hyn wybod fod llawer ohonynt yn actio pethau salw dychrynllyd.’ Tra bodolai teimlad cryf mai cyfrwng i ‘gadw’r hen iaith yn fyw’ oedd y ddrama, yr oedd yna brinder dybryd o ddramâu yn yr iaith Gymraeg. Bu cynnydd ym mhoblogrwydd y Gwyliau Drama cystadleuol ond yn y de yr oedd tuedd i’r cwmnïau oedd yn cystadlu droi at y Saesneg.
Cadwodd Cymdeithas y Ddrama Gymraeg yn Abertawe yn driw i’r Gymraeg drwy’r cyfan er mai problem enbyd oedd cael dramâu gwreiddiol i’w perfformio. Nid oedd Chwaraewyr Coleg Prifysgol Bangor yn poeni gymaint am hyn gan iddynt droi at gyfieithu clasuron Ewropeaidd. Cyfieithodd Ifor Williams T_ Dol a Thomas Parry Helda Gabler. Un o’r pethau gorau yn y llyfr yw’r ymosodiad ffyrnig a wnaeth Kate Roberts ar Thomas Parry am iddo ildio i’r arfer o gyfieithu yn hytrach na sicrhau dramâu gwreiddiol Cymraeg.
Bu i’r Eisteddfod Genedlaethol hithau ymddiddori yn y maes er mai ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf y gwnaeth hynny o ddifri. Er hynny yn y gystadleuaeth ysgrifennu drama dim ond wyth gwaith mewn deunaw mlynedd y cafwyd teilyngdod. Ymysg y buddugwyr yr oedd J. Ellis Williams, Cynan ac Idwal Jones. Ni wobrwywyd drama Kitchiner Davies, Cwm Glo, yng Nghastell Nedd yn 1934. Erbyn hyn prin y gellid galw unrhyw un o ddramâu y gw_r hyn yn llwyddiannau. Yr unig ddrama o sylwedd a gynhyrchwyd yn y cyfnod 1880-1940 fe ymddengys oedd Buchedd Garmon ac ni pherthyn honno i fyd y Mudiad Drama.
Mater dadleuol arall a drafodir yn y llyfr yw’r galw am Gwmni neu Chwaraedy Cenedlaethol. Cododd y mater hwn ei ben cyn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Arglwydd de Walden oedd y prif ysgogydd er bod Lloyd George ynghyd â nifer o Gymry amlwg eraill â’u bys yn y bywes. Trafferth de Walden oedd nad oedd ganddo lawer i’w ddweud wrth y traddodiad amatur y seiliwyd y Mudiad Drama arno ac nid yw Beriah Gwynfe Evans yn ôl o fynegi barn ar hyn. Meddai: ‘Any national movement which ignores the existence of village and country life is foredoomed to failure.’ Yn wir yr oedd y ddadl rhwng cefnogwyr y ddrama amatur a’r ddrama broffesiynol yr un mor chwyrn â’r ddadl yngl_n â’r iaith yn y cyfnod hwn.
Tarfodd y Rhyfel ar y freuddwyd ond yn Y Llenor yn 1926 yr oedd D. R.Davies yn gobeithio y byddai ein galwad am Theatr genedlaethol yr un mor daer â’n dymuniad am Twickenham Cymreig. Aeth y trafod yn ei flaen drwy’r dauddegau a’r tridegau. Yn yr Arts Theatre Club, Newport St., Llundain yn Ionawr 1933 y rhoddwyd perfformiad cyntaf gan Gwmni Chwaraedy Cenedlaethol Cymru. A Comedy of Good and Evil gan Richard Hughes a ddewiswyd. Cafwyd cynhyrchydd i’r cwmni a swyddfa yn Llangollen. Fe aed â chynhyrchiad Cymraeg ar daith a chafwyd perfformiad o Pobun yn Lerpwl. Ni chafodd y daith y gefnogaeth a ddisgwylid ac yr oedd cryn anesmwythyd yngl_n ag agwedd y cwmni at y Gymraeg ac fe ddaeth y fenter i ben.
Dadleua Ioan Williams i’r Mudiad Drama yntau ddod i ben gyda’r Ail Ryfel Byd ac er fy mod i wrth lunio’r adolygiad hwn yn cael trafferth i ddehongli’r hanes fel llwyddiant nid felly’r awdur. Dadleua mai gwerth cymdeithasol yn hytrach na gwerth llenyddol neu theatrig oedd i’r miloedd ar filoedd o ddramâu a berfformiwyd drwy Gymru yn y cyfnod dan sylw. A phan oedd seiliau traddodiadol ein Cymreictod yn siglo, a ninnau’n cefnu ar y grefydd a fu’n hanfod ein bodolaeth, fe fu’r Mudiad Drama yn fodd i’n hatgyfnerthu’n gymunedol, gan sicrhau fod y genhedlaeth oedd ohoni cyn yr Ail Ryfel Byd yn gallu trosglwyddo ei hiaith a’i diwylliant i ni. Os gwir hyn mae ein dyled i’r Mudiad Drama yn drwm.
awdur:Dafydd Morgan Lewis
cyfrol:525, Hydref 2006
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com