Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Cysgod y Cryman

Adolygiad

Pan gadarnhawyd mai addasiad llwyfan o Gysgod y Cryman fyddai cynhyrchiad diweddaraf Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru, digon cymysg oedd fy ymateb. Yn ddiau roedd y nofel o eiddo┼fr diweddar Islwyn Ffowc Elis yn gampwaith ym mhob ystyr. Ond gellid ystyried mawredd y testun yn fantais ac yn anfantais wrth fynd ati i┼fw gynnig fel arlwy theatrig.

Gwyddai swyddogion y Theatr Genedlaethol y deuai digon o sylw wrth addasu un o weithiau mwyaf ein traddodiad llenyddol; roedd gwerthiant tocynnau ym Mangor, Yr Wyddgrug a Chaerdydd yn brawf o hynny. Yn bersonol, teimlais mai peth braf oedd cael ymweld _ Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu am y tro cyntaf a gweld y theatr yn gyfforddus lawn am ddwy noson yn olynol. Ar y llaw arall, teg yw gofyn ai doeth ymgymryd _┼fr dasg o addasu gwaith mor adnabyddus ac anferthol, yn arbennig o gofio mai aflwyddiannus fu┼fr ymdrech i addasu┼fr deunydd ar gyfer y teledu flynyddoedd yn n_l.

Fel gyda chynyrchiadau blaenorol y cwmni hwn, cafwyd set anferthol yn ganolbwynt i┼fr chwarae. Gwnaed cymaint o ddefnydd o┼fr llwyfan crwn symudol - gan ei ddefnyddio fel cyfrwng teledyddol i doddi o┼fr naill olygfa i┼fr llall - fel ei fod ar brydiau┼fn syrffedus ac yn fwrn, ac yn atgoffa rhywun o┼fr gyfres Magic Roundabout. Yn waeth na hynny, fel yng nghynhyrchiad Yr Hen Rebel, defnyddiwyd lluniau amrywiol yn gefndir i ddynodi┼fr gwahanol leoliadau. Ni welaf unrhyw ddiben i┼fr delweddau hyn - siawns nad yw┼fr gynulleidfa┼fn meddu ar ddigon o grebwyll a dychymyg i ddeall union leoliad y chwarae o┼fu blaenau.

Drwyddi draw roedd y perfformiadau┼fn ddigon twt, ond o bryd i┼fw gilydd roedd ambell actor yn methu dygymod _┼fr acen unigryw, ac ambell un arall yn euog o fynd ychydig yn felodramatig. Y rhai a lwyddodd i argyhoeddi yn fwy na┼fr gweddill oedd Carwyn Jones, Llion Williams, Owen Arwyn a Lisa J_n a hynny, yn anad dim, yn bennaf oherwydd eu cynildeb.

Yng nghanol y cynhyrchiad cafwyd dwy olygfa oedd yn weladwy ac yn glywadwy hyfryd, sef golygfa gosod y posteri gyda┼fr nos ym Mangor, a┼fr olygfa o ddychwelyd i Leifior ar gyfer y Nadolig. Yn ddi-os, dyma olygfeydd mwya┼f bywiog a theatrig, a thrueni na chafwyd rhai cyffelyb drwy gydol y cynhyrchiad. Yn nhraean olaf y ddrama mae Harri yn cyfaddef iddo alaru ar yr ymgais i weithredu┼fr disgwyliadau a osodwyd ar ei ysgwyddau. Mae wedi┼fi ddryllio wrth geisio gwireddu┼fi ddelfrydau, ac fel canlyniad i hynny sylweddola mai dilyn ei reddf a┼fi galon oedd y ffordd orau i fyw ei fywyd, ac i gyflawni boddhad mewnol. Heb amheuaeth roedd y ddwy olygfa y cyfeirir atynt uchod yn clecian, a gresyn nad aeth Cefin Roberts ati i fanteisio ar ei allu a┼fi ddawn i lwyfannu cynhyrchiad yn null a thraddodiad y golygfeydd hynny. Byddai addasiad mwy herfeiddiol ac anghonfensiynol wedi cynnig persbectif a dehongliad hollol newydd i┼fr testun gwreiddiol.

Wrth ymadael _ Theatr Brycheiniog roedd rhywun yn gwrando ar y gynulleidfa ac yn cael modd i fyw wrth glywed y sylwadau a┼fr ymateb. Roedd y genhedlaeth h_n wedi mwynhau┼fn fawr, gan ychwanegu pa mor bwysig yw cael cynyrchiadau o'r fath yn ymweld _ chanolfannau fel Aberhonddu _ ac ni ellid ond amenio hynny. Ar y llaw arall, nododd rhai o┼fr genhedlaeth iau iddynt brofi anhawster wrth geisio deall yr iaith a glywyd ar y llwyfan, ac yn mynegi hynny yn Saesneg. Roedd gan ambell un fwy o ddiddordeb mewn tecstio cyfoedion i weld beth oedd sg_r diweddaraf y g_m b_l-droed rhwng Lerpwl a Barcelona. Efallai fod eu byd bellach yn nes at fyd Sefton Park a Paul Rushmere nag at gaeau gwyrdd a chefn gwlad Harri Vaughan. Ond nid ffenomen sy┼fn unigryw i ardal odidog Brycheiniog mo hynny.

Efallai mai rhinwedd pennaf y cynhyrchiad oedd iddo ddadlennu cymaint y mae ein bywydau a┼fn cymdeithas wedi newid mewn cyfnod cymharol fyr. Yn ogystal _ thrafod gwrthdaro syniadaethol, mae'r ddrama┼fn darlunio┼fr modd y bu i bobl ar ddechrau'r 1950au wirioni ar gael adnoddau fel hwfyr a pheiriant golchi yn eu tai, a┼fr modd y trawsnewidiwyd eu bywydau cymdeithasol wrth i gerddoriaeth bop atseinio mewn caffis a thafarndai. A ninnau┼fn byw yn oes yr hoodies, y soundbites a theledu realaeth, mae┼fn anodd amgyffred sefyllfa lle y bu i fyfyrwyr goleddu syniadau a ystyriwyd ar y pryd yn rhai chwyldroadol ac yn beryglus i barhad y status quo.

Gydag etholiadau┼fr Cynulliad ar y gorwel, gwelwyd Tony Blair yn Llandudno y penwythnos hwn yn annerch ffyddloniaid ei blaid am y tro olaf yn rhinwedd ei statws fel Prif Weinidog, a hynny tra bod y pleidiau gwleidyddol eraill yn hogi eu harfau ar gyfer eu cynadleddau hwythau a┼fr frwydr etholiadol o┼fu blaenau. Yn y ddrama cyfeiriwyd at Lenin fel gwleidydd pwysicaf yr ugeinfed ganrif. Ond eto i gyd, yn gynharach yr wythnos hon gwelwyd dadorchuddio cerflun o┼fr Fonesig Thatcher yn Llundain fel arwydd o┼fi chyfraniad a┼fi phwysigrwydd i wleidyddiaeth Prydain. Dyma┼fr gwleidydd a nododd gydag arddeliad nad yw cymdeithas yn bodoli, ac mai unigolyddiaeth sy┼fn teyrnasu. Os gwir ei geiriau, ymddengys bod y cryman wedi hen rydu, sy┼fn tanlinellu┼fr angen dybryd am ddeunydd creadigol ysgrifenedig a theatrig i ysbrydoli a deffro cenedl o┼fi thrwmgwsg.

awdur:Dafydd Llewelyn
cyfrol:530, Mawrth 2007

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk