Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Beckett a Bara Caws

Yn ystod yr Eisteddfod, aeth Gwenan Mared i weld Jac yn y Bocs Bara Caws ac Wrth Aros Beckett, dehongliad y Theatr Genedlaethol o ddylanwad Samuel Beckett ar ddramodwyr Cymraeg. Yma fe berfformiwyd hefyd dwy o’i ddramâu byrion mewn cyfieithiadau newydd o

Yn y dechreuad roedd gennym ni Llywarch Hen, Llywelyn Fawr a Llywelyn ein Llyw olaf. Gyda threigl amser, ymddangosodd Owain Glynd_r, Daniel Owen, Aneirin Bevan, Saunders Lewis ac, wrth gwrs, Gwynfor, a ymladdodd mor danbaid dros ein cenedl ac i gael sianel deledu Gymraeg. Ond, o’r diwedd, yn nyddiau crasboeth haf 2006, mi ymddangosodd arwr newydd i’r mileniwm a hynny trwy gyfrwng y ‘Cyfrwng’. Wele y ganed Glyn ym Mlaenau Ffestiniog, y bachgen a fyddai’n taenu’r efengyl drwy Brydain benbaladr. Mae o’n Gymro i’r carn ac mae o’n gallu berwi wy i gyfeiliant G_yr Harlech; mae o’n ddoeth (neu’n ‘Wise’, o leiaf), ac mae o’n hoff o fronnau mawr, rhechan, meddwi a, rhag ofn i ni anghofio, ‘girls with big ones’. Mewn geiriau eraill, dyma ymgorfforiad perffaith o’r gynulleidfa y mae Bara Caws yn ei thargedu’n flynyddol efo’u sioe glybiau. Ac yn union fel Glyn, mae’r sioe bob tro yn si_r o’ch cael chi yn eich dyblau’n morio chwerthin.

Mewn gwirionedd, petae ni’n cymysgu ‘essence of Glyn’ efo’i gyfaill Pete a gipiodd y goron Big Brother yna o ddwylo ein heilun perffaith (er gwaetha’r holl decstio ffrantig) mi fasa ni’n reit si_r o gael sioe glybiau newydd sbon ar ein dwylo. Ydi, fel ym mhob blwyddyn flaenorol, mae sioe glybiau Bara Caws yn dioddef o Tourettes. Os codwch chi i fynd i’r toiled yn ystod y perfformiad mi fyddwch chi wedi bod yn ‘glychu’r gyrlan’. Mi fydd eich clustiau chi’n tincian o glywed ‘ffyc’ a ‘twat’ a’ch llygaid chi’n llifo dagrau wrth weld Maldwyn John yn chwarae efo coc plastig heb sôn am orfod gweld pen ôl Eilir Jones fwy o weithiau na sy’n iach (a sawl tro yn union fyddai’n iach, dwi’n eich clywed chi’n gofyn?).

Mewn gwirionedd, does yna ddim llawer o waith adolygu ar y sioe glybiau. Mae pawb, bellach, yn gwybod sut mae’r cwbwl yn gweithio – dyma’r cylchgrawn Dim Lol yn gig a gwaed o flaen ein llygaid, ac os ydach chi’n ‘rhywun’ o gwbwl yng Nghymru mi ddylsech chi glywed eich enw yn ystod y sioe. A dweud y gwir, os na fydd eich enw chi yno mae hi’n amser gweithio ar eich proffeil. Flwyddyn ar ôl blwyddyn mae Cwmni Bara Caws yn llwyddo i werthu bron pob tocyn i’r sioe, a flwyddyn ar ôl blwyddyn mi fydd adolygwyr yn cwyno am y diffyg sylwedd a’r rhegfeydd diddiwedd. Doedd eleni’n ddim gwahanol, gyda’r cast a’r awduron yn mentro mynd ar ôl yr anghenfil mawr yna sy’n eu bwydo nhw oll, S4C. Mi wneir hynny trwy gyfres o sgetsys deifiol yn gwatwar pob rhaglen o Planed Plant Bach i Dudley a’r Clwb Garddio. Fyddai’r Jac sydd yn cuddio yn y bocs arbennig yma ddim yn dychryn fawr o neb chwaith – twpsyn dibrofiad a apwyntir fel pennaeth S4C. A does dim angen adolygydd Barn i egluro arwyddocâd hynny, debyg iawn!

Dydi’r sioe glybiau ddim yn gynnil na’n soffistigedig, ond dydi hynny ddim yn golygu nad ydi hi’n llwyddo ar ei thelerau ei hun. Os da chi’n chwilio am faeth i’r meddwl, chewch chi mohono fo yma, ond yng nghanol y rhegfeydd a’r innuendos arferol mi geir ambell i wirionedd crafog – y Seisnigrwydd sydd yn dylanwadu ar y sianel, y comisiynu sâl a’r gwastraffu arian. A siawns bod Gwynfor Evans yn chwyrlio yn ei fedd wrth glywed y sylwadau am y ffigurau gwylio (wedi eu paratoi gan gwmni Saesneg ym Milton Keynes wrth gwrs) – maen nhw mor isel mi fyddai hi’n haws talu i bawb sy’n gwylio’r sianel fynd i’r sinema. ‘Dydw i byth yn gwylio S4C,’ meddai Jac wrth gael ei apwyntio i’r swydd euraidd. ‘Oh join the club, darling,’ daeth yr ateb; dydi hynny’n ddim handicap o gwbwl wrth ddringo i fyny ysgol llwyddiant Parc T_ Glas, mae’n ymddangos.

Mae pawb o dan y lach yn y sioe hon, yn cynnwys ambell i gyfeiriad at rai o’r awduron – Bryn Fôn, Tony Llywelyn a Dyfan Roberts. Does yna ddim trugaredd, wrth reswm, ac ymhlith y rhai fu’n gyff gwawd roedd Arfon Wyn, Gwyneth Glyn, Eleri Siôn, Sara Elgan, Dai Jones Llanilar, a ‘dwy golofn crap Golwg’ gan Lisa Reich a Hywel Gwynfryn. A dydw i ddim ond yn dal fy ngwynt mewn cyffro llwyr wrth ddisgwyl am yr Hello Cymraeg – ‘Su’ mai cont?’ – ac yn dal i chwerthin wrth feddwl am harbwr diogel newydd Elin Fflur (neu Lisa Jên Brown yn yr achos yma) wrth iddi ganu am y ‘rhywbeth sy’n fy handbag i’, sef wig seimllyd yr hen Arfon Wyn!

Fel pob sioe glybiau a aeth o’i blaen hi, doedd hon ddim yn sioe i bobol gul, ond mae yna fath arbennig o bleser mewn gwylio perfformiad byw a chael rhannu ymateb efo cynulleidfa, ac anaml mae’r sioe yn methu ar y lefel elfennol hon. Oeddwn, weithiau roeddwn i’n colli ambell i air o fy sedd yn y cefn (sedd ddiogel, bell oddi wrth y llwyfan – dwi wedi bod mewn sioe glybiau o’r blaen wedi’r cwbwl), ac ar adegau roedd y cwbwl i’w weld ychydig yn ddigyfeiriad a diderfyn, ond roedd hi’n noson allan hwyliog ac yn werth chweil gweld Maldwyn John ar ei orau – yn gweithio cynulleidfa i’r dim ac yn amlwg yn cael môr o hwyl wrth wneud hynny. Biti mawr bod yr hen gomisiynwr yna wedi cael gwared o ‘John Albert’ yn y lle cyntaf ydi’r cwbwl ddyweda i!

Wrth gwrs, mae yna gosb sydd hyd yn oed yn waeth na colli comisiwn i ddyn, yn ôl awduron y sioe glybiau. Cael ei gloi mewn cwpwrdd efo Margaret Williams ar ôl cael ei orfodi i lyncu viagra yw hynny! Dyna ddiffiniad erchyll newydd o glawstroffobia. Ond os aiff popeth yn ormod i rywun, mae’r awduron hefyd yn cynnig y gallech chi fanteisio ar wasanaeth y dyn euthanasia, mae ganddo fo sawl ‘cynnig arbennig’, y gorau ohonynt yw eich dreifio chi mewn limousine at bont uchel er mwyn i chi gael gadael y byd hwn mewn steil.

A gyda hynny, y clawstroffobia dychrynllyd a’r ymdrin swreal â marwolaeth, mi ydw i (er mawr ryfeddod i mi fy hun) yn llwyddo i weld cyswllt rhwng sioe glybiau Bara Caws a dramâu dirdynnol Samuel Beckett. Os oes yna begynau i theatr – yr ‘high brow’ a’r ‘low brow’ – mi gawson ni flas ar y ddau yn Eisteddfod Abertawe. Yn Theatr y Maes, cyflwynwyd Wrth Aros Beckett gan Theatr Genedlaethol Cymru sef cynhyrchiad diddorol ac uchelgeisiol, lle aeth y cwmni ati i ddangos sut y dylanwadodd y pâr trasi-gomig Vladimir ac Estragon o Wrth Aros Godot ar dri o ddramodwyr mawr Cymru – Gwenlyn Parry, Wil Sam ac Aled Jones Williams. Wedi’u dewis yn ofalus, ac yn cael eu perfformio gan yr un actorion – Carwyn Jones a Jonathan Nefydd – dangosodd y pytiau o ddramâu nid yn unig ddylanwad Beckett ond hefyd fel y mae ei ddylanwad yn ymestyn ac yn newid dros y degawdau. Roedd y pytiau yn llifo’n esmwyth iawn o’r naill i’r llall gan ddechrau efo Y Ffin, Gwenlyn Parry cyn dangos y pwt o Wrth Aros Godot. Yna cafwyd Bobi a Sami gan Wil Sam, ac ymweliad gan Alji a Eddy o Wal, Aled JonesWilliams i gloi. Prawf o lwyddiant yr actorion i ymgorffori pob pâr unigol oedd i mi feddwl am chwinciad fach ’mod i am weld wyth actor gwrywaidd gwahanol yn dod i dderbyn cymeradwyaeth ar ddiwedd y perfformiad, a hynny er nad oeddwn i wedi bod ar y pop noson cynt!

Mi glywais Wrth Aros Beckett yn cael ei disgrifio fel drama lle mae dynoliaeth wedi ei moeli i’w helfennau mwyaf hanfodol – ‘expectation, companionship, abuse, hope.’ Dyma hefyd sydd yn y dramâu Cymraeg y gwelwyd pytiau ohonynt er bod ymdriniaeth pob awdur o’r cyflwr yn wahanol, gyda Wil Sam yn cynnig mwy o hiwmor ac Aled Jones Williams yn cymysgu hiwmor efo rhywbeth llawer iawn mwy sinistr. Yr un modd, roedd hi’n weddol hawdd adnabod y themâu oedd yn rhedeg trwy’r gwahanol ddramâu – y cymeriadau sy’n byw ar ymylon cymdeithas, y ddibyniaeth a’r hoffter sydd rhygnddynt ynghyd â’r atgasedd hefyd, crefydd a marwolaeth, anobaith, a’r emosiwn mwyaf gwallgof o’r cwbwl – gobaith y daw eto dro ar fyd. Ac er nad ydynt yn mynd â’r peth cyn belled â Beckett roedd yma hefyd yr amheuaeth nad yw iaith yn gallu cyfleu dim mewn gwirionedd. Ceir hynny yn arbennig gan Aled Jones Williams mewn sawl un o’i ddramâu, ond eto dyma awdur sydd yn meddwi ar eiriau, yn gallu eu troi tu chwithig allan nes y maent yn ffiaidd fel y byd mae’n nhw’n eu cynrychioli ond yn brydferth hefyd – ‘hyll o dlws’ fel y clwysom gan Eddy. Yn sicr, roedd y cyflwyniad yma yn ffordd llawer iawn mwy effeithiol o ddangos dylanwad Beckett nag y byddai erthygl neu ddarlith sych, ac un dyfyniad o Wal yn crynhoi yr elfen Fecketaidd yn ddoniol iawn – ‘Sut wyt ti’n gwbod bod chdi’n fyw?’ ‘Guessio dwi’!

Cyflwynwyd hefyd ddwy o ddramâu byr byr Beckett wedi eu trosi yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod gan Gwyn Thomas sydd yn hen law ar gyfieithu ei waith erbyn hyn, gyda’r cyfieithiadau newydd, fel y rhai blaenorol, yn llifo’n effeithiol a naturiol yn y Gymraeg. Rhwng bob dim, felly, mi oedd yma dipyn o waith cnoi cil yn enwedig gan fod Beckett, y g_r a ystyriai ei waith fel ‘staen ar dawelwch’, yn mynnu ymrwymiad cryf gan actorion, cynhyrchwyr a chynulleidfa. Roedd hi’n dipyn o ‘gatastroffi’ felly i berfformiad hollol wefreiddiol gan Valmai Jones fel Mai yn S_n Traed gael ei darfu’n llwyr gan s_n canu uchel a hwyliog rhyw gr_p pop oedd yn chwarae ar y maes. Roedd hi’n brawf o broffesiynoldeb y perfformwyr iddynt allu cadw safon yn wyneb yr holl darfu arnynt (gan gynnwys y stiward a waeddodd ar dop ei lais ‘Mae na bobol yn ciwio tu allan’ mewn ffordd digon Becketaidd o swreal yng nghanol y ddrama!). Mewn gwirionedd, fe darfwyd ar graidd y ddrama sydd yn canolbwyntio ar dawelwch a’r ailadrodd dirdynnol ar s_n traed. Mae camau diddiwedd Mai yn ymgorfforiad gweledol o diffyg pwrpas bywyd, yr artaith o fod yn gaeth mewn corff sydd yn mynd yn fusgrell ac yn colli cyneddfau, a’r unigrwydd enbyd sydd yn wynebu pawb o bryd i’w gilydd. Yn S_n Traed mae Beckett yn tynnu sylw at y broses greadigol o ysgrifennu, y metatheatr sydd yn thema gyson yn ei waith, a thrwy gydol ei yrfa fel dramodydd ac awdur roedd ei fynegiant yn lleihau a lleihau, a’r tawelwch yn dod yn bwysicach na’r dweud. Mae gwaith Beckett yn anodd ar y gorau, ond o dan yr amgylchiadau swnllyd yn Theatr y Maes collodd sawl un ddiddordeb yn llawer cynt nac y byddent wedi gwneud fel arall.

Yn yr ail ddrama fer, Dod a Mynd, dangoswyd yn fwy eglur eto fel yr oedd Beckett yn defnyddio darlun ar y llwyfan i gyfleu ei syniadaeth. Yn ôl y sôn, roedd ei nodiadau llwyfan ar gyfer Dod a Mynd yn llawer iawn hwy na’r ddeialog, a phob peth, o’r ffordd yr oeddynt i eistedd i’r ffordd arwyddocaol yr oeddynt i afael yn nwylo’i gilydd, wedi’i egluro’n ofalus. Dwi ddim yn meddwl y byddai’r cynhyrchiad hwn wedi siomi Beckett. Trwy gyfrwng cynhyrchu da a goleuo celfydd, roedd y tableau o Flo, Vi a Ru yn eu cotiau a’u hetiau lliwgar yn ymddangos fel llun 3D a ddôi i fywyd bob hyn a hyn. Perfformiwyd y ddrama i’r dim gan Valmai Jones, Christine Pritchard a Lisabeth Miles a dydw i ddim yn synnu i’r Theatr Genedlaethol fynd ar ôl y ‘big guns’ ar gyfer y cyfieithiadau newydd. Mae Dod a Mynd yn ddramodig y mae sawl un yn ei hystyried yn berffaith. Mae iddi symetri pur, ac mae’r arddull gylchol yn adlewyrchu thema’r gwaith, y modrwyau mae’r merched yn eu teimlo ond nad ydan ni yn y gynulleidfa yn ei gweld. Er bod arwyddocâd y ddrama hon yr un mor niwlog ac astrus â S_n Traed, roedd yna elfen o hiwmor ac eironi tawel ynddi oedd yn plethu’n dda efo’r elfennau gweledol cryf. Roedd yr hiwmor yma, fel yn Bobi a Sam, yn ysgafnhau rhywfaint ar yr awyrgylch ddwys, ac roedd gofyn am hynny mewn theatr boeth llawn at ei sennau.

Unwaith eto, felly, profwyd gyda rhai o ddramâu yr Eisteddfod ei bod hi’n bosib denu cynulleidfa, a hynny trwy gyfrwng y dwys a’r digrif. Gan Bara Caws cawsom fwrlwm o eiriau, a gan Beckett yr eithaf arall. Chwerthin, distawrwydd, rhegi a barddoni – mae yna le i bopeth yn sbectrwm ein bywydau. Ac – i’r siwds yn eich plith chi – mae hynny hyd yn oed yn cynnwys addoli wrth allor Glyn a’r Brawd Mawr o dro i dro. Wedi’r cwbwl, lle fasa yr un ohonon ni heb adloniant y bocs bach sgwâr ’na yn y gornel?

awdur:Gwenan Mared
cyfrol:525, Hydref 2006

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk