Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Theatr ai Chyfarwyddwr

Gyda phenodi Cefin Roberts i swydd Cyfarwyddwr y Theatr Genedlaethol Gymraeg, dywed DAFYDD LLYWELYN fod darnaur freuddwyd theatrig hon yn disgyn iw lle.

Wedi blynyddoedd o drafod, dadlau a brygowthan, maer cyfan iw weld wedii ddatrys. Wedi cant a mil o gyfarfodydd hyd a lled y wlad, yr holl siarad gwag am bwerdy yn y gogledd, y ddadl yngl_n ffaeleddau a rhinweddau egwyddor sefydlu Theatr Genedlaethol, maer freuddwyd wedii gwireddu. Blynyddoedd digon anodd ac hesb sydd wedi nodweddu hanes diweddar y ddrama yng Nghymru, ond realitir sefyllfa bellach yw ein bod yn meddu ar Theatr Genedlaethol Gymraeg.

Yn gynharach eleni penodwyd Lynn T. Jones yn Gadeirydd y Bwrdd Rheoli, ac yna penodwyd deuddeg aelod ir Bwrdd. Ond y datblygiad diweddaraf, ac efallai yr un mwya arwyddocaol hyd yma, yw penodiad Cefin Roberts yn Gyfarwyddwr Artistig y cwmni. Cyn rhyddhau datganiad ir wasg yn cadarnhaur penodiad, bu cryn ddyfalu yngl_n phwyn union fyddain mentro ymgymryd r fath dasg. Taflwyd nifer o enwau ir pair, gyda rhain honni eu bod yn gwybod i sicrwydd pwy fyddair ceffyl blaen. Pe bai William Hill wedi derbyn arian y gwybodusion honedig hyn, mi fyddent wedi gwneud celc bach del, oherwydd teg dweud i nifer gael eu synnu pan ddatgelwyd mai ar ysgwyddau Cefin Roberts y gosodwyd y cyfrifoldeb o arwain y cwmni yn y cyfnod allweddol hwn.

O ganlyniad iw gyfrifoldebau dysgu yng Nglanaethwy, ar holl gyfweliadau a roddodd yn ystod yr wythnosau diwethaf, roedd ceisio trefnu sgwrs am ei swydd newydd yn dipyn o dasg, ond llwyddodd i eistedd lawr am bum munud, a chan fwyta ei ginio sef tomato cyfan, gan ei fod yn ceisio colli pwysau bun esbonioi weledigaeth ai obeithion.

Gan amlaf, pan mae rhywun ar gyrraedd ei ben-blwydd yn hanner cant, maen dueddol o gymryd pethau ychydig yn fwy hamddenol, hyd yn oed yn ystyried cynllunio ar gyfer ei ymddeoliad. Ond ni fu Cefin Roberts erioed yn un i ddilyn confensiwn, ac yn hytrach na bodloni ar gymonir ardd neu chwarae golff maen brysur ymbaratoi ar gyfer wynebur hyn a ddisgrifia fel her fwyaf ei fywyd. Er bod rhywun yn medru synhwyror brwdfrydedd yn ei lais wrth iddo drafod ei swydd newydd, mae hefyd yn ddigon gonest i gyfaddef bod y fath dasg yn peri braw iddon ogystal. Oherwydd bod cymaint o sylw wedii roi ir penodiad, a bod y disgwyliadau mor uchel a sylweddol, maen llwyr ymwybodol or ffaith y bydd cant a mil o bobl yn gwylio pob cam a phenderfyniad gyda llygad barcud. Ar y llaw arall, maen deg dweud hefyd nad oes gan Cefin Roberts nemor ddim iw golli, oherwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae byd y ddrama Gymraeg wedi bod mor llwm fel na ellir ond gwella ar y ddarpariaeth bresennol.

Dyna un or prif resymau pam y penderfynodd fynd ati i lunio cais ar gyfer y swydd y teimlad bod rhaid i bethau newid os ywr ddrama Gymraeg i oroesi. Mae llawer wedi trafod y dirywiad enbyd yn y theatr Gymraeg yn ystod y cyfnod diweddar, ac mae ei weledigaeth i geisio atal y dirywiad hwn yn bellgyrhaeddol, a dweud y lleiaf.

Ei obaith yw mynd ati i dreiddion ddwfn i wreiddiaur maes er mwyn sicrhau sylfaen gref ar gyfer y dyfodol. Yn hyn o beth, maen eithriadol o awyddus i adennill diddordeb yr ifanc yn y theatr, ac iw haddysgu o werth a chyfraniad y maes iw diwylliant. Ystrydeb yw dweud mair ifanc biaur dyfodol, ond maen gwbl grediniol nad oes llawer o ddiben brwydro i gynnal y theatr yng Nghymru heb fod yna do ifanc yn barod iw hetifeddu ymhen rhai blynyddoedd. Ffynhonnell amhrisiadwy i sicrhau diddordeb yr ifanc yw twf a datblygiad yr ysgolion perfformio trwyr wlad. Maen ymfalcho yn y ffaith iddo ef ai wraig, Rhian, sefydlu Ysgol Glanaethwy dair blynedd ar ddeg yn l, a does dim dwywaith bod yr ysgol honno wedi llwyddo i fagu hyder, profiad ac, yn bwysicach na dim efallai, y ddisgyblaeth sylfaenol i rai syn awyddus i ddilyn gyrfa yn y byd perfformio.

Ychydig flynyddoedd yn l aeth Wil Sam draw i Lanaethwy i weld cynhyrchiad oi ddrama Bobi a Sami, ac wedi eistedd trwyr cynhyrchiad dyma ddatgan gyda balchder mai dynar tro cyntaf ers blynyddoedd iddo allu gwrando ar gynhyrchiad heb gymorth y falwen yn ei glust (yr hearing-aid ir bobl anghreadigol fel minnau). Ar yr olwg gyntaf, ymddengys yn stori gwbl ysgafn, ond mewn gwirionedd maen adlewyrchu un or diffygion mwyaf elfennol, ac eto sylfaenol, ym myd y theatr Gymraeg presennol, sef y diffyg hyfforddiant a gynigir i actorion a darpar-actorion i barchu a defnyddio iaith fel arf theatrig. Un enghraifft yn unig yw hyn o sut y gall y to ifanc elwa or ysgolion perfformio hyn, ac fe wl Cefin Roberts y sefydliadau hyn fel cyfrwng i fwydo a chynnal y Theatr Genedlaethol ymhen blynyddoedd i ddod. Cyfeiria at ysgolion perfformio Anterliwt yn Ninbych ar un yn Nyffryn Tywi gydar un brwdfrydedd, gan ychwanegu mai da o beth fyddai gweld datblygiadau cyffelyb ym mhob rhan or wlad.

Er bod Cefin Roberts yn rhoi cryn sylw i bwysigrwydd y bobl ifanc, a chynllunio ar gyfer y dyfodol, y brif sialens yn y tymor byr yw ceisio adennill diddordeb y cyhoedd au cael i fynychu cynyrchiadau unwaith yn rhagor. Cwta bymtheng neu ugain mlynedd yn l, roedd mynd ir theatr yn ddigwyddiad cymdeithasol o bwys, gyda llond bysiau yn heidio i ganolfannau a theatrau yng Nghymru. Erbyn hyn, byddai moped yn ddigon i gludo cynulleidfa ambell i gynhyrchiad diweddar. Gobaith Cefin Roberts yw darparu ystod eang o gynyrchiadau mewn ymgais i ddenur gynulleidfa yn l ir gorlan. Ar y rhyngrwyd cafwyd trafodaeth yngl_n ag ymarferoldeb yr egwyddor o geisio plesio pawb, gyda rhain rhagweld polisi or fath yn ddiffygiol yn yr ystyr bydd y cwmnin siwr o ddisgyn rhwng dwy stl, ac o ganlyniad yn methu. Nid yw Cefin Roberts yn cytuno r dehongliad hwn. Iddo fe, maen ofynnol cael amrywiaeth o gynyrchiadau boed yn gomedau, sioeau cerdd, cyfieithiadau, clasuron ac, er efallai na fydd ambell i gynhyrchiad at ddant pawb, yr hyn syn bwysig yw bod pob cynhyrchiad yn un safonol, proffesiynol a didwyll. Maer ddadl rhwng y theatr arbrofol ar theatr boblogaidd yn un orsimplistig: gellir cael theatr boblogaidd syn arbrofol, yn yr un modd ag y gellir cael theatr arbrofol syn boblogaidd yr hyn syn allweddol yw sicrhau bod y gynulleidfa yn gadael ar ddiwedd y noson yn teimlo eu bod wedi cael profiad theatrig.

Ystyrir sefydlur Theatr Genedlaethol gan y mwyafrif fel cam pwysig a chadarnhaol. Er hynny, mae rhai wedi mynegi pryder bod ei bodolaeth yn fygythiad i barhad y cwmnau llai fun gynhaliaeth ir ddrama yn ystod y cyfnod hesb: cwmnau megis Bara Caws, Na Ng a Sgript Cymru. Bu i Lynn T. Jones bwysleisio yn ei gyfweliad ar y rhaglen deledu Croma na fyddai byth yn caniatuhyn i ddigwydd, ac fe wl Cefin Roberts fodolaeth y cwmnau hyn yn allweddol i lwyddiant y Theatr Genedlaethol. O gofio iddo fod yn un o sylfaenwyr Theatr Bara Caws, maen naturiol iddo fod yn warchodol iawn or cwmnau hyn, ond ymddengys yn awyddus iawn i gydweithio gyda hwy, yn arbennig Sgript Cymru, o ran meithrin a datblygu talent ac awduron newydd. Os y gwireddir yr awydd i gydweithredu, yna byddai datblygiad or fath yn gam mawr ymlaen yn hanes y theatr Gymraeg. Rhaid cyfaddef bod y ddarpariaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn bytiog a thameidiog, ac i hunaniaeth y cwmnau, a arferai fod yn gwbl glir ac amlwg, fynd yn rhyw gymysgwch llwydaidd.

Os y parodd penodiad Cefin Roberts syndod i rai unigolion, bur datganiad mai yn Sir Gaerfyrddin y bydd cartref y cwmni newydd yn fwy o sioc fyth. Ar yr olwg gyntaf, dywed synnwyr cyffredin y dylai swyddfa unrhyw Theatr Genedlaethol, o ba wlad bynnag, gael ei lleoli ym mhrifddinas y wlad honno o ran hygrededd yn anad dim arall. Yn arwyddocaol, gwelwyd Terry Hands yn ddiweddar ar raglen gelfyddydol newydd y BBC yn datgan ei ddyhead i Theatr Clwyd gael swyddfa yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, fel adlewyrchiad on diffyg fel cenedl, pe bair Theatr Genedlaethol wedi ymgartrefu yn y brifddinas, byddai wedi llwyddo i elyniaethu cymaint o bobl a chreu rhwygiadau lu. Maer gagendor rhwng y de ar gogledd cyn waethed, os nad gwaeth, heddiw ag y bu erioed. Mae dyfodiad y Cynulliad wedi cyfrannu at y teimlad hwn, ar farn gyffredinol yn y gogledd yw bod yr adnoddau ar boddsoddiadau sylweddol yn mynd ir de, ac mai esgyrn sychion yn unig a gynigir yn y gogledd. O ganlyniad i hyn, roedd nifer yn gwbl argyhoeddedig mair gogledd a Chaernarfon yn benodol fyddain llochesur Theatr Genedlaethol, ond nid felly y bu. Os ywr sibrydion yn wir, maen debyg mai Caerfyrddin oedd yr unig sir i lunio cais o unrhyw werth, ac yn wleidyddol, maen siwr bod hyn o gryn ryddhad ir Bwrdd Rheoli, gan ei fod yn benderfyniad a ganiati ir cwmni sefydlu ei hun llechen ln, ac osgoi unrhyw ddrwgdeimlad diangen.

Gan ir penderfyniad o leoliad y cwmni gael ei wneud cyn penodi Cyfarwyddwr Artistig, nid oedd gan Cefin Roberts unrhyw lais yn y penderfyniad terfynol, ar flaenoriaeth iddo ef yw sicrhau bod y broses o gartrefur cwmni yn Sir Gaerfyrddin yn mynd rhagddon esmwyth. Yn ystod blynyddoedd cyntaf y cwmni, hen ffatri yn Llanelli fydd cartref y Theatr Genedlaethol, ond y bwriad yn y pen draw yw ymsefydlu mewn adeilad a theatr newydd o eiddor sir yng Nghaerfyrddin ei hun. Er mai yno y bydd calon y cwmni, maer rhai syn gysylltiedig r cwmni yn awyddus i bwysleisio mai cwmni teithiol fydd y Theatr Genedlaethol, ac y bydd ei gwythiennaun treiddio i bob cwr or wlad.

Yn sgl ei waith gyda Ysgol Glanaethwy bu Cefin Roberts yn destun gwawd gan nifer, ac mae wedi hen arfer beirniadaeth hallt. Mor ddiweddar dechrau mis Mehefin, cafwyd llythyr yn un on papurau cenedlaethol honedig yn mynegi dicter a chasineb tuag at yr ysgol honno. Er mor bersonol yw sylwadau or fath, maent wedi gorfodi Cefin Roberts i fagu croen eliffant, ac wedii wneud yn fwy penderfynol i lwyddo. Go brin y pylar beirniadu unwaith iddo ymgymryd i ddyletswyddau newydd fel Cyfarwyddwr Artistig y Theatr Genedlaethol, ac yn ddi-os bydd rhain llechu yn y cysgodion yn hogi eu cyllyll.

Ers cael ei benodi, mae Cefin Roberts wedi gwneud llu o gyfweliadau a datganiadau, ac maer holl sylw ar heip yn tystio ir ffaith bod yna bennod newydd yn hanes y ddrama yng Nghymru, a bod y cyfan wedi cydio yn nychymyg y cyfryngau ar cyhoedd. Wrth drafod ei gynlluniau ai obeithion, gwna Cefin Roberts ir cyfan swnion ddigon rhwydd a syml ac efallai mai dynar allwedd ir cyfan. Does dim dwywaith bod talcen caled iawn yn ei ddisgwyl pan fydd yn cychwyn ar ei swydd newydd, ond wrth geisio cadwr cyfan yn syml, a glynu wrth yr hanfodion elfennol, mae gobaith y llwydda i sicrhau bod y bennod nesaf yn hanes y ddrama yng Nghymru yn un ychydig yn fwy gobeithiol.

Yn ystod yr wythnosau nesaf, fe ychwanegir at staff y Theatr Genedlaethol gyda phenodiad rheolwr/wraig y cwmni ynghyd swyddog marchnata o dipyn i beth maer darnaun disgyn iw lle. Wedi blynyddoedd o fod yn destun gwawd a sbort, a awgrymar wythnosau diwethaf bod y theatr ar ddrama yng Nghymru yn teilyngu sylw haeddiannol unwaith yn rhagor. Mae cymaint wedi ei ddweud ai ysgrifennu yngl_n dirywiad y theatr Gymraeg, fel bod y maes wedi ei drafod hyd at syrffed erbyn hyn; y gamp nawr yw gweithredu. Gydag ychydig o amynedd, ewyllys ac ambell i domato, mae rhywun yn teimlon obeithiol am ddyfodol llewyrchus ir ddrama ar theatr yng Nghymru.

awdur:Dafydd Llewelyn
cyfrol:486/487, Gorffenaf/Awst 2003

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk