Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Romeo, Romeo, Lle Goblyn Oeddach Chdi?

Dafydd Llywelyn syn adolygu cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Romeo a Juliet.

Gydar rhyfel yn Irac ar newyn yn Sudan, braf yw gweld nifer o bapuraur wasg Llundeinig yn hoeliou sylw ar fater pwysig y dydd: pwy ywr celeb syn mynd i gipior anrhydedd o fod yn frenin neu frenhines y jwngl. Yma yng Nghymru, er bod ambell i fwnci wedi ceisio dwyn y sylw ar penawdau gyda sylwadau bachog am Ganolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd, yng nghyd-destun y celfyddydau, gwelwyd y cyfryngaun rhoi cryn sylw i ddadl yn ymwneud chynhyrchiad diweddaraf y Theatr Genedlaethol.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf gwelwyd cyhuddiadau lu yn cael eu gwneud yn dilyn llwyfannu Romeo a Juliet y Theatr Genedlaethol. Ar y naill law, braf oedd gweld a chlywed yr holl ddadlau ac anghytuno a gafwyd yn dilyn sylwadau Ceri Sherlock am rinweddau a ffaeleddaur cynhyrchiad a chyfarwyddwr artistig y cwmni. Gydar theatr ar ddrama yng Nghymru wedi profi cyfnod eithriadol o hesb yn ystod y degawdau diwethaf, maer ffaith ir ddadl fod mor danbaid a checrus yn profi bod rhain parhau i wirioneddol boeni am y theatr ar ddrama Gymraeg, ac yn hynny o beth rhaid croesawur fath anghytuno. Yn nodweddiadol on diffyg hyder fel cenedl, cafwyd ambell un yn gofidio am ddadl or fath, gan honni bod y cyfan yn hyll, di-angen, ac hyd yn oed yn ymylu ar fod yn embaras. Ond gwendid amlwg yn hanes diweddar y ddrama Gymraeg yw fod apathi a diffyg brwdfrydedd wedii nodweddu. Pe bai pob cynhyrchiad yn ysgogi trafodaeth or fath, efallai y byddai cyflwr y theatr yng Nghymru yn dipyn iachach a chryfach.

Ar y llaw arall, roedd rhai agweddau ar y ddadl ar cecru yn dueddol o droi yn eu hunfan ac yn ymylu ar fod yn or-bersonol. Ni welaf fawr o ddiben bellach mewn trafod yr egwyddor a ddylid cael Theatr Genedlaethol neu beidio. Er bod rhain parhau i frygowthan a chwyno fod bodolaeth y Theatr Genedlaethol yn wastraff o adnoddau ac arian prin, maer cysyniad bellach yn reality. Dydy rhygnu ymlaen am ddioddefaint y cwmnau llai syn gorfod byw yng nghysgod y Theatr Genedlaethol, yn gwneud dim ond llesteirior drafodaeth. O ran tegwch i Lynn Jones, mae wedi dweud fwy nag unwaith na fyddain fodlon parhau yn ei swydd fel Cadeirydd y Theatr Genedlaethol pe byddair sefydliad hwnnw yn derbyn cynhaliaeth ar draul y cwmnau llai. Yn bwysicach efallai, a ninnau mor hoff o ddatgan ein bod yn perthyn i ddiwylliant greadigol a ffyniannus, siawns nad oes posiblrwydd ir ddwy haen gyd-fyw a chyd-fodoli.

Er i rai bryderu am effaith yr holl ddadlau ac anghytuno diweddar hyn, maen amlwg nad oedd wedi amharun ormodol ar y gynulleidfa, oherwydd wrth gerdded i mewn ir Sherman yng Nghaerdydd, gwelwyd yr awditoriwm yn llawn, syn brawf pellach bod na rywfaint o adfywiad yn y diddordeb yn y theatr. Rhaid cyfaddef mai mynd yno fel lleygwr oeddwn i y noson honno. Nid wyf yn honni am eiliad mod in meddu ar ddigon o wybodaeth, nac arbenigedd, i allu trafod gweithiau Shakespeare gydag unrhyw fath o arddeliad. Fodd bynnag, or ychydig yr wyf yn ei ddeall, prif nodwedd a rhinwedd Shakespeare, dybiwn i, yw ei ddefnydd cyfoethog or iaith Saesneg. Mae gennyf gof o eistedd yn Theatr Gwynedd ar ddechraur nawdegau yn gwylio cynhyrchiad o Hamlet yn y Gymraeg, a theimlon gwbl syrffedus, gan benderfynu yn y diwedd i fynd ati i gyfri faint o seddi oedd ymhob rhes o fewn yr awditoriwm. Nid dweud ydw i na ddylid gwneud cyfieithiadau yn arlwy theatrig. Yn y gorffennol gwelwyd cyfieithiad y Prifardd T. James Jones o waith Dylan Thomas Dan y Wenallt a chyfieithiad yr Athro Gareth Jones or Gelli Geirios yn taro deuddeg. Ond, ac mae hwn yn ond eitha sylweddol, ystyriaf Shakespeare yn unigryw, a rhaid cwestiynu a yw ei waith yn addasu ac yn cyfieithun naturiol ac effeithiol ir Gymraeg. Cyfyd un cwestiwn sylfaenol arall mewn perthynas chyfrwng ieithyddol y cynhyrchiad diweddaraf hwn. Yng nghanol y ddrama gwelwyd rhai or cymeriadaun newid ir Saesneg, a hynnyn gwbl annisgwyl. Os penderfynu gwneud cyfieithiad Cymraeg or ddrama, yna siawns na ddylair holl destun fod yn yr iaith honno. Drwy fabwysiadur iaith fain, perwyd dryswch a phenbleth ymhlith y gynulleidfa, gan amharu ar hygrededd yr holl gynhyrchiad.

Fel yng nghynhyrchiad cyntaf cyntaf y cwmni, Yn Debyg Iawn i Ti a Fi, y peth cyntaf y sylwais arno wrth gerdded i mewn ir awditoriwm oedd y set enfawr. Ac unwaith yn rhagor, drwy gydol y chwarae, y cwestiwn roedd rhywun yn dueddol o ofyn oedd, a wneir y defnydd gorau or llwyfan ar set? Yr ateb syml a phlaen oedd na, ac yn eironig iawn, er bod y set yn honglad o beth, mewn ambell i olygfa doedd prin dim lle ir actorion symud.

Gwendid pennaf y cynhyrchiad i min bersonol oedd y diffyg angerdd a berthynai ir cymeriadau. Christine Pritchard oedd seren y sioe. Cafwyd perfformiad gwir gaboledig ganddi, ac roedd yna gic a thn yn ei pherfformiad. Wedi dweud hynny, er mor dda ydoedd, y gwir amdani yw dylaii chyd-actorion fod wedi bod or un safon hi yn gyson. Roedd actorion megis Christine Pritchard, Maldwyn John a Wynford Ellis Owen ill trin ddigon cryf i allu carior baich a ddisgwylwyd ganddynt, ond roedd yn gwbl amlwg bod y cyfan yn ormod o fedydd tn i ambell un.

Gan fod ambell un yn stryffaglu cymaint gydau geiriau - ir fath raddau fel eu bod yn anghofion achlysurol eu bod ar y llwyfan i action ogystal doedd rhai or actorion ddim yn argyhoeddi. Ag eithrio Rhian Blythe a chwaraeai Juliet, ac Owen Arwyn, roedd diffyg profiad mwyafrif or actorion ieuengaf yn gwbl amlwg. O ganlyniad ir diffyg enaid a berthynai ir portreadau or cymeriadau, erbyn diwedd y ddrama doedd fawr o ots gennyf am ddiwedd trasig y ddau gariad. Heb amheuaeth mae rhaid rhoi cyfle ir genhedlaeth ifanc ac actorion ifanc fwrw prentisiaeth, ond rhaid cwestiynu doethineb gadael i rai mor ddi-brofiad chwarae rhannau mor amlwg mewn cynhyrchiad or fath. O gofior ffaith bod Theatr Genedlaethol i fod yn binacl y ddarpariaeth theatrig yn y Gymraeg, yna teg yw disgwyl ir actorion syn rhan o gynhyrchiadaur cwmni fod wedi llwyr meistroliu crefft, au bod yn edrych yn gwbl hyderus a chyfforddus ar y llwyfan. Ar ddechraur erthygl hon, cyfeiriwyd at y ffaith bod mwy na digon o gyfiawnhad i gynnal dwy haen o ran cwmnau theatr, ac yng nghyd-destun actorion newydd neu llai profiadol, gall y cwmnau llai hyn fod yn ysgol brofiad gwych iddynt. Derbyniaf ei bod yn bwysig ir actorion ifanc gael cyfle i weithio gydar Theatr Genedlaethol, a mawr fur ganmoliaeth am eu rhan yn y arlwy a gafwyd yn Eisteddfod Casnewydd i ddynodi canmlwyddiant genir dramodydd John Gwilym Jones. Fodd bynnag, roedd perfformiad ambell i actor yn Romeo a Juliet yn gwbl wan a di-fflach.

Yn olaf, er bod perfformiad Wynford Ellis Owen yn ddigon twt, nid wyf yn gwbl argyhoeddedig ei fod yn beth doeth i aelod o Fwrdd Rheoli y cwmni gymryd rhan yn un oi gynhyrchiadau.

Yr wyf eisoes wedi mynegi mewn erthyglau blaenorol y farn bod Cefin Roberts yn gymeriad syn ennyn ymateb tanllyd or ddwy ochr, a go brin bod hynnyn mynd i newid bellach. Gydag ond cwta naw mis ers iddo gael ei benodi ir swydd, maen ffolineb llwyr galw am ei ymddiswyddiad. Yn l ei gyfaddefiad ei hun, maer cyfnod cychwynnol wedi bod yn dalcen caled, ac ambell i feirniadaeth wedi bod yn eithriadol o hallt a phersonol. Mae proffeil uchel a chyhoeddus yn nodweddion anorfod or swydd, ar gwir amdani yw ein bod yn byw mewn oes a diwylliant lle mae amynedd yn rhinwedd rhy brin or hanner. Rhaid rhoi cyfle ir cwmni ar cyfarwyddwr artistig setlo, dysgu or gorffennol, a chael yr hyder i fwrw ymlaen.

I unrhyw gynhyrchiad fod yn theatrig ac yn bwerus, rhaid tywys y gynulleidfa drwy ddrws dychymyg, au cyfareddu gydar arlwy. Yn anffodus, yn y perfformiad o Romeo a Juliet a welais i yn y Sherman, roedd rhai or gynulleidfa wedi penderfynu manteisio ar yr egwyl ai heglu hi drwyr drws. Ymddengys yn gyffredinol bod y cyhoedd yn ewyllysio llwyddiant ir Theatr Genedlaethol, ond rhaid sicrhau nad ywr gefnogaeth honnon edwino nac yn pylu. Yn union fel byd y jwngl, gall byd y ddrama fod yn un digon brwnt a mileinig. Nid ar chwarae bach mae bod yn frenin y jwngl, y gamp yw meithrin croen fel eliffant, dangos dycnwch a phenderfyniad a phrofir gallu i arwain.

awdur:Dafydd Llewelyn
cyfrol:503, Rhagfyr 2004

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk