Y Wenallt a’i Swyn
Gwelodd GWENAN MARED gynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o Dan y Wenallt, cyfieithiad T. James Jones o Under Milk Wood Dylan Thomas, yn y gwanwyn, a’i gael yn brofiad gwefreiddiol.
Fel rhan o’r fenter newydd sy’n creu Theatr Genedlaethol yn yr Iaith Gymraeg, mae Cyngor y Celfyddydau wedi rhoi grant arbennig i’r haul dywynnu trwy gydol taith Dan y Wenallt! Neu gallech gredu hynny, o leiaf, gan fod yna deimlad cyfriniol bron yn ystod y perfformiad o fod wedi cael eich llyncu’n llwyr i ddiwrnod gwanwynol pentrefwyr Llaregyb, a phan aiff rhywun ati i geisio adolygu’r ddrama a gweld ei bod hi unwaith eto yn ddiwrnod o haul braf ym mis Mawrth, choeliech chi byth, mae yna ryw amheuaeth yng nghefn y meddwl nad breuddwyd oedd y cyfan; llais melodaidd Rhys Parry yn ein swyno mewn Cymraeg sydd bron fel cerddoriaeth – yn taro’r glust cyn y synnwyr, y set lesmeiriol o’r môr yn ymestyn i’r gorwel pell, cerddoriaeth swynol, hiraethus rhyw eneidiau ar ymylon bywyd, a’r gwres llethol yn y theatr yn pwyso ar amrannau rhywun. Dyna oedd y profiad o fod Dan y Wenallt ac roedd hi’n anodd, ar adegau, gorfodi’r rheswm i aros ar ei draed a gwrando, a gwrando, a dal i wrando, mewn byd sydd bron wedi anghofio sut i wneud hynny. Ac i ninnau, y genhedlaeth a fagwyd ar deledu, wedi hen arfer dehongli efo’n llygaid, a chael storïau wedi eu bwydo i ni yn rhwydd, doedd gwylio Dan y Wenallt ddim bob amser yn hawdd, ond eto roedd yn werth pob ymdrech. Yn wir, po fwyaf yr oedd rhywun yn cynefino efo’r arddell swreal, y dafodiaith fywiog a’r naratif gyhyrog, mwyaf yr oedd un yn dechrau gwerthfawrogi yr hyn oedd yno mewn gwirionedd. ‘Athrylith,’ meddai’r ddynes siaradus wrth f’ochr am y cyfieithiad, ‘a Dylan Thomas, yn naturiol,’ meddai wedyn, ‘yn athrylith hefyd’. Dau athrylith felly yn cyfarfod ar y llwyfan, cast mawr profiadol efo cefnogaeth ariannol (o’r diwedd) a rhywbeth go arbennig yn ymagor o flaen ein llygaid.
Rydw i’n swnio rhyw ychydig yn ddiniwed, mae’n siwr gen i, i’r nifer fawr o’r gynulleidfa oedd yn disgwyl dim llai. Roeddynt yn dod at y cynhyrchiad gyda thoreth o brofiadau blaenorol o’r ddrama – yn Saesneg, yn Gymraeg, ar y radio, mewn ffilm, cart_n, testun yn yr ysgol, neu un o’r nifer o gynyrchiadau eraill sydd wedi bod o glasur Dylan Thomas. Er bod gen i ryw frith gof o fod wedi gweld cynhyrchiad Saesneg o’r ddrama, dros ddeng mlynedd yn ôl bellach, rhaid cyfaddef imi ddod i’r Sherman yn ymwybodol iawn o fy niffyg gwybodaeth am ddrama sydd, wedi’r cwbwl, yn enwog fyd-eang. Doedd yna fawr o angen poeni, fel mae’n digwydd, gan bod y rhaglen a’r wefan sydd yn cefnogi’r cynhyrchiad hwn yn llawn gwybodaeth ddiddorol a deallus am y ddrama, yn cyfoethogi’r profiad heb ein llethu, yn codi blys heb ddweud gormod. A dyna, wrth gwrs, rinwedd pob adolygiad da yn ogystal, - sut i ddweud digon heb ddweud gormod!
Fydd hi ddim yn bechod mawr gobeithio, hanner can mlynedd wedi’r perfformiad cyntaf yn Efrog Newydd, datgelu mai drama yn ymhél ag un diwrnod, annodweddiadol mewn sawl ffordd, ym mywyd pentref Cymreig dychmygol a geir yn Dan y Wenallt. Drama radio yn wreiddiol, gydag amrywiaeth o gymeriadau yn rhannu eu profiadau, digon disylw yn aml, ond o’u rhoi ynghyd yn llwyddo i lunio tapestri sy’n ddarlun deifiol, doniol a theimladwy o gymdeithas fechan yng nghefn gwlad. Mae’r hen deipiau anterliwtaidd yn llechu yma – y duwiol, y rhywiol, y meddw; cariad, casineb, tlodi, - maent oll yn gwau trwy’i gilydd yng nghymeriadau Capten Cat, Poli Gardis, Eli Jenkins, Dai Di-ddim a’r gweddill. Yn ei sylwadau yn y rhaglen ar ‘Adfer Cymreictod Llaregyb’ mae T. James Jones yn rhoi’r ddrama hon yn nhraddodiad Cyfarwydd y Mabinogi, nid yn unig yn ei defnydd o ffurf naratif, deialog a mydr ond yn ei chymeriadau ‘larger than life’ fel y dywed.
Roedd y sylwadau hyn yn arbennig o ddiddorol wrth ystyried y modd y dewisodd y cyfarwyddwr, Ian Rowlands, gyflwyno’r ddrama. Yn hytrach na cheisio clymu’r digwydd i amser a lle – y cyfnod yn dilyn yr Ail Ryfel Byd oedd testun naturiol Dylan Thomas – penderfynodd fynd ar ôl hanfod y ddrama fel drama radio. Mae’r cynhyrchiad yn dechrau ar lwyfan gwag, heblaw am gasgliad o actorion mewn gwisg gyfoes yn cario sgriptiau amrywiol. Fe’n hysbysir y bydd y ‘recordiad’ yn parhau am ddwy awr, goleuir yr arwydd ‘Ar Awyr’, cyfyd Rhys Parry at un meicroffon ac mae’r naratif yn dechrau. Siom oedd f’ymateb cyntaf – deuthum i wylio drama, nid casgliad o bobl yn sefyll a darllen, ond wrth gwrs roedd llawer mwy iddi na hynny a sawl ff_l fel fi yn cael ei blesio ar yr ochr orau. O’r dechrau, felly, ychwanegwyd persbectif newydd i’r chwarae trwy gyflwyno drama, a’r canlyniad oedd priodas berffaith rhwng y real a’r swreal. Fel y codai actor at y meicroffon roedd yn cael ei drawsnewid mewn ystum o’i gorun i’w sawdl a deuai Mr Mog Edwards neu Mrs Ogmore Pritchard yn fyw o flaen ein llygaid. Fel y symudai ‘Y Llais’ yn ymddangosiadol hamddenol o amgylch y llwyfan roedd presenoldeb cawraidd, bron, Rhys Parry yn ymgorffori ysbryd y naratif sydd yn gweld a rheoli pob peth. Pan gyfyd y wawr ar drigolion Llaregyb mae’r llwyfan yn ymestyn i ddangos golygfa lan môr drawiadol a phrydferth iawn gyda’r gorwel fel pe bai’n mynnu diflannu hyd dragwyddoldeb. Crëir y patrymau cynnil ar y llwyfan trwy ystun corff, trwy greu adleisiau a thrwy gyfrwng goleuo celfydd. Llithra’r naws o’r doniol i’r prudd yn ymddangosiadol ddiymdrech ac oherwydd y pwyslais ychwanegol ar s_n y ddrama tynnir ein sylw at gyfoeth o seiniau gwahanol nes ein bod ninnau fel Capten Cat yn gallu gwrando ar bob smic. Ni ellid bod wedi llwyddo, fodd bynnag, oni bai am actorion gwirioneddol broffesiynol gyda hiwmor Meilyr Siôn yn gwneud cymeriadau llai amlwg y ddrama yr un mor gofiadwy â’r enwocaf.
Er gwaethaf yr enwogrwydd hwnnw, roedd rhywbeth unigryw iawn yn oesoldeb rhyfeddol y cymeriadau hyn hanner can mlynedd a mwy ers eu genedigaeth. Yn wir, gyda rhyddid y wisg fodern, hawdd iawn oedd adnabod twtrwydd gwallgof Mrs Ogmore Pritchard, Poli nad oes ganddi ddim ‘ond dillad ar y lein a babis’, yn ein cymdeithas fodern. Ac er mor naturiol oedd ystum y cynhyrchiad nid damwain oedd y ffaith fod y Parchedig Eli Jenkins yn gwisgo siwt, a Dai Di-ddim mewn hen dracsiwt ddi-sylw. Y dillad sydd, wedi’r cyfan, yn gwneud y dyn, ys dywed y Sais, ac mae’r bylchau cymdeithasol rhwng trigolion Llaregyb yn dal i fod yn ddrych o’r Gymru gyfoes.
Mae un nodwedd bwysig arall sy’n haeddu sylw wrth drafod Dan y Wenallt sef y wefr ryfeddol o glywed y Gymraeg, a’r fath Gymraeg, yn cael ei llefaru’n fyw ar y llwyfan i theatr lawn pobl o bob oed. Wrth ysgrifennu am yr ysgogiad i gyfieithu’r ddrama, eglura T. James Jones sut y daeth y cymeriadau yn hen ffrindiau iddo pan fu’n chwarae rhan Y Llais ‘slawer dydd. Fe’u teimlodd rhywsut yn mynnu, bron, cael siarad yn yr hyn a deimlai oedd yn famiaith iddynt. Y canlyniad oedd campwaith o gyfieithiad yr awgrymodd Caradog Pritchard ei fod yn ‘well na’r gwreiddiol’ a hawdd deall sut y’i cyfareddwyd gan y fath gyfoeth ieithyddol. Tafodiaith Shir Gâr, hiwmor bras, cwpledi doniol, barddoniaeth a rhyddiaith hudolus, hypnotig bron ar adegau – llwyddodd T. James Jones i’w trosi yn Gymraeg gorfoleddus. Ac nid gormodiaith smala yw hyn ond edmygedd gwirioneddol. Hawdd iawn fyddai mynd ar ôl Mrs Dai Bara Brown a Mrs Dai Bara Gwyn a’u holi sut y maent yn wahanol i’w cymaresau gwreiddiol ond mae amser yn cerdded yma fel yn Llaregyb. Pe caeid y llygaid, bron na ellid ei glywed ... tic-toc, tic-toc, tic-toc... rhaid i mi ddiffodd y radio...
awdur:Gwenan Mared
cyfrol:486/487, Gorffenaf/Awst 2003
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com
