Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Ar ein liwt ein hunain

GWYNETH GLYN yw un o awduron Anterliwt yr Ynys Las, anterliwt wleidyddol am yr argyfwng tai ar mewnlifiad. Yma, maen ystyried sut beth yw llwyfannu drama gymunedol heb arian cyhoeddus, ar ffin fregus rhwng celfyddyd a phropaganda.

Dogn helaeth o fraster, o serthedd, o gyfeiriadau anllad ac o ffaligrwydd. Na, nid disgrifiad o Sioe Glybiau Bara Caws, ond yn hytrach hanfodion y ffurf draddodiadol or Anterliwt yn l G.G.Evans (yn ei gyfrol Elis y Cowper.) Dau brif gynhwysyn anterliwt dda, ys dywed yr anterliwtwyr eu hunain, oedd Gwagedd a Maswedd, eilradd oedd unrhyw blot neu foeswers a ddigwyddai fod yn gefnlen ir chwarae; y brif ddiben oedd difyrrur gynulleidfa. Ond wrth i awduron yr anterliwtiau ymateb yn fwy uniongyrchol i argyfyngau crefyddol, cymdeithasol a gwleidyddol eu hoes, esblygodd yr anterliwt i fod yn gerbyd propaganda heb ei ail.

Cyfoeswyd un o anterliwtiau enwocaf Twm or Nant; Tri Chryfion Byd, gan Gwmni Drama Llwyndyrys ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 1989; diweddarwyd yr un anterliwt gan Emlyn Roberts i Gwmni Theatr Gwynedd ym 1998 (Pres Mawr, Pennau Bach) ac ers hynny ysgrifennodd John Glyn anterliwt wreiddiol Y Mawr, y Bach, ar Llai Byth i gwmni Arad Goch. A hithau bellach yn ganrif gron ers ir Diwygiad Methodistaidd roi stop ar wagan wleidyddol yr Anterliwt draddodiadol, aeth pum bardd bonheddig, un gantores ddiguro, a minnau, ati i roir olwynion gwichlyd i droi unwaith eto.

Ennill arian a hwyl oedd dau brif gymhelliad yr anterliwtwyr cynharaf, ac fel hwythau, aethom ninnau o fod heb geiniog o un, i fod yn gyforiog or llall. Ond er ein bod yn rhannu diffyg nawdd cyhoeddus yr hen chwaraewyr, maen debyg bod cryn elw iw gael or fenter yn yr 17eg ar 18fed ganrif. Dywed Twm or Nant am ei Interlute yntau, Ynghylch Cyfoeth a Thlodi; mi a ganlynais honno dros flwyddyn, ymhell ac yn agos, ac enillais lawer o arian. Nid syndod ma hynny chwaith, hithaun anterliwt i ddim ond dau chwaraewr, ar ddau yn cael rhannur holl elw!

Un elfen gyson yn y rhan fwyaf or anterliwtiau traddodiadol, yn l Thomas Parry (Hanes ein Lln) oedd y cybydd yn cwyno yn erbyn caledi ei fyd, ai fab yn llanc gwastraffus ac yn gwario arian ei dad. A dyma union ddechreuad ein hanterliwt ninnau, sef Anterliwt yr Ynys Las. Maer Ff_l, neur Gweinidog Gwirioneddau (neu Twm Morys) yn ein cyflwyno i Idwal Iwros; ffarmwr cybyddlyd (a chwaraeir gan Myrrdin ap Dafydd). Maer hen Idwal yn mynnu gwerthu adfail fferm Yr Ynys Las am arian mawr, er gwaethaf taerineb ei fab (Ifor ap Glyn) sydd ar fin collir garafan y bu yn ei rhentu hefoi gariad, Olwen (a chwaraeir gan yr hyfryd Marian Evans o Lanystumdwy):

Mae yna betha yn dwad o bell,

Ac yn fodlon talu rhenti gwell,

chwedl Olwen. I wneud pethaun waeth, maer gwerthwr tai gor-eiddgar, Bob-Puw-Parry-Tudor (Meirion MacIntyre Hughes), ar dn am ir lle gael ei brynu gan Saesnes optimistaidd, Jenny Cash-in-Hand (fi), a sylwodd ar adfail Yr Ynys Las dros y We:

JENNY:

Just press here to send your price:

All so easy, sweet and nice!

GWEINIDOG GWIRIONEDDAU:

Mae hon yn hollol honco!

Wedi prynu heb ei weld o!

Fel mewn sawl anterliwt draddodiadol, mae marwolaeth y cybydd yn gryn uchafbwynt, ac fe roir yr hen Idwal Iwros i orwedd dan fendith (neu felltith) y Parchedig Hedd Troseifawnog (Dewi Prysor):

Carai heniaith wych ei dadau

Fel y carai Peroi gi;

Gwerthodd hwnnw, hefor cathod,

I ryw restront bwyd tsein.

Teg dweud mai ynghudd yn yr hiwmor y maer ergydion; mai haws llyncu pilsen gwirionedd pan fo hylif melys chwerthin yn ei chanlyn. Dyma wers a ddysgodd yr anterliwtiwr William Roberts, clochydd Llannor, Ll_n, awdur Interlude Morgan y Gorgwr ar Cariadogs neu Ffrewyll y Methodistiaid yn dair act. Fel yr awgrymar enw, nid mwyniant gwamal-wirion mo anterliwt William Roberts; ir gwrthwyneb; disgrifiai Roberts Jones, Rhos-lan, y coeg-chwareu fel y modd mwyaf gwarthus, erlidgar, a rhyfygus, ag a gallai inc a phapur osod allan (Elis y Cowper). Nid adlonni cynulleidfa, ond ymosod ar Fethodistiaid, oedd blaenoriaeth y clochydd o Lannor; fel a ddywed G.G. Evans, yn y cyhuddiadau enllibus y clywid yr elfen ffalig, ac yn hynny o beth, achlysur digon sychlyd ac amhoblogaidd fur anterliwt honno.

Nid felly Anterliwt yr Ynys Las! Nid chwaith ymosodiad unllygeidiog ar yr un Jenny Cash-in-hand nar un Idwal Iwros, nar un Bob Puw-Parry-Tudor. Bwriad Twm, Myrddin a minnau wrth fynd ati i lunior sgript, oedd defnyddio hiwmor helaeth a stereoteipio comig, i wneud y neges mor glir phosib; nid trwy fychanu slapstig-aidd a delweddau anweddus (y prop mwyaf ffalig-ei-naws oedd ffon-wialen y Parchedig Hedd Troseifawnog) ond yn hytrach trwy iaith liwgar, heriol, a dweud gonast. Mae sawl elfen or cynhyrchiad yn ennyn chwerthin; y gwrthgyferbyniad cynhenid rhwng ambell gymeriad, y gyfeiriadaeth leol syn taro tannau yn y gynulleidfa, yn ogystal mn betheuach eraill, e.e. wig dyn-gwyllt-or-coed y Parchedig, llais canu nid persain y gwerthwr tai, ar ffaith bod Idwal Iwros yn aml iw weld yn syllun angerddol ar ei raw balu, ble y glynwyd yn gyfleus dudalen oi sgript!

Hawdd deall sut y gellid labelur fath ddigwyddiad yn bropaganda, ond onid propaganda, mewn un ystyr or gair, yw pob drama wleidyddol? Yn sicr tydir ffaith bod rhyw ddrama arbennig yn wleidyddol, yn mennu dim ar ei pherthnasedd nai phwysigrwydd; ir gwrthwyneb, fe rydd yr elfen wleidyddol arwyddocd a phwrpas ehangach iddi. Felly hefyd anterliwtiau.

Nid cyfrwng wedi ei chyfyngu i un safbwynt wleidyddol neu gymdeithasol ywr anterliwt serch hynny. Daw caleidosgop o safbwyntiau ir fei yn anterliwtiaur gorffennol; gwelir ymosodiadau gwrthweriniaethol yn anterliwtiaur bardd ar brenhinwr Huw Morys or Perthillwydion yn Nyffryn Ceiriog. Defnyddia awdur Pendefig a Hwsmon y ffugenwau Bardd o Wynedd a Poeta, oherwydd mai propaganda ydoedd ynghylch y gwrthdaro chwerw yn Nyffryn Clwyd... ar Deon Shipley o Lanelwy yn asgwrn y gynnen (G.G. Evans). Aiff Evans cyn belled galwr anterliwt honno yn arf mewn ymrafael, ai phriodoli i Twm or Nant. Yn sicr, byddair arddull honnon cydsynio ag arddull un arall or anterliwtiau, Pedair Colofn Gwladwriaeth, ble yr ymdrinia chwestiynau gwleidyddol a chymdeithasol.

Os propaganda, yna propaganda hefo pwyslais ar y prop, gan mai un or ychydig brops a ddefnyddir yn Anterliwt Yr Ynys Las, yw taflen Cymuned, A Modest Proposal, syn codi ymwybyddiaeth mewnfudwyr o fodolaeth a natur diwylliant Cymraeg, ac or iaith sydd yn rhan annatod ohono. Trar oedd Twm or Nant yn gwneud elw helaeth drwy argraffu a gwerthu ei anterliwtiau (neu yn y cyd-destun yma, ei bamffledi propaganda,) yr unig bamffled a ddosberthir gan Twm or Cwt Certiau (Morys) yw taflen Cymuned; wrth i Weinidog y Gwirioneddau gyflwyno honno i Jenny Cash-in-hand, ac i hithau ei darllen yn ofalus,

Dyma hin ffeindio yn Abersoch

Fod y Gymraeg fel y wiwer goch.

A Jenny hithaun ymwybodol or angen i warchod rhywogaethau prin, mae hin penderfynu bod yn ymwelydd r ardal, yn hytrach nag yn fewnfudwraig. Trwy alw ar gefnogaeth y gynulleidfa wrth bicedur gwerthwr tai ystyfnig, maer ffn denau rhwng yr actorion ar gwir, yn cael ei dymchwel; a hynny am y rheswm syml na fedrwn ni, yn yr argyfwng cymdeithasol sydd ohoni, fforddio credu mai rhith ydir hyn syn digwydd in cymunedau ni. Os mai drych yw drama, yna gellid dadlau mai drych gwyrdredig, grotesg, ac eto llawn gwirionedd, ywr Anterliwt. Os felly, o weld sip difrodedig a bregus eu hadlewyrchiad, cyflyrir y gynulleidfa, fel yr actorion, i weithredu er mwyn newid y darlun. Nid codi gwrychyn, fel yn achos llawer or anterliwtiau cynnar, ond codi drych, a thrwy wneud hynny, codi ymwybyddiaeth, ar awydd i weithredu.

GWEINIDOG GWIRIONEDDAU:

Amen, amen, amen, amen;

Mae pob dim da yn dod i ben.

(Ond tydir Anterliwt heb ddarfod;

Dewch iw gweld hi yn y Sdeddfod!)

awdur:Gwyneth Glyn
cyfrol:486/487, Gorffenaf/Awst 2003

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk