Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

ELYRCH A GWYDDAU

DYFRIG JONES sy’n tafoli perthynas cymuned a chelf mewn adolygiad ar lyfr diweddar yn trafod y theatrau bach Cymraeg.

Hanfod ysgrifennu hanesyddol da ydi’r gallu i gynnau diddordeb y darllenwr lleyg. Mewn diwylliant mor fach ag un Gymru, lle mae pob darn o gelf yn gorfod ymladd am ei lle, mae hyn yn arbennig o bwysig. Tu allan i’r byd academaidd, mae yna angen am lyfrau Cymraeg i ddenu darllenwyr at bwnc, yn hytrach nag anelu cynnwys at gynulleidfa gyfyng sy’n gyfarwydd â’r pwnc o dan sylw eisoes. Mae Llwyfannau Lleol yn llyfr lle mae’r gallu yma yn arbennig o bwysig. Wedi ei olygu gan Hazel Walford Davies, mae’n cynnwys saith erthygl sy’n edrych ar hanes datblygiad y ddrama fel ffenomen gymunedol yng Nghymru. O’r saith erthygl yma mae pump ohonynt yn edrych yn benodol ar hanesion rhai o thratrau bach Cymru, sef Aberdâr, Abertawe, Cricieth, Llangefni a Felin-fach, tra bo’r ddwy erthygl arall yn cael golwg fwy dadansoddiadol ar arlwy cyffredinol cymdeithasau drama a theatrau bychain.

Un o’r erthyglau dadansoddiadol hyn sy’n agor y gyfrol, sef astudiaeth Dafydd Glyn Jones o gynnwys rhai o’r ‘hen ddramâu’ a oedd yn boblogaidd ymysg cwmn_au theatr amatur rhwng 1886 a 1958. ‘Oed yr addewid a dwyflwydd yn ei ben’ sy’n ymestyn o’r flwyddyn yr addaswyd Rhys Lewis ar gyfer y llwyfan hyd at y cyfnod ar ôl y rhyfel lle gwelwyd dwy ran o dair o gwmn_au theatr Cymru yn diflannu. Yr erthygl hon ydi’r dewis amlwg i agor y llyfr, gan fod yma rywfaint o gefndir i hanes y ddrama yng Nghymru i ddenu’r llai gwybodus i’w ddarllen. Yr hyn sy’n gwneud yr erthygl yma ymysg y gryfaf yn y llyfr, fodd bynnag, ydi’r gonestrwydd beirniadol mae Dafydd Glyn Jones yn ei ddefnyddio wrth adrodd ei hanes. Gwendid mawr y llyfr yn gyffredinol ydi fod llawer o’r cyfranwyr yn anwybyddu’r elfen lenyddol. Mae’r theatrau bach yn cael eu clodfori fel canolfannau cymdeithasdol, ond mae mwy nag un o’r awduron yma yn gwrthod cyfaddef mai gwael iawn oedd cynhyrch a lwyfannwyd. Er bod Saunders Lewis yn cael ei ddyfynnu dro ar ôl tro fel beirniad y theatr amatur, mae nifer o’r cyfranwyr yn hynod o arwynebol wrth geisio ateb ei farddoniaeth. Mae elfen gryf o nostalgia yn rhedeg drwy’r llyfr, ac yn aml mae hyn yn rhwystro’r awdyron rhag paentio darlun gonest o’r byd theatr amatur. Yn achlysurol mae’r tueddiad yma yn pellhau’r darllenydd oddi wrth yr awdur, ac ar adegau eraill mae’n tanseilio pwrpas y llyfr – sef rhoi’r diwylliant plwyfol yma mewn cyd-destun ehangach – yn gyfangwbl. Er bod y duedd yma yn erthygl Dafydd Glyn Jones, mae gonestrwydd y gwaith yn goroesi. Cawn ddarlun eglur o ddrama fel celfyddyd boblogaidd a ddenai niferoedd sylweddol i wylio, ond lle roedd y deunydd a gynhyrchid yn gymysgedd o syniadau ail-law ac ystrydebau, gydag ambell berl yn ymddangos yn achlysurol.

Y nostalgia yma sy’n tueddu i suro rhywfaint. Er bod yr elfen lenyddol yn dod yn bwysicach wrth i’r llyfr fynd yn ei flaen, gan gydnabod y cyfraniad anferth Wil Sam a theatr y Gegin, Cricieth, tuag at y ddrama fodern, mae rhannau o’r llyfr yn cael eu difetha’n llwyr. Mae’n rhaid i mi ddweud mai cyfraniad Hywel Teifi Edwards a’m siomodd i fwyaf. Er ei fod yn hanesydd arbennig o wybodus, ac er ei fod yn arbenigo yn y maes, mae ei erthygl am y Parchedig E.R Dennis a’r cwmniau theatr yn Aberdâr a Threcynol yn methu’n llwyr â thanio’r dychymyg. Tydw i ddim yn amau bod yr erthygl yma yn arbennig o ddifyr i unrhywun sydd â diddordeb yn y pwnc trafod ganddo eisoes, ond i’r darllenydd anwybodus mae’n lladdfa.

Os mai Hywel Teifi Edwards sy’n haeddu’r feirniadaeth fwya’ llym, yna Dafydd Arthur Jones sy’n haeddu’r ganmoliaeth gynhesag. Mae ei astudiaeth yn llwyddo am ar yr un rhesymau ag y mae um Hywel Teifi yn methu. O’r cychwyn cyntaf, mae’r awdur yn rhoi ei hanes mewn cyd-destun cymdeithasol, ac mae arddull hawddgar yr awdur yn helpu i greu stori, yn hytrach na chyfres o ffeithiau moel. Mae’r elfen feirniadol, holl-bwysig, yn bresennol yma, ond cawn hefyd ryw fesur o sut y tyfodd ymwybyddiaeth hunan-feirniadol o fewn diwylliant y ddrama yng Nghymru. Dafydd Arthur Jones hefyd a lwyddodd i ddarganfod y dyfyniad mwyaf addas i ddisgrifio’r pwnc trafod, a’r llyfr ei hun i ryw raddau. O’r South Wales Echo daeth y frawddeg wreiddiol

We have a fatal weakness for concluding

that our geese are swans.

Rhyw gymysgedd o elyrch a gwyddau sydd yn y llyfr ar y cyfan. Tydi’ mân bechodau ddim yn llwyddo i ddifetha’r llyfr yn llwyr, ond teimlaf yn gyffredinol y buasai’r llyfr yn ddifyrrach, a hefyd yn fwy defnyddiol, petai rhai o’r awduron yn fwy gwrthrychol, ac eraill yn llai gwrthrychol. Wrth i’r gyfrol fynd yn ei blaen, mae’r erthyglau yn gwella, a cheir strwythur bras sy’n gymorth wrth osod yr hanesion bach lleol yma mwy cenedlaethol. Yn y penodau diweddarach cawn fwy o syniad sut y dylanwadodd diwylliant coll y theatr amatur ar ein diwylliant modern.

Beth sy’n drist ar adegau, fodd bynnag, ydi sut y mae’r llyfr yn dangos dylanwad amaturiaeth arnom ni hyd heddiw, gan feithrin y meddylfryd diog sy’n dweud fod unrhyw hen rwtsh yn dderbyniol, ‘mond ei fod o’n rwtsh Cymraeg.

awdur:Dyfrig Jones
cyfrol:458, Mawrth 2001

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk